Skip to main content

Defnyddio AI yn natblygiad eich gyrfa

Deall sut i ddefnyddio AI yn effeithiol yn natblygiad eich gyrfa, gan gydnabod ei gyfyngiadau ar yr un pryd.

Mae’r twf diweddar mewn deallusrwydd artiffisial (AI) wedi cael effaith sylweddol ar fyd gwaith, swyddi a’r sgiliau sydd eu hangen arnom i reoli ein gyrfa yn yr oes dechnolegol newydd hon. Mae sgiliau digidol yn dod yn fwyfwy pwysig, fel y mae sgiliau rhyngbersonol a’r deallusrwydd emosiynol sy’n ofynnol i ddefnyddio AI mewn modd sensitif. Er bod modd i AI newid natur swyddi, ac y bydd yn gwneud hynny, yn enwedig wrth awtomeiddio tasgau mwy arferol neu ailadroddus, mae’r elfen ddynol yn dal i fod yn hanfodol ac mae AI ond megis dechrau, gyda chyfyngiadau clir ar ei gywirdeb a’i ddefnydd posibl. Fodd bynnag, gall offer AI fel ChatGPT chwarae rhan ddefnyddiol nid yn unig yn eich datblygiad gyrfaol ond hefyd yn eich bywyd gwaith yn y dyfodol; y cyfan y mae angen i chi ei wybod yw sut i’w defnyddio’n effeithiol ac yn foesegol.

Beth ydym yn ei olygu wrth AI?

Mae AI yn cyfeirio at ddeallusrwydd peiriannau, fel arfer mewn perthynas â’u gallu i efelychu prosesau dynol, er enghraifft meddwl, syntheseiddio, dysgu. Bydd yr adran hon yn canolbwyntio ar ffurf benodol o AI – sef AI cynhyrchiol. Mae AI cynhyrchiol fel arfer yn cyfeirio at feddalwedd sy’n gallu cynhyrchu a chreu cynnwys ei hun – efallai eich bod wedi clywed am offer AI cynhyrchiol poblogaidd fel ChatGPT, BingAI a Claude.

Sut gall AI helpu gyda fy natblygiad gyrfaol?

Gall modelau AI cynhyrchiol fel ChatGPT eich helpu gyda’ch datblygiad gyrfaol mewn dwy brif ffordd:

1. Ymchwilio i swyddi – Gall AI grynhoi a chyflwyno gwybodaeth bwysig i chi yn ymwneud ag archwilio gyrfaoedd, a hynny’n gyflymdadansoddi’r farchnad swyddi ac awgrymiadau o ran llwybrau dysgu Er enghraifft, efallai y byddwch yn gofyn cwestiwn ysgogi canlynol i ChatGPT:

Rwy’n awyddus i archwilio fy newisiadau gyrfa ac mae angen arweiniad arnaf. Mae gen i radd mewn [mewnosod gradd], gyda [rhestrwch eich profiad neu ‘dim profiad perthnasol’]. Mae fy sgiliau allweddol yn cynnwys [Rhestr o’r Sgiliau Perthnasol] a chredaf mai fy nghryfderau yw [cynnwys cryfderau]. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn [Meysydd o Ddiddordeb neu Deitlau Swyddi Penodol]. Yn ogystal, mae’n well gen i [Unrhyw Ddewisiadau, megis Diwydiant, Amgylchedd Gwaith, Lleoliad, Cyflog]. Allwch chi awgrymu llwybrau gyrfa addas i mi a rhoi rhywfaint o fewnwelediadau i’r hyn y mae’r gyrfaoedd hyn yn gofyn amdano? Gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd eu hangen arnoch i gwblhau’r dasg hon hyd eithaf eich gallu.

2. Gwella’ch ceisiadau – Gall AI wella eich CV, eich llythyr eglurhaol, atebion ffurflen gais neu’ch proffil LinkedIn. Gallai hyd yn oed eich helpu i ragweld cwestiynau a ofynnir ichi efallai mewn cyfweliad sydd ar ddod! Er y gall AI wella’ch ceisiadau, gall hefyd eu rhwystro o ddifrif, yn enwedig os nad ydych yn addasu neu’n bersonoli cynnwys a gynhyrchir gan AI.

Sut i ddefnyddio AI yn effeithiol

Er ein bod wedi amlinellu dwy ffordd y gall AI gefnogi eich gyrfa, mae’n bwysig bod AI yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol ac yn foesegol. Rydym yn argymell ystyried offer AI fel ChatGPT fel cynorthwyydd gyrfaoedd. Yr hyn y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol yw na all – ac na ddylai – wneud yr holl waith drosoch chi, ond gall eich helpu i grynhoi, egluro a mireinio.

Beth allai fynd o’i le?

Wel, cryn dipyn! Gan fod AI yn faes sy’n esblygu’n aruthrol, nid yw’r risgiau a’r cyfyngiadau llawn o’i ddefnyddio eto yn gwbl hysbys. Yr hyn rydyn ni’n ei wybod am AI serch hynny yw’r canlynol:

  • Nid yw bob amser yn gywir – ni allwch ddibynnu’n llwyr ar yr hyn y mae model fel ChatGPT yn ei greu.
  • Mae diffyg personoliaeth a dilysrwydd ganddo – mae cyflogwyr yn ei chael hi’n haws nodi ceisiadau sydd wedi cael eu hysgrifennu gan ddefnyddio AI, ac mae rhai yn gwrthod y ceisiadau hyn ar unwaith o ganlyniad.
  • Mae’n rhagfarnllyd weithiau – peidiwch â chymryd yn ganiataol bod cynnwys a gynhyrchir gan AI yn rhydd o ragfarn. Byddwch yn feirniadol gyda’r cynnwys rydych chi’n ei dderbyn a dadansoddwch ei ddilysrwydd a’i niwtraledd.

Mae pryderon cynyddol hefyd am gyfrinachedd a diogelu data o fewn modelau AI cynhyrchiol, felly byddwch yn ofalus iawn ynghylch pa wybodaeth rydych chi’n ei darparu.

Dysgwch sut i ofyn cwestiynau ysgogi

Gyda chyfyngiadau modelau fel ChatGPT, ni allant fod yn well na’r hyn y byddwch yn ei roi ynddynt. Gelwir y ceisiadau rydych chi’n eu gwneud i fodelau AI iddo gynhyrchu cynnwys yn ‘gwestiynau ysgogi’; po gorau’ch cwestiynau ysgogi, y mwyaf perthnasol a defnyddiol fydd y cynnwys. Gydag unrhyw gwestiwn ysgogi rydych chi’n ei roi i AI, gwnewch yn siŵr ei fod mor benodol ag y gall fod a’i fod yn darparu cyd-destun defnyddiol i’r model AI deilwra ei ymateb.

Rydym yn argymell dilyn yr acronym CLEAR isod wrth ofyn i unrhyw fodel AI adolygu neu gynhyrchu cynnwys i chi:

Cyd-destun
Rhowch gyd-destun neu gefndir clir i’r cwestiwn, fel bod modd i’r deallusrwydd artiffisial ddeall y sefyllfa neu’r pwnc.
Terfyn
Gosodwch gwmpas neu derfyn i’r ymateb (e.e. hyd yr ymateb rydych yn dymuno ei gael).
Ymhelaethu
Sicrhewch eich bod yn cynnwys atebion manwl a phenodol o’r hyn sydd angen ei gynnwys/ystyried. Bydd hyn yn hwyluso’r deallusrwydd artiffisial i gynnig ymateb mwy effeithiol ac addas.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nodwch unrhyw wybodaeth ychwanegol y dylai’r deallusrwydd artiffisial ei hystyried wrth gynhyrchu ymateb.
Myfyrio
Mae’n syniad awgrymu iddo ofyn cwestiynau am ragor o wybodaeth gennych bob amser er mwyn iddo gwblhau’r dasg hyd eithaf ei allu.

Isod fe welwch enghraifft o sut i ddefnyddio’r acronym hwn i wella’ch CV mewn offeryn AI cynhyrchiol:

Cyd-destun
Rwy’n cyflwyno cais am rôl (teitl y rôl) yn (cwmni). Tarwch olwg dros strwythur, iaith a gramadeg fy CV, a’i berthnasedd i rôl y swydd a rhoi awgrymiadau ar sut i deilwra fy sgiliau a’m mhrofiad i’r swydd ddisgrifiad.
Terfyn
Dim mwy na 2 dudalen A4 yn cynnwys ffont maint 11.
Ymhelaethu
Wrth edrych ar gynnwys y wefan a siarad â gweithwyr cyfredol, mae’r cwmni’n debygol o gyflogi’r rhai sydd â (rhowch y gwerthoedd) a (rhowch y sgiliau).
Gwybodaeth ychwanegol
Dyma’r swydd ddisgrifiad: *mewnosod y disgrifiad swydd*, dyma fy CV cyfredol: *mewnosod y CV*.
Myfyrio
Gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd eu hangen arnoch i gwblhau’r dasg hon hyd eithaf eich gallu.

Awgrymiadau gwych ar gyfer defnyddio AI

  • Byddwch yn benodol – defnyddiwch gwestiynau ysgogi penodol iawn â ffocws i deilwra’r ymateb rydych chi’n ei gael.
  • Byddwch yn feirniadol – dylech ddadansoddi a gwirio unrhyw gynnwys a gynhyrchir gan AI am gywirdeb a rhagfarn.
  • Byddwch yn onest – addaswch gynnwys a gynhyrchir gan AI a’i ddefnyddio i’ch helpu i wella’ch gwaith eich hun; peidiwch â chyflwyno cynnwys a gynhyrchir gan AI yn gyfan gwbl fel eich gwaith eich hun! Nid yn unig y mae hyn yn anfoesegol ond mae hefyd yn risg – gall cyflogwyr ddweud yn syth pan fydd rhywbeth wedi’i gynhyrchu gan fodel fel ChatGPT, felly mae’n bwysig eich bod yn ei ddefnyddio fel ysbrydoliaeth a’i addasu i weddu i’ch arddull eich hun.
  • Byddwch yn bersonol – ychwanegwch yr elfen bersonol at unrhyw beth rydych chi wedi gofyn i offeryn AI ei greu. Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn defnyddio recriwtio ar sail gwerthoedd; er enghraifft, lle mae’n bwysig iawn iddynt weld tystiolaeth yn eich cais o sut a pham mae eu gwerthoedd yn bwysig i chi. Ni waeth faint o wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i mewn i AI, nid yw’n eich adnabod chi, eich diddordebau a’ch gwerthoedd. Peidiwch â thanamcangyfrif pa mor bwysig yw’r elfen bersonol hon i’ch ceisiadau!

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:

  • Mae gan FutureLearn ganllaw defnyddiol ar ddiogelu eich gyrfa at  y dyfodol yn oes AI
  • Adroddiad gan Demos a Richard Brown ym Mhrifysgol Llundain am sut y gall prifysgolion baratoi myfyrwyr y genhedlaeth AI ar gyfer y byd sy'n newid
  • Yn wir, fideo ar y 4 sgil uchaf sydd eu hangen i ategu datblygiad technolegol sy'n dod i'r amlwg
  • Trosolwg Handshake o ymchwil, erthyglau ac adroddiadau sy'n archwilio'r defnydd o AI gan fyfyrwyr a chyflogwyr.
  • Cyngor Mind Tools ar ddatblygu deallusrwydd emosiynol, sgil cyflogadwyedd allweddol sydd wedi dod yn bwysicach fyth yn y byd gwaith modern