Rhinweddau Graddedigion
Archwilio Priodoleddau Graddedigion y brifysgol ac egwyddorion arweiniol eu mapio i’ch modiwlau.
Set o sgiliau a galluoedd trosglwyddadwy yw’r Rhinweddau Graddedigion y mae Prifysgol Caerdydd wedi’u datblygu mewn partneriaeth â myfyrwyr, academyddion a chyflogwyr. Bwriedir i’r rhinweddau hyn fod yn llinyn aur sy’n rhedeg trwy amser pob myfyriwr yng Nghaerdydd a gellir eu datblygu trwy eu hastudiaethau a thrwy gyfleoedd allgyrsiol yn eu Hysgol, ac ar draws y brifysgol ehangach. Trwy ddatblygu’r rhinweddau, byddwch yn cynyddu eich siawns o sicrhau cyflogaeth ar lefel graddedig fel dinasyddion byd-eang cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ymwybodol.
Mae’r fideo hwn yn rhoi cyflwyniad byr i’r Rhinweddau Graddedigion
Rhinweddau Graddedigion Prifysgol Caerdydd
Rhinweddau Graddedigion Prifysgol Caerdydd yw:
![]() Yn gydweithredol |
![]() Yn Gyfathrebwyr Effeithiol |
![]() Ag Ymwybyddiaeth o Faterion Moesegol, Cymdeithasol ac Amgylcheddol |
![]() Yn Meddwl yn Annibynnol ac yn Feirniadol |
![]() Yn Arloesol, yn Fentrus ac yn Fasnachol Ymwybodol |
![]() Yn adfyfyriol a chadarn
|
Cyrchwch ddelweddau eicon GA fel ffeiliau .png os hoffech eu hychwanegu at unrhyw wybodaeth, deunydd hyrwyddo neu farchnata e.e. llawlyfr modiwl.
Cydweithredol
C1 Cyfrannu’n gadarnhaol ac yn effeithiol wrth weithio mewn tîm, ac yn gwneud gwahaniaeth o’r dechrau.
C2 Dangos brwdfrydedd, a’r gallu i ysgogi eu hunain a dylanwadu’n gadarnhaol ar eraill trwy gyfrifoldebau a gytunwyd arnynt mewn cyfarfod.
C3 Dangos parch at swyddogaethau’r lleill a chydnabod cyfyngiadau eu sgiliau/profiad.

Cyfathrebwyr Effeithiol
EC1 Gwrando ar eraill ac ystyried eu safbwyntiau.
EC2 Cyfathrebu syniadau cymhleth yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol.
EC3 Cyfrannu at drafodaethau, negodi a chyflwyno’n effeithiol.
EC4 Cyflwyno, derbyn a gweithredu ar adborth adeiladol.
EC5 Cyfathrebu’n broffesiynol, gan gynnwys drwy eu proffiliau ar-lein a’u proffiliau cyfryngau cymdeithasol, a bod yn ymwybodol o sut y gallai eraill ddehongli geiriau a gweithredoedd.

Moesegol, Cymdeithasol ac Amgylcheddol Ymwybodol
ESEA1 Ystyried eu cyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol personol a phroffesiynol.
ESEA2 Dangos uniondeb, dibynadwyedd a chymhwysedd personol a phroffesiynol.
ESEA3 Deall sefydliadau, eu rhanddeiliaid, a'u heffaith ar y gymuned.
ESEA4 Ysgwyddo cyfrifoldeb ymarferol am hyrwyddo hawliau dynol, dathlu amrywiaeth ac ehangu cynhwysiant.
ESEA5 Cofio am Argyfwng yr Hinsawdd a Nodau Cynaliadwy’r CU
ESEA6 Bod yn ddinasyddion byd-eang, gan ymgysylltu a gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol trwy gael profiad ymarferol mewn gwledydd eraill.

Meddwl yn Annibynnol ac yn Feirniadol
ICT1 Nodi, diffinio a dadansoddi materion a syniadau cymhleth, gan arfer barn feirniadol wrth werthuso ffynonellau gwybodaeth.
ICT2 Arddangos chwilfrydedd deallusol a cheisio meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth.
ICT3 Ymchwilio i broblemau a chynnig datrysiadau effeithiol, myfyrio a dysgu o lwyddiannau a methiannau.

Bod yn arloesol, yn fentrus ac yn fasnachol ymwybodol
IECA1 Creu syniadau gwreiddiol a defnyddio dull creadigol, llawn dychymyg a dyfeisgar o feddwl wrth ymateb i anghenion a phroblemau.
IECA2 Cymryd yr awenau wrth weithredu ar eu syniadau eu hunain a syniadau eraill, cydbwyso’r risgiau a’r canlyniadau posib a gwneud i bethau ddigwydd.
IECA3 Bod yn hyderus wrth ddilyn llwybr gyrfa hyfyw a gwobrwyol mewn entrepreneuriaeth.
IECA4 Deall sefydliadau, eu rhanddeiliaid, a'u heffaith ar yr economi.

Bod yn fyfyriol ac yn wydn
RR1 Mynd ati’n bwrpasol i fyfyrio ar eu hastudiaethau, eu cyflawniadau a’u hunaniaeth.
RR2 Yn dangos gwytnwch, hyblygrwydd a chreadigrwydd i ddelio â heriau, ac yn barod i dderbyn newid.
RR3 Adnabod a chyfleu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth eu hunain yn hyderus ac mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
RR4 Ystyried syniadau, cyfleoedd a thechnolegau newydd, gan adeiladu ar wybodaeth a phrofiad i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol eu hunain.
RR5 Gosod nodau uchelgeisiol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol parhaus, cynllunio’n effeithiol ac ymroi i ddysgu gydol oes.

Os ydynt am gael effaith, mae angen i rinweddau graddedigion fod yn weladwy i fyfyrwyr a rhaid i arwyddocâd y rhain gael eu deall. Mae recriwtiaid graddedigion yn dweud bod gan fyfyrwyr gyfoeth o gyflawniadau a phrofiadau yn aml, ond nid ydynt yn gallu troi’r rhain yn sgiliau a rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, felly nid ydynt yn gallu eu mynegi yn eu CV, proffil LinkedIn, ceisiadau neu mewn cyfweliad.
“Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dangos bod ceisio rhagweld y dyfodol yn fusnes llawn risg. Yr hyn y gallwn ei ddweud gyda pheth sicrwydd yw bod dilyn gradd prifysgol yn ddi-os yn helpu graddedigion i ddatblygu sgiliau hanfodol a fydd yn eu paratoi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Mae’r her yn aml yn ymwneud â’r myfyrwyr yn cydnabod ac yn mynegi eu sgiliau, a dyna lle mae echdynnu ac amlygu gwerth cyflogadwyedd graddau, asesiadau dilys sy’n adlewyrchu byd gwaith a chyfleoedd i ryngweithio â chyflogwyr (naill ai profiad gwaith allgyrsiol neu wedi’u gwreiddio yn y cwricwlwm), yn gallu helpu”.
Bydd llawer o’r rhinweddau eisoes wedi’u gwreiddio mewn rhaglenni academaidd. Felly, mae angen eu hamlygu a’u cydnabod.
Fel rhan o’r Adolygiad o Gyflogadwyedd a Rhinweddau Graddedigion, bydd angen i chi gwblhau gweithgaredd Mapio Rhinweddau Graddedigion, gan y bydd yn rhan o’ch cyflwyniad cyffredinol i’r Is-bwyllgor Cymeradwyo ac Ailddilysu Rhaglenni. Rydym yn argymell eich bod yn cwblhau’r gweithgaredd hwn ar ôl cynnal adolygiad cyfannol o gyflogadwyedd ar eich rhaglen a chreu eich Canlyniadau Dysgu Rhaglen a Modiwlau, y gall y Gwasanaeth Datblygu Addysg eich cefnogi gyda nhw. Gall yr ymarfer Mapio Rhinweddau Graddedigion fod yn hunan-archwiliad defnyddiol unwaith y bydd y rhan fwyaf o gynllun y rhaglen wedi’i gwblhau.
Y dull a argymhellir yw mapio’r rhinweddau yn erbyn y wybodaeth a’r sgiliau allweddol a enillir ar ôl cwblhau’r modiwlau. Lle canfyddir bylchau, efallai y bydd opsiynau i wreiddio gweithgareddau ychwanegol, perthnasol yn y rhaglen, neu i gyfeirio at y gweithgareddau allgyrsiol y gall myfyrwyr ymgymryd â nhw i ddatblygu’r rhinweddau.
Cyn dechrau’r gweithgaredd mapio, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o sawl egwyddor wrth ystyried sut i fapio’ch canlyniadau a’ch modiwlau yn erbyn y rhinweddau graddedigion:
Chwe Egwyddor Mapio Rhinweddau Graddedig:
Llinyn Aur Cyflogadwyedd
Bwriedir i’r priodoleddau fod yn ‘llinyn aur’ sy’n rhedeg drwy gyfnod myfyriwr yng Nghaerdydd, ac maent wedi’u dyfeisio, gyda mewnbwn gan gyflogwyr, i wneud y mwyaf o siawns pob myfyriwr o sicrhau cyflogaeth ar lefel graddedig trwy eu galluogi i ddod yn ddinasyddion byd-eang sy'n ymwybodol yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn amgylcheddol.
Ymrwymiad Caerdydd
Nid yw’r rhinweddau’n rhan o ‘gontract Caerdydd’ gyda myfyrwyr, gan nad yw’r Brifysgol yn gwarantu y bydd myfyrwyr yn datblygu’r holl rinweddau fel rhan o raglen astudio. Yr ymrwymiad yw y bydd myfyrwyr, trwy ystod o weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol, yn cael y cyfle i ddatblygu'r rhinweddau yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd.
Asesu
Nid oes unrhyw ofyniad bod yn rhaid asesu rhinwedd, er bod y ffaith ei fod yn cael ei asesu yn debygol o ddarparu tystiolaeth dda bod y rhinwedd wedi'i hymgorffori mewn rhaglen astudio.
Amlygiad Digonol
Nid oes gofyniad i raglen gynnwys amlygiad i'r holl rinweddau, gan y caniateir i rai rhinweddau gael eu datblygu trwy weithgareddau allgyrsiol ychwanegol. Yr hyn sy'n ofynnol yw y dylai rhaglen ddarparu digon o amlygiad i'r rhinweddau i adlewyrchu'n wirioneddol ymrwymiad y sefydliad i alluogi myfyrwyr i ddod yn ddinasyddion byd-eang sy'n ymwybodol yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn amgylcheddol. Felly, mae rhaglen sy'n cynnwys ychydig iawn o amlygiad i'r rhinweddau, sydd felly'n rhoi'r cyfrifoldeb ar fyfyrwyr i ddatblygu'r rhinweddau eu hunain trwy weithgareddau allgyrsiol, yn annhebygol o fodloni ymrwymiad y sefydliad. Fodd bynnag, mae'n gwbl dderbyniol i raglen roi llai o bwyslais ar rai rhinweddau nag eraill, cyn belled â bod cyfleoedd allgyrsiol perthnasol yn bodoli ac yn cael eu cyfleu i fyfyrwyr.
Hyblygrwydd
Awgrymiadau'n unig yw'r meysydd ffocws ar gyfer pob rhinwedd, o ran ffyrdd y gellir datblygu'r rhinwedd, a gall opsiynau eraill fod yr un mor ddilys.
Rhaglenni Ôl-raddedig
O ystyried eu hyd byrrach, efallai y bydd gan raglenni ôl-raddedig a addysgir lai o le i gefnogi datblygiad yr ystod lawn o briodoleddau, ac yn benodol, mae'n debygol y bydd angen rhaglenni galwedigaethol i flaenoriaethu sgiliau ymarfer proffesiynol perthnasol.
Cwblhewch y gweithgaredd Mapio Rhinweddau Graddedigion fel rhan o’ch Adolygiad o Gyflogadwyedd a Rhinweddau Graddedigion
Cyn cyflwyno’ch templed gorffenedig i’r Is-bwyllgor Cymeradwyo ac Ailddilysu Rhaglenni, rydym yn argymell eich bod yn ei rannu â Phartner Busnes eich Coleg i’w adolygu. Gall gynghori ar y tebygolrwydd y caiff ei gymeradwyo gan yr Is-bwyllgor a/neu gynnig cymorth gyda gwelliannau pellach, os oes angen.