Skip to main content

Map Rhinweddau Graddedigion

Datblygu gwefan ryngweithiol i ddangos sut y gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau a phriodoleddau ar eich rhaglen a thrwy weithgareddau allgyrsiol.

Yn dilyn cymeradwyaeth y rhaglen, bydd Dyfodol Myfyrwyr yn parhau i weithio gyda chi i gynhyrchu Map Rhinweddau Graddedigion sy’n wynebu myfyrwyr. Mae’r Mapiau hyn yn cael eu datblygu ar wefan ryngweithiol wedi’i theilwra i’ch rhaglen ac wedi’u cynllunio i dynnu sylw at fyfyrwyr presennol yn benodol sut y gallant ddatblygu pob priodoledd trwy weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol.

Edrychwch ar ein Templed Map Rhinweddau Graddedigion trwy’r botwm isod.

Templed Map Rhinweddau Graddedigion

Gellir defnyddio Map Rhinweddau Graddedigion fel offeryn hyrwyddo i ddarpar fyfyrwyr mewn Diwrnodau Agored a gallant hefyd gael eu defnyddio gan Diwtoriaid Personol i gefnogi trafodaethau sy’n gysylltiedig â gyrfa gyda myfyrwyr a’u cyfeirio at y gwasanaethau mwyaf perthnasol.

Bydd eich Map Rhinweddau Graddedigionyn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

Mae'r dudalen hon yn cyflwyno chwe rhinwedd graddedigion Prifysgol Caerdydd a phob un o'u his-rinweddau.

Mae'r dudalen hon yn dangos dadansoddiad o fodiwlau'r rhaglen ac yn amlygu unrhyw rinweddau graddedig y bydd myfyriwr yn cael cyfle i'w datblygu trwy weithgareddau dysgu ac asesiadau. Mae hefyd yn caniatáu ar gyfer disgrifydd byr ar sut y bydd priodoleddau graddedigion a sgiliau cyflogadwyedd yn cael eu datblygu.

Mae'r dudalen hon yn amlygu gweithgareddau y gall myfyrwyr ymgysylltu â nhw y tu allan i'w hastudiaethau i ddatblygu eu Rhinweddau Graddedigion.

“Gweithgareddau yn yr Ysgol” yn ymwneud â gweithgareddau allgyrsiol a drefnir gan yr Ysgol Academaidd, a ddarperir er budd eu myfyrwyr eu hunain. Byddai’r gweithgareddau hyn fel arfer yn cael eu trefnu gan yr Ysgol Academaidd ar ei phen ei hun, neu mewn cydweithrediad ag Ysgolion eraill, Timau Gwasanaethau Proffesiynol, Cyflogwyr, a/neu Gyn-fyfyrwyr.

“Gweithgareddau ar draws y Brifysgol” yn ymwneud â gweithgareddau allgyrsiol sy’n digwydd y tu allan i’r Ysgol Academaidd, felly maent fel arfer yn cael eu rhedeg gan Ysgolion eraill, Timau Gwasanaethau Proffesiynol a / neu Gyflogwyr.

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am y mathau o swyddi a gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â'u gradd y gallent fynd iddynt ar ôl graddio.

Mae’r dudalen hon yn amlinellu’r amrywiaeth eang o wasanaethau Dyfodol Myfyrwyr y gall myfyrwyr gael mynediad iddynt yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd ac am hyd at dair blynedd ar ôl graddio.

Ar ôl cymeradwyo, bydd eich Partner Busnes yn eich cysylltu â’n tîm Adnoddau Dysgu a fydd yn eich cefnogi drwy’r broses ddatblygu Map Priodoleddau Graddedigion.