Map Rhinweddau Graddedigion
Datblygu gwefan ryngweithiol i ddangos sut y gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau a phriodoleddau ar eich rhaglen a thrwy weithgareddau allgyrsiol.
Yn dilyn cymeradwyaeth y rhaglen, bydd Dyfodol Myfyrwyr yn parhau i weithio gyda chi i gynhyrchu Map Rhinweddau Graddedigion sy’n wynebu myfyrwyr. Mae’r Mapiau hyn yn cael eu datblygu ar wefan ryngweithiol wedi’i theilwra i’ch rhaglen ac wedi’u cynllunio i dynnu sylw at fyfyrwyr presennol yn benodol sut y gallant ddatblygu pob priodoledd trwy weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol.
Edrychwch ar ein Templed Map Rhinweddau Graddedigion trwy’r botwm isod.
Templed Map Rhinweddau Graddedigion
Gellir defnyddio Map Rhinweddau Graddedigion fel offeryn hyrwyddo i ddarpar fyfyrwyr mewn Diwrnodau Agored a gallant hefyd gael eu defnyddio gan Diwtoriaid Personol i gefnogi trafodaethau sy’n gysylltiedig â gyrfa gyda myfyrwyr a’u cyfeirio at y gwasanaethau mwyaf perthnasol.
Bydd eich Map Rhinweddau Graddedigionyn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
Cyflwyno’r Rhinweddau Graddedigion
Mae’r dudalen hon yn cynnig trosolwg syml o chwe Rhinwedd Graddedigion a’u his-rinweddau.
Ar eich cwrs
Bydd cyfleoedd i ddatblygu'r rhinweddau graddedigion yn amrywio fesul modiwl, gan ddibynnu ar yr addysgu, yr ymarfer a'r asesiadau sy'n rhan ohonyn nhw.
Mae rhestr gyflawn o'r modiwlau sy'n rhan o’r rhaglen wedi'u rhestru ar y dudalen hon. Bydd pob modiwl, pan gaiff ei ddewis, yn datgelu pa Rinweddau Graddedigion sydd yn astudiaethau a/neu asesiad y modiwl.
Achrediad Penodol i'r Pwn
Os yw’r rhaglen astudio wedi'i datblygu yn unol â Chyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol, bydd yn cael ei rhestru yn yr adran hon.
Gall myfyrwyr weld pa sgiliau y mae'n rhaid iddyn nhw eu datblygu yn ystod eu hastudiaethau, sydd wedi’u gosod a'u rheoleiddio gan y Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol hynny i wneud yn siŵr bod eich addysg yn adlewyrchu arferion y diwydiant a bod cynnwys yr astudiaeth yn addas i’r diben.
Gwasanaethau Dyfodol Myfyrwyr
Rhestr a dolenni i adnoddau Dyfodol Myfyrwyr perthnasol a fydd yn cefnogi eu cyfleoedd cyflogadwyedd yn ystod eu hastudiaethau a hyd at dair blynedd ar ôl graddio.
Ar ôl cymeradwyo, bydd eich Partner Busnes yn eich cysylltu â’n tîm Adnoddau Dysgu a fydd yn eich cefnogi drwy’r broses ddatblygu Map Priodoleddau Graddedigion.