Canolfannau asesu
Beth sy'n digwydd mewn canolfannau asesu a sut mae sefyll allan.
Mae canolfannau asesu fel arfer yn un o gamau olaf proses recriwtio ac yn cael eu defnyddio amlaf gan gyflogwyr graddedigion mawr wrth recriwtio ar gyfer eu cynlluniau graddedigion hynod gystadleuol. Fel arfer fe’u cynhelir dros hanner diwrnod, diwrnod neu weithiau hyd yn oed sawl diwrnod, ac maent yn gyfle i gyflogwyr eich asesu mewn amrywiaeth eang o senarios a thasgau. Byddant yn gwerthuso pa mor dda rydych yn arddangos y cymwyseddau, y sgiliau a’r agweddau craidd maent yn chwilio amdanynt.
Mae myfyrwyr a graddedigion yn aml yn gweld canolfan asesu fel un o agweddau mwyaf brawychus y broses recriwtio. Yn sicr, gall fod yn un o’r rhai mwyaf heriol, ond mae’n gyfle euraidd i adael i’r recriwtiwr eich gweld yn arddangos yr hyn y mae’n chwilio amdano! Mae gennych chi hefyd amryw o dasgau a senarios i fynd i’r afael â nhw, felly os nad yw un yn mynd cystal ag yr oeddech chi’n gobeithio, mae gennych chi gyfle i wneud iawn amdano yn yr un nesaf. Trwy ymarfer a pharatoi’n briodol, byddwch yn gallu gwybod beth i’w ddisgwyl mewn canolfan asesu a beth yw’r ffordd orau i sefyll allan.
Beth i’w ddisgwyl
Mae canolfan asesu fel arfer yn cynnwys cymysgedd o dasgau grŵp ac unigol, yn ogystal ag amrywiaeth o sefyllfaoedd i weld sut rydych chi’n rhyngweithio mewn gwahanol senarios a gydag eraill. Bydd cyflogwyr yn gwerthuso sut rydych yn dangos arweinyddiaeth, gwaith tîm, sgiliau cyfathrebu, datrys problemau a hyblygrwydd. Mae’r rhain yn sgiliau cyffredin y mae recriwtwyr graddedigion yn chwilio amdanynt mewn ymgeiswyr. Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd wedi gwneud eich gwaith ymchwil i’r sgiliau, y cymwyseddau a’r gwerthoedd sy’n bwysig i’r cyflogwr ac sy’n berthnasol i’r rôl rydych yn ymgeisio amdani.
Isod mae ymarferion a senarios sy’n gyffredin mewn canolfannau asesu. Gallwch ymarfer nifer o’r rhain ar blatfform Graduates First, a gallwch gael mynediad am ddim iddo fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.
Ymarferion grŵp
Efallai y bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn trafodaeth grŵp neu ddadl, cwblhau tasg grŵp (un sy’n berthnasol i'r rôl fel arfer) neu hyd yn oed chwarae rôl mewn grŵp lle rhoddir rôl benodol i chi. Bydd aseswyr yn arsylwi gallu ymgeiswyr i gymryd rhan a chyfrannu, cyflwyno dadleuon rhesymegol, cyfathrebu'n effeithiol, gwrando ar eraill, cyd-drafod a chydweithio.
Mewn ymarferion grŵp, mae'n bwysig:
- Cael dealltwriaeth glir o'r wybodaeth neu'r briff a'r hyn sydd ei angen
- Gosod nodau a blaenoriaethau clir – efallai y byddwch yn ystyried pennu rolau os nad yw hyn wedi bod yn rhan o’r briff yn barod
- Bod yn bendant ond hefyd yn barod i gyfaddawdu – mae hyn yn dangos eich gallu i gynhyrchu syniadau ond hefyd bod gennych feddwl agored
- Gweithio gyda’r grŵp – mae eich gallu i gydweithio ag eraill yn hanfodol ar gyfer y gweithle! Gwneud cyfraniadau cadarnhaol ond annog cyfraniadau gan bobl eraill a gwrando ar syniadau pobl eraill. Peidio â siarad dros bobl eraill na thorri ar eu traws, a cheisio osgoi gadael i'r un peth ddigwydd i chi
- Cadw llygad ar yr amser i sicrhau bod y tîm yn parhau i ganolbwyntio
Darllenwch gyngor Bright Network ac Assessment Day ar sut i wneud yn dda mewn ymarferion grŵp.
Profion seicometrig
Mae profion seicometrig yn aml yn ymddangos yn gynharach yn y broses recriwtio ar gyfer rolau graddedigion cystadleuol iawn. Fodd bynnag, efallai y gofynnir i chi gwblhau un fel rhan o ganolfan asesu, neu hyd yn oed ailsefyll prawf seicometrig rydych wedi’i wneud yn flaenorol. Gallwch ddarllen ein cyngor ar brofion seicometrig i gael rhagor o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl a sut mae paratoi.
Cyflwyniad
Efallai y gofynnir i chi roi cyflwyniad ar bwnc penodol – gallech gael gwybod am hyn ymlaen llaw neu gallech gael cyfnod penodol o amser i baratoi yn y ganolfan asesu ei hun. Wrth roi cyflwyniad, yn enwedig pan nad ydych wedi cael gwybod amdano ymlaen llaw, mae aseswyr yn chwilio am sgiliau rheoli amser cadarn, sgiliau cyfathrebu rhagorol a'ch gallu i weithio'n dda a chyflwyno syniadau clir dan bwysau.
Wrth feddwl am eich cyflwyniad, ystyriwch gynnwys, strwythur a chyflwyniad:
Cynnwys - Beth yw pwrpas y cyflwyniad a phwy yw’r gynulleidfa? Ymchwiliwch i'r pwnc a nodwch y pwyntiau a materion allweddol – beth yw eich barn ar y rhain? Blaenoriaethwch beth i'w gynnwys yn seiliedig ar bwysigrwydd a'r terfyn amser a osodwyd i chi.
Strwythur - Gall hyd yn oed y cynnwys gorau fynd ar goll os nad oes strwythur clir i’ch cyflwyniad! Mae angen i'ch cyflwyniad fod yn rhesymegol ac yn hawdd ei ddilyn. Nodwch eich dadleuon a'ch casgliadau allweddol a sicrhewch fod eich cyflwyniad yn ymdrin â'r rhain.
Dilynwch y strwythur defnyddiol hwn fel canllaw:
- Croeso, cyflwyniad ac amlinelliad – cyflwynwch eich hun a’r cyflwyniad, eglurwch ddiben, fformat ac amlinelliad o’ch cyflwyniad.
- Cyflwyno’r pwnc – beth sydd angen i'r gynulleidfa ei wybod?
- Prif gorff – gwnewch bwyntiau clir, rhesymegol.
- Crynhoi a gwahodd cwestiynau.
Cyflwyniad - Mae'n gwbl normal teimlo'n nerfus wrth roi cyflwyniad ond bydd sgiliau cyflwyno effeithiol yn gwneud i chi ragori ar ymgeiswyr eraill ac ennyn diddordeb y gynulleidfa! Darllenwch yr awgrymiadau defnyddiol hyn gan Coursera ac Indeed fel canllaw.
Cyfweliad
Mae cyfweliad yn dasg gyffredin mewn canolfan asesu. Fel gydag unrhyw gyfweliad, bydd aseswyr yn chwilio am dystiolaeth eich bod yn gallu gwneud y rôl, bod gennych ddiddordeb yn y gwaith ac y byddwch yn cyd-dynnu ac yn cydweithio'n dda â chydweithwyr yn eu gweithle. Gallwch ddarllen ein cyngor ar gyfweliadau i gael rhagor o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl a sut mae paratoi.
Ymarferion mewnfasged ac e-fasged
Mae ymarferion mewnfasged ac e-fasged yn efelychu senario gwaith tebyg trwy roi amryw o bwysau a gofynion ar eich amser. Mae'r ddau ymarfer yn cyflwyno tasgau, negeseuon e-bost neu ddogfennau i chi eu didoli, eu blaenoriaethu ac ymateb iddynt. Yn syml, mae ymarfer e-fasged yn fersiwn ddigidol o ymarfer mewnfasged – fel arfer bydd ymarfer e-fasged yn efelychu blwch derbyn e-bost, tra bydd ymarfer mewnfasged ar bapur.
Darllenwch yr holl wybodaeth a roddwyd i chi yn ofalus fel eich bod yn deall y cyfarwyddiadau a beth sydd angen i chi ei wneud. Mae'r ymarferion hyn yn profi amrywiaeth eang o sgiliau, o reoli amser i'ch sgiliau dadansoddi a datrys problemau (er enghraifft, efallai y bydd angen i chi flaenoriaethu terfyn amser neu gwblhau tasgau penodol cyn y gallwch ddechrau ar rai eraill), yn ogystal â'ch proffesiynoldeb a'ch cwrteisi negeseuon e-bost.
Mae gan TargetJobs ac Assessment Day gyngor defnyddiol ar sut mae mynd i’r afael â’r ymarferion hyn.
Astudiaethau achos
Gallech gael ymarfer astudiaeth achos, lle mae angen i chi naill ai adrodd ar broblem neu sefyllfa neu gyflwyno eich argymhellion i broblem neu sefyllfa a fyddai’n ailadrodd un a wynebir gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y rôl rydych yn ymgeisio amdani. Mae astudiaethau achos fel arfer yn profi eich sgiliau datrys problemau a dadansoddi, yn ogystal â'ch ymwybyddiaeth fasnachol.
Mae'n debygol y cyflwynir ystod o ddeunyddiau cefndir i chi weithio trwyddynt, efallai straeon newyddion, adroddiadau busnes neu ffigurau gwerthu. Mae aseswyr yn edrych ar ba mor dda rydych yn prosesu ac yn dadansoddi'r wybodaeth a roddwyd i chi, yn deall y broblem a gyflwynwyd i chi, yn nodi beth yw'r materion allweddol ac yna'n cyfiawnhau eich argymhellion.
Darllenwch gyngor Assessment Day a TargetJobs ar ymarferion astudiaethau achos.
Chwarae rôl
Mewn senario chwarae rôl, mae'n ofynnol i chi actio senario, fel arfer trwy ail-greu sefyllfa anodd fel cwyn cwsmer, cleient anodd neu'n esbonio gwybodaeth dechnegol. Peidiwch â phoeni, nid yw ymarfer chwarae rôl yn profi eich sgiliau actio! Mae'n asesu sut byddech yn archwilio ac yn mynd i'r afael â sefyllfa anodd fel hon yn y gweithle. Serch hynny, po fwyaf y gallwch chi fynd i gymeriad ac ymgolli yn y sefyllfa, po fwyaf y byddwch yn ymlacio ac y bydd yn teimlo’n naturiol i chi.
Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y briff yn ofalus a’ch bod yn deall beth mae'r senario yn ei olygu. Cychwynnwch gyda chwestiynau agored i gael rhagor o wybodaeth. Meddyliwch am yr hyn y mae angen i chi ei wybod i symud y senario yn ei flaen – er enghraifft, gyda chŵyn gan gwsmer, beth yw’r gŵyn a sut cododd y mater? Byddwch yn ymwybodol o'ch tôn a'ch sgiliau rhyngbersonol – os oeddech yn delio â chŵyn gan gwsmer, efallai y bydd angen i chi fod yn ymddiheuro a bod yn empathetig gan hefyd symud i fod yn fwy pendant, yn enwedig os yw'r cwsmer yn troi’n anodd neu'n anghwrtais. Defnyddiwch yr hyn rydych chi'n ei wybod am y cyflogwr a'i werthoedd i'ch helpu i ystyried sut gallai fynd i'r afael â'r sefyllfa yn ei weithle.
Mae gan Assessment Day gyngor defnyddiol ar ymarferion chwarae rôl mewn canolfannau asesu.
Awgrymiadau ardderchog ar gyfer canolfannau asesu
- Paratowch ar gyfer eich canolfan asesu fel y byddech yn ei wneud ar gyfer cyfweliad. Ymchwiliwch i'r rôl a'r cyflogwr yn drylwyr, yn ogystal â'r diwydiant ehangach. Mae ymwybyddiaeth fasnachol yn sgil bwysig i raddedigion ac mae nifer o ffyrdd y gall eich gwybodaeth am y sector ehangach eich helpu i ddisgleirio mewn canolfan asesu.
- Gorffwyswch yn dda y noson cynt a cheisiwch ymlacio cyn mynd i’r ganolfan asesu – po fwyaf naturiol a hyderus y byddwch mewn canolfan asesu, po hawsaf y bydd y profiad i chi a’r gorau oll y byddwch yn dod drosodd.
- Cynlluniwch ymlaen llaw sut byddwch yn cyrraedd y ganolfan asesu os byddwch yn mynd yno'n bersonol ac anelwch at gyrraedd yn gynnar; os yw ar-lein, gwnewch yn siŵr bod gennych le tawel heb unrhyw ymyrraeth a bod eich WI-FI yn gweithio, yn ogystal â'ch sain a'ch fideo.
- Byddwch yn ymwybodol o bob math o ryngweithio, hyd yn oed ar amser segur ac yn ystod egwyliau – rydych yn dal i gael eich arsylwi a’ch asesu! Mae gan TargetJobs gyngor defnyddiol ar ddelio ag ochr gymdeithasol canolfannau asesu.
- Cadwch yn bositif trwy gydol y dydd - efallai y bydd rhai ymarferion yn cyd-fynd yn well â'ch cryfderau nag eraill.
- Cymerwch eich amser i ddeall yn llawn yr hyn sy'n ofynnol gennych ym mhob ymarfer a darllenwch yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau yn ofalus fel nad ydych yn colli dim.
- Myfyriwch ar eich profiad yn y ganolfan asesu – sut brofiad gawsoch chi? Oeddech chi'n teimlo'n barod? Beth aeth yn dda a beth nad aeth cystal? A oedd y profiad cystal â’r disgwyl? Defnyddiwch eich myfyrdod i ddeall beth fyddwch chi'n ei wneud y tro nesaf.
- Cofiwch longyfarch eich hun! Mae canolfan asesu yn gam trwyadl a heriol o’r broses recriwtio. Mae canolfan asesu yn cael ei defnyddio fel arfer ar gyfer rolau hynod gystadleuol – mae cael gwahoddiad i ganolfan asesu yn gyflawniad ynddo’i hun.
- Os byddwch yn aflwyddiannus, gofynnwch i'r cyflogwr am adborth a all eich helpu y tro nesaf. Ceisiwch beidio â digalonni – bydd pawb yn cael eu gwrthod rywbryd yn ystod eu gyrfa ac er nad yw byth yn deimlad braf, bydd yn eich helpu i dyfu’n broffesiynol a datblygu gwydnwch.