Skip to main content

Parhau â’ch datblygiad proffesiynol

Cymerwch gyfrifoldeb am ddatblygiad parhaus eich gyrfa a datblygwch eich hun yn broffesiynol.

Y brifysgol yw’r adeg berffaith i ddatblygu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd, a thyfu eich rhwydwaith. Bydd hyn yn eich helpu chi i adeiladu arfer o ddatblygiad proffesiynol y gallwch ei gario i gam nesaf eich gyrfa. Mae sgiliau rheoli gyrfa pwysig fel y gallu i addasu, hyblygrwydd, a gweld cyfleoedd i wella pan na fydd pethau’n mynd fel y disgwyl (bod â meddylfryd ‘twf’) oll yn eich galluogi i lywio eich gyrfa’n llwyddiannus ac yn hyderus, drwy adegau da a drwg. Mae’r sgiliau hyn hefyd yn eich annog chi i ddatblygu eich profiad, eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn barhaus, sy’n eich rhoi chi mewn sefyllfa well i fachu cyfleoedd newydd a chyffrous, o newid cyfeiriad eich gyrfa, gwneud cais am ddyrchafiad, neu hyd yn oed ddechrau eich busnes eich hun.

Nodi meysydd i’w datblygu

Sylfeini datblygiad proffesiynol effeithiol yw myfyrio a blaengynllunio. Yn gyntaf, mae angen i chi adnabod beth ddylech chi weithio arno, ac yna deall sut bydd gweithio ar y pethau hynny o fudd i chi’n broffesiynol. Does dim angen i chi fod wedi cynllunio’ch gyrfa gyfan, ond bydd bod â chynllun byr-dymor o ble rydych chi’n gweld eich hun yn y dyfodol neu sut rydych chi’n gobeithio datblygu yn sicrhau bod unrhyw weithgareddau datblygu ychwanegol rydych chi’n eu gwneud yn mynd â chi i lle hoffech chi fod. Mae datblygiad proffesiynol parhaus (‘DPP’ neu ‘CPD’) hefyd yn gallu bod yn fwy ffurfiol mewn rhai sefydliadau neu broffesiynau, gan ddarparu llwybrau clir i chi barhau i ehangu eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch arbenigedd.

Myfyrio

Tra byddwch chi yn eich swydd raddedig newydd, mae’n bwysig eich bod yn cymryd amser rheolaidd i fyfyrio ar sut mae pethau’n mynd. Meddyliwch ynghylch eich cyraeddiadau a’ch llwyddiannau, yn ogystal â chamgymeriadau neu brofiadau yr hoffech chi eu bod wedi mynd yn wahanol. Cymerwch amser i ystyried beth rydych chi’n ei wneud yn dda, ond hefyd beth allech chi ei wneud yn well.

Mae myfyrio’n sgìl – mae’n cymryd amser i’w datblygu. Byddwch wedi datblygu sgiliau myfyrio eisoes gan ei fod yn un o chwe rhinwedd graddedigion Prifysgol Caerdydd. Gall fod o fudd defnyddio modelau arfer myfyriol i helpu i strwythuro’r myfyrio rydych chi’n ei wneud. Mae gwahanol rai i ddewis o’u plith, ac maen nhw bron bob amser yn eich annog i feddwl am yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu o’r profiad neu beth fyddwch chi’n ei wneud yn y dyfodol os byddwch chi mewn sefyllfa debyg eto. Mae OpenLearn yn cynnig rhestr ddefnyddiol o fodelau myfyriol y gallwch eu defnyddio ac mae gan Indeed enghreifftiau o arfer myfyriol hefyd.

Cofiwch gymryd rhan lawn mewn unrhyw brosesau adolygu perfformiad yn eich swydd. Mae’n debygol y bydd eich rheolwr llinell neu oruchwyliwr yn cwrdd â chi’n rheolaidd i drafod eich gwaith, eich cynnydd yn gweithio tuag at eich nodau neu amcanion, ac unrhyw bryderon neu broblemau sydd gennych chi – bydd myfyrio yn rhan allweddol o’r broses hon. Gellid gwneud hyn yn wythnosol neu’n fisol, ac yn flynyddol mewn adolygiad mwy manwl o’ch perfformiad yn y gwaith dros y flwyddyn (a gaiff ei alw’n aml yn arfarniad neu’n adolygiad o berfformiad). Dyma gyfle perffaith i chi ofyn i’ch rheolwr am eu barn am sut gallech chi barhau i ddatblygu, yn ogystal â mynegi eich ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae cyflogwyr yn hoff o weithwyr sy’n awyddus i dyfu a dysgu’n barhaus, ac yn aml mae ganddyn nhw gyllideb hyfforddi a datblygu y gallan nhw ei defnyddio i gefnogi hyn. Efallai y bydd modd i’ch rheolwr llinell gynnig eich enw ar gyfer hyfforddiant ychwanegol neu gynghori ar sut gallwch ddatblygu ymhellach.

Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Er nad yw unrhyw gyfle i ddatblygu’ch hun, eich sgiliau neu eich hyder yn wastraff amser, mae’n well nodi cyfleoedd datblygiad proffesiynol a fydd yn eich helpu gyda’ch nodau gyrfa – gallai hyn gynnwys symud ymlaen yn y maes o’ch dewis neu symud i faes arall. Gall deall pa sgiliau, profiad neu wybodaeth sy’n ofynnol yn y maes hwnnw roi cynllun mwy clir i chi o beth ddylech ganolbwyntio arno. Mae Prospects yn awgrymu cyfleoedd datblygiad proffesiynol sy’n berthnasol i swyddi penodol yn eu proffiliau swydd. Gallwch edrych yn ôl ar ein hadran cynllunio gyrfa am fwy o gyngor ar sut i gynllunio eich gyrfa.

Ffyrdd o ddatblygu pan fyddwch chi mewn swydd

Mae cael eich swydd gyntaf ar ôl graddio yn gyflawniad gwych, ac yn dyst i’r holl waith caled rydych chi wedi’i wneud i gael y gorau o’ch profiad yn y brifysgol. Ond, dim ond dechrau eich bywyd gwaith yw hyn! Dylech fod â’r un awydd i wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn eich swydd newydd ag oedd gennych chi yn ystod eich cyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd. Drwy chwilio am gyfleoedd newydd i ddysgu a datblygu, chi sydd wrth lyw eich gyrfa eich hun – ewch ati i chwilio am gam nesaf eich gyrfa a rhoi eich hun yn y sefyllfa orau bosib i gyrraedd yno.

Mae myfyrio a nodi cyfleoedd datblygiad proffesiynol sy’n berthnasol i’ch nodau gyrfa yn allweddol, ond dyma rywfaint o gyngor ar sut i ddatblygu pan fyddwch chi eisoes mewn swydd:

Mentor yw rhywun sy’n gallu rhoi cyngor a chefnogaeth answyddogol i chi ar eich llwybr gyrfa eich hun, yn seiliedig ar eu profiadau a’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu o’u gyrfa eu hunain. Yn ddelfrydol, bydd eich mentor yn gweithio yn eich dewis faes a byddan nhw’n gallu rhoi cyngor i chi ar sut i fynd i’r diwydiant penodol hwnnw, yn ogystal â sut i wneud cynnydd. Mae gan Coursera gyngor defnyddiol ar ddod o hyd i fentor.

Mae Fforwm Economaidd y Byd wedi nodi chwilfrydedd a dysgu gydol oes yn ddiweddar fel rhai o’r prif sgiliau mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt. Parhewch i fireinio'ch arbenigedd a'ch gwybodaeth yn eich maes. Gallai hyn gynnwys mynd i hyfforddiant neu gymryd rhan mewn dysgu pellach. Mae platfformau fel OpenLearn, Coursera a Future Learn yn cynnig cyrsiau ar-lein, gyda rhai am ddim. Mae cyrff a sefydliadau proffesiynol hefyd yn cynnig cyfleoedd i barhau â'ch dysgu ac uwchsgilio yn eich maes, ond efallai y bydd rhaid i chi dalu i fod yn aelod er mwyn cael mynediad at yr hyfforddiant.

Bachwch ar gyfleoedd i ddatblygu neu i ddysgu pan maen nhw’n codi. Gallai hyn gynnwys mynd i gynadleddau, hyfforddiant ychwanegol neu wirfoddoli i weithio ar brosiect newydd. Gall ymgymryd â heriau newydd fod yn frawychus, yn enwedig ar ddechrau eich gyrfa. Fodd bynnag, y mwyaf o heriau byddwch chi'n ymgymryd â nhw, y mwyaf y byddwch chi'n ei ddysgu, a'r mwyaf y byddwch chi'n tyfu'n broffesiynol. Darllenwch ganllaw Positive Psychology ar gamu allan o’ch cylch cysur ac i mewn i'ch cylch twf.

Gobeithio erbyn y byddwch chi wedi graddio y byddwch eisoes wedi creu proffil LinkedIn ac yn ei ddefnyddio’n aml i dyfu eich rhwydwaith! Os naddo, peidiwch â phoeni – mae ein cyngor ar rwydweithio a’r cyfryngau cymdeithasol yn barod i’ch gwasanaethu, gydag awgrymiadau ar gyfer creu proffil LinkedIn.

Wrth i chi ddatblygu yn eich gyrfa, mae’n bwysig parhau i dyfu eich rhwydwaith. Cysylltwch â chydweithwyr newydd a phobl rydych chi’n cwrdd â nhw mewn cynadleddau neu ddigwyddiadau hyfforddi. Darllenwch gyngor MindTool ar ddefnyddio LinkedIn yn effeithiol.

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i ddysgu rhagor am y pwnc hwn: