Opsiynau astudio ôl-raddedig
Gallwch ddeall eich opsiynau astudio ôl-raddedig a nodi pa un sy'n iawn i chi.
Mae llawer o opsiynau ôl-raddedig i chi ddewis ohonynt ac mewn llawer o feysydd academaidd gwahanol. Mae’n bwysig deall y gwahanol fathau o gyrsiau sydd ar gael er mwyn i chi allu nodi pa un fyddai’n gweddu orau i’ch diddordebau, sgiliau a nodau gyrfa.
Y lefel nesaf i fyny o radd israddedig yw diploma neu dystysgrif ôl-raddedig. Mae'r cymwysterau hyn ar yr un lefel o astudio â gradd Meistr, ond maen nhw'n fyrrach, ac nid oes rhaid i chi ysgrifennu traethawd hir. Maent yn aml yn addas ar gyfer y rhai nad oes ganddynt yr amser na'r arian ar gyfer gradd Meistr lawn neu os ydych yn meddwl y bydd cymhwyster ôl-raddedig yn rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa, ond y byddai'n well gennych beidio â gorfod gwneud llawer o ymchwil academaidd.
Dysgwch fwy am ddiplomâu a thystysgrifau ôl-raddedig.
Mae cyrsiau Meistr yn caniatáu i chi ddyfnhau neu arbenigo ar eich gwybodaeth pwnc, ac maent fel arfer yn para 1 flwyddyn, yn llawn amser. Gall cyrsiau Meistr a addysgir (er enghraifft MSc neu MA) fod yn eithaf tebyg i'ch gradd israddedig, yn aml yn cynnwys modiwlau a addysgir ac yna prosiect ymchwil. Mae Graddau Meistr Ymchwil (MRes neu MPhil) yn canolbwyntio mwy ar eich paratoi gyda'r sgiliau a'r wybodaeth ymchwil angenrheidiol i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol hirach.
Darllenwch ragor ar FindAMasters a gwefan Prospects.
Mae cyrsiau trosi yn rhaglenni ôl-raddedig dwys sy'n eich galluogi i symud i yrfa wahanol nad yw eich gradd israddedig neu yrfa broffesiynol wedi eich paratoi ar ei chyfer. Yn aml, maent yn alwedigaethol eu natur, ac yn para rhwng sawl mis a sawl blwyddyn, gan ddibynnu ar y cymhwyster a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser). Mae llawer o gyrsiau trosi’n crynhoi gradd israddedig yn gyfnod byrrach.
Ceir rhagor o fanylion am gyrsiau Trosi ym Mhrifysgol Caerdydd a sut y gallant ategu eich penderfyniad i newid gyrfa.
Mae rhaglenni Mynediad i Raddedigion wedi'u cynllunio i fyfyrwyr israddedig astudio graddau llwybr cyflym i fynd i mewn i broffesiynau penodol, yn fwyaf nodweddiadol o fewn y gwyddorau biofeddygol/bywyd a gofal iechyd. Mae Meddygaetih i Raddedigion yn gwrs gradd mynediad graddedig arbennig o boblogaidd yn y DU. Ceir rhagor o fanylion ar wefannau’r Cyngor Ysgolion Meddygol a’r Cyngor Ysgolion Deintyddol.
Mae PhD yn golygu o leiaf 3 blynedd o weithio amser llawn ar brosiect ymchwil annibynnol. Ychydig iawn o gynnwys a addysgir sydd fel arfer. Mae PhD yn hanfodol os ydych am ddilyn gyrfa ymchwil academaidd, a gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer dilyn rolau ymchwil y tu allan i'r byd academaidd, gan ddibynnu ar eich diwydiant. Mae gwneud PhD yn benderfyniad mawr – darllenwch ein cyngor ar wneud PhD i ddarganfod mwy.