Skip to main content

Gweithgareddau a gefnogir gan Dyfodol Myfyrwyr

Sut mae Dyfodol Myfyrwyr yn cefnogi gweithgareddau cysylltiedig â chyflogadwyedd cwricwlaidd ac allgyrsiol.

Mae Dyfodol Myfyrwyr yn cefnogi ystod o weithgareddau cyflogadwyedd cwricwlaidd ac allgyrsiol, a gallai’r trosolwg canlynol gynorthwyo ysgolion i benderfynu pa weithgareddau fyddai’n cyd-fynd orau â’u cynigion ar gyfer cynllunio a datblygu rhaglenni.

4.1 Darpariaeth gwricwlaidd:

alt-text
Mae tîm Cyngor ac Arweiniad Dyfodol Myfyrwyr yn cynnwys Cynghorwyr Gyrfaoedd a Chynghorwyr Cyflogadwyedd. Mae gan bob Cynghorydd Gyrfaoedd gymhwyster proffesiynol mewn addysg, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd. I gyd-fynd â'r hyfforddiant hwn, mae Cynghorwyr a rhai Swyddogion Prosiect yn cwblhau Cymrodoriaeth Cyswllt Advance HE ar hyn o bryd drwy Raglen Cymrodoriaeth Addysg Prifysgol Caerdydd. Mae cydweithwyr eraill wedi cwblhau lefel y Cymrodorion, ac mae gan lawer o'n Cynghorwyr Gyrfaoedd ac aelodau eraill o'r tîm brofiad o ddylunio ac addysgu darpariaeth gwricwlaidd, a enillwyd yng Nghaerdydd ac mewn sefydliadau eraill.

Mae Partneriaid Busnes y Coleg yn gweithio gyda Chynghorwyr Gyrfaoedd i ddatblygu cynnwys cyflogadwyedd ar gyfer y cwricwlwm. Gall hyn ymwneud â disgyblaeth benodol a gellir ei deilwra i fodloni deilliannau dysgu penodol. Gallai hyn fod trwy fodiwl ar wahân neu wedi'i integreiddio’n rhan o fodiwlau presennol. Ein nod wrth addysgu yw gwreiddio’r llinynnau cyflogadwyedd a rhinweddau graddedigion fel yr amlinellir yn Adran 3, Cam 1

Gall Ymgynghorwyr Gyrfa gyflwyno cynlluniau addysgu a deunyddiau i'w hadolygu ymlaen llaw, a chaiff eu mewnbwn ei adolygu gan system adolygu gan gymheiriaid sy’n rhan o dîm a gwerthusiad modiwl.

alt-text
Gall Partneriaid Busnes y Coleg weithio ochr yn ochr â chydweithwyr academaidd a Chynghorwyr Gyrfaoedd i ddylunio asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Rydym wedi datblygu'r meini prawf asesu perthnasol a gallwn gynnal sesiynau hyfforddi gyda staff academaidd i hwyluso asesiadau sy'n gysylltiedig â chyflogadwyedd.

Mae tîm Menter a Dechrau Busnes Dyfodol Myfyrwyr yn canolbwyntio ar sicrhau bod ymrwymiadau strategol y Brifysgol i fenter myfyrwyr yn cael eu cyflawni drwy flaenoriaethu tair ffrwd o weithgarwch:

alt-text

Dechrau Busnes, Deori a Rhwydweithio

Gwasanaeth cyngor ar ddechrau a deori busnes, a gall hefyd gael ei ddarparu fel amrywiolyn Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol.

alt-text

Sgiliau Entrepreneuraidd a Meddylfryd

Cyflwyno sesiynau sgiliau o fewn y cwricwlwm.

alt-text

Rhaglen Ysbrydoli

Cyflwyniad i entrepreneuriaeth ac entrepreneuriaeth gymdeithasol trwy ofyn i fyfyrwyr ddatrys 'problemau drygionus' trwy 'gemau busnes' neu 'hacathonau' ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr, ac yna myfyrio ar ddatblygiad rhinweddau graddedigion. Gall Dyfodol Myfyrwyr roi pecyn cymorth i ysgolion a gweithio gyda nhw i deilwra'r model i gyd-fynd â blaenoriaethau'r ysgol.

alt-text
Mae llawer o Ysgolion academaidd yn cynnig cyfleoedd i wneud gwaith cwricwlaidd neu astudio dramor yn rhan orfodol neu annatod o raglen radd.  Gall hyn gynnwys blwyddyn yn astudio neu’n ymchwilio mewn prifysgolion partner rhyngwladol, neu flwyddyn yn gweithio mewn cwmni rhyngwladol fel rhan o Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol. Mae'r Tîm Cyfleoedd Byd-eang yn darparu cefnogaeth i ysgolion wrth hyrwyddo a datblygu cyfleoedd, yn ogystal â rhoi cefnogaeth i'r myfyrwyr sy'n cymryd rhan.

Mae llawer o ysgolion academaidd hefyd yn cynnig ystod o gyfleoedd cwricwlaidd rhyngwladol tymor byrrach, fel dewisiadau meddygol neu ofal iechyd, teithiau maes neu leoliadau ymchwil haf dramor. Mae'r tîm Cyfleoedd Byd-eang hefyd yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu prosiectau symudedd grŵp dan arweiniad staff academaidd.

Cynigir sesiynau canolog a gynhelir gan dîm Dyfodol Myfyrwyr i fyfyrwyr ar ôl iddynt ddychwelyd o'u lleoliadau gwaith rhyngwladol.  Gwneir hyn i geisio annog myfyrwyr i fyfyrio ar y sgiliau a gafwyd dramor, a rhoi cymorth ar sut i gyfleu datblygiad eu rhinweddau graddedigion wrth wneud ceisiadau am swyddi yn y dyfodol.

alt-text
Mae Dyfodol Myfyrwyr yn dod o hyd i ystod o leoliadau gwaith mewn fformatau amrywiol (gweler adran 4.2.5). Er bod y rhain yn cael eu nodi fel cyfleoedd allgyrsiol, maent hefyd yn gallu bod yr elfen dysgu yn y gwaith mewn modiwl, neu’r Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol integredig.
alt-text
Mae cydweithio â chyflogwyr i ymgorffori gweithgarwch cyflogwyr o fewn y cwricwlwm yn gwella dysgu ac addysgu, a chyflogadwyedd myfyrwyr. Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn weithgarwch hynod amrywiol, ac mae’n amrywio o ddysgu sy’n seiliedig ar waith, interniaethau a lleoliadau gwaith, i gyflogwyr sy'n darparu astudiaethau achos, siaradwyr gwadd, mentoriaid, cyfnewid gwybodaeth, prosiectau ymgynghori a chynnig gwybodaeth am yrfaoedd. Gall cyflogwyr gynnig enghreifftiau o'r byd go iawn, prosiectau ymchwil a chyfleoedd i gynnal asesiadau dilys o fewn y cwricwlwm, gan alluogi myfyrwyr i gael gwell dealltwriaeth o sut mae eu pwnc a'i ddulliau yn cael eu cymhwyso'n ymarferol.

Gall cyflogwyr a chynfyfyrwyr gynnig arbenigedd amhrisiadwy am yr ystod o lwybrau gyrfa sydd ar gael i fyfyrwyr, y wybodaeth a’r sgiliau fydd eu hangen ar fyfyrwyr wrth bontio i fyd gwaith, a rhai o'r tueddiadau a'r heriau allweddol sy'n wynebu diwydiannau penodol. Yn gynyddol, mae cyflogwyr yn ceisio cynyddu amrywiaeth eu gweithlu ac yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda phrifysgolion mewn ffordd fwy pwrpasol. Mae gan Ddyfodol Myfyrwyr rwydwaith eang o gyflogwyr a chynfyfyrwyr, yn ogystal â thîm ymgysylltu ymroddedig sydd â chyfoeth o arbenigedd i gefnogi ysgolion i ymgorffori gweithgarwch cyflogwyr o fewn y cwricwlwm.

4.2 Darpariaeth allgyrsiol:

Mae'r tîm Cyngor ac Arweinaid yn cefnogi ystod eang o weithgareddau allgyrsiol sy'n gysylltiedig â chyflogadwyedd. Mae Cynghorwyr Gyrfaoedd a Chynghorwyr Cyflogadwyedd yn cydweithio i ddarparu rhaglenni gweithgareddau ym mhob ysgol ac yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, ac mae Cynghorwyr Cyflogadwyedd yn canolbwyntio ar gefnogi myfyrwyr mewn cysylltiad â’r broses recriwtio. Ymhlith y gweithgareddau allweddol mae’r canlynol:

alt-text

Cyflwyniadau a gweithdai gyrfaoedd

Ar ystod eang o bynciau cyflogadwyedd gan gynnwys addysg am yrfaoedd sy’n ymwneud â sectorau penodol. Er mwyn ymgysylltu cymaint â phosibl â myfyrwyr, rydym bellach yn gofyn i ysgolion weithio gyda ni i sicrhau bod y gweithdai hyn wedi'u hintegreiddio i amserlenni myfyrwyr lle bynnag y bo modd.

alt-text

Digwyddiadau gyda chyflogwyr a chynfyfyrwyr

Gan weithio mewn partneriaeth â'n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr a'r tîm Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr, mae Dyfodol Myfyrwyr yn hwyluso digwyddiadau wedi'u teilwra sy'n cynnwys cyflogwyr a chynfyfyrwyr. Unwaith eto, mae cefnogaeth ysgolion yn hanfodol er mwyn ymgysylltu â myfyrwyr, yn enwedig pan mae siaradwyr allanol yn cymryd rhan.

alt-text

Apwyntiadau gyrfaol gyda Chynghorwyr Gyrfaoedd

Ar gael i bob myfyriwr ar lefelau israddedig, ôl-raddedig a addysgir ac ôl-raddedig. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyrfaol gyda Chynghorydd Gyrfaoedd eu hysgol. Mae apwyntiadau byrrach o’r enw “gofynnwch i Gynghorydd’ hefyd ar gael i roi adborth ar CVs, ceisiadau, a phroffiliau LinkedIn, neu i drafod sut i ddod o hyd i brofiad gwaith.
Gall myfyrwyr drefnu cyfweliadau ffug i ymarfer techneg cyfweliadau, ac mae meddalwedd cyfweliad fideo ar gael hefyd.
Gall myfyrwyr sydd ag unrhyw rwystrau ychwanegol i gyflogaeth hefyd drefnu Apwyntiad gyda'r Tîm Hyder o ran Gyrfa, lle gallant elwa ar gymorth wedi'i deilwra'n well.

alt-text

Academi Ddoethurol

gall y tîm Cyngor ac Arweiniad gyfrannu at raglen yr Academi Ddoethurol bob blwyddyn, a gall cynghorwyr Gyrfaoedd ysgolion hefyd gefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn eu hysgolion.

alt-text
Mae Gwobr Caerdydd yn rhaglen ddewisol i ddatblygu gyrfaoedd. Mae ar gael ar gyfer pob myfyriwr i'w chwblhau yn ystod un flwyddyn academaidd. Bwriad y Wobr yw cyflwyno gweithgareddau cyflogadwyedd allweddol ar lefel uchel, er mwyn helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl gadael y brifysgol. Gall y rhaglen ategu gweithgareddau cyflogadwyedd yn y cwricwlwm.
alt-text
Mae pob un o’r tair ffrwd o weithgarwch a amlinellir yn adran 4.1.3 ar gael ar sail allgyrsiol, gan ganiatáu i fyfyrwyr gymryd rhan mewn datblygiad entrepreneuraidd ar unrhyw adeg yn eu taith academaidd. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod gweithgareddau menter ar gael i bob myfyriwr yn ystod eu cyfnod yng Nghaerdydd.
alt-text
Mae Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig rhaglen eang o ffeiriau a digwyddiadau gyrfaoedd drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae’r rhain yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â chyflogwyr, dod o hyd i wybodaeth am swyddi i raddedigion, interniaethau a lleoliadau gwaith, ac maent yn eu galluogi i nodi gyrfaoedd posibl ar gyfer y dyfodol drwy sesiynau sgiliau, cyflwyniadau a gweithdai.
alt-text
Gall profiad gwaith fod yn weithgaredd allgyrsiol dewisol i bob myfyriwr. Yn ogystal â chael blas ar fyd gwaith ac interniaethau byr y gellir eu cwblhau yn ystod pob semester, gall myfyrwyr gael eu mentora gan gyflogwr neu gynfyfyriwr a chynnal lleoliad gwaith cyflogedig yn rhan-amser neu’n amser llawn. Mae profiad gwaith mwy hyblyg a phwrpasol ar gael trwy'r tîm Hyder o ran Gyrfa ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr heb gynrychiolaeth ddigonol a allai wynebu rhwystrau neu ddiffyg sgiliau neu rwydweithiau cyflogadwyedd.
alt-text
Mae'r Tîm Cyfleoedd Byd-eang yn cynnig ystod eang o leoliadau tymor byr, allgyrsiol, gwaith, astudio neu wirfoddoli dros fisoedd yr haf. Er mwyn sicrhau bod y rhain ar gael, mae’r lleoliadau gwaith hyn yn amrywio o ran hyd (2-12 wythnos), lleoliad a math o weithgareddau. Mae cymorth ariannol ar gael hefyd i fyfyrwyr tuag i helpu i dalu costau lleoliadau rhyngwladol drwy ffynonellau ariannu allanol a sefydliadol. Mae'r tîm hefyd yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu prosiectau symudedd grŵp dan arweiniad staff academaidd i'w cynnal dros fisoedd yr haf.