Cyngor i fyfyrwyr sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol
Cymorth ychwanegol i fyfyrwyr o gefndiroedd sy'n cael eu cynrychioli'n llai mewn addysg uwch.
Pan rydyn ni’n sôn am fyfyrwyr sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol yn y brifysgol, rydyn ni’n golygu’r myfyrwyr hynny sy’n llai tebygol yn ystadegol o fynd i’r brifysgol. Mae hynny’n cwmpasu nifer fawr o fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd ac amgylchiadau, gan gynnwys myfyrwyr:
- ag anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu sy’n niwroamrywiol
- sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd
- sydd â phrofiad o fod mewn gofal
- o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
- sydd â chyfrifoldebau gofalu, gan gynnwys cyfrifoldebau rhiant
- sy’n ffoaduriaid neu’n geiswyr lloches
- sy’n dod o ardal o amddifadedd
- sy’n dod o ardal lle mae lefel isel o gyfranogiad mewn addysg
- sy’n dod o deuluoedd incwm isel
- sydd y cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i’r brifysgol
- sy’n ystyried eu hunain yn LHDTC+
- o gefndiroedd Sipsi neu Deithiwr
Nid rhestr hollgynhwysol yw hon. Cyn darllen y dudalen hon, hwyrach nad oeddech chi’n ymwybodol eich bod yn dod o grŵp a dangynrychiolir mewn addysg uwch. Efallai eich bod o’r farn nad yw eich cefndir na’ch amgylchiadau yn effeithio ar eich profiad yn y brifysgol neu’ch gyrfa, ond weithiau, gall myfyrwyr o grwpiau sy’n llai tebygol o fynd i’r brifysgol wynebu heriau neu rwystrau ychwanegol. Mae eich profiad unigryw yn ychwanegu gwerth a chryfder i unrhyw weithlu yn y dyfodol, ac mae cyflogwyr yn chwilio am y sgiliau rydych wedi’u hennill nid yn unig wrth ddod i’r brifysgol ond yn ystod eich gradd hefyd. Mae adnoddau a chymorth ychwanegol ar gael ichi wneud y mwyaf o’ch amser ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gwerth gweithlu amrywiol
Mae eich amgylchiadau, eich profiadau a’ch cefndiroedd unigol yn eich gwneud chi’n unigryw, ac yn rhoi persbectif unigryw ichi ar y byd. Mae cael amrywiaeth o safbwyntiau, setiau sgiliau a phrofiadau yn bwysig i unrhyw sefydliad – mae’n cryfhau’r broses o wneud penderfyniadau a datrys problemau, yn ogystal â gwella cyfathrebu a chydweithio.
Mae’r e-Hwb Cyflogadwyedd, a gafodd ei greu ar y cyd rhwng Prifysgolion Cymru, sy’n cynnwys Prifysgol Caerdydd, yn tynnu sylw at y gwahanol sgiliau a chryfderau y gallwch chi eu cyfrannu at fywyd yn y brifysgol a’r gweithle, oherwydd eich profiadau bywyd. Mae’r rhain yn cynnwys empathi, y gallu i oresgyn anawsterau, a’ch ymwybyddiaeth o ddiwylliannau eraill a’u derbyn.
Gweithio i gyflogwyr cynhwysol
Mae cyflogwyr ym mhob diwydiant yn gwerthfawrogi gweithlu amrywiol ac mae llawer o gyflogwyr yn mynegi bwriad i wneud eu gweithleoedd yn fwy cynhwysol ac wedi ymroi i wneud hynny. Gwnaeth Arolwg gan Deloitte yn 2024 geisio tynnu sylw myfyrwyr cyfredol a graddedigion diweddar at bwysigrwydd gweithio i gyflogwyr sy’n dymuno sbarduno newid go iawn yn y gymdeithas ac sy’n mabwysiadu arferion gwaith cynhwysol. Mae Gen-Z a millennials yn fwyfwy tebygol o wrthod cyflogwyr nad yw eu gwerthoedd yn gydnaws â’u rhai eu hunain, gan gynnwys y rheiny sy’n ymwneud â chynwysoldeb.
Mae sawl ffordd o ymchwilio i ba mor gynhwysol yw cyflogwr:
- Cymerwch olwg ar wefan y cyflogwr – chwiliwch am bolisïau’r cyflogwr ar gynwysoldeb ac amrywiaeth. A yw eu cenhadaeth neu nodau yn cynnwys unrhyw sôn am amrywiaeth, cynhwysiant neu newid cymdeithasol?
- Edrychwch ar gyfryngau cymdeithasol y cyflogwr – gall lluniau sy’n cael eu postio ar-lein roi syniad i chi o ba mor amrywiol yw gweithlu’r cyflogwr, yn ogystal â pha mor wirioneddol maen nhw’n ymgysylltu â nhw
- Prosesau a deunyddiau recriwtio – edrychwch ar yr iaith a ddefnyddir, a gweld os yw’r cyflogwr yn crybwyll ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd neu’n dymuno recriwtio ymgeiswyr sy’n dod o amrediad eang o gefndiroedd
- Gofynnwch gwestiynau yn y cyfweliad – holwch gwestiynau i’r cyflogwyr ynghylch y polisïau sydd ganddyn nhw ar amrywiaeth a’u diwylliant yn y gweithle
- Meincnodau cynhwysol – defnyddiwch feincnodau neu safonau cydnabyddedig er mwyn pennu pa mor gynhwysol yw’r cyflogwr. Mae Inclusive Top 50 yn rhoi rhestr o’r cwmnïau sydd ar y blaen o ran hyrwyddo cynhwysiant yn y DU. Ceir nifer o feincnodau neu fesurau eraill sy’n ymwneud â’r ffordd y mae cyflogwyr yn cefnogi ymgeiswyr neu weithwyr penodol, er enghraifft, y cynllun Hyderus o ran Anabledd, Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall a’r Mynegai Cyflogwr Symudedd Cymdeithasol
Efallai eich bod yn angerddol am wneud gwahaniaeth o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant eich hun – cewch chi ddarllen rhagor am y gyrfaoedd sy’n bodoli yn y maes hwn ar Prospects a TargetJobs.
Cymorth gan y Brifysgol
Yn Dyfodol Myfyrwyr, os ydych chi’n dod o grŵp heb eu cynrychioli’n ddigonol mewn addysg uwch, hwyrach y byddwch chi’n gymwys i gael cymorth gan Hyder o ran Gyrfa. Mae Hyder o ran Gyrfa yn cefnogi myfyrwyr cymwys nad ydyn nhw efallai’n teimlo’n hyderus ynghylch sicrhau profiad gwaith neu gyflogaeth. Bydd y tîm yn gweithio gyda chi i ddeall beth yw eich nodau o ran gyrfa, pa ymrwymiadau sydd gennych chi, a phryd y byddwch chi ar gael i greu cynllun datblygu a fydd yn cynnwys cymorth cyflogadwyedd a phrofiad gwaith pwrpasol i ddiwallu eich anghenion. Gall Hyder o ran Gyrfa gefnogi myfyrwyr a graddedigion diweddar fel ei gilydd – gallwch chi fynegi eich diddordeb ar eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr a chwrdd â Swyddog Prosiect i drafod sut y gallech chi elwa o gael cymorth cyflogadwyedd ychwanegol. Os nad ydych chi’n siŵr eich bod yn dod o grŵp heb eu cynrychioli’n ddigonol mewn addysg uwch ai peidio, cysylltwch â ni y naill ffordd neu’r llall, a gallwn ni eich cyfeirio at ffynonellau cymorth eraill.
Drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd gennych chi fynediad at gymorth a chyngor helaeth sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac ymhlith y rhain y mae:
- trosolwg o sut mae’r brifysgol yn gynhwysol
- Gyda’n Gilydd yng Nghaerdydd – cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, sydd wedi ymddieithrio, sydd â phrofiad milwrol, sy’n ofalwyr neu’n geiswyr lloches
- Myfyrwyr LHDTC+ – cymoth penodol i fyfyrwyr sy’n ystyried eu hunain yn LHDTC+
- Cymorth i fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol – cymorth penodol i fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
e-Hwb Cyflogadwyedd
Gallwch chi hefyd gael cymorth pellach sydd wedi’i deilwra i fyfyrwyr heb eu cynrychioli’n ddigonol ar yr e-Hwb Cyflogadwyedd, sef adnodd Cymru gyfan a grëwyd gan brifysgolion ledled Cymru, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd.