Cyflwyno cais am swyddi y tu allan i’r byd academaidd
Nodi ffyrdd o chwilio am swyddi y tu allan i'r byd academaidd trwy ddefnyddio dulliau rhagweithiol ac adweithiol.
Mae chwilio am swydd yn sgìl, a thrwy fireinio dull crefftus o chwilio am swyddi, byddwch yn sicrhau eich bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu. Gall strategaethau mwy rhagweithiol megis rhwydweithio a dulliau ar hap hefyd eich helpu i gael mynediad i’r farchnad swyddi cudd, y mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu mai dyma’r rhan fwyaf o’r farchnad lafur! Er y gall strategaethau chwilio am swydd effeithiol eich helpu i ddod o hyd i rolau ym mhob diwydiant a sector, bydd yr adran hon yn canolbwyntio’n bennaf ar chwilio am swyddi ar gyfer rolau y tu allan i’r byd academaidd. Rydym yn ymdrin â phrosesau recriwtio ar gyfer rolau academaidd yn fanylach mewn mannau eraill ar y wefan hon. Fodd bynnag, dim ond crib y rhewfryn yw chwilio am swyddi a chyfleoedd; er mwyn trosi eich sgiliau yn llwyddiannus i sectorau a diwydiannau gwahanol, dylech ystyried sut y byddwch yn cyflwyno eich hun a’ch sgiliau i gyflogwyr yn y dyfodol. Rydyn ni’n argymell eich bod yn darllen y cymorth helaeth sydd ar gael ar Dyfodol Myfyrwyr+, ac yn benodol yr adnoddau ar ddatblygu hunanymwybyddiaeth, ymchwilio i opsiynau gyrfa a’r farchnad swyddi i raddedigion.
Strategaethau ar gyfer chwilio am swyddi y tu allan i’r byd academaidd
Cyn i chi ddechrau chwilio am unrhyw swyddi, mae’n ddefnyddiol nodi eich sgiliau, eich diddordebau a’ch gwerthoedd yn gyntaf a myfyrio ar y math o rolau y byddech chi’n eu mwynhau. Mae ymchwilio i’ch opsiynau, archwilio gwahanol sectorau swyddi a deall y farchnad lafur ehangach hefyd yn allweddol i ddeall nid yn unig beth yw eich opsiynau, ond sut y gallwch chi farchnata’ch hun yn effeithiol ar gyfer rolau sydd o ddiddordeb i chi. Edrychwch ar adran ‘Cynllunio eich gyrfa’ ar y wefan hon’ch helpu i adnabod eich sgiliau trosglwyddadwy. Rydyn ni’n argymell eich bod yn darllen y cymorth helaeth sydd ar gael ar Dyfodol Myfyrwyr+, ac yn benodol yr adnoddau ar ddatblygu hunanymwybyddiaeth, ymchwilio i opsiynau gyrfa a’r farchnad swyddi i raddedigion.
Wrth wneud cais am gyfleoedd swyddi y tu allan i’r byd academaidd, bydd angen i chi nid yn unig wybod ble i chwilio am y swyddi hyn ond hefyd deall sut i ddangos eich hun a’ch arbenigedd a’ch profiad ym maes ymchwil yn y ffordd orau posibl er mwyn bod yn gystadleuol am y swyddi hyn. Mae gan Dr Chris Humphrey ganllaw defnyddiol ar wneud cais am swyddi y tu allan i’r byd academaidd a phontio o fod yn fyfyriwr doethurol i fod yn gydweithiwr proffesiynol ar ei wefan, Jobs on Toast.
“Wrth wraidd y dull cyd-broffesiynol mae’r gallu i gyflwyno’ch hun a’ch galluoedd mewn iaith y gall eich darpar gyflogwr ei deall ac uniaethu â hi. Ac wrth gyflwyno cais am eich swydd gyntaf y tu allan i addysg uwch, bydd angen i chi fod yn arbennig o drylwyr. Cofiwch, mae'r cyfwelwyr yn cyflogi rhywun sy'n cyfateb orau i deitl y swydd wag a'r disgrifiad rôl. Os mai eu hargraff gyntaf ohonoch yw eich bod yn fyfyriwr doethurol sydd newydd raddio neu eich bod yn athro prifysgol confensiynol, bydd hyn yn sbarduno pob math o ystrydebau a rhagdybiaethau amdanoch chi, cyn i chi hyd yn oed gael cyfle i gyflwyno eich hun! Dyna pam mae angen i chi gyflwyno eich hun o'r cychwyn cyntaf fel ymchwilydd proffesiynol, neu ddadansoddwr, neu wyddonydd neu addysgwr, sydd â set sgiliau cryf a chymwysterau a phrofiad perthnasol. Os ydych chi eisoes yn siarad iaith y cyfwelwyr, bydd rhwystrau posibl yn diflannu.”
Mae’n argymell dilyn y pedwar cam isod:
Canllaw 4 cam Dr Chris Humphrey i ddod yn ‘gyd-weithiwr proffesiynol’





Ble i chwilio am swyddi
Ewch draw i Dyfodol Myfyrwyr+ am gyngor ar ble a sut i chwilio am swyddi, gan gynnwys sut i chwilio am gyfleoedd a hysbysebir a sut i gael mynediad i’r farchnad swyddi cudd.
Gallwch hefyd wylio’r fideo YouTube byr isod am y farchnad swyddi cudd a pham mae cyflogwyr yn ei defnyddio i recriwtio ymgeiswyr addas:
Cymorth i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig
Os ydych yn fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, gallwch gael mynediad at wasanaethau cymorth amrywiol i’ch helpu i chwilio am swyddi. Cewch chi wneud y canlynol:
- Trefnu apwyntiad gyrfaoedd i gael cyngor cyfrinachol ac arbenigol drwy eich cyfrif Dyfodol Myfyrwyr
- Cyrchu hysbysfwrdd swyddi Dyfodol Myfyrwyr yn eich cyfrif Dyfodol Myfyrwyr ar gyfer swyddi i raddedigion a chyfleoedd profiad gwaith
- Ymgysylltu â chymorth cyflogadwyedd a sesiynau a gynigir gan yr Academi Ddoethurol