Skip to main content

Datblygu Priodoledd i Raddedigion

Dysgwch am 6 sgìl a rhinwedd allweddol rydych chi'n eu datblygu tra byddwch ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r Rhinweddau Graddedigion yn set o nodweddion a phriodoleddau trosglwyddadwy y mae Prifysgol Caerdydd wedi’u datblygu mewn partneriaeth â myfyrwyr, academyddion a chyflogwyr. Mae darparu cyfleoedd i ddatblygu’r rhinweddau hyn y mae galw mawr amdanynt yn cael ei ymgorffori ym mhrofiad y myfyrwyr, trwy ddysgu ac addysgu ar eich cwrs a thrwy’r amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau allgyrsiol sydd ar gael. Trwy ddatblygu’r rhinweddau, byddwch yn cynyddu eich siawns o sicrhau cyflogaeth ar lefel graddedigion fel dinasyddion byd-eang ag ymwybyddiaeth gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Rhinweddau Graddedigion Prifysgol Caerdydd yw:

Cyflwyno’r Rhinweddau Graddedigion:

Plymio’n ddyfnach i’r Rhinweddau Graddedigion:

Er mwyn dangos y rinweddau hon, dylech allu:

  • Cyfrannu’n gadarnhaol ac yn effeithiol wrth weithio mewn tîm, ac yn gwneud gwahaniaeth o’r dechrau.
  • Dangos brwdfrydedd, a’r gallu i ysgogi eu hunain a dylanwadu’n gadarnhaol ar eraill trwy gyfrifoldebau a gytunwyd arnynt mewn cyfarfod.
  • Dangos parch at swyddogaethau’r lleill a chydnabod cyfyngiadau eu sgiliau a profiad.

Sut y bydd sgiliau cydweithredol yn cefnogi datblygiad eich gyrfa:

  • Ceir cyfle i ragori mewn ceisiadau ac mewn cyfweliadau trwy rannu enghreifftiau o waith tîm effeithiol o'ch profiadau academaidd neu brofiadau gwaith.
  • Gallwch hoelio sylw mewn ymarferion grŵp mewn canolfannau asesu drwy gymryd rhan weithredol yn y drafodaeth, annog eraill i gyfrannu ac effeithio'n gadarnhaol ar ddeinamig y tîm.
  • Gallwch gofleidio meddylfryd sy'n canolbwyntio ar dîm a chydnabod sut mae’ch cymheiriaid a’ch cydweithwyr yn dod â'u sgiliau, cryfderau a'u profiadau eu hunain - priodoledd gwerthfawr iawn yn y rhan fwyaf o weithleoedd.
  • Rhowch enghreifftiau mewn ffurflenni cais ac mewn cyfweliad o ddylanwadu'n gadarnhaol ar eraill i gyflawni cyfrifoldebau, gan arddangos eich sgiliau arwain.
  • Gallwch ofyn am gefnogaeth gan eraill a gwerthfawrogi gwerth rhwydwaith proffesiynol estynedig i wella eich datblygiad gyrfa.

Ffyrdd o ddatblygu eich sgiliau cydweithredol yn y brifysgol:

Er mwyn dangos y rinweddau hon, dylech allu:

  • Gwrando ar eraill ac ystyried eu safbwyntiau.
  • Cyfathrebu syniadau cymhleth yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol.
  • Cyfrannu at drafodaethau, negodi a chyflwyno’n effeithiol.
  • Cyflwyno, derbyn a gweithredu ar adborth adeiladol.
  • Cyfathrebu’n broffesiynol, gan gynnwys drwy eu proffiliau ar-lein a’u proffiliau cyfryngau cymdeithasol, a bod yn ymwybodol o sut y gallai eraill ddehongli geiriau a gweithredoedd.

Pa mor effeithiol y bydd sgiliau cyfathrebu yn cefnogi datblygiad eich gyrfa:

  • Gwnewch argraff yn y cyfweliad trwy fynegi eich cryfderau, eich addasrwydd a'ch diddordeb yn y rôl.
  • Datblygwch eich sgiliau trafod a darbwyllo i'w defnyddio mewn llawer o rolau sy'n wynebu cwsmeriaid neu gleientiaid.
  • Addaswch eich sgiliau cyfathrebu rhagorol i weddu i'r gynulleidfa, sy’n sgil bwysig i lawer o weithleoedd lle efallai y byddwch yn gweithio gyda gwahanol grwpiau o bobl gan gynnwys cydweithwyr, rheolwyr, rhanddeiliaid mewnol ac allanol a chwsmeriaid neu gleientiaid.
  • Cyfathrebwch yn broffesiynol trwy blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol fel LinkedIn i dyfu eich rhwydwaith.
  • Dangoswch eich addasrwydd ar gyfer swyddi arweinyddiaeth a rheoli – mae cyfathrebu'n allweddol i feithrin ymddiriedaeth ac annog cydweithio tuag at nodau cyffredin.

Sut allwch chi ddod yn gyfathrebwr mwy effeithiol?

Er mwyn dangos y rinweddau hon, dylech allu:

  • Ystyried eu cyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol personol a phroffesiynol.
  • Dangos uniondeb, dibynadwyedd a chymhwysedd personol a phroffesiynol.
  • Deall sefydliadau, eu rhanddeiliaid, a'u heffaith ar y gymuned.
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb ymarferol am hyrwyddo hawliau dynol, dathlu amrywiaeth ac ehangu cynhwysiant.
  • Cofio am Argyfwng yr Hinsawdd a Nodau Cynaliadwy’r CU.
  • Bod yn ddinasyddion byd-eang, gan ymgysylltu a gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol trwy gael profiad ymarferol mewn gwledydd eraill.

Sut y bydd bod yn ymwybodol o ran moesegol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol yn cefnogi datblygiad eich gyrfa:

  • Nodwch eich gwerthoedd personol a phroffesiynol a gwnewch benderfyniadau gyrfaol sy'n cyd-fynd orau â'r rhain, gan gynnwys y gwaith rydych chi'n ei wneud a'r sefydliadau rydych chi'n gweithio iddynt.
  • Gallwch ennill boddhad personol a phroffesiynol o'r gwaith rydych chi'n ei wneud a'i effaith ehangach.
  • Ymchwiliwch i ymrwymiad cyflogwyr i achosion moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol a dangoswch yr ymchwil hon mewn cyfweliad ac mewn ceisiadau.

Sut allwch chi ddatblygu eich ymwybyddiaeth foesegol, gymdeithasol ac amgylcheddol?

Er mwyn dangos y rinweddau hon, dylech allu:

  • Nodi, diffinio a dadansoddi materion a syniadau cymhleth, gan arfer barn feirniadol wrth werthuso ffynonellau gwybodaeth.
  • Arddangos chwilfrydedd deallusol a cheisio meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth.
  • Ymchwilio i broblemau a chynnig datrysiadau effeithiol, myfyrio a dysgu o lwyddiannau a methiannau.

Sut y bydd meddwl annibynnol a beirniadol yn cefnogi eich datblygiad gyrfa:

  • Gallwch ddatblygu eich ymwybyddiaeth fasnachol drwy gynnal ymchwil drylwyr i'ch sector a'i heriau i ddangos eich bod yn gallu dadansoddi problemau a rhagweld heriau'r dyfodol.
  • Cewch ymgysylltu a buddsoddi amser ac ymdrech mewn dysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol parhaus drwy wella eich sgiliau, gwybodaeth a'ch cyflogadwyedd.
  • Mabwysiadwch feddylfryd twf - myfyriwch yn feirniadol ar fethiannau a llwyddiannau yn y gorffennol i fireinio a datblygu eich dull eich hun o ddatrys problemau.
  • Cewch ddangos eich gallu i wneud penderfyniadau annibynnol, gwybodus ac effeithiol i gyflogwyr a mynegi sut rydych yn archwilio problemau mewn ceisiadau ac mewn cyfweliad.
  • Defnyddiwch chwilfrydedd, amlochredd a gallu i addasu, sydd i gyd yn sgiliau rheoli gyrfa pwysig, wrth ddilyn cyfleoedd gyrfa newydd, efallai mewn gwahanol feysydd, sectorau neu ddiwydiannau.

Sut allwch chi ddatblygu eich ymwybyddiaeth foesegol, gymdeithasol ac amgylcheddol?

Er mwyn dangos y rinweddau hon, dylech allu:

  • Creu syniadau gwreiddiol a defnyddio dull creadigol, llawn dychymyg a dyfeisgar o feddwl wrth ymateb i anghenion a phroblemau.
  • Cymryd yr awenau wrth weithredu ar eu syniadau eu hunain a syniadau eraill, cydbwyso’r risgiau a’r canlyniadau posib a gwneud i bethau ddigwydd.
  • Bod yn hyderus wrth ddilyn llwybr gyrfa hyfyw a gwobrwyol mewn entrepreneuriaeth.
  • Deall sefydliadau, eu rhanddeiliaid, a'u heffaith ar yr economi.

Sut y bydd bod yn arloesol, yn fentrus ac yn fasnachol ymwybodol yn cefnogi datblygiad eich gyrfa:

  • Cewch hoelio sylw cyflogwyr trwy ddangos eich gallu i feddwl yn arloesol, gan ychwanegu gwerth sylweddol at ddiwydiannau sy'n blaenoriaethu aros ar y blaen.
  • Cewch fod yn fòs arnoch chi eich hun trwy ddatblygu eich syniadau arloesol yn egin fusnes llwyddiannus neu yrfa llawrydd.
  • Mewn cyfweliad ac mewn ceisiadau, dangoswch enghreifftiau o adegau y gwnaethoch weithredu o'ch pen a'ch pastwn eich hun a dangos potensial arweinyddiaeth, gan droi eich syniadau eich hun neu syniadau pobl eraill yn gamau cadarnhaol.
  • Cymhwyswch ymwybyddiaeth fasnachol gref, eich gwybodaeth am sefydliadau a thueddiadau ehangach yn y diwydiant, i'ch penderfyniadau gyrfaol a mynegi hyn i gyflogwyr yn ystod prosesau recriwtio i hoelio eu sylw.
  • Defnyddiwch eich dychymyg a'ch creadigrwydd i nodi ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau, anghenion neu fylchau yn y diwydiant o'ch dewis, gan greu argraff ar gyflogwyr gyda'ch meddwl arloesol a'ch gwybodaeth am eich sector.

Sut allwch chi fod yn fwy arloesol, mentrus ac yn fasnachol ymwybodol?

Er mwyn dangos y rinweddau hon, dylech allu:

  • Mynd ati’n bwrpasol i fyfyrio ar eu hastudiaethau, eu cyflawniadau a’u hunaniaeth.
  • Yn dangos gwytnwch, hyblygrwydd a chreadigrwydd i ddelio â heriau, ac yn barod i dderbyn newid.
  • Adnabod a chyfleu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth eu hunain yn hyderus ac mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
  • Ystyried syniadau, cyfleoedd a thechnolegau newydd, gan adeiladu ar wybodaeth a phrofiad i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol eu hunain.
  • Gosod nodau uchelgeisiol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol parhaus, cynllunio’n effeithiol ac ymroi i ddysgu gydol oes.

Sut y bydd bod yn fyfyriol a gwydn yn cefnogi datblygiad eich gyrfa:

  • Treuliwch amser yn meddwl yn rheolaidd am eich astudiaethau a'ch cyflawniadau, gan ddangos eich dealltwriaeth o'ch cryfderau, eich cymhellion a'ch meysydd ar gyfer twf. Bydd hyn yn helpu i lywio penderfyniadau a wnewch am eich gyrfa, a gofynnir i chi am y rhain mewn ceisiadau ac mewn cyfweliad.
  • Paratowch ar gyfer cyfweliadau trwy fyfyrio yn weithredol ar eich profiadau, a fydd yn eich helpu i ddeall eich hunaniaeth broffesiynol ac yn eich galluogi i gyfleu’n glir yr hyn sy'n eich gwneud chi'n unigryw i ddarpar gyflogwyr.
  • Mynegwch eich ymrwymiad i welliant parhaus trwy ddysgu pethau newydd yn rhagweithiol, cadw cofnod o unrhyw gyrsiau, gweithdai, hyfforddiant neu ddigwyddiadau ychwanegol rydych wedi mynd iddynt fel y gallwch eu trafod mewn ceisiadau ac mewn cyfweliad.
  • Dylech gydnabod sut y gellir datblygu gwydnwch dros amser a myfyrio ar sut rydych chi wedi datblygu'ch gwydnwch chi eisoes trwy oresgyn heriau a throeon anffodus – gallai cyflogwyr ofyn i chi am hyn mewn ceisiadau ac mewn cyfweliad.
  • Eglurwch eich nodau, eich dyheadau a'r hyn sy'n bwysig i'ch gyrfa eich hun trwy hunan-fyfyrio (siaradwch â Chynghorydd Gyrfaoedd os yw hyn yn anodd ichi ei wneud ar eich pen eich hun) i wella eich hyder o ran eich datblygiad gyrfaol eich hun a gwnewch benderfyniadau sy'n cyd-fynd orau â'r rhain.

Ffyrdd o ddod yn fwy myfyriol a gwydn yn y brifysgol: