Skip to main content

Cael cymorth i raddedigion

Dysgwch sut gall Dyfodol Myfyrwyr barhau i’ch cefnogi chi â’ch gyrfa ar ôl i chi raddio.

Dim ots os yw eich swydd ddelfrydol yn aros amdanoch chi pan fyddwch chi’n graddio, neu os gallech chi elwa ar gymorth ychwanegol i ddod o hyd i’r swydd gywir i chi, mae Dyfodol Myfyrwyr yn cefnogi graddedigion am dair blynedd ar ôl gorffen yn y brifysgol.

Cymorth gan Dyfodol Myfyrwyr

Mae Dyfodol Myfyrwyr yma i’ch helpu chi ar ddechrau eich gyrfa gyda phecyn cymorth cynhwysfawr am dair blynedd ar ôl i chi raddio.

Mae’n cynnwys:

  • Mynediad at Dyfodol Myfyrwyr+
  • Apwyntiadau Gofynnwch i Gynghorydd a hyd at bedwar apwyntiad gyrfa
  • Adborth ar unwaith gydag adnodd CV a llythyr eglurhaol
  • Ffeiriau, gweithdai sgiliau a chyflwyniadau cyflogwyr
  • Cyfleoedd i gael profiad gwaith a gwneud interniaeth
  • Mynediad at yr Hysbysfwrdd Swyddi
  • Cymorth i entrepreneuriaid [LINK: https://www.cardiff.ac.uk/alumni/careers-and-learning/enterprise-support]

Bydd angen i chi gofrestru fel graddedigyn i gael mynediad at y gwasanaethau hyn yn eich cyfrif Dyfodol Myfyrwyr ar ôl graddio. Ewch draw i wefan Prifysgol Caerdydd i gael trosolwg llawn o’r cymorth gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion.

Cymorth nes ymlaen yn eich gyrfa

Efallai y bydd angen cyngor gyrfaoedd neu gefnogaeth arnoch yn nes ymlaen yn eich gyrfa, er enghraifft i newid gyrfa neu symud i swydd arweinyddiaeth. Gobeithio y bydd yr wybodaeth a’r adnoddau sydd ar y wefan hon, yn ogystal â’r gweithgareddau wnaethoch chi ym Mhrifysgol Caerdydd i wella eich cyflogadwyedd, wedi’ch paratoi â’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i reoli eich gyrfa. Serch hynny, gallai fod yn hynod fuddiol siarad â gweithiwr gyrfaoedd cymwys os ydych chi’n cael trafferth llywio cam nesaf eich gyrfa.

Os oes angen cyngor gyrfa neu gefnogaeth arnoch yn nes ymlaen yn eich bywyd gwaith, gallwch gael cymorth drwy:

Cadw mewn cysylltiad

Mae llawer o ffyrdd y gallwch gadw mewn cysylltiad â Phrifysgol Caerdydd a Dyfodol Myfyrwyr ar ôl i chi raddio:

  • Dilynwch ni ar LinkedIn
  • Ymunwch â chymuned fyd-eang Caerdydd ar Cyswllt Caerdydd
  • Llenwch yr Arolwg Hynt Graddedigion – arolwg cenedlaethol statudol a reolir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Mae’r arolwg yn casglu gwybodaeth am beth mae graddedigion yn ei wneud bymtheg mis ar ôl i’w cyrsiau ddod i ben. Bydd eich ymatebion nid yn unig yn helpu myfyrwyr cyfredol a myfyrwyr y dyfodol i gael cipolwg gwerthfawr ar gyrchfannau gyrfa, byddant hefyd yn ein helpu i werthuso a hyrwyddo ein cyrsiau ac i gael effaith ar enw da graddedigion Caerdydd, fel chi, ymhlith cyflogwyr

Rhagor o adnoddau

Defnyddiwch yr adnodd isod i ddysgu rhagor am y pwnc hwn: