Notice: Function _load_textdomain_just_in_time was called incorrectly. Translation loading for the cucomp domain was triggered too early. This is usually an indicator for some code in the plugin or theme running too early. Translations should be loaded at the init action or later. Please see Debugging in WordPress for more information. (This message was added in version 6.7.0.) in /infotree/sites/sites.cardiff.ac.uk/wp-includes/functions.php on line 6260
Eich Map Ffordd ar gyfer y Dyfodol - Dyfodol Myfyrwyr+ - Cardiff University
Skip to main content

Eich Map Ffordd ar gyfer y Dyfodol

Defnyddiwch ein mapiau’r dyfodol i gynllunio eich camau nesaf, yn seiliedig ar ble rydych chi ar daith eich gyrfa.

Rydyn ni’n deall y gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau wrth ddatblygu eich gyrfa. Yn y brifysgol, mae amser yn werthfawr ac mae’n bwysig treulio’r amser sydd gennych chi mewn ffordd sy’n gweddu orau i chi a lle rydych chi ar eich llwybr gyrfaol. Dyna pam rydyn ni wedi creu’r mapiau ffordd ar gyfer y dyfodol rhyngweithiol hyn – un ar gyfer pob blwyddyn astudio israddedig ac un ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.

Gallwch ddefnyddio’r mapiau hyn i gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich datblygiad gyrfaol eich hun a nodi pa fath o weithgareddau fydd yn eich helpu chi, gan ddibynnu lle rydych chi ar eich cwrs.

  • Ym Mlwyddyn 1, rydyn ni’n dychmygu y bydd myfyrwyr yn ymchwilio i’w diddordebau, eu sgiliau, syniadau ar gyfer gyrfa a’u cymhellion, yn ogystal â bywyd yn y brifysgol a’r gefnogaeth ehangach sydd ar gael
  • Ym Mlwyddyn 2, rydyn ni’n dychmygu y bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd ac yn bersonol, wrth iddyn nhw gael profiad gwaith a magu hyder mewn prosesau recriwtio
  • Yn eu blwyddyn olaf, rydyn ni’n dychmygu y bydd myfyrwyr yn paratoi ar gyfer yr hyn sydd nesaf ac yn gwneud ceisiadau ar gyfer swyddi i raddedigion, cynlluniau neu gyrsiau ôl-raddedig
  • Mae gennyn ni fap ffordd ar gyfer y dyfodol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ar gwrs blwyddyn
Cofiwch nad oes un llwybr perffaith i’w ddilyn wrth gynllunio ar gyfer eich dyfodol – mae pawb yn unigryw ac felly hefyd y mae eu llwybrau gyrfaol. Nod y mapiau hyn yw cynnig ysbrydoliaeth i unrhyw un sy’n chwilio am rywfaint o arweiniad wrth ddatblygu eu gyrfa a gwneud y gorau o’u hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gallwch chi siarad â Chynghorydd Gyrfaoedd ar unrhyw adeg i’ch helpu gyda’ch llwybr gyrfaol – trefnwch apwyntiad drwy eich cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.

Lawrlwythwch fersiwn PDF o'r map hwn i gael mynediad i'r rhestr wirio ryngweithiol a'r hypergysylltiadau.

Lawrlwythwch fersiwn PDF o'r map hwn i gael mynediad i'r rhestr wirio ryngweithiol a'r hypergysylltiadau.

Lawrlwythwch fersiwn PDF o'r map hwn i gael mynediad i'r rhestr wirio ryngweithiol a'r hypergysylltiadau.

Lawrlwythwch fersiwn PDF o'r map hwn i gael mynediad i'r rhestr wirio ryngweithiol a'r hypergysylltiadau.

Lawrlwythwch fersiwn PDF o'r map hwn i gael mynediad i'r rhestr wirio ryngweithiol a'r hypergysylltiadau.