Skip to main content

Datblygu ymwybyddi aeth fasnachol

Dylech wybod sut i ymchwilio i gyflogwyr, sectorau a thueddiadau byd-eang a’u dadansoddi.

Yn aml, mae ymwybyddiaeth fasnachol yn un o’r termau hynny y mae myfyrwyr wedi clywed amdanynt, ond nid ydynt o reidrwydd yn deall yn llawn beth mae’n ei olygu. Cymerwch funud neu ddwy i feddwl am yr hyn mae’n ei olygu, yn eich tyb chi. Sut fyddech chi’n ei ddiffinio? Beth ydych chi’n meddwl y byddai angen i chi ei wneud i’w ddatblygu?

Beth yw ymwybyddiaeth fasnachol – a pham mae’n bwysig?

Yn gryno, mae ymwybyddiaeth fasnachol yn cyfeirio at eich dealltwriaeth o:

  • Sefydliadau – faint rydych chi’n ei wybod am gyflogwyr penodol.
  • Sectorau a diwydiannau – faint rydych chi’n ei wybod am y diwydiant ehangach rydych am ymuno ag ef e.e. y gyfraith, busnes, niwrowyddoniaeth.
  • Tueddiadau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol (yn genedlaethol ac yn fyd-eang) – faint rydych chi’n ei wybod yn gyffredinol am yr hyn sy’n digwydd yn y byd a sut y bydd hyn yn effeithio ar y sector/diwydiant a ddewiswyd gennych.

Efallai y byddwch hefyd yn clywed pobl yn cyfeirio ato fel ymwybyddiaeth fusnes, craffter busnes neu bod â ffocws busnes, ond mae ymwybyddiaeth fasnachol yr un mor bwysig lle bynnag rydych chi’n gweithio – o gyflogwr mawr graddedigion i elusen, y sector cyhoeddus neu hyd yn oed i chi eich hun!

Mae dwy brif ffordd y bydd bod yn fasnachol ymwybodol yn eich helpu gyda’ch datblygiad gyrfaol:
1. Cynllunio gyrfa – bydd ymchwilio i ddarpar gyflogwyr a sectorau swyddi yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch a ydynt yn addas i chi ai peidio
2. Recriwtio – bydd cyflogwyr ym mhob sector yn profi eich ymwybyddiaeth fasnachol yn ystod y broses recriwtio. Bydd dangos diddordeb ynddynt, eu sector a sut y gallai materion ehangach yn y sector effeithio arnynt yn eich helpu i hoelio sylw cyflogwyr.

Mewn gwirionedd, mae ymwybyddiaeth fasnachol yn gyfuniad o ddwy sgìl arall, sef sgiliau rydych chi’n eu datblygu drwy’r amser yn y brifysgol – sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddol. Bydd meddu ar sgiliau ymchwil gwych yn eich galluogi i feithrin eich gwybodaeth am dueddiadau a materion, ond eich sgiliau dadansoddol fydd yn y pen draw yn eich galluogi i gymhwyso’r wybodaeth hon, er enghraifft i ragweld neu ragfynegi heriau o fewn sector neu effaith tuedd sy’n dod i’r amlwg.

 

Ffyrdd o ddatblygu ymwybyddiaeth fasnachol

Weithiau, rydym yn meddwl am ymwybyddiaeth fasnachol fel rhywbeth y mae angen i chi ei ddatblygu fel rhan o’ch gwaith paratoi ar gyfer recriwtio, er enghraifft i ddangos eich diddordeb mewn ffurflen gais neu gyfweliad. I ryw raddau mae hyn yn wir– bydd llawer o’ch ymchwil i sefydliad penodol yn digwydd ar yr adeg hon. Fodd bynnag, mae datblygu eich gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn eich sector, ac yn y byd yn gyffredinol, yn llawer haws os gwnewch hyn yn raddol dros amser. Rydym yn argymell ychwanegu gweithgareddau bach at eich arferion dyddiol neu wythnosol. Ni fydd rhai o’r rhain yn cymryd mwy na phum munud ond dros amser, mae’r gweithgareddau rheolaidd hyn yn dod yn arfer, sy’n golygu eich bod bob amser yn yn gyfarwydd â’r tueddiadau diweddaraf sy’n dod i’r amlwg yn eich sector!

Defnyddiwch yr adnodd isod i nodi ffyrdd ymarferol y gallwch ddatblygu eich ymwybyddiaeth fasnachol:

Os ydych chi’n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni’n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn ffenestr ar wahân.

Sut mae ymwybyddiaeth fasnachol yn cael ei phrofi wrth recriwtio

Er bod cyflogwyr yn annhebygol o ofyn i chi yn benodol am eich ymwybyddiaeth fasnachol, byddant yn profi hyn drwy gydol amrywiol gamau yn y broses recriwtio ac yn ffurfio barn ar eich craffter busnes cyffredinol. Meddyliwch am y gwahanol ffyrdd y gallwch hoelio sylw trwy ddangos eich diddordeb a’ch dealltwriaeth o’r sefydliad rydych yn gwneud cais iddo a’r diwydiant ehangach y mae’n perthyn iddo.

I gael cyngor manwl ar sut i baratoi ar gyfer recriwtio, edrychwch ar ein hadran CVs, ceisiadau a chyfweliadau ond dyma rai awgrymiadau defnyddiol i’ch rhoi ar ben y ffordd:

Defnyddiwch eich hanes cyflogaeth a'ch profiadau yn y gorffennol i ddangos y wybodaeth a'r sgiliau sydd gennych eisoes, a fydd o ddiddordeb ac yn apelio i'r recriwtiwr.

Tynnwch sylw at unrhyw gymwysterau perthnasol rydych chi wedi'u cyflawni neu gyrsiau hyfforddi yr ydych wedi ymgymryd â nhw i ddangos eich ymrwymiad i ddysgu a datblygu yn y sector.

Gallech hefyd ddefnyddio'r adran diddordebau i dynnu sylw at y ffaith bod gennych ddiddordeb a brwdfrydedd gwirioneddol dros y math hwn o waith. Er enghraifft, gallech dynnu sylw at sut rydych wedi dod yn aelod o gyrff cofrestredig cysylltiedig (e.e. CIPD, GMC, BPS), wedi tanysgrifio i allfeydd newyddion a gwybodaeth perthnasol (e.e. cyfryngau cymdeithasol, cyfnodolion a phodlediadau) neu wedi mynd i gynadleddau a gweminarau sy'n gysylltiedig â'r sector.

Defnyddiwch y llythyr eglurhaol i adrodd eich stori a darparu naratif cymhellol o'r hyn sy'n eich cymell i fod yn awyddus i weithio yn y maes hwn. Dangoswch eich ymchwil i'r rôl, y cyflogwr a'r sector ehangach a thynnwch sylw at y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad a fydd yn argyhoeddi'r recriwtiwr bod gennych lawer i'w gynnig eisoes a'ch bod yn deilwng o gael eich symud ymlaen i gam nesaf y broses recriwtio.

Mae hwn yn gyfle euraidd i roi tystiolaeth o’ch angerdd a'ch diddordeb, felly rhowch enghreifftiau penodol o'ch cefndir personol a phroffesiynol i wneud achos unigryw ac argyhoeddiadol ynghylch pam mae gennych y cymhelliant a'r craffter busnes i fod yn llwyddiant iddyn nhw.

Yn ystod y camau ymgeisio a chyfweliad, byddwch bron yn sicr o wynebu cwestiynau sydd wedi'u cynllunio i brofi eich ymwybyddiaeth fasnachol. Mae cwestiynau cyffredin yn cynnwys:

  • Beth sydd wedi eich cymell i wneud cais am y rôl hon?
  • Beth sy'n apelio atoch am weithio i'n sefydliad?
  • Beth ydych chi'n meddwl yw rhai o'r heriau allweddol y mae ein diwydiant yn eu hwynebu?

Mae cwestiynau fel y rhain yn rhoi cyfle ardderchog i chi ddangos eich ymchwil, eich gwybodaeth a'ch brwdfrydedd. Os ydych chi wedi paratoi'n dda, byddwch chi'n teimlo'n fwy hyderus wrth gael sgyrsiau proffesiynol a chyflwyno barn a syniadau, yn hytrach nag ailchwydu ffeithiau yn unig. Heb wneud eich ymchwil, byddant yn gwestiynau anodd iawn i'w hateb yn argyhoeddiadol a gall hynny awgrymu i'r recriwtiwr nad yw eich ymwybyddiaeth fasnachol mor gryf ag y mae angen iddi fod.

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:

  • Cyngor gwefan MindTools ar ddatblygu ymwybyddiaeth fasnachol
  • Cyngor TargetJobs ar ymwybyddiaeth fasnachol
  • Cyngor RateMyPlacement – 5 ffordd o ddatblygu ymwybyddiaeth fasnachol
  • Mae Bright Network yn cynnig cyrsiau byr am ddim ar ymwybyddiaeth fasnachol (angen creu cyfrif)