Skip to main content

Diffinio Cyflogadwyedd

How Student Futures defines employability and how the Graduate Attributes and employability threads can be woven into the curriculum.

Sut mae Dyfodol Myfyrwyr yn diffinio cyflogadwyedd a sut y gellir gwehyddu Priodoleddau Graddedigion ac edafedd cyflogadwyedd yn y cwricwlwm.

Mae Advance HE (2019) yn ystyried Cyflogadwyedd fel ymarferion a gweithgareddau sy’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu:

“y wybodaeth, y sgiliau, y profiadau, yr ymddygiadau, y rhinweddau, y cyflawniadau a’r agweddau sy’n galluogi graddedigion i wneud trawsnewidiadau llwyddiannus sydd o fudd iddynt hwy, yr economi a’u cymunedau”.
AdvanceHE, 2019

Gan adlewyrchu’r dull hwn, mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i alluogi pob myfyriwr i ddatblygu’r
sgiliau a’r rhinweddau i ddod yn ddinasyddion byd-eang cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ymwybodol. Mae Rhinweddau Graddedigion y Brifysgol yn ymwneud â 6 maes eang, sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod graddedigion Caerdydd.

Rhinweddau Graddedigion Prifysgol Caerdydd yw:

Gan gydnabod bod myfyrwyr yn aml yn cydbwyso ystod o weithgareddau sydd yr un mor bwysig, gan gynnwys astudio, gweithio a chyfrifoldebau gofalu, mae’r Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr yn cefnogi dau ddull eang o ymgorffori cyflogadwyedd:

gweithgareddau cwricwlaidd – cyflwynir y gweithgaredd cyflogadwyedd yn rhan o elfen sy’n cynnig credydau o raglen astudio’r myfyriwr (e.e. gweithgaredd cyflogadwyedd a ddefnyddir fel math o asesiad dilys ar gyfer modiwl, neu leoliad gwaith a wneir yn rhan o flwyddyn ar leoliad proffesiynol);

gweithgareddau allgyrsiol – cyflwynir y gweithgaredd cyflogadwyedd y tu allan i’r elfennau sy’n cynnig credydau yn rhaglen astudio’r myfyriwr (e.e. cymryd rhan mewn gweithdy sgiliau, neu fynd i gyflwyniad gan gyflogwr).

Gellir darparu llawer o weithgareddau cyflogadwyedd ar sail gwricwlaidd ac allgyrsiol (e.e. dysgu yn y gwaith), ac mae ffocws Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig ystod o weithgareddau cyflogadwyedd sy’n galluogi pob myfyriwr i ddatblygu rhinweddau graddedigion. Mae’r cynllun amlinellol canlynol yn crynhoi sut mae’r Fframwaith yn helpu i wreiddio gweithgareddau cyflogadwyedd ar draws holl brofiad y myfyrwyr: (Tibby a Norton 2020)

Cwricwlwm wedi’i gynllunio gyda chyflogadwyedd mewn golwg Addysgeg Mewnbwn gan gyflogwyr Wedi’i lywio gan LMI a Data Mae cyflogadwyedd sy'n bodoli eisoes yn cael ei dynnu a'i amlygu Cwricwlwm Academaidd Prosiectau neu fodiwlau dan arweiniad cyflogwr Asesiad dilys gan ddefnyddio enghreifftiau ac offer sy'n adlewyrchu byd gwaith Iaith gyffredin Dulliau cydlynol Cysoni ar draws profiad cyfan y myfyrwyr Cynlluniau Mynediad a Chyfranogiad (APPs) a dulliau wedi'u teilwra Wedi'i alinio ac yn gyflenwol Gweithgareddau datblygu gyrfa Prosiectau neu fodiwlau dan arweiniad cyflogwr Asesiad dilys gan ddefnyddio enghreifftiau ac offer sy'n adlewyrchu byd gwaith CEIAG yn y cwricwlwm Sesiynau CV, cyflwyniadau Cyflogwyr, Profiad Gwaith, Ymgysylltu â Chyflogwyr yn y cwricwlwm Cwricwlwm wedi’i gynllunio gyda chyflogadwyedd mewn golwg Addysgeg Mewnbwn gan gyflogwyr Wedi’i lywio gan LMI a Data Mae cyflogadwyedd sy'n bodoli eisoes yn cael ei dynnu a'i amlygu Cwricwlwm Academaidd Prosiectau neu fodiwlau dan arweiniad cyflogwr Asesiad dilys gan ddefnyddio enghreifftiau ac offer sy'n adlewyrchu byd gwaith Iaith gyffredin Dulliau cydlynol Cysoni ar draws profiad cyfan y myfyrwyr Cynlluniau Mynediad a Chyfranogiad (APPs) a dulliau wedi'u teilwra Wedi'i alinio ac yn gyflenwol Gweithgareddau datblygu gyrfa Prosiectau neu fodiwlau dan arweiniad cyflogwr Asesiad dilys gan ddefnyddio enghreifftiau ac offer sy'n adlewyrchu byd gwaith CEIAG yn y cwricwlwm Sesiynau CV, cyflwyniadau Cyflogwyr, Profiad Gwaith, Ymgysylltu â Chyflogwyr yn y cwricwlwm

Fframweithiau AdvanceHE (02): Ymgorffori Cyflogadwyedd mewn Addysg Uwch (2019)

 Llinynnau Cyflogadwyedd

Mae Dyfodol Myfyrwyr wedi datblygu pedwar llinyn cyflogadwyedd trosfwaol sy’n crynhoi’r dysgu a’r addysgu sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd y dylid eu cynnwys ym mhob agwedd ar brofiad myfyrwyr trwy ddulliau cwricwlaidd ac allgyrsiol:

Four circles that display each of the four employability htread icons.

Dysgu Datblygu Gyrfa

Er mwyn i fyfyrwyr allu llywio a llwyddo mewn byd gwaith cynyddol hylifol a chymhleth, mae angen cymorth arnynt i gaffael y wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau a fydd yn eu harfogi i reoli eu gyrfaoedd yn effeithiol. Diffinnir dysgu datblygu gyrfa fel:

“Caffael galluoedd sy’n ddefnyddiol i ddatblygiad a rheolaeth barhaus eich gyrfa, wedi’i seilio ar broses ddysgu ddilys barhaus sy’n meithrin gwybodaeth am y byd gwaith ac amdanoch chi’ch hun. Mae’r broses hon yn datblygu gallu’r dysgwr i wneud synnwyr o’r wybodaeth hon a’i chyfuno a ffurfio’r sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau effeithiol yn ymwneud â dewisiadau gyrfa, datblygiad proffesiynol a gweithgarwch datblygu gyrfa (gan gynnwys caffael gwaith)”.
Bridgstock, Grant-Iramu and McAlpine, 2019

Trwy ddysgu datblygu gyrfa, bydd myfyrwyr yn gwella eu hunanymwybyddiaeth, eu hymwybyddiaeth o gyfleoedd, eu gallu i wneud penderfyniadau am eu gyrfa a’u gallu i drosglwyddo i’r gweithle yn hyderus.

Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth

I rai myfyrwyr, bydd y newid i fyd gwaith yn golygu cymryd rhan mewn rhaglen fusnes newydd neu fenter gymdeithasol. Mae cyflogwyr yn ystyried meddylfryd entrepreneuraidd hefyd fel un sy’n ychwanegu gwerth at ddatblygiad sefydliad. Felly, mae addysg menter ac entrepreneuriaeth yn rhan allweddol o’r Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr. Yn y sector addysg, y diffiniadau sefydledig o addysg menter ac entrepreneuriaeth yw:

“Gellir diffinio menter fel creu a chymhwyso syniadau, sydd wedi’u gosod mewn sefyllfaoedd ymarferol yn ystod prosiect neu ymgymeriad… Mae’n cyfuno creadigrwydd, gwreiddioldeb, menter, creu syniadau, meddwl yn greadigol, ymaddasu, ymatblygaeth, adnabod problemau, datrys problemau, arloesi, mynegi, cyfathrebu a chymryd camau ymarferol.”
QAA, 2018

and Entrepreneurship education as:

“Diffinnir Addysg Entrepreneuriaeth fel cymhwyso ymddygiadau, rhinweddau a chymwyseddau menter i greu gwerth diwylliannol, cymdeithasol neu economaidd. Gall hyn, ond nid bob tro, arwain at greu menter. Mae entrepreneuriaeth yn berthnasol i unigolion a grwpiau (timau neu sefydliadau), ac mae’n cyfeirio at greu gwerth yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, ac mewn unrhyw gyfuniad o’r tri”.
QAA, 2018

Trwy addysg menter ac entrepreneuriaeth, bydd myfyrwyr yn archwilio ac yn datblygu eu sgiliau entrepreneuraidd, eu meddylfryd a’u meddwl creadigol, yn dysgu sut i sefydlu busnes neu ddod yn llawrydd ac yn dysgu sut i hyrwyddo eu hunain a’u busnes gydag effaith.

Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang

Mae’r Brifysgol yn cydnabod pa mor bwysig ydyw i fyfyrwyr weithredu fel dinasyddion byd-eang, gan ymgysylltu â gwahaniaethau diwylliannol a’u gwerthfawrogi trwy ddysgu ac addysgu â ffocws rhyngwladol a/neu drwy brofiad ymarferol o wledydd eraill. Diffinnir addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang fel:

“Meithrin parch at bawb, adeiladu ymdeimlad o berthyn i ddynoliaeth gyffredin a helpu dysgwyr i ddod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol a gweithgar. Mae’n fath o ddysgu dinesig sy’n cynnwys cyfranogiad gweithredol myfyrwyr mewn prosiectau sy’n mynd i’r afael â materion byd-eang o natur gymdeithasol, wleidyddol, economaidd neu amgylcheddol”.
UNESCO, 2014

Trwy addysg dinasyddiaeth fyd-eang bydd myfyrwyr yn datblygu eu hymwybyddiaeth fyd-eang a’u cymhwysedd diwylliannol, yn dysgu am gyfrifoldeb cymdeithasol, cynaliadwyedd a stiwardiaeth amgylcheddol, ac yn cymryd rhan mewn prosiectau a phrofiadau gyda ffocws byd-eang.
Mae’r Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr yn dilyn yr Is-Strategaeth Ryngwladol (Prifysgol Caerdydd, 2021) i hyrwyddo gweithgareddau symudedd rhyngwladol fel agwedd allweddol ar y rhaglen gyda ffocws ar:

“astudio, gweithio neu wirfoddoli mewn lleoliad rhyngwladol am o leiaf bythefnos, neu ennill profiad rhyngwladol sylweddol arall fel rhan o brofiad prifysgol myfyriwr”.
Cardiff University, 2021

Dysgu seiliedig ar waith

Er mwyn i fyfyrwyr allu pontio’r bwlch rhwng gwybodaeth academaidd a chymhwysiad yn y byd go iawn yn effeithiol a datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyflogwyr, mae’n hanfodol eu bod yn dysgu o brofiadau ymarferol tra byddant yn y brifysgol. Diffinnir dysgu seiliedig ar waith fel:

“Dysgu drwy waith, dysgu ar gyfer gwaith a/neu ddysgu yn y gwaith. Mae’n cynnwys cyfleoedd strwythuredig dilys ar gyfer dysgu sy’n cael eu cyflawni mewn lleoliad yn y gweithle neu sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu angen a nodwyd yn y gweithle. Yn nodweddiadol, mae gan y math hwn o ddysgu swyddogaeth ddeuol, sef cael ei gynllunio i ddiwallu anghenion dysgu’r gweithwyr, datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hymddygiad proffesiynol, a hefyd diwallu anghenion datblygu gweithlu’r sefydliad”.
QAA, 2018

Trwy ddysgu seiliedig ar waith, gall myfyrwyr wella eu gwybodaeth am y diwydiant, archwilio opsiynau gyrfa, gwella eu gwybodaeth gymhwysol a’u sgiliau ymarferol, a datblygu eu proffesiynoldeb a’u hunaniaeth broffesiynol.

Mae integreiddio lleoliadau gwaith i’r cwricwlwm hefyd yn agwedd bwysig ar y Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr, a disgwylir i hanner y myfyrwyr israddedig gwblhau lleoliad fel rhan o’u hastudiaethau.

Mae’r diffiniadau hyn yn sail i’r Fframwaith a’r dull y bydd Dyfodol Myfyrwyr yn ei gymryd wrth weithio gydag ysgolion. Mae’r camau ymarferol sydd eu hangen i gyflawni’r 9 blaenoriaeth ‘Cynllunio ar gyfer Dyfodol Myfyrwyr Llwyddiannus’ o dan yr Is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr yn cael eu nodi o Gam 2 ymlaen.