Skip to main content

Profion seicometrig

Dysgu am yr amrywiaeth o brofion seicometrig y mae recriwtwyr yn eu defnyddio a sut i baratoi ar eu cyfer.

Mae profion seicometrig yn asesiadau y mae cyflogwyr yn eu defnyddio’n bennaf i fesur naill ai sgil, tueddfryd neu allu penodol (mwy nag un yn aml) neu eich personoliaeth (pa mor dda rydych yn cyd-fynd â’u sefydliad a’r math o ymgeisydd maent yn chwilio amdano).

Cyflogwyr graddedigion mawr sy’n defnyddio profion seicometrig fel arfer, a hynny yn gynnar yn y broses recriwtio, felly rydych yn annhebygol o ddod ar eu traws os ydych yn gwneud cais i weithio i elusen neu fusnes bach neu ganolig (BBaCh). Adroddodd y Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr yn 2023 fod y rhan fwyaf o recriwtwyr mawr (67%) yn defnyddio profion seicometrig a bydd y rhan fwyaf ohonynt (54%) yn eu defnyddio fel cam cyntaf yr asesiad. Mae hyn yn helpu i sgrinio niferoedd mawr o ymgeiswyr ar gyfer cam nesaf y broses recriwtio.

Mathau o brofion seicometrig

Mae gwahanol fathau o brofion seicometrig, a’r mwyaf poblogaidd ymhlith cyflogwyr graddedig yw rhesymu rhifiadol, profion craffter mewn sefyllfaoedd a rhesymu beirniadol a rhesymegol (ISE, 2023). Dysgwch am y mathau mwyaf poblogaidd o brofion seicometrig isod:

Mae rhesymu rhifyddol yn profi sgiliau mathemateg ymgeiswyr, eu gallu i ddadansoddi a dehongli data o graffiau a siartiau, yn ogystal â chanfod patrymau mewn dilyniannau rhifiadol. Gellid gofyn i chi hefyd wneud rhifyddeg pen (er enghraifft adio, tynnu, lluosi a rhannu). Darllenwch ganllawiau Prospects i brofion rhesymu rhifyddol.

Profwch eich sgiliau rhesymu rhifyddol ar ein platfform Graduates First (mynediad am ddim fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd).

Mae ymresymu llafar yn gwerthuso gallu'r ymgeiswyr i ddeall, hynny yw, pa mor dda mae’n gallu deall testun ysgrifenedig a dod i gasgliadau rhesymegol ohono. Fel arfer, cyflwynir darn o destun (neu weithiau sawl darn) i chi a gofynnir i chi raddio datganiadau am y testun naill ai'n gywir, yn anghywir neu nad yw’n bosibl i chi ddweud o'r testun.

Profwch eich sgiliau ymresymu llafar ar ein platfform Graduates First (mynediad am ddim fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd).

Mae craffter mewn sefyllfaoedd yn asesu ymddygiad ymgeiswyr mewn senarios yn y gweithle. Cyflwynir sefyllfa waith i chi a gofynnir i chi sut byddech chi'n ymateb orau – mae hyn fel arfer yn golygu gosod amrywiaeth o ymatebion yn nhrefn priodoldeb. Er nad yw'n brawf seicometrig, mae her Crisis Point: A Day in A+E yn profi eich craffter dan bwysau!

I brofi eich craffter mewn sefyllfaoedd ymhellach, yn ogystal â’ch sgiliau rhesymegol, crynhoi a gofodol, ewch i’n platfform Graduates First (mynediad am ddim fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd).

Cofiwch ei bod yn bwysig ateb y cwestiynau hyn yn onest. Mae'n syniad da ymchwilio i'r cyflogwr a'i werthoedd ymlaen llaw i ddeall sut gall ddisgwyl i weithwyr ymddwyn mewn sefyllfaoedd penodol. Fodd bynnag, gallai ateb mewn ffordd y credwch y mae’r cyflogwr yn ei disgwyl, ac nid sut byddech yn dewis ymateb yn y sefyllfa honno, guddio gwrthdaro sylfaenol mewn gwerthoedd neu ymddygiad a allai olygu nad yw’r sefydliad penodol hwn yn addas ar eich cyfer chi.

Mae'r mathau hyn o brofion seicometrig yn teimlo fel eich bod chi'n chwarae gêm ar-lein, fel y mae’r enw yn ei awgrymu. Bydd tasg neu genhadaeth benodol i chi weithio trwyddi, yn hytrach nag ateb cwestiynau un ar ôl y llall. Nid oes angen i chi fod yn chwaraewr gemau ond dylech gymryd y prawf o ddifrif a dilyn ein cyngor ar baratoi isod. Darllenwch ganllawiau TargetJob i asesiadau seiliedig ar gemau.

Ceisiwch ymarfer rhai asesiadau seiliedig ar gemau trwy Graduates First (mynediad am ddim fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd).

Mae profion personoliaeth yn gwirio eich bod yn addas ar gyfer y rôl a'r sefydliad. Fel arfer, gofynnir i chi gytuno neu anghytuno (ar raddfa fel arfer) â chyfres o ddatganiadau i ddeall yn well beth yw eich dewisiadau gwaith a pha amgylchedd gwaith a thasgau a allai fod yn fwyaf addas i'ch personoliaeth. Gallech gael datganiadau fel 'Mae'n well gen i weithio ar fy mhen fy hun yn hytrach na gydag eraill' neu 'Rwy'n hoffi gweithio ar un prosiect cyn i mi ddechrau ar yr un nesaf'. Nid oes atebion cywir nac anghywir - dylech ymddiried yn eich greddf ac ateb cwestiynau yn onest.

Er mwyn ymgyfarwyddo â phrofion personoliaeth, rhowch gynnig ar Holiadur Personoliaeth Gwaith trwy Graduates First (mynediad am ddim fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd) a/neu’r Holiadur 16 Math o Bersonoliaeth.

 

Profion seicometrig disgybl-benodol 

Efallai y bydd angen profion seicometrig ar gyfer rhai mathau o gyrsiau neu mewn rhai proffesiynau, er enghraifft UCAT neu GAMSAT ar gyfer cyrsiau meddygaeth neu ddeintyddol (gan gynnwys mynediad i raddedigion) neu brawf meddwl yn feirniadol Watson Glaser, a ddefnyddir yn gyffredin ym maes y gyfraith.

Sut i baratoi ar gyfer profion seicometrig

Mae’n haws paratoi ar gyfer rhai profion seicometrig nag eraill. Er enghraifft, mae’n anodd iawn paratoi ar gyfer prawf personoliaeth – nid oes ateb cywir neu anghywir o reidrwydd; yn hytrach mae cyflogwyr yn chwilio am y rhai sy’n fwyaf addas ar gyfer y rôl a’u sefydliad. Fodd bynnag, gallwch wella eich sgiliau rhesymu rhifyddol – gallwch adolygu eich sgiliau Mathemateg TGAU (yr arholiadau y mae disgyblion 16 oed yn eu sefyll yn y DU a’r lefel a ddefnyddir fel arfer mewn profion seicometrig) ar wefan BBC Bitesize.

Paratowch ar gyfer profion seicometrig trwy:

  • Ymarfer – dewch mor gyfarwydd â phosibl â’r profion seicometrig y mae angen i chi eu cymryd, gan ddefnyddio’r gwefannau a restrir isod. Cofiwch fod profion seicometrig bron bob amser wedi’u hamseru, felly dylech ymarfer cymryd profion wedi’u hamseru o dan bwysau o’r un math y gofynnwyd i chi eu cwblhau
  • Deall gofynion pob prawf penodol – darllenwch gyfarwyddiadau’r cyflogwr yn ofalus ac, yn enwedig ar gyfer profion rhesymu, atebwch gwestiynau sy’n seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd i chi yn unig, nid ar unrhyw wybodaeth flaenorol o’r pwnc
  • Myfyrio ar eich personoliaeth, eich sgiliau a’ch cryfderau ac ateb yn onest – bydd dod i’r arfer â myfyrio ar eich rhinweddau, eich sgiliau a’ch cryfderau yn eich helpu gyda phrofion personoliaeth – tarwch olwg ar ein cyngor ar ddatblygu hunanymwybyddiaeth
  • Cael yr amgylchedd yn iawn – sefyll profion seicometrig o dan yr amodau priodol – yn dawel heb unrhyw ymyrraeth a gyda chysylltiad rhyngrwyd sefydlog

Os oes gennych anabledd, mae’n syniad da meddwl pa addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch er mwyn gwneud yn dda mewn prawf seicometrig. Gallai gofyn i’r cyflogwr am addasiadau ar y cam hwn olygu’r gwahaniaeth rhwng parhau yn y broses recriwtio neu beidio. Cofiwch y gallwch siarad yn gyfrinachol â Chynghorydd Gyrfa ynghylch sut i ofyn am addasiadau mewn apwyntiad gyrfaoedd. Trefnwch apwyntiad trwy eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr. Gallwch hefyd gael mynediad at ein cyngor cyflogadwyedd manylach ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.

Safleoedd ymarfer

  • Graduates First –  mynediad am ddim fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio’r dudalen â bathodyn y brifysgol neu ni fyddwch chi’n gallu cael mynediad i’r profion ymarfer. Mae gan Graduates First gyngor cynhwysfawr ar wahanol fathau o brofion seicometrig, llawer o brofion ymarfer i chi roi cynnig arnynt a chanllawiau manwl ar brosesau recriwtio ar gyfer llawer o gyflogwyr graddedig mawr
  • AssessmentDay – nid oes angen i chi dalu am unrhyw un o’r profion. Dewiswch y fersiwn am ddim o’r prawf penodol rydych am roi cynnig arno
  • Practice Aptitude Tests – amrywiaeth o brofion seicometrig am ddim
  • Psychometric Tests – adnodd wedi’i greu gan brifysgolion a myfyrwyr ymchwil yn y DU, sy’n cynnwys profion am ddim
  • Saville Assessment – profion seicometrig am ddim

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:

  • Os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, defnyddiwch eich mynediad i blatfform Graduates First i ymarfer (a chael adborth ar) amrywiaeth eang o brofion seicometrig
  • Erthygl Prospects ar brofion seicometrig
  • Canllawiau TargetJobs i brofion seicometrig