Skip to main content

Hynt Graddedigion

Mae eich profiad yn bwysig.

Bydd pob myfyriwr graddedig sydd wedi cwblhau cwrs addysg uwch yn y DU yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn arolwg Hynt Graddedigion 15 mis ar ôl iddyn nhw orffen eu hastudiaethau. Bydd angen tua 10 munud i lenwi’r arolwg a bydd yn cynnig cipolwg gwerthfawr i fyfyrwyr y dyfodol. Bydd graddedigion yn cael e-bost, neges destun neu alwad ffôn yn eu gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg.

Nod yr arolwg yw darganfod a ydych chi mewn gwaith cyflogedig, yn parhau i astudio, neu’n gwneud rhywbeth arall, a faint mae eich cymhwyster wedi helpu?

Mae’r term ‘deilliannau’ yn allweddol. Rydyn ni am ddeall a oedd eich profiad o fod yn fyfyriwr wedi bodloni eich disgwyliadau, o ran dysgu a chyfleoedd gyrfaol posibl. Rydyn ni’n gwybod bod taith pawb yn wahanol ac weithiau’n cymryd tro annisgwyl, gan arwain at gyfleoedd newydd a rhagolygon gyrfaol amgen, a dyna pam yr hoffen ni glywed sut mae’n mynd gyda chi.

Data Hynt Graddedigion yw’r data mwyaf cyflawn yn ymwneud â’r farchnad lafur sydd ar gael i raddedigion o sefydliadau addysg uwch. Gall eich profiad a’ch ymateb i’r arolwg fod o gymorth mawr i fyfyrwyr y dyfodol. Gweld eich data ar waith yma.