Eich Map Ffordd ar gyfer y Dyfodol
Defnyddiwch ein map ffordd ar gyfer y dyfodol i'ch helpu i gynllunio pa gamau i'w cymryd nesaf, wedi'u teilwra i'r man lle rydych ar eich taith gyrfa.
Rydyn ni’n deall y gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau wrth ddatblygu eich gyrfa. Yn y brifysgol, mae amser yn werthfawr ac mae’n bwysig treulio’r amser sydd gennych chi mewn ffordd sy’n gweddu orau i chi a lle rydych chi ar eich llwybr gyrfaol. Dyna pam rydyn ni wedi creu’r mapiau ffordd ar gyfer y dyfodol rhyngweithiol hyn – un ar gyfer pob blwyddyn astudio israddedig ac un ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.
Gallwch ddefnyddio’r mapiau hyn i gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich datblygiad gyrfaol eich hun a nodi pa fath o weithgareddau fydd yn eich helpu chi, gan ddibynnu lle rydych chi ar eich cwrs.
- Ym Mlwyddyn 1, rydyn ni’n dychmygu y bydd myfyrwyr yn ymchwilio i’w diddordebau, eu sgiliau, syniadau ar gyfer gyrfa a’u cymhellion, yn ogystal â bywyd yn y brifysgol a’r gefnogaeth ehangach sydd ar gael
- Ym Mlwyddyn 2, rydyn ni’n dychmygu y bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd ac yn bersonol, wrth iddyn nhw gael profiad gwaith a magu hyder mewn prosesau recriwtio
- Yn eu blwyddyn olaf, rydyn ni’n dychmygu y bydd myfyrwyr yn paratoi ar gyfer yr hyn sydd nesaf ac yn gwneud ceisiadau ar gyfer swyddi i raddedigion, cynlluniau neu gyrsiau ôl-raddedig
- Mae gennyn ni fap ffordd ar gyfer y dyfodol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ar gwrs blwyddyn
Gallwch chi siarad â Chynghorydd Gyrfaoedd ar unrhyw adeg i’ch helpu gyda’ch llwybr gyrfaol – trefnwch apwyntiad drwy eich cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.
Lawrlwythwch fersiwn PDF o'r map hwn i gael mynediad i'r rhestr wirio ryngweithiol a'r hypergysylltiadau.