Trosglwyddo i’r gweithle
Rheolwch y trosglwyddiad o fywyd prifysgol a pharatowch am y gweithle.
Mae gadael y brifysgol i ddechrau neu i barhau â’ch gyrfa broffesiynol yn bennod newydd a chyffrous mewn bywyd – mae’n drobwynt lle gallwch roi’r sgiliau a’r profiad rydych chi wedi’i gael dros y tair neu bedair blynedd diwethaf ar waith yn y farchnad lafur. Ond, fel unrhyw newid, mae addasu trefn eich bywyd a’ch ffordd o fyw, yn ogystal ag ymuno ag amgylchedd newydd, yn gallu bod yn heriol. Bydd deall beth sy’n wahanol rhwng y byd gwaith a’r brifysgol yn gallu’ch helpu chi i nodi newidiadau efallai y bydd angen i chi baratoi ar eu cyfer, a rhoi technegau a strategaethau ar waith i’ch helpu i ffynnu yn y gweithle. Er mwyn ymdopi gyda’r trosglwyddiad, mae angen bod yn wydn a mabwysiadu meddylfryd twf, dau beth pwysig o ran sgiliau rheoli gyrfa. Byddwch wedi datblygu llawer o sgiliau trosglwyddadwy yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, fel cyfathrebu a gwaith tîm, a byddwch chi’n gallu cymhwyso’r rhain i amgylchedd proffesiynol.
Addasu i fywyd gwaith
Wrth i chi baratoi i ymuno â’r gweithle, boed yn brofiad gwaith neu eich swydd raddedig gyntaf, byddwch yn mynd i amgylchedd tra gwahanol i’ch bywyd prifysgol arferol. Efallai y bydd profiad gwaith, lleoliad gwaith neu swydd ran amser wedi helpu i roi syniad i chi o rai o’r gwahaniaethau hyn yn barod. Gallai’r rhain gynnwys:
Newid mewn amserlen a threfn ddyddiol
Yn dibynnu ar natur eich swydd, efallai y gwelwch chi fod eich amserlen waith yn llai hyblyg na’r amserlen byddwch chi wedi arfer â hi yn y brifysgol. Waeth sut mae eich amserlen newydd yn edrych, mae’n bwysig sefydlu trefn ddyddiol. Mae hyn yn golygu nodi amser gweddol debyg bob dydd lle byddwch chi’n gwneud pethau fel deffro, mynd i gysgu, bwyta, neu gymryd egwyl, ac ystyried pethau eraill sy’n bwysig i chi. Mae eich bywyd cymdeithasol a diddordebau tu allan i’r gwaith yn bwysig hefyd, a dylech barhau i’w blaenoriaethu – byddan nhw’n arbennig o bwysig i chi pan fyddwch chi’n dechrau swydd newydd ac yn ceisio sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
Ble rydych chi'n gweithio
Yn dibynnu ar eich swydd, efallai y bydd angen i chi deithio i’r gweithle – bydd angen ystyried hyn yn eich trefn ddyddiol hefyd. Ers pandemig Covid, mae llawer mwy o gyfleoedd i weithio o bell (mae hyn yn golygu y gallwch weithio o unrhyw le) ac mewn ffordd hybrid (gweithio o bell neu gartref ar adegau a threulio rhywfaint o amser yn y gweithle ei hun). Os ydych chi’n gweithio o gartref weithiau neu o hyd, mae’n werth ystyried sut byddwch chi’n rheoli’r rhaniad hwn yn effeithiol.
Rheoli incwm rheolaidd
Mae rheoli arian a chyllidebu yn sgiliau bywyd – sgiliau y byddwch chi wedi’u datblygu yn y brifysgol fwy na thebyg. Efallai mai eich swydd gyntaf ar ôl y brifysgol fydd y tro cyntaf i chi fod yn gyfrifol am incwm rheolaidd llawn amser. Gall fod yn ddefnyddiol cael dealltwriaeth dda o dermau ariannol pwysig, fel deall y gwahanol elfennau sy’n rhan o slip cyflog, cyllidebu a chynilo. Mae gwefannau fel Barclays Life Skills a Money Helper yn cynnig cyngor defnyddiol i fyfyrwyr prifysgol a graddedigion.
Atebolrwydd a chyfrifoldeb
Heblaw am brosiectau grŵp, chi sy’n bennaf gyfrifol am eich gwaith yn y brifysgol. Mae cwblhau eich aseiniadau yn brydlon, adolygu ar gyfer arholiadau a chymryd rhan ym mywyd y brifysgol oll yn bethau lle dim ond chi all eu gwneud i sicrhau eich bod yn gadael y brifysgol gyda gradd a phrofiad rydych chi’n hapus â nhw. Ond, mae llawer mwy o gyfrifoldeb gennych yn y gwaith, ac rydych chi’n atebol i fwy o bobl. Fel arfer mae gan eich gwaith gyrhaeddiad ac effaith llawer ehangach, gan gynnwys ar gydweithwyr, eich rheolwr, cleientiaid neu randdeiliaid eraill, yn ogystal â’r sefydliad ei hun.
Syndrom y ffugiwr
Syndrom y ffugiwrMae’n gyffredin iawn teimlo diffyg hyder pan fyddwch chi’n ymuno â gweithle newydd, fel sy’n wir am unrhyw amgylchedd gwahanol. Mae trosglwyddo o fod ar lefel gymharol debyg i’ch cyfoedion i fod mewn sefydliad aml-haen a hierarchaidd yn gallu bod yn eithaf brawychus i ddechrau. Mae’n debygol y bydd gennych reolwr llinell neu oruchwyliwr, a chydweithwyr hefyd, sydd â mwy o brofiad a gwahanol sgiliau i chi. Efallai y byddwch chi’n teimlo nad yw’r sgiliau neu’r profiad gennych chi i berthyn i’r sefydliad hwn – yr enw ar y teimlad hwn yw ‘syndrom y ffugiwr’, ac mae’n gyffredin iawn.
Mae’n bwysig cofio eich bod wedi gwneud yn dda iawn i gael eich swydd newydd. Mae’r farchnad lafur yn lle cystadleuol iawn, ac nid yw cyflogwyr yn dueddol o gyflogi pobl nad ydyn nhw’n addas ar gyfer y swydd! Rydych chi wedi cael eich cyflogi gan fod y cyflogwr yn credu y gallwch chi wneud y swydd yn dda, a’ch bod chi’n addas i’r tîm. Mae gan TargetJobs ganllaw defnyddiol ar gyfer goresgyn syndrom y ffugiwr.
Cwrteisi proffesiynol yn y gwaith
O ystyried rhai o’r gwahaniaethau sydd rhwng bywyd yn y brifysgol a bywyd y byd gwaith, mae’n bwysig eich bod chi’n deall beth sy’n ddisgwyliedig gennych chi mewn gweithle proffesiynol.
Darllenwch ein cyngor isod ar sut beth yw proffesiynoldeb a sut gallwch chi ei ddangos yn y gweithle:
Os ydych chi’n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni’n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn ffenestr ar wahân.
Mynd i’r afael â phroblemau yn y gwaith
Gobeithio na fyddwch chi’n profi unrhyw broblemau yn y gwaith, ond gall problemau godi weithiau, ac mae sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth ac Acas yn cynnig cyngor defnyddiol am beth i’w wneud a beth yw eich hawliau.