Skip to main content

Ffurflenni cais

Sut mae mynd ati i ateb cwestiynau cyffredin ar ffurflenni cais a defnyddio’r dull STAR yn effeithiol.

Mae’n bosibl y gofynnir i chi lenwi ffurflen gais, fel arfer ar-lein, ar gyfer swydd neu gyfle profiad gwaith. Gofynnir cwestiynau penodol i chi am y sefydliad a’r rôl rydych yn gwneud cais amdani, gan fynd i’r afael â’ch diddordeb, eich cymhelliant, eich addasrwydd a’ch ymwybyddiaeth fasnachol. Gofynnir yr un cwestiynau i bob ymgeisydd er mwyn i’r cyflogwr allu cymharu ymgeiswyr yn wrthrychol yn erbyn yr un meini prawf. Yn aml mae gofyn i chi lwytho’ch CV i fyny gyda cheisiadau ar-lein hefyd.

Yn ogystal â chael eich holi, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth ffeithiol sylfaenol amdanoch chi’ch hun, sef gwybodaeth gyswllt a hanes cyflogaeth neu brofiad gwaith fel arfer. Gall cyflogwyr hefyd ofyn cwestiynau cydraddoldeb ac amrywiaeth i chi, er mwyn eu helpu i fonitro amrywiaeth eu gweithlu – bydd y rhain ar wahân i weddill y cwestiynau ac ni ddylai sut byddwch yn ateb y rhain effeithio o gwbl ar ganlyniad eich cais.

Sut i ddechrau a pharatoi eich ffurflen gais

Pan fyddwch chi’n dod o hyd i swydd neu gyfle profiad gwaith y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, gall fod yn demtasiwn mynd amdani’n syth i lenwi’r ffurflen gais – ond peidiwch â dechrau ysgrifennu ar unwaith! Mae ffurflen gais ardderchog yn cymryd amser i’w chwblhau’n gywir, a bydd yn llawer haws os byddwch yn buddsoddi amser yn paratoi ymlaen llaw.

Ymchwiliwch i'r cyflogwr.

Cyn i chi ddechrau llenwi eich ffurflen gais, dylech ymchwilio i'r sefydliadau rydych yn gwneud cais iddynt a cheisio darganfod cymaint ag y gallwch amdanynt. Ystyriwch:

  • Pwy ydynt - beth yw eu cenhadaeth neu bwrpas, sut beth yw ar eu strwythur?
  • Pa waith maent yn ei wneud – beth maent yn ei gynnig, beth yw eu cynnyrch/gwasanaethau a sut maent yn ffitio i mewn i'w diwydiant ehangach?
  • Pwy maent yn ei wasanaethu - pwy yw eu cwsmeriaid neu gleientiaid a sut maent yn rhyngweithio â nhw?
  • Beth sy’n bwysig iddynt – beth yw eu gwerthoedd a beth yw diwylliant eu gweithle? Pa fath o effaith mae arnynt eisiau ei chael?

Defnyddiwch adnoddau fel eu gwefan, cyfryngau cymdeithasol a thudalennau LinkedIn i helpu gyda hyn. Ystyriwch hefyd a oes gennych chi unrhyw gysylltiadau o fewn y sefydliad y gallech gysylltu â nhw neu a yw’r sefydliad yn cynnal unrhyw ddigwyddiadau y gallech fynd iddynt (ewch i’ch Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr i weld digwyddiadau sydd ar y gweill gan gyflogwyr).

Mae hefyd yn bwysig eich bod yn deall y diwydiant neu’r sector ehangach yn dda – darllenwch ein cyngor ar ddatblygu eich ymwybyddiaeth fasnachol.

Pan fyddwch wedi ymchwilio i’r cwmni, dylech ddechrau nodi eich sgiliau a’ch rhinweddau ac yna cyfateb y rhain i’r rhai sy’n berthnasol ar gyfer y rôl. Mae’r rhain yn cael eu nodi ym manyleb yr unigolyn fel arfer (y rhestr o ofynion ar gyfer rôl, wedi’u rhannu’n feini prawf hanfodol a dymunol fel arfer). Datblygwch enghreifftiau penodol o ble rydych wedi dangos sgil neu rinwedd arbennig – nid yw’n ddigon dweud bod gennych chi rai!

Bydd cwblhau ymarfer hunanasesu fel yr un isod yn eich helpu i nodi’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rôl a’r enghraifft benodol o’ch profiadau y gallwch ei defnyddio i ddangos tystiolaeth ohonynt:

Hunanasesu

Sgil Enghraifft Maes
  • Sgiliau dadansoddol
  • Sgiliau ymchwil
Prosiect ymchwil grŵp ar gyfer
modiwl yn yr ail flwyddyn.
Prifysgol
  • Datrys problemau
  • Mentergarwch
Profiad gwaith
  • Gweithio mewn tîm
  • Gweithio o dan bwysau
Swydd ran-amser
  • Sgiliau trafod
  • Arweinyddiaeth
Gwirfoddoli / Allgyrsiol

Treuliwch ychydig o amser yn darllen y ffurflen gais yn drylwyr er mwyn i chi ddeall yr hyn sy'n ofynnol ym mhob adran. Mae'r rhan fwyaf o ffurflenni cais hefyd yn pennu uchafswm penodol o eiriau neu nodau ar gyfer pob cwestiwn felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r rhain cyn i chi ddechrau paratoi'ch atebion drafft! Efallai y bydd angen copi o'ch trawsysgrifiad (eich cofnod addysg) neu dystysgrif gradd arnoch hefyd – fel arfer gallwch ofyn am y rhain trwy swyddfa eich Ysgol neu adran y Gofrestrfa. Yn olaf, gwnewch nodyn o'r dyddiad cau a chaniatáu digon o amser i weithio ar eich cais.

Mae’n gyffredin i gyflogwyr ofyn am fanylion eich canolwyr (pobl sy’n gallu rhoi geirda am eich addasrwydd) ar ffurflen gais ar-lein, ond efallai mai dim ond yn ddiweddarach yn y broses y byddant yn gofyn amdanynt. Gwnewch yn siŵr bob amser eich bod wedi gofyn i'ch canolwyr ymlaen llaw a ydynt yn hapus i ni gysylltu â nhw i gael geirda ar eich cyfer.

Mae'n syniad da drafftio atebion eich cais yn Word er mwyn i chi allu golygu a monitro nifer y geiriau yn hawdd, yn ogystal â gwirio sillafu a gramadeg. Pan fyddwch chi'n dechrau, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod a oes angen i chi gwblhau'r cais cyfan ar yr un pryd neu a allwch chi gadw eich cynnydd, mewngofnodi eto a gorffen llenwi eich ffurflen gais yn ddiweddarach.

Y newyddion da yw y bydd yr amser a dreuliwch yn paratoi ar gyfer eich ffurflen gais yn dod yn ddefnyddiol ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol! Bydd angen i'ch atebion fod yn benodol i bob rôl a sefydliad, ond mae'n werth cadw copi o'ch holl geisiadau wedi'u cwblhau er mwyn i chi allu addasu enghreifftiau i'w defnyddio eto yn y dyfodol – gan gofio’r teilwra angenrheidiol wrth gwrs!

Mathau cyffredin o gwestiynau a sut i fynd ati i’w hateb

Mae sawl math o gwestiynau’n cael eu gofyn yn gyffredin ar ffurflenni cais (mae llawer ohonynt yn cael eu gofyn mewn cyfweliad hefyd):

Os ydych chi’n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni’n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn ffenestr ar wahân.

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach: