Skip to main content

Gwasanaethau Dyfodol Myfyrwyr

Cyfleoedd ac Adnoddau Ychwanegol:

Mae Dyfodol Myfyrwyr wedi creu adnodd ar-lein a fydd yn rhoi gwybodaeth, cysylltiadau ac awgrymiadau i chi ar sut i ddatblygu eich sgiliau personol a phroffesiynol yn ystod eich profiad ym Mhrifysgol Caerdydd.

Os hoffech archwilio, datblygu a chyflawni rhagor o Rinweddau Graddedigion y tu allan i’ch cwrs, mae rhestr o weithgareddau, cyngor a rhagor o dan bob Rhinwedd Graddedigion ar y dudalen ‘Datblygu Rhinweddau Graddedigion‘ yn Dyfodol Myfyrwyr+.

Mae dolenni i adnoddau ychwanegol wedi’u rhestru isod:

Dyfodol Myfyrwyr+

 

Dysgwch am gynllunio’ch gyrfa a datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd ar Dyfodol Myfyrwyr+, gwefan wedi’i chreu’n benodol ar gyfer myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Caerdydd. Mae’r wefan yn cynnwys cyngor ar ystod eang o bynciau i’ch helpu ar daith eich gyrfa.

 

Gwobr Caerdydd

 

Mae rhaglen Gwobr Caerdydd yn meithrin eich hyder trwy dyfu eich hunanymwybyddiaeth, datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd, cynyddu eich gwybodaeth ynghylch recriwtio graddedigion, a’ch helpu i gystadlu yn y farchnad swyddi i raddedigion.

 

Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr

 

Eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr (ar gael drwy Target Connect) yw lle gallwch chi drefnu apwyntiadau i gael cyngor ac arweiniad gyrfaol, rheoli’r apwyntiadau hynny, a bwrw golwg dros lawer o swyddi a chyfleoedd. Gallwch chi drefnu amrywiaeth o wahanol apwyntiadau gyda’ch cynghorwyr ysgol-benodol, y gellir eu harchebu 7 diwrnod ymlaen llaw. Gellir cael apwyntiad wyneb yn wyneb neu dros Microsoft Teams.

Cewch hyd i Ddyfodol Myfyrwyr ar lawr cyntaf Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar Blas y Parc. Os hoffech chi siarad â rhywun, galwch heibio lle bydd aelod o staff neu lysgennad myfyrwyr yn hapus i helpu.

Map lleoliad ar gyfer Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, Plas y Parc.