Skip to main content

Cyngor i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg

Dysgwch am fanteision siarad Cymraeg a sut i ddefnyddio eich sgiliau iaith yn eich gyrfa.

Os ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl neu efallai’n dysgu, mae’n bosibl eich bod chi ddim wedi meddwl llawer am sut y gall y Gymraeg gael effaith gadarnhaol ar eich gyrfa. Mae siarad mwy nag un iaith yn sgil bwysig y gallwch chi roi sylw iddo mewn ceisiadau am swyddi neu brofiad gwaith, ond yng Nghymru gallai eich sgiliau Cymraeg agor drysau a chynnig cyfleoedd cyffrous i chi.

Manteision bod yn ddwyieithog

Mae llawer o fanteision i siarad mwy nag un iaith a gall llawer o’r sgiliau a’r rhinweddau y byddwch chi’n eu datblygu er mwyn prosesu, cyfathrebu a dysgu mwy nag un iaith eich helpu yn eich gyrfa:

  • Mae’n dda i’r ymennydd – mae ymchwil yn dangos bod siarad iaith arall yn datblygu ystod eang o sgiliau gwybyddol, gan gynnwys y gallu i ymgymryd â mwy nag un dasg ar y pryd, cael llygad craff fanylion a phrosesu gwybyddol. Darllenwch ragor am hyn ar wefan y BBC a FutureLearn. Mae’r sgiliau hyn yn bwysig mewn llawer o swyddi a gallen nhw hefyd eich helpu i gael canlyniadau da mewn profion recriwtio sy’n ceisio mesur y sgiliau hyn
  • Gall bod yn ddwyieithog eich helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol a sgiliau cymdeithasol, yn enwedig os yw eich dwyieithrwydd yn golygu y gallwch chi siarad â phobl sydd ddim efallai’n cyfathrebu mewn iaith arall
  • Gwell rhagolygon swyddi – gall bod yn siaradwr Cymraeg yng Nghymru agor drysau i chi o ran eich gyrfa. Mae deddfwriaeth Gymraeg yn golygu bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgil dymunol ar gyfer llawer o rolau, a allai roi mantais i siaradwr Cymraeg os gallan nhw fodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer swydd. Gall eich sgiliau Cymraeg hefyd helpu gyda chyfathrebu o ddydd i ddydd yn y gweithle, yn enwedig ar gyfer rolau sy’n ymwneud â chwsmeriaid neu wasanaethau cyhoeddus lle mae’n fuddiol i’r sefydliad allu cynnig gwasanaeth dwyieithog i’w gwsmeriaid neu gleientiaid

Sectorau sy’n chwilio am siaradwyr Cymraeg

Yng Nghymru, mae deddfwriaeth ynghylch y Gymraeg yn ei gwneud yn gyfraith i fathau arbennig o sefydliadau gynnig gwasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd ac mae Llywodraeth Cymru yw gwthio’n galed i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Er y gallai pob cyflogwr yng Nghymru bellach weld y Gymraeg yn sgil wych i’w chael, mae yna sectorau penodol yng Nghymru sydd â gofynion cyfreithiol i gynnig gwasanaeth Cymraeg ac sy’n mynd ati i chwilio am siaradwyr Cymraeg.

Ymhlith y sectorau sy’n chwilio am sgiliau Cymraeg yn benodol mae:

  • Llywodraeth a’r sector cyhoeddus – oherwydd y gofyniad cyfreithiol i gynnig gwasanaethau a gwybodaeth gwbl ddwyieithog yn y sectorau hyn, bydd bron pob swydd yn cynnwys y Gymraeg yn sgil dymunol ac efallai y bydd rhai rolau yn gofyn amdani yn sgil hanfodol. Gyda sefydliadau sector cyhoeddus arbennig o fawr yng Nghymru, mae’n bosibl y bydd rolau yn ymwneud â chefnogi cynnig gwasanaethau’n ddwyieithog, er enghraifft wrth gefnogi gweithredu deddfwriaeth Gymraeg yn y sefydliad hwnnw neu drwy gyfieithu. Gallwch chi ddod o hyd i swyddi ar wefan Llywodraeth Cymru a Civil Service Jobs
  • Addysg a gofal plant – mae’r Gymraeg wedi’i gwreiddio ym myd addysg yng Nghymru ac mae galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. Mae bod yn ddwyieithog yn golygu y gallwch chi chwilio am swyddi mewn ysgolion Saesneg a Chymraeg gan fod ysgolion Saesneg yn dal i addysgu a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae darpariaeth y blynyddoedd cynnar hefyd yn aml yn ceisio helpu plant i ddatblygu eu sgiliau iaith yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae nifer o feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg ar gael. Gallwch chi bori gwefannau fel Mudiad Meithrin ac Eteach i ddod o hyd i swyddi ym myd addysg yng Nghymru. Er bod prifysgolion yng Nghymru ddim yn eiddo i’r llywodraeth, maen nhw’n derbyn cyllid cyhoeddus ac oherwydd hyn, mae ganddyn nhw hefyd rwymedigaethau yn ymwneud â’r Gymraeg. Gallwch chi ddod o hyd i swyddi ym myd addysg uwch ar Jobs.ac.uk ac ar dudalennau swyddi gwag prifysgolion penodol ledled Cymru
  • Twristiaeth a lletygarwch – mae sgiliau iaith Gymraeg yn fantais mewn rolau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru i hyrwyddo diwylliant Cymru yn llawn
  • Y cyfryngau a marchnata – yng Nghymru mae nifer o gwmnïau’r cyfryngau sy’n gweithio’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’r gallu i gynhyrchu copi dwyieithog ac ymgyrchoedd marchnata hefyd yn werthfawr

Chwilio am swyddi sy’n gofyn am y Gymraeg

Mae gwefannau penodol sy’n hysbysebu swyddi sy’n rhestru’r Gymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol, er enghraifft Safle Swyddi, Swyddi 360 a Lleol Cymru.

Wrth chwilio am swyddi yng Nghymru sy’n gofyn i chi defnyddio’ch sgiliau Cymraeg ar wefannau cyffredinol fel Indeed, Total Jobs neu LinkedIn, ceisiwch ddefnyddio geiriau fel ‘siaradwr Cymraeg’ neu ‘Cymraeg’ i hidlo canlyniadau, er enghraifft fel ar wefan Jobs In Wales.

Mae gan Gyrfa Cymru broffiliau swyddi a chyngor gyrfaoedd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.

Mae sawl ffordd y gallech chi amlygu eich sgiliau Cymraeg yn eich CV:

  • Gallech chi gynnwys ieithoedd fel sgil yn eich adran Sgiliau ac amlygu eich hyfedredd yn y Gymraeg
  • Os oes gennych chi gymwysterau ffurfiol yn y Gymraeg, gallech chi ychwanegu'r rhain at eich adran Addysg. Os nad oes gennych chi gymwysterau ffurfiol yn y Gymraeg, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig Tystysgrif Sgiliau Iaith, sydd ar gael i fyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru i roi tystiolaeth o lefel eich sgiliau Cymraeg

Gallech chi hefyd amlygu eich gallu yn y Gymraeg mewn llythyr eglurhaol, pan fyddwch chi’n manylu ar pam eich bod yn addas ar gyfer y rôl. Darllenwch ein cyngor ar lythyrau eglurhaol am ragor o wybodaeth am beth i'w roi yn eich llythyr eglurhaol.

Fel gyda'ch CV, gallech chi gynnwys unrhyw gymwysterau iaith Gymraeg ffurfiol mewn adran Addysg neu Gymwysterau.Efallai y bydd gan ffurflen gais gwestiwn penodol am eich sgiliau Cymraeg, yn enwedig os yw'n ddymunol neu'n hanfodol ar gyfer y swydd, felly gallwch chi eu hamlygu.

Mae rhai ffurflenni cais yn gofyn am ddatganiad ategol, a dyna le byddwch chi'n darparu tystiolaeth o sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Os yw’r gallu i siarad Cymraeg yn un o’r meini prawf hynny, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymhelaethu ar eich hyfedredd yn y Gymraeg yn eich datganiad ategol.

I gael rhagor o gyngor, darllenwch ein cyngor ar ffurflenni cais gan gynnwys datganiadau ategol.

Efallai y byddwch chi’n cael eich gofyn am eich sgiliau Cymraeg mewn cyfweliad, lle mae eich gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol ar gyfer y swydd rydych chi wedi gwneud cais amdani. Efallai y cewch chi gwestiwn fel 'Pa mor gyfforddus ydych chi'n defnyddio'r Gymraeg mewn amgylchedd proffesiynol?' neu 'Allwch chi roi enghraifft o adeg pan rydych chi wedi defnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol?'. Efallai y byddwch chi’n cael cwestiynau yn Gymraeg hyd yn oed.

Os nad yw’n codi’n benodol yn y cyfweliad, ond mae’n dal i fod yn berthnasol i’r sefyllfa, efallai hoffech chi sôn am eich sgiliau Cymraeg wrth y cyfwelydd, er enghraifft os byddan nhw’n gofyn i chi a oes unrhyw beth yr hoffech chi ei ychwanegu neu dydych chi ddim wedi sôn amdano eto. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gofyn iddyn nhw amdano, tra ar yr un pryd yn arddangos eich sgiliau Cymraeg - er enghraifft, 'mae'r hysbyseb ar gyfer y rôl yn sôn bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol/dymunol ar gyfer y swydd hon. Rwy’n gallu siarad Cymraeg [rhugl/ ar lefel x], sut ydych chi'n meddwl y gallai'r sgiliau hynny fod yn ddefnyddiol yn y rôl?'

Darllenwch ein cyngor ar sgiliau cyfweld a'r ffordd orau o ymdrin â gwahanol fathau o gwestiynau mewn cyfweliad.

 

Datblygwch eich sgiliau Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd

Os ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu, mae llawer o ffyrdd y gallwch chi barhau i ddatblygu eich sgiliau iaith yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae cangen Caerdydd o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda’r brifysgol i ddarparu hyfforddiant iaith Gymraeg a chyfleoedd astudio i fyfyrwyr a staff. Mae’n cynnig cymorth i fyfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfleoedd ariannol, datblygiad personol a chefnogaeth i astudio ar gyfer y Dystysgrif Sgiliau Iaith.

Gallwch chi ddatblygu eich sgiliau yn y Gymraeg gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, a manteisio ar gyrsiau am ddim a chithau’n fyfyriwr Prifysgol Caerdydd. Mae cyrsiau ar gael ar wahanol lefelau, o ddechreuwyr i’r rhai sy’n dymuno gwella eu sgiliau Cymraeg ac sydd eisoes yn hyfedr.

Gall cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn ffordd wych o ddatblygu eich sgiliau iaith. Mae llawer o gyfleoedd ym Mhrifysgol Caerdydd i chi ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg mewn lleoliad cymdeithasol:

  • Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd – undeb sy’n rhan o Undeb y Myfyrwyr sy’n cynrychioli siaradwyr Cymraeg, dysgwyr ac unrhyw un gyda diddordeb yn yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Maen nhw’n gweithio gyda chymdeithasau a myfyrwyr i ddarparu ystod eang o ddigwyddiadau a gwasanaethau yn y Gymraeg
  • Y Gym Gym – cymdeithas myfyrwyr sy’n croesawu myfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol sydd eisiau cyfleoedd i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i ddysgu rhagor am y pwnc hwn:

  • Trefnwch apwyntiad gyrfaoedd i drafod sut gall eich sgiliau Cymraeg eich helpu yn y gweithle drwy eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr - gallwch chi ofyn am gael siarad â Chynghorydd Gyrfaoedd sy'n siarad Cymraeg
  • Os ydych chi’n fyfyriwr Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, gallwch chi gwblhau Gwobr Caerdydd yn Gymraeg
  • Cadwch lygad allan yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr am gyfleoedd profiad gwaith drwy’r Gymraeg