Skip to main content

Ceisiadau ôl-raddedig a datganiadau personol

Deall yr hyn sy'n ofynnol mewn ceisiadau ar gyfer astudiaeth bellach a sut i gyflwyno datganiadau cefnogol cryf.

Pryd i wneud cais

Bydd y rhan fwyaf o gyrsiau ôl-raddedig yn agor ceisiadau o’r hydref, ond mae’n bwysig dechrau ymchwilio i gyrsiau yr haf cyn i chi ddymuno gwneud cais fel y gallwch wneud nodyn o unrhyw ddyddiadau cau pwysig. Mae rhaglenni ôl-raddedig fel arfer yn cymryd niferoedd llai o fyfyrwyr nag ar lefel israddedig, felly er y byddant fel arfer yn postio dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, byddant yn aml yn cau’r ffenestr ymgeisio cyn gynted ag y byddant wedi llenwi’r cwrs. Fel y cyfryw, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl a pheidiwch â’i siawnsio hi trwy ei adael tan y dyddiad cau, oherwydd efallai y cewch eich siomi. Cyn gwneud cais, ystyriwch ffonio’r tîm derbyn myfyrwyr perthnasol i ddeall faint o fyfyrwyr y maent fel arfer yn eu cymryd ar y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo a pha mor gystadleuol ydyw fel arfer.

Bydd gan y rhan fwyaf o gyrsiau ôl-raddedig ofynion mynediad academaidd, fel arfer, ond nid bob amser, gradd anrhydedd 2:1 neu ddosbarth cyntaf. Fodd bynnag, mae rhai cyrsiau yn derbyn dosbarthiadau gradd is ac efallai y bydd ganddynt fwy o ddiddordeb yn eich profiad perthnasol yn y maes.

Edrychwch ar ein canllaw defnyddiol am wneud cais am gyrsiau ôl-raddedig isod:

Rhestr wirio astudiaethau ôl-raddedig

Dechreuwch hyn yr haf cyn i chi ystyried gwneud cais

Ymchwiliwch i gyrsiau’n ofalus a gwnewch restr fer o’r rhai yr hoffech wneud cais amdanynt
Gwnewch nodyn o derfynau amser unrhyw gyrsiau a rhowch ddigon o amser i chi’ch hun ar gyfer eich cais
Casglwch unrhyw dystiolaeth neu ddogfennau y gallai fod angen i chi eu cyflwyno fel rhan o’ch cais (er enghraifft, trawsgrifiad)
Cysylltwch â’ch canolwr mewn da bryd i ofyn am ganiatâd i roi geirda i chi
Eglurwch beth sydd ei angen arnoch i wneud cais a darllenwch y cyngor ar CV, Ceisiadau a Chyfweliadau i’ch helpu i ddechrau ar eich ceisiadau
Trefnwch apwyntiadau gyrfaoedd gyda Chynghorydd Gyrfa yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr i gael help gyda’ch ceisiadau!

Sut i wneud cais

Mae ceisiadau am astudiaethau ôl-raddedig yn amrywio ar draws cyrsiau a sefydliadau. Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau astudio ymhellach, byddwch yn gwneud cais ar-lein yn uniongyrchol i’r brifysgol, er bod rhai eithriadau. Er enghraifft, mae’r gyfraith, addysgu, meddygaeth i raddedigion a deintyddiaeth i gyd yn defnyddio system dderbyn ganolog fel UCAS.

Fel rhan o’ch cais, efallai y gofynnir i chi ddarparu un neu ragor o’r canlynol:

  • Wrth wneud cais am gwrs ôl-raddedig, bydd angen i chi greu CV academaidd. Mae'r math hwn o CV yn canolbwyntio mwy ar eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau academaidd
  • Ar gyfer cwrs sy'n seiliedig ar ymchwil, fel MRes, MPhil neu PhD, cofiwch ganolbwyntio o ddifrif ar y profiadau ymchwil rydych chi wedi'u cael hyd yn hyn. Efallai y byddwch hyd yn oed yn ystyried cynnwys adran 'Profiad Ymchwil' sy'n amlygu'n benodol yr ymchwil yr ydych wedi'i gwneud hyd yma. Gallai'r rhain fod yn brosiectau fel rhan o'ch cwrs neu brofiad gwaith, mewn interniaeth neu leoliad gwaith, er enghraifft
  • Dylech hefyd ymhelaethu ar eich gradd israddedig os yw'n berthnasol i'r cwrs ôl-raddedig. Gallai hyn gynnwys ehangu ar wybodaeth ddefnyddiol rydych wedi'i dysgu, neu amlygu graddau da yr ydych wedi'u cael mewn modiwlau perthnasol

Darllenwch ein cyngor manwl ar CVs, lle gallwch lawrlwytho templedi ar gyfer CVs sydd wedi'u teilwra ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig.

I wneud cais am gwrs ôl-raddedig, mae bron yn sicr y bydd gofyn i chi wneud cais trwy ffurflen gais ar-lein. Gofynnir i chi gyflwyno manylion am eich cymwysterau, hanes addysg a phrofiad gwaith. Bydd hefyd yn ofynnol i chi gyflwyno datganiad personol, a elwir weithiau yn ddatganiad ategol hefyd. Mae’r datganiad yn cynnig cyfle i chi esbonio’ch rhesymau dros wneud cais a pham y byddech chi’n ymgeisydd gwych ar gyfer y cwrs. Cofiwch fod eich ffurflen gais a'ch datganiad personol yn enghraifft o'ch sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig felly gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw wallau!

Darllenwch ein cyngor ar ffurflenni cais a gweler isod am ein canllaw defnyddiol i ddatganiadau personol.

Dim ond ar gyfer cyrsiau sy'n seiliedig ar ymchwil y mae angen cynnig ymchwil fel arfer (e.e. MRes, MPhil neu PhD), a dim ond os ydych chi'n cynnig eich pwnc ymchwil eich hun (mwy cyffredin yn y celfyddydau, y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau na disgyblaethau STEM). Gallwch ddarllen cyngor Prifysgol Caerdydd ar ysgrifennu cynnig ymchwil yma. Mae gan Prospects awgrymiadau defnyddiol hefyd ar ysgrifennu cynnig ymchwil.

Mae bron yn sicr y gofynnir i chi ddarparu manylion o leiaf un person a all ddarparu geirda yn cadarnhau eich addasrwydd ar gyfer y cwrs. Weithiau mae angen i chi ddarparu'r geirda ei hun fel atodiad yn eich cais ar-lein, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio beth sydd ei angen. Fel arfer, y person gorau i ddarparu geirda ar gyfer cwrs astudiaethau ôl-raddedig yw rhywun sydd wedi eich addysgu ar lefel israddedig ac sy'n gwybod eich gallu academaidd, er enghraifft tiwtor personol, darlithydd neu oruchwyliwr prosiect.

Mae trawsgrifiad yn gofnod prifysgol swyddogol o'ch perfformiad academaidd, a elwir yn aml yn HEAR - Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch. Gallwch ofyn am hwn gan eich Ysgol ac adran Gofrestrfa Prifysgol Caerdydd os oes angen.

Efallai y bydd gofyn i chi hefyd gwblhau prawf derbyn ar gyfer rhai cyrsiau, fel y gyfraith a meddygaeth i raddedigion, neu dalu ffi i wneud cais, ond mae hyn yn llai cyffredin.

Bydd angen cyfweliad ar gyfer rhai cyrsiau ôl-raddedig; mae hyn yn gyffredin mewn cyrsiau addysgu a chyrsiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Yn bendant, gofynnir i chi fynd i gyfweliad os byddwch yn gwneud cais am PhD – darllenwch ein cyngor i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfweld.

Mae gan FindAMasters a FindAPhD awgrymiadau defnyddiol hefyd ynghylch cyfweliadau ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig.

Bydd angen cyfweliad ar gyfer rhai cyrsiau ôl-raddedig; mae hyn yn gyffredin mewn cyrsiau addysgu a chyrsiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Yn bendant, gofynnir i chi fynd i gyfweliad os byddwch yn gwneud cais am PhD – darllenwch ein cyngor i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfweld.

Mae gan FindAMasters a FindAPhD awgrymiadau defnyddiol hefyd ynghylch cyfweliadau ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig.

Datganiadau personol

Mae datganiadau personol yn aml yn ofynnol ar gyfer llawer o gyrsiau ôl-raddedig, yn enwedig cyrsiau Meistr, ac maent yn rhan bwysig iawn o’ch cais. Dyma’ch cyfle i ddangos:

  • eich diddordeb yn y cwrs a’r brifysgol yr ydych yn gwneud cais iddi
  • eich cymhelliant i hybu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd yn y maes hwn
  • eich addasrwydd ar gyfer y cwrs a sut y bydd yn ategu eich uchelgeisiau gyrfaol

Datganiadau personol ar gyfer datganiadau ôl-raddedig

Gwnewch argraff dda ar y tiwtoriaid derbyn gan gynnwys y pwyntiau a geir isod!

Eich diddordeb yn y maes
Eich diddordeb yn y cwrs penodol
Yr hyn sy’n apelio o ran astudio yn y brifysgol (os yw’n bosibl)
Eich addasrwydd ar gyfer y cwrs
Eich dyheadau gyrfaol a sut mae’r cwrs ôl-raddedig yn cyd-fynd â’r rhain

Syniadau da ar gyfer eich datganiad personol

Gwyliwch y fideo isod am ein hawgrymiadau gwych ar sut i ddrafftio datganiad personol rhagorol ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig:

Enghreifftiau o ddatganiadau personol

Biowyddorau – Datganiad personol MSc

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:

  • Trefnwch apwyntiad gyda Chynghorydd Gyrfa yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr i gael adborth ar eich ceisiadau a’ch datganiadau personol ôl-raddedig
  • Cyngor Prospects ar ysgrifennu datganiadau personol ôl-raddedig
  • Cyngor ymgeisio FindAMasters 
  • Cyngor ymgeisio FindAPhD