Skip to main content

Yr hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano

Nodwch sgiliau trosglwyddadwy allweddol y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt.

Yn gyffredinol, mae gan gyflogwyr ddisgwyliadau uchel o raddedigion y maent yn eu recriwtio i’w sefydliad, gan ragweld y byddant yn cyrraedd gyda lefel sefydledig o wybodaeth, sgiliau a phroffesiynoldeb a ddylai eu helpu i drosglwyddo i’r rôl yn haws na’r rhai heb radd. Dyma pam ei bod mor bwysig eich bod yn gwybod nid yn unig beth mae cyflogwyr yn eich maes (meysydd) dewisol yn chwilio amdano erbyn i chi raddio, ond eich bod hefyd wedi neilltuo amser ac ymdrech i ddatblygu’ch hun i fodloni’r gofynion hynny.

Un o’r ffyrdd gorau o ddeall beth mae cyflogwyr ei eisiau gan eu gweithwyr yw trwy ymchwilio i broffiliau swyddi. Gallwch ddefnyddio gwefannau fel Prospects a Targetjobs i chwilio am broffiliau swyddi penodol, a fydd yn tynnu sylw at y cymwysterau, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl benodol honno. Mae cymryd peth amser i adolygu disgrifiadau swyddi a manylebau person ar gyfer swyddi byw hefyd yn ffordd ddefnyddiol iawn o ddeall pa fath o berson y mae’r recriwtiwr yn chwilio amdano. Gallwch ddod o hyd i’r rhain ar unrhyw fwrdd swyddi, fel Indeed, LinkedIn, TotalJobs ac wrth gwrs, eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.

Mae cael profiad gwaith boed hynny drwy wirfoddoli, lleoliad gwaith neu swydd ran-amser ochr yn ochr â’ch astudiaethau, hefyd yn allweddol i roi tystiolaeth i gyflogwyr eich bod wedi datblygu’r sgiliau y maent yn chwilio amdanynt yn y gweithle, nid trwy eich gradd yn unig.

Er mwyn datblygu ein dealltwriaeth ddyfnach ein hunain o’r hyn y mae cyflogwyr ei eisiau, cydweithiodd y brifysgol â chyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn ddiweddar i ddatblygu chwe Rhinwedd Graddedigion y mae galw mawr amdanynt mewn graddedigion. Felly, rydym yn teimlo’n hyderus, os byddwch yn neilltuo amser i ddatblygu’r rhinweddau hyn ochr yn ochr â’ch astudiaethau, y byddwch yn gwella’ch siawns o hoelio sylw recriwtwyr a ffynnu ar ddechrau eich gyrfa. Dysgwch fwy am ein Rhinweddau Graddedigion a sut y gallwch eu datblygu ar eich cwrs a thrwy weithgareddau allgyrsiol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ogystal â’n Rhinweddau Graddedigion, mae’r adran nesaf hon yn archwilio’n ddyfnach y sgiliau y mae’r galw mwyaf amdanynt gan gyflogwyr.

Beth yw’r prif sgiliau y mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr am eu gweld?

Gwyliwch y fideo isod i glywed pa sgiliau a phriodoleddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt wrth recriwtio graddedigion Prifysgol Caerdydd:

 

Mae cyflogwyr graddedigion yn edrych yn bennaf am ddau fath o sgiliau:
1. Sgiliau technegol — mae angen y sgiliau hyn i gyflawni tasg neu fath penodol o waith, er enghraifft dadansoddi data, sgiliau labordy neu raglennu cyfrifiadurol.
2. Sgiliau trosglwyddadwy — sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn unrhyw sefydliad; gellir eu datblygu mewn un amgylchedd neu swydd a’u cymhwyso i bron pob un arall, er enghraifft gweithio mewn tîm neu gyfathrebu.

Er y bydd sgiliau technegol yn debygol o gael eu datblygu trwy eich cwrs a’ch profiad gwaith perthnasol, gellir datblygu sgiliau trosglwyddadwy trwy ystod enfawr o weithgareddau gan gynnwys hobïau, clybiau a chymdeithasau, eich cwrs, profiadau gwaith, gwirfoddoli a’ch bywyd personol. Mae sgiliau trosglwyddadwy bob amser yn uchel ar restrau dymuniadau recriwtwyr graddedigion, gan mai nhw yw’r sgiliau sydd eu hangen arnoch yn aml i lywio’r byd gwaith, fel pa mor gymwys ydych i weithio a chyfathrebu ag eraill, ysgogi eich hun, trefnu a rheoli eich llwyth gwaith eich hun neu ddelio ag unrhyw wrthdaro. Mae Fforwm Economaidd y Byd wedi amlinellu’r 10 sgìl gorau sydd eu hangen ar gyfer y byd gwaith modern.

Yn ôl Adroddiad Dyfodol Swyddi 2025 Fforwm Economaidd y Byd, y sgiliau y rhagwelir y byddan nhw’n ehangu gyflymaf o ran pwysigrwydd erbyn 2030 yw sgiliau technolegol gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (DA) a data mawr; rhwydweithiau a seiberddiogelwch; a llythrennedd technolegol.

Y 10 sgil sy’n tyfu gyflymaf erbyn 2030

AI and big data icon
Networks and Cybersecurity icon
Technological literacy icon
Creative thinking icon
Resilience, flexibility and agility icon
Curiosity and lifelong learning icon
Leadership and social influence icon
Talent management icon
Analytical Thinking icon
Environmental stewardship icon

Sgiliau technoleg| Sgiliau gwybyddol | Hunan-effeithiolrwydd | Gweithio gyda phobl eraill

Sgiliau rheoli | Moeseg

Llun wedi’i addasu o Fforwm Economaidd y Byd 2025. Adroddiad Dyfodol Swyddi 2025.

Sylwer: Y sgiliau a ddewiswyd gan y sefydliadau a arolygwyd i fod yn tyfu gyflymaf o ran pwysigrwydd erbyn 2030.

 

Gallwch chi ddarganfod mwy am bob un o’r sgiliau hyn a sut i’w datblygu ymhellach isod:

Mae DA a data mawr yn dod yn bwysicach i bob sector o ofal iechyd i gyllid, logisteg i farchnata, pan fydd sefydliadau’n defnyddio peiriannau i gasglu, trefnu a dadansoddi llawer iawn o ddata. Erbyn 2030, bydd swyddi’n ddibynnol iawn ar DA a gwyddor data felly bydd cyflogwyr eisiau recriwtio unigolion sy’n hyderus wrth defnyddio’r offer hyn.

Darllenwch yr erthygl hon gan Reed ar y Chwech sgil DA sydd eu hangen ar bob myfyriwr graddedig  am ragor o wybodaeth ac i edrych am gyrsiau am ddim ym maes DA a dysgu peirianyddol i wella eich sgiliau, fel yr un yma gan Coursera: Machine Learning | Coursera; a’r rhain gan y Brifysgol Agored: AI Hub | OpenLearn - Y Brifysgol Agored.

Yn yr oes ddigidol heddiw, mae seiberddiogelwch yn bwysicach nag erioed wrth i fusnesau a llywodraethau ymdrechu i ddiogelu gwybodaeth sensitif a systemau ar-lein rhag bygythiadau seiber cynyddol soffistigedig. Erbyn 2030, bydd dealltwriaeth sylfaenol o ddiogelu data ac ymddygiad diogel ar-lein yn hanfodol i’r rhan fwyaf o swyddi, nid yn unig mewn rolau yn y sectorau digidol. Hefyd, bydd galw mawr am ymgeiswyr sydd â sgiliau seiberddiogelwch uwch ar draws bob sector.

Cewch ragor o wybodaeth am brinderau sgiliau seiberddiogelwch a’r ffyrdd i ddatblygu’r sgiliau hyn yn yr erthygl hon gan Prospects: Skills shortages lead to a rise in demand for cyber security graduates | Prospects.ac.uk

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn seiberddiogelwch, gallech chi ymuno â Cyber Access Network (CAN), menter fwyaf newydd y Cyngor Seiberddiogelwch sy’n anelu at rymuso a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym mes seiberddiogelwch.  Mae CAN yn cynnig cyfleoedd i rwydweithio, gweminarau a gwybodaeth ynghyd ag adnoddau.  Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim ac ar agor i unrhyw un dros 16 oed sydd eisiau dechrau gyrfa ym maes seiberddiogelwch.

Mae Future Learn yn disgrifio llythrennedd technolegol fel y gallu i ddefnyddio, deall, rheoli ac asesu technoleg yn effeithiol, yn ddiogel ac yn gyfrifol. Mae'n fwy na dim ond gallu adnabod offer digidol – mae angen i chi wneud penderfyniadau ar ba offeryn i'w ddefnyddio yn dibynnu ar yr hyn rydych chi am ei gyflawni, deall cyfyngiadau offer digidol a sylweddoli pa sgiliau technolegol sydd eu hangen yn eich maes dewisol.

Mae gan yr E-hwb Cyflogadwyedd, adnodd Cymru gyfan a grëwyd gan brifysgolion ledled Cymru, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, gyngor defnyddiol ar sut gall sgiliau digidol eich helpu yn y gweithle. Mae gan y Indeed awgrymiadau hefyd ar sut i gael gafael yn nhechnoleg.

Mae meddylwyr creadigol yn cynnig atebion arloesol neu newydd i broblemau, yn aml yn gallu ystyried problemau o safbwynt newydd a chynnig ffyrdd 'allan o'r bocs' i fynd i'r afael â'r mater. Nid yw meddwl dadansoddol a chreadigol yn annibynnol ar ei gilydd ac mae'n debyg y bydd cymhwyso'r ddwy set sgiliau i broblem yn arwain at yr ateb gorau posibl. Yn gyntaf, mae angen i chi ddadansoddi'r broblem ac ystyried y dystiolaeth a'r ffeithiau sydd o'ch blaen chi. Gyda'r ddealltwriaeth sylfaenol hon, gallwch chi geisio dod o hyd i ateb arloesol. Mewn gweithle, gallai hyn gynnwys pethau fel gwella prosesau i'w gwneud yn fwy effeithlon neu nodi ffyrdd newydd o ymgysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid.

Darllenwch arweiniad Forage ar feddwl yn greadigol a chael awgrymiadau ar sut i wella eich sgiliau meddwl creadigol ar wefan Skills you Need.

Mae cyflogwyr ym mhob diwydiant a sector yn gwerthfawrogi cyflogeion a all addasu.  Mae pethau'n newid – yn y gwaith yn ogystal ag mewn bywyd – ac mae angen i chi allu gwrthsefyll y newidiadau hyn, ac unrhyw rwystrau y gallech chi ddod ar eu traws ar hyd y ffordd. Gall bod yn wydn, hyblyg ac ystwyth gynnwys dysgu o gamgymeriadau, derbyn adborth adeiladol a chanolbwyntio ar y dasg dan sylw, hyd yn oed pan fydd pethau'n mynd o chwith. Nid yw cyflogwyr yn disgwyl perffeithrwydd ond maen nhw eisiau graddedigion sy’n gallu addasu i newid ac sydd â strategaethau ar waith i ymdopi â heriau.

Gallwch chi ddarllen rhagor am fod yn fyfyriol ac yn wydn ar y wefan hon, a gwneud cwrs Dysgu Agored am ddim ar ddatblygu gwydnwch gyrfa. Mae gan Indeed rai syniadau defnyddiol ynglŷn â dangos addasrwydd a hyblygrwydd yn y gwaith.

Mae chwilfrydedd yn sgil gwerthfawr iawn gan gyflogwyr! Bydd gweithwyr chwilfrydig yn gofyn cwestiynau, yn dyfnhau eu dealltwriaeth o broblem ac yn ceisio dod o hyd i ateb arloesol. Efallai y bydd gan bobl chwilfrydig well sgiliau rhyngbersonol hefyd - gall bod yn naturiol chwilfrydig eich arwain at fod eisiau dod i adnabod eraill yn well, gofyn am eu barn a cheisio deall eu persbectif. Darllenwch yr erthygl Forbes hon am bŵer chwilfrydedd yn y gweithle am fwy o wybodaeth.

Mae dysgwyr gydol oes hefyd o fudd mawr i sefydliadau. Bydd gweithwyr sydd wedi ymrwymo i'w datblygiad proffesiynol a phersonol parhaus bob amser yn chwilio am gyfleoedd i barhau â'u dysgu, boed hynny drwy wella eu sgiliau presennol neu ganolbwyntio ar ddatblygu rhai newydd. Gall eu ceisio am wybodaeth a datblygiad parhaus olygu atebion newydd, syniadau newydd neu ffyrdd newydd o wneud pethau a all wella'r sefydliad. Yr erthygl hon FutureLearn hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd dysgu gydol oes i ddiogelu eich gyrfa yn y dyfodol – mae angen i ni i gyd fod yn gyfforddus wrth ddatblygu sgiliau newydd er mwyn cadw i fyny â thwf technolegau sy'n dod i'r amlwg fel AI.

Mae arweinyddiaeth yn sgil graddedig y mae galw mawr amdani. Gall pawb ddangos rhinweddau arwain a chael dylanwad cadarnhaol ar eraill, p'un a ydych chi mewn swydd arweinyddiaeth ai peidio. Mae cyflogwyr yn chwilio am bobl sy'n gallu annog ac ysgogi eraill, cymryd cyfrifoldeb a gosod esiampl. Byddwch chi wrthi'n datblygu eich rhinweddau a'ch sgiliau arweinyddiaeth tra byddwch chi yn y brifysgol, er enghraifft, drwy arwain prosiectau grŵp, cymryd rhan mewn chwaraeon grŵp neu glybiau neu ymuno â chlybiau neu gymdeithasau mewn swydd gyfrifol.

Mae llawer o gyngor defnyddiol ar sut i ddatblygu eich sgiliau arwain a'r hyn sy'n gwneud arweinydd da – rhowch gynnig ar yr erthyglau hyn gan TargetJobs ac Indeed i'ch rhoi ar ben ffordd, ac ystyried cymryd y cyrsiau rhad ac am ddim hyn gan Bright Network a'r Brifysgol Agored i ddatblygu eich dealltwriaeth ymhellach.

Mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn diffinio rheoli talent fel a ganlyn:

“y broses o ddenu, canfod, datblygu, ymgysylltu, cadw a defnyddio unigolion sy’n werthfawr i sefydliad, oherwydd eu potensial neu’r rôl hollbwysig sydd ganddyn nhw.”

Yn gryno, dydy denu ymgeiswyr dawnus ddim yn ddigon rhagor.  Mae’n rhaid i sefydliadau fanteisio ar eu talent drwy wneud y canlynol:

a. recriwtio’r bobl iawn i’r swyddi iawn
b. datblygu cyflogeion presennol – er enghraifft drwy gynnig dysgu/hyfforddiant – er mwyn helpu nhw i gyrraedd eu potensial
c. sicrhau bod gan unigolion dawnus gymhelliant dros aros

Bydd gofyn i arweinwyr y dyfodol reoli pobl nid gwaith a phrosiectau’n unig.  Bydd gofyn iddyn nhw wybod sut i gefnogi eraill a’u helpu i ddatblygu a llwyddo. Bydd cynnig cyfleoedd i hyfforddi a chreu diwylliannau tîm cryf yn sgiliau craidd pwysig yn 2030.

Darllenwch ragor yn nhaflen ffeithiau Talent management Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu i gael rhagor o wybodaeth: Taflenni ffeithiau | Talent Management | CIPD

Meddwl yn ddadansoddol yw meddu ar y gallu i gymhwyso proses neu ddull i ddadansoddi problem a dod o hyd i ateb sy’n seiliedig ar ddata, gwybodaeth a thystiolaeth berthnasol. Mae hwn yn sgil dymunol iawn yn y rhan fwyaf o ddiwydiannau a gallai hyn gynnwys defnyddio eich dull dadansoddol o weithio ar sgil benodol, er enghraifft arbrofion labordy neu ddilyn gweithdrefnau cymhleth.

Darllenwch gyngor ar bwysigrwydd meddwl yn ddadansoddol Indeed a sut gallwch chi ddatblygu eich sgiliau dadansoddol.

Stiwardiaeth amgylcheddol yw defnyddio’r amgylchedd naturiol yn gyfrifol ac yn ddiogel drwy gadwraeth, adfer ac arferion cynaliadwy. Mae hyn yn hollbwysig i ddiogelu adnoddau’r ddaear i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mae gan bawb ran i'w chwarae – o unigolion yn ailgylchu eu gwastraff cartref i gytundebau rhyngwladol sy’n adfer miliynau o hectarau o dir diraddiedig.

Mae sgiliau stiwardiaeth amgylcheddol yn fwyfwy pwysig yn y diwydiannau olew, nwy, cemegol a Deunyddiau Uwch.  Gan fod ymwybyddiaeth gynyddol o’r angen brys am strategaethau ac arferion cynaliadwy, mae gofyn i’r diwydiannau hyn fabwysiadu dull sy’n fwy ymwybodol o’r amgylchedd, yn blaenoriaethu cynaliadwyedd ac yn lleihau difrod i’r blaned.

Yn fwy cyffredinol, mae busnesau’n canolbwyntio’n fwy ar arferion cynaliadwy megis lleihau’r defnydd o ynni a dŵr, gan ddefnyddio deunyddiau sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, lleihau gwastraff a’u hôl troed carbon. Erbyn 2030, bydd busnesau yn chwilio am weithwyr sy’n barod i wneud penderfyniadau amgylcheddol gyfrifol yn eu tasgau dyddiol gan gadw cynaliadwyedd mewn golwg.

I gael rhagor o wybodaeth am stiwardiaeth amgylcheddol, gwyliwch y fideo You Tube hwn ar Stiwardiaeth Amgylcheddol 2025: Sut i ddiogelu ein Planed a Datblygu Dyfodol Cynaliadwy NAWR!

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:

  • Darllenwch ein hadran Rhinweddau Graddedigion i nodi ble a sut y gallwch ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig
  • Ymunwch â Gwobr Caerdydd am lwybr strwythuredig i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd pwysig ar lefel graddedigion
  • Mae gan TargetJobs a Prospects gyngor defnyddiol hefyd ar y sgiliau lefel graddedigion uchaf y mae galw mawr amdanynt
  • Darllenwch adran TargetJobs ar sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael swydd
  • Blog Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr am y 5 cymhwysedd allweddol sydd eu hangen ar raddedigion i ffynnu mewn gweithle modern
  • Cyngor Gyrfa Cymru ar sgiliau a chryfderau