Skip to main content

Penderfynu ar astudiaethau pellach

Ystyriwch eich cymhellion ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig a sut i wneud penderfyniad gwybodus.

Mae astudiaethau pellach yn opsiwn poblogaidd i lawer o fyfyrwyr ar ôl eu gradd israddedig. Gallai dilyn cwrs ôl-raddedig ddod â’ch swydd ddelfrydol i chi, gwella eich gwybodaeth am y pwnc neu ganiatáu ichi symud i faes gwahanol yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, nid yw parhau â’ch addysg bob amser yn docyn aur i lwyddiant gyrfa, ac mae’n bwysig myfyrio ar y ffactorau canlynol i wneud penderfyniad gwybodus.

Mae buddsoddi amser ac arian ychwanegol mewn addysg bellach yn benderfyniad mawr. Meddyliwch yn ofalus am eich cymhellion ar gyfer ei wneud. Mae rhesymau cyffredin yn cynnwys:

  • Dilyn eich diddordeb – mae astudiaethau ôl-raddedig yn rhoi’r cyfle i chi ddysgu mwy am bwnc neu faes y mae gennych chi wir ddiddordeb ynddo neu’n angerddol amdano
  • Gwella eich arbenigedd - mae symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd dwfn mewn pwnc penodol. Yn aml, gall datblygu arbenigedd o'r fath, yn enwedig mewn meysydd arbenigol, fod yn boblogaidd iawn yn y gweithle a darparu sicrwydd swydd rhagorol
  • Cwrdd â'r gofynion – er mwyn symud ymlaen i'ch dewis faes, efallai y bydd yn rhaid i chi ennill cymhwyster ôl-raddedig. Er enghraifft, os ydych am ddod yn athro ysgol, bydd angen i chi gwblhau Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR). Os ydych am ddod yn gyfreithiwr, bydd angen i chi basio'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)
  • Gwella eich cyflogadwyedd – yn gyffredinol, gall bod â gradd ôl-raddedig wella eich rhagolygon gwaith, ond mae hyn yn dibynnu ar ba fath o yrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi. Ar gyfer rhai rolau, gallai fod yn bwysicach i chi gael profiad gwaith perthnasol na bod â chymhwyster ychwanegol. Defnyddiwch y proffiliau swyddi ar wefan Prospects i weld pa gymwysterau sydd eu hangen ar gyfer rôl benodol
  • Symud i mewn i sector neu ddiwydiant gwahanol – mae cyrsiau (a elwir yn aml yn gyrsiau ‘trosi’) sy’n eich galluogi i fynd i faes sy’n wahanol i’ch gradd israddedig, yn aml un sy’n gofyn am gymhwyster neu achrediad proffesiynol penodol. Enghraifft dda o hyn yw'r MSc mewn Seicoleg yma ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi'i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, ac a fydd yn rhoi'r achrediad proffesiynol sydd ei angen arnoch i ddilyn rolau mwy therapiwtig
  • Oedi cyn dechrau ym myd gwaith - ie, gall parhau mewn addysg roi mwy o amser i chi feddwl am eich camau nesaf, ond ni ddylai'r cymhelliant hwn yn unig fod yn ddigon i'w wneud. Mae ymgymryd â gradd ôl-raddedig yn gam mawr i fyny o radd israddedig, ac fel arfer mae angen llawer mwy o ymreolaeth a hunan-gymhelliant. Os nad ydych chi wedi ymrwymo’n llwyr i’r cwrs, mae'n bosibl na fyddwch chi'n ei fwynhau ac efallai'n ei chael hi'n anodd ei gwblhau. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud eich ymchwil a'ch bod yn gwbl ymroddedig cyn buddsoddi mwy o amser ac arian i'ch addysg

Ni fydd pob cwrs ôl-raddedig yn eich helpu i gyflawni eich nodau gyrfa. Ar gyfer rhai rolau, efallai y bydd angen cymhwyster penodol, a all gael ei achredu gan gorff neu gymdeithas broffesiynol. Defnyddiwch broffiliau swyddi Prospects i'ch helpu i wirio hyn. Os ydych chi'n llai sicr o ran beth allai ddod nesaf i chi ar ôl astudio'n ôl-raddedig, yna dylai'r cwrs arwain at rai rolau y gallech fod â diddordeb eu harchwilio o leiaf. Ffordd dda o adnabod y rhain yw trwy edrych ar dudalen we’r cwrs penodol y mae gennych ddiddordeb ynddo - mae ganddynt bron bob amser fanylion am yr hyn y mae graddedigion wedi mynd ymlaen i'w wneud ar ôl eu cwrs.

Gallech hefyd ofyn am gael siarad â’r tiwtor derbyn am ba swyddi y mae myfyrwyr blaenorol wedi mynd ymlaen i’w gwneud. Peidiwch ag anghofio y gallwch drefnu apwyntiad gyrfaoedd gyda Chynghorydd Gyrfa trwy eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr  i siarad am eich nodau gyrfa a'ch opsiynau astudio pellach.

Mae llawer o ffyrdd y gallwch ddilyn astudiaeth ôl-raddedig ac efallai y bydd rhai cyrsiau yn fwy addas i'ch nodau nag eraill. Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau naill ai'n Radd Meistr neu PhD, er ei bod hi'n bosibl ennill tystysgrifau a diplomâu ôl-raddedig, er enghraifft y TAR ar gyfer addysgu. Dysgwch am eich opsiynau astudio ôl-raddedig gwahanol yma. Meddyliwch am eich dull dysgu, hefyd – sut bydd cwrs penodol yn cael ei addysgu ac a yw hyn yn cyd-fynd â sut rydych chi'n hoffi dysgu?

Gellid addysgu cyrsiau tebyg mewn ffyrdd gwahanol iawn mewn prifysgolion gwahanol. Ymchwiliwch i brifysgolion yn ofalus a chymharu pethau fel cyfleusterau a gwasanaethau cymorth; staff addysgu; canlyniadau graddedigion (mesur o faint o fyfyrwyr ar y cwrs hwnnw sydd wedi mynd ymlaen i gyflogaeth broffesiynol); safleoedd prifysgolion yn y tablau cynghrair (bydd y rhain ar gael ar wefan y brifysgol); ac arbenigeddau ymchwil. Gallech hefyd ofyn i academyddion perthnasol am eu hargymhellion. Os nad ydych yn siŵr pa brifysgolion sy'n cynnig cyrsiau y mae gennych ddiddordeb ynddynt, defnyddiwch wefannau fel FindAMasters a FindAPhD i chwilio am fath penodol o gwrs, yn y DU neu ledled y byd.

Mae astudiaethau ôl-raddedig yn gam mawr ymlaen o'ch gradd israddedig ac yn gofyn nid yn unig y gallu academaidd i ddysgu'r cynnwys, ond hefyd y sgiliau trosglwyddadwy i ymdopi â mwy o ymreolaeth a llwyth gwaith dwysach. Er enghraifft, mae angen i fyfyrwyr ôl-raddedig ddangos lefelau uchel o hunan-gymhelliant, gwydnwch a sgiliau trefnu. Byddwch yn rhagweithiol wrth siarad â myfyrwyr sydd ar y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo ar hyn o bryd i gael teimlad o sut olwg fydd ar y cwrs neu estyn allan at y darlithwyr sydd fel arfer yn fwy na pharod i ddweud mwy wrthych am y cwrs a beth i'w ddisgwyl. Gallech hefyd siarad â’ch darlithwyr presennol neu’ch tiwtor personol i gael eu barn ar eich gallu academaidd i ymdopi ag astudiaethau ôl-raddedig, a sut y bydd yn ategu eich uchelgeisiau yn y dyfodol.

Meddyliwch am sut y byddwch yn ariannu eich astudiaethau pellach, nid yn unig costau'r cwrs a ffioedd dysgu, ond costau byw, yn enwedig os byddwch yn byw oddi cartref. Gallech roi cynnig ar gyfrifiannell costau byw ar-lein i weithio allan yn fras faint y gallai ei gostio i astudio yn eich lleoliad dewisol. Mae gan Brifysgol Caerdydd gyngor defnyddiol ar ariannu eich cwrs ôl-raddedig a gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefannau FindAMasters a FindAPhD.

Gallech fod â diddordeb mewn astudio'n agos i'ch cartref, rhywle arall yn y DU neu unrhyw le o amgylch y byd! Ymchwiliwch leoliad eich cwrs astudiaethau pellach yn ofalus, gan gynnwys pethau fel cysylltiadau teithio, argaeledd a chost llety, costau byw (gallwch ddefnyddio cyfrifianellau ar-lein i helpu i amcangyfrif hyn) a'r ardal gyfagos. Mae gan wefan Prospects gyngor ardderchog os ydych chi'n ystyried astudio ôl-raddedig dramor.

Awgrymiadau defnyddiol: Astudiaethau Ôl-raddedig Tramor

Cofiwch wneud eich ymchwil os ydych am astudio dramor

Byddwch yn ymwybodol y bydd y broses ymgeisio ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig yn amrywio o le i le. Bydd pob gwlad yn gofyn am wahanol ddogfennau, a chan bob un gwlad system ganolog ei hun, sy’n debyg i UCAS yn y DU. Cysylltwch â darparwr y cwrs yn uniongyrchol os ydych chi’n ansicr o’r hyn sydd ei angen.
Gwiriwch sut bydd cymwysterau penodol yn cael eu cydnabod yn y wlad rydych chi am weithio ynddi yn y pen draw. Bydd angen cymwysterau penodol ar gyfer rhai swyddi, ac mewn ambell i wlad, mae cymwysterau o’r fath wedi'u hachredu neu eu cymeradwyo gan gorff proffesiynol.
Gwnewch ddefnydd da o wefannau megis Prospects, FindAMasters a FindAPhD er mwyn ymchwilio i’r opsiynau astudio ôl-raddedig sydd ar gael ledled y byd.

Bydd rhai myfyrwyr yn mynd yn syth i astudiaethau ôl-raddedig ar ôl eu gradd israddedig, tra bydd yn well gan eraill gymryd egwyl rhyngddynt. Does dim ateb cywir neu anghywir yma – os nad ydych chi'n siŵr ai dyma'r amser iawn i ddilyn astudiaethau pellach, yna mae'n debyg nad ydyw! Er enghraifft, mae PhD yn gofyn am lawer o ymrwymiad – byddai'n well i chi gymryd peth amser i ffwrdd nes eich bod yn teimlo'n fwy hyderus am eich penderfyniad.

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach: