Cyfweliadau
Bod ar eich gorau mewn cyfweliadau a deall sut i baratoi ar eu cyfer.
Felly rydych chi wedi cael eich gwahodd am gyfweliad, ond nawr rydych chi’n wynebu’r posibilrwydd brawychus o orfod ei wneud! Y peth cyntaf i’w wybod yw y bydd y rhan fwyaf o bobl yn teimlo’n nerfus wrth wynebu cyfweliad. Mae’n gwbl normal. Er nad ydym yn awgrymu y byddwch chi wrth eich bodd â chyfweliadau, mae yna strategaethau ymarferol iawn y gallwch chi eu rhoi ar waith i fod ar eich gorau a chyfleu eich addasrwydd a’ch brwdfrydedd am y swydd yn hyderus. Wedi’r cyfan, mae cyflogwyr yn chwilio am gadarnhad: y gallwch chi wneud y rôl mewn gwirionedd (eich addasrwydd); bod gennych chi ddiddordeb yn y rôl (eich cymhelliant ); ac y byddwch yn cyd-fynd â’u tîm a’u gweithle (eich personoliaeth).
Gellid gofyn i chi gymryd rhan mewn amrywiaeth o fformatau cyfweliad, er enghraifft cyfweliad dros y ffôn, cyfweliad panel traddodiadol a chyfweliad grŵp (sy’n fwy cyffredin mewn canolfannau asesu) ac rydych bron yr un mor debygol o gael eich gwahodd i gyfweliad ar-lein y dyddiau hyn, nag yn bersonol. Efallai y gofynnir i chi gwblhau mwy nag un o’r cyfweliadau hyn o fewn un broses recriwtio. Gallant amrywio o ran ffurfioldeb hefyd, er enghraifft, bydd sgwrs am gyfle gwirfoddoli yn llawer llai ffurfiol na’r broses gyfweld ar gyfer swydd PhD neu gynllun graddedig a ariennir. Serch hynny, mae’r adran hon yn cynnwys cyngor i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer unrhyw fath o gyfweliad.
Trwy gyfuno paratoi trylwyr gyda digon o ymarfer, a ffyrdd effeithiol o reoli eich nerfau, gallwch sefyll allan a theimlo’n hyderus mewn unrhyw gyfweliad sydd gennych i ddod!
Sut i baratoi ar gyfer cyfweliad
Mae paratoi yn hanfodol er mwyn llwyddo mewn unrhyw gyfweliad. Dylai eich gwaith paratoi ganolbwyntio ar:
- ymchwilio i’r cyflogwr a’r rôl
- datblygu eich hunanymwybyddiaeth a nodi eich cryfderau a’ch sgiliau allweddol
- dhagweld cwestiynau y gellid eu gofyn i chi a pharatoi atebion – amlygu sgiliau, profiadau a gwybodaeth allweddol y mae’r cyflogwr yn chwilio amdanynt sy’n ffurfio’r disgrifiad rôl, nodi enghreifftiau o’ch profiad y gallech eu defnyddio i ddangos tystiolaeth o bob un o’r rhain ac edrych ar ein cyngor ar sut i fynd i’r afael â mathau cyffredin o gwestiynau cyfweliad isod
Ewch ati i ymarfer eich techneg cyfweliad
Mae’n bwysig nad eich cyfweliad yw’r tro cyntaf i chi gael cyfle i ymarfer ateb cwestiynau. Ewch ati i ymarfer trwy:
- Ateb cwestiynau yn uchel – chwiliwch am gwestiynau cyffredin mewn cyfweliadau ac ymarfer eu hateb yn uchel. Syniad gwell fyddai gofyn i ffrind neu aelod o’r teulu wneud hyn gyda chi fel nad ydych chi’n gwybod pa gwestiynau fydd yn cael eu gofyn nesaf
- Defnyddio GraduatesFirst – gallwch gael mynediad am ddim fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, i gwblhau ffug gyfweliadau ar-lein a derbyn adborth
- Trefnu ffug gyfweliad gyda Chynghorydd Gyrfa yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr – cyfle i ymarfer ateb cwestiynau a derbyn adborth ar eich techneg cyfweliad
Mathau cyffredin o gwestiynau a sut i fynd ati i’w hateb
Mae sawl math o gwestiynau a ofynnir yn gyffredin mewn cyfweliad (mae llawer ohonynt hefyd yn gyffredin ar ffurflenni cais):
Os ydych chi’n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni’n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn ffenestr ar wahân.
Awgrymiadau ardderchog – cyn, yn ystod ac ar ôl eich cyfweliad
- Dilynwch ein cyngor ar y dudalen hon am baratoi ar gyfer cyfweliadau a chael cyfle i ymarfer eich sgiliau cyfweld trwy drefnu apwyntiad yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr
- Os yw'r cyfweliad yn un wyneb yn wyneb, darganfyddwch ble mae hynny a chynlluniwch eich taith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser ac yn anelu at gyrraedd yn gynnar. Meddyliwch am y cyfweliad fel un sydd wedi dechrau pryd bynnag y byddwch yn cerdded i mewn i’r adeilad – gallai unrhyw argraffiadau y byddwch yn eu creu ar unrhyw aelod o staff y byddwch yn rhyngweithio ag ef effeithio ar y penderfyniad i’ch cyflogi ai peidio
- Os yw'r cyfweliad ar-lein, gwiriwch unrhyw ddolenni neu apiau y gallech fod wedi'u cael gan y cyflogwr. Ar gyfer y cyfweliad, gwnewch yn siŵr eich bod mewn ystafell dawel heb unrhyw beth i darfu arnoch a bod modd eich gweld a’ch clywed yn glir
- Penderfynwch beth fyddwch chi'n ei wisgo ar y diwrnod ymhell ymlaen llaw. Os nad ydych chi'n siŵr, cysylltwch â'r cyflogwr a gofynnwch, ond mae'n well gwisgo'n rhy smart, yn hytrach na gwisgo'n rhy anffurfiol gan y bydd hyn yn tynnu sylw at eich proffesiynoldeb
- Trefnwch beth fyddwch chi'n mynd gyda chi, er enghraifft copi o'ch CV a phortffolio neu gopi o’ch gwaith os yw'n berthnasol i rai diwydiannau
- Cadwch gyswllt llygad os gallwch chi a gwenwch
- Byddwch yn ymwybodol o iaith eich corff – ceisiwch beidio â bod yn rhy aflonydd
- Peidiwch â rhuthro i mewn i ateb ar unwaith, yn enwedig os gofynnir cwestiwn anodd i chi – mae hwn yn ymateb naturiol pan fyddwch chi'n dechrau mynd i banig! Yn hytrach, cymerwch ychydig funudau, cymryd llymaid o ddŵr a cheisio meddwl yn rhesymegol sut byddwch chi'n ateb y cwestiwn. Meddyliwch am strwythur cyn i chi ddechrau ateb
- Ceisiwch beidio â dibynnu'n ormodol ar nodiadau ac osgoi rhoi atebion sydd wedi'u hymarfer yn ormodol
- Yn fuan ar ôl y cyfweliad, gwnewch nodyn o unrhyw gwestiynau a ofynnwyd i chi yr oeddech yn cael trafferth â nhw neu nad oeddech wedi eu rhagweld Meddyliwch sut gallech chi ateb y rhain y tro nesaf
- Treuliwch rywfaint o amser yn myfyrio ar sut aeth y cyfweliad yn eich barn chi, a cheisiwch wneud pethau rydych chi'n eu mwynhau neu sy'n tynnu sylw eich sylw, yn enwedig tra byddwch chi'n aros am y canlyniad. Mae cyfweliad yn brofiad sy’n achosi straen a dylech ystyried pob cyfweliad a gewch yn gyflawniad personol ac yn gyfle i ddatblygu!
- Os byddwch yn aflwyddiannus, manteisiwch ar y cyfle i ofyn am adborth. Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn hapus i roi adborth ar y cam hwn a gall fod o gymorth mawr i fireinio'ch perfformiad ar gyfer eich cyfweliad nesaf. Gallai hyd yn oed helpu i dawelu eich meddwl bod ymgeisydd arall yn fwy addas ar gyfer y rôl, ac nad oedd dim y gallech fod wedi'i wneud yn wahanol. Ceisiwch beidio â digalonni – bydd pawb yn cael eu gwrthod rywbryd yn ystod eu gyrfa ac er nad yw byth yn deimlad braf, bydd yn eich helpu i dyfu’n broffesiynol a datblygu gwydnwch
Gwyliwch y fideo isod i glywed sut y gallwch greu argraff ar ein cyflogwyr yn y cyfweliad:
Sut i ddelio â nerfau mewn cyfweliadau
Hyd yn oed ar ôl paratoi’n drylwyr, mae’n naturiol i chi deimlo’n nerfus pan ddaw diwrnod eich cyfweliad. Dilynwch ein cyngor isod i reoli’r nerfau hynny fel nad ydynt yn llesteirio eich perfformiad:
Newid eich ffordd o feddwl
Mae'r teimladau sy'n cyd-fynd â nerfusrwydd a gorbryder yn debyg i’r teimladau a gewch pan fyddwch yn gyffrous, er enghraifft eich calon yn curo’n gyflymach neu eich meddyliau’n rasio. Ceisiwch newid sut rydych chi’n meddwl am y cyfweliad - yn hytrach na meddwl amdano fel rhywbeth sy'n achosi straen i chi, meddyliwch amdano fel rhywbeth rydych chi wir ei eisiau ac yn gyffrous yn ei gylch.
Yn hytrach na gweld hwn yn brofiad brawychus, ceisiwch edrych arno fel cyfle euraidd i arddangos eich sgiliau a'ch galluoedd a chofiwch, rydych chi'n eu cyfweld hwy gymaint ag y maent hwythau yn eich cyfweld chi. Ar ôl y cyfweliad, efallai y byddwch yn penderfynu nad yw'n iawn i chi mewn gwirionedd!
Mae’r fideo hwn yn cynnig esboniad defnyddiol o sut gall newid eich ffordd o feddwl helpu.
Ystyried agweddau ymarferol a chynllunio ymlaen llaw
Mae cynllunio’ch taith, gwirio’ch technoleg (ar gyfer cyfweliad ar-lein) a rhoi trefn ar eich gwisg i gyd yn elfennau ymarferol ar gyfer y cyfweliad a all wneud i chi boeni os byddwch yn eu gadael tan y funud olaf. Cymerwch amser i roi trefn ar y pethau hyn ymhell ymlaen llaw.
Ymarfer, ymarfer, ymarfer!
Er bod rhai yn ymddangos yn fwy hyderus gyda chyfweliadau nag eraill, nid yw'n wir eich bod chi naill ai’n dda mewn cyfweliadau neu ddim. Mae sgiliau cyfweld, fel gwybod sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau, ymarfer eich techneg cyfweliad a deall sut i ateb gwahanol fathau o gwestiynau yn sgiliau tebyg i unrhyw rai eraill – byddwch yn gwella po fwyaf y byddwch chi’n ymarfer. Ewch ati i ymarfer yn uchel, defnyddio GraduatesFirst a chael cyngor gan Dyfodol Myfyrwyr.
Dewch o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi
Yn y pen draw mae pawb yn wahanol ac ni fydd strategaethau sy'n gweithio i chi yn gweithio i bobl eraill ac i'r gwrthwyneb. Rhowch gynnig ar wahanol dechnegau, o ymarferion anadlu i ganu eich hoff gân cyn i chi fynd i mewn i'ch cyfweliad a darganfod beth sy'n gweithio orau i chi.