Skip to main content

Ystyried PhD

Dysgwch fwy am PhD a beth sydd angen i chi ei wybod am y cymhwyster unigryw hwn.

Doethuriaeth (PhD) yw’r radd uchaf sydd ar gael yn y brifysgol ac felly mae angen buddsoddiad sylweddol o ran amser ac ymrwymiad. Er bod rhai elfennau a addysgir i PhD, treulir y rhan fwyaf o’ch amser yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol a helaeth, sy’n arwain at gynhyrchu traethawd ymchwil sy’n teilyngu cael ei gyhoeddi, gan ganiatáu i chi wneud cyfraniad unigryw a gwreiddiol i faes neu bwnc penodol. Bydd eich llwyddiant yn dibynnu ar wreiddioldeb ac ansawdd y prosiect ymchwil a gyflwynir.

Nid oes amheuaeth bod dewis astudio PhD yn benderfyniad mawr iawn. Er y bydd rhai o’r ffactorau rydych chi’n eu hystyried yr un peth ni waeth pa fath o gwrs rydych chi’n ei ystyried, mae rhai nodweddion ychwanegol i PhD y dylech eu cofio:

Mae PhDs amser llawn fel arfer yn cymryd rhwng tair a phedair blynedd i'w cwblhau, tra gall PhD rhan-amser gymryd cymaint â saith mlynedd. Gall PhD ddechrau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, er bod ysgoloriaethau ymchwil PhD yn tueddu i ddechrau ym mis Medi neu fis Hydref.

Ymchwil yw hanfod PhD! Rydych yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol am gyfnod estynedig o amser. Meddyliwch yn ôl i'r profiadau ymchwil rydych chi wedi'u cael yn barod - wnaethoch chi eu mwynhau? Beth oedd rhai o'r heriau? Ydy'r posibilrwydd o wneud ymchwil dwys am o leiaf tair blynedd yn eich cyffroi?

Trwy gwblhau PhD, rydych chi'n dod yn arbenigwr yn eich dewis faes. Mae prosiectau PhD yn benodol iawn ac yn ceisio gwneud cyfraniad unigryw i'r pwnc. Mae'n rhaid i chi deimlo’n angerddol am yr hyn yr ydych yn mynd i dreulio o leiaf 3 blynedd o'ch bywyd yn ei astudio. Dewiswch y prosiectau PhD rydych chi'n gwneud cais amdanynt yn ofalus. Darllenwch gyngor FindAPhD ar ddewis PhD.

Dewiswch eich goruchwyliwr PhD yn ofalus. Yn y rhan fwyaf o brosiectau PhD STEM, sy’n aml yn cael eu hysbysebu fel cynigion ymchwil a bennwyd ymlaen llaw, yn aml mae goruchwyliwr eisoes wedi’i neilltuo i’r prosiect. Gofynnwch am gael cyfarfod â nhw yn ystod y broses ymgeisio a chael gwybod mwy am eu cynlluniau ar gyfer y prosiect a sut y byddwch yn gweithio gyda'ch gilydd. Ym meysydd y celfyddydau, y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau, yn enwedig os ydych chi'n cynnig eich PhD eich hun, efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i'ch goruchwyliwr eich hun. Nodwch eu diddordebau ymchwil a darganfod beth maent wedi gweithio arno eisoes. Gall y berthynas â goruchwyliwr PhD gael effaith enfawr ar eich profiad, felly cymerwch yr amser a'r ymdrech i geisio cwrdd â nhw wrth wneud cais.

Yn groes i'r gred gyffredin, nid yw'r rhan fwyaf o raddedigion PhD yn parhau yn y byd academaidd pan fyddant yn cwblhau eu hymchwil, er bod hyn yn gymhelliant cyffredin i wneud PhD. Mae PhD yn gymhwyster trosglwyddadwy a gwerthfawr iawn y gellir ei ddefnyddio mewn llawer o wahanol feysydd a diwydiannau.
Mae gan wefan Vitae wybodaeth wych am gyrchfannau gyrfa graddedigion PhD a gallwch ddarllen mwy am ble gall PhD fynd â chi ar wefan FindAPhD.

Cyn i chi benderfynu

Cofiwch fod dewis cwblhau PhD yn benderfyniad mawr, ac mae llawer o bobl a all helpu i drafod y peth gyda chi:

  • Gallwch drefnu apwyntiad gyda Chynghorydd Gyrfa eich Ysgol yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr – bydd ein hymgynghorwyr pwrpasol yn archwilio eich syniadau gyda chi, yn darparu cyngor a hyfforddiant ac yn eich cefnogi i wneud penderfyniad sy’n iawn i chi
  • Mynnwch air â’ch tiwtor personol ac academyddion sy’n gweithio yn eich maes am eich diddordeb mewn gwneud PhD
  • Ceisiwch gael sgwrs â myfyrwyr PhD presennol neu raddedigion PhD diweddar – gofynnwch i’ch tiwtor personol neu staff academaidd eraill eich rhoi mewn cysylltiad â myfyrwyr PhD presennol yn eich ysgol academaidd. Gofynnwch iddyn nhw am fewnwelediad i’w PhD hyd yn hyn, a sut brofiad maen nhw wedi’i gael – anogwch nhw i fod yn onest!
  • Ymchwiliwch! Defnyddiwch y sgiliau y bydd eu hangen arnoch i wneud PhD a rhoi eich sgiliau ymchwil ar brawf. Defnyddiwch wefannau fel FindAPhD a Vitae a blogiau fel the PhD Place i archwilio sut beth yw PhD

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach: