Skip to main content

Rhwydweithio a chyfryngau cymdeithasol

Dewch yn feistr ar grefft rhwydweithio a chyfathrebu proffesiynol a chreu proffil LinkedIn i greu argraff ar gyflogwyr.

Mae rhwydweithio yn sgìl hanfodol y bydd ei angen arnoch i reoli’ch gyrfa yn effeithiol, ond nid yw bob amser yn hawdd gwybod ble i ddechrau. Er nad yw llawer o bobl yn mwynhau’r syniad o rwydweithio (ac yn aml yn mynd o’u ffordd i’w osgoi), does dim angen iddo fod yn frawychus! Yn ei graidd, mae rhwydweithio yn ymwneud â chyfathrebu a meithrin perthnasoedd, a byddwch eisoes yn gwneud hynny yn ddyddiol gydag ystod eang o bobl. Mae gennych rwydwaith eisoes, sy’n debygol o gynnwys teulu, ffrindiau, cymdogion, cyflogwyr a chydweithwyr, ond mae’r brifysgol yn adeg wych i fireinio’ch sgiliau rhwydweithio ac ehangu eich cysylltiadau personol a phroffesiynol.

Yr hyn sy’n gwneud rhwydweithio yn offeryn mor bwerus ar gyfer eich gyrfa yw nad ydych byth yn gwybod pwy o fewn eich rhwydwaith all eich helpu chi, na phryd. O gael cyngor, cymorth a mentora, i gael mynediad at swyddi neu brofiad gwaith, mae rhwydweithio yn dod â llawer o fanteision. Gall rhwydweithio ddigwydd drwy deulu a ffrindiau mewn sefyllfa anffurfiol yn ogystal â mwy ffurfiol megis mewn ffair yrfaoedd neu yn ystod cwrs hyfforddi neu gynhadledd. Yn fwy aml yn yr oes ddigidol, mae rhwydweithio yn digwydd ar-lein trwy’r cyfryngau cymdeithasol a LinkedIn.

Mae rhwydweithio yn seiliedig ar y cwestiwn ‘Sut alla i helpu?’, yn hytrach na ‘Beth alla i ei gael?’ a phan fyddwch chi’n meithrin cysylltiadau, mae’n bwysig meddwl sut y gallwch chi helpu pobl eraill hefyd. Mae Tupper ac Ellis yn defnyddio’r term ‘karma gyrfa’ i adlewyrchu natur ddwyochrog rhwydweithio:

Mae'n bwysig cofio mai pobl yn helpu pobl yw rhwydweithio yn y bôn... Er mwyn meithrin rhwydwaith effeithiol mae angen i chi fod yn glir am yr hyn y gallwch ei roi sy'n werthfawr i bobl a bod yn benodol ynghylch pa gymorth y mae ei angen arnoch a chan bwy. Os byddwch yn dechrau drwy fod yn gefnogol i bobl eraill, byddwch yn dechrau meithrin perthnasoedd a all fod yn drawsnewidiol i'ch gyrfa.
Tupper, H. and Ellis, S., 2020. The Squiggly Career (pp 103-104)

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer rhwydweithio

Wrth rwydweithio gyda darpar gyflogwyr, er enghraifft mewn ffair yrfaoedd, mae'n bwysig treulio peth amser yn meddwl am yr hyn y byddwch chi'n ei ddweud a sut y byddwch chi'n cyflwyno'ch hun.

Darllenwch yr awgrymiadau defnyddiol hyn ar gyfer goresgyn ofnau cyffredin am rwydweithio. Gall cyflwyniad byr fod yn ddefnyddiol mewn senarios rhwydweithio mwy ffurfiol, ond nid yw'r sgwrs yn dod i ben ar ôl i chi gyflwyno'ch hun! Gallwch ddatblygu hyder yn eich sgiliau sgwrsio trwy ofyn cwestiynau ac ymateb i gwestiynau.

Mireiniwch eich sgiliau cyfathrebu trwy ymarfer. Trwy Ddyfodol Myfyrwyr, gallech wneud cais i ymuno â'r cynllun mentora, mynd i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau cyflogwyr, cael profiad gwaith a chael cyngor mewn apwyntiadau gyrfaoedd. Bydd cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn yn eich galluogi i ymarfer cyfathrebu'n broffesiynol, boed hynny gyda Chynghorydd Gyrfaoedd neu gyflogwr. Mae bod yn gyfathrebwr effeithiol yn rhinwedd graddedig allweddol rydych chi'n ei datblygu tra byddwch yn y brifysgol.

Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a LinkedIn i rwydweithio

Mae mwy o gyflogwyr nag erioed yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i’r ymgeiswyr cywir, sy’n eu gwneud yn fforwm hanfodol i hysbysebu eich sgiliau, sefydlu eich brand ar-lein, rhwydweithio gyda chysylltiadau a throi darpar gysylltiadau rhithwir yn gyfleoedd gwaith bywyd go iawn. 89% o gyflogwyr Mae llawer o gyflogwyr bellach yn cynnal gwiriadau cefndir ar ymgeiswyr:

Mae gwirio'r cyfryngau cymdeithasol bellach yn rhan safonol o sgrinio cyn cyflogaeth. Yn ôl ymchwil ddiweddar gan YouGov, mae hyd at 80% o gyflogwyr yn debygol o wirio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ymgeisydd fel rhan o'u gweithdrefn recriwtio a chynefino.
YouGov, 2023. Would Britons be willing to share their social media profiles with employers?

Dyma pam ei bod mor bwysig gwirio’ch ôl troed digidol a gweld beth sy’n weladwy yn gyhoeddus amdanoch chi ar-lein. Y ffordd orau o wneud hyn yw chwilio amdanoch eich hun a gweld beth sy’n codi! Mae hefyd yn syniad da sicrhau bod cyfrifon personol ar y cyfryngau cymdeithasol yn breifat a chreu cyfrifon ar wahân y gallwch eu defnyddio’n broffesiynol yn unig.

X, Facebook, Instagram a TikTok

Gall llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mwy anffurfiol fod yn ddefnyddiol o hyd ar gyfer rhwydweithio a datblygiad eich gyrfa. Cyn i chi ddechrau, meddyliwch am eich nodau a’ch dyheadau gyrfaol a’r hyn rydych chi’n gobeithio ei gyflawni trwy ddefnyddio platfform cyfryngau cymdeithasol ar gyfer datblygiad eich gyrfa. Gyda’r platfformau a restrir isod, gallwch greu hunaniaeth broffesiynol glir a brand ar-lein, trwy bethau fel proffil a delwedd broffesiynol a’r ffordd rydych chi’n ymgysylltu â chynnwys.

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol sydd wedi’u teilwra i bob platfform cyfryngau cymdeithasol a restrir isod:

  • X (Twitter gynt) – Nid oes rhaid i chi drydar eich hun; gallech chi ddilyn cwmnïau neu bynciau ac ail-drydar. Gall yr hyn rydych chi’n dewis ei drydar neu ei ail-drydar ddangos eich diddordeb mewn gyrfa neu sector penodol
  • Facebook – Mae Facebook yn ei gwneud hi’n hawdd gofyn i’ch cysylltiadau personol am wybodaeth a chyngor am eich gyrfa neu chwilio am swydd a gall hefyd ddarparu adnodd ar gyfer gwybodaeth am unigolion a chwmnïau. Mae ei natur anffurfiol, a’r modd y gellir rhyngweithio ag eraill yn golygu eich bod yn gallu cael gwybodaeth a chyfathrebu â chyflogwyr mewn ffyrdd penodol
  • Instagram – Mae Instagram yn ffordd wych o hyrwyddo’ch sgiliau, eich gwybodaeth neu’ch profiad trwy gynnwys gweledol iawn fel delweddau, straeon neu riliau. Mae’n blatfform arbennig o ddefnyddiol i’r rhai yn y diwydiannau celfyddydol neu’r diwydiannau creadigol arddangos eich creadigrwydd a’ch talent
  • TikTok – Gall TikTok ddarparu mewnwelediadau defnyddiol i wahanol yrfaoedd, er enghraifft fideo ‘Diwrnod Arferol’, a gall fod yn blatfform gwych i gael awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eich gyrfa mewn ffordd ddeniadol ac anffurfiol. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried y cynnwys rydych chi’n ei weld yn feirniadol — a yw’n gywir ac a allwch chi ddibynnu arno? Nid yw’n cymryd lle cyngor gyrfaoedd go iawn gan arbenigwr cymwys, felly trefnwch apwyntiad gyrfaoedd yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr i gael cyngor ac arweiniad dibynadwy ar eich opsiynau gyrfa

LinkedIn

LinkedIn yw rhwydwaith proffesiynol mwyaf y byd, ac mae wedi newid y ffordd yr ydym yn rhwydweithio yn sylweddol – nawr nid oes rhaid i chi gwrdd â rhywun yn bersonol hyd yn oed i’w hystyried yn rhan o’ch rhwydwaith! Mae LinkedIn yn offeryn ardderchog i unrhyw fyfyriwr a graddedig, a gall helpu gyda chwilio am swyddi, rhwydweithio ac ymchwilio i wahanol lwybrau gyrfa.

Defnyddiwch yr adnodd isod i’ch tywys trwy ein hawgrymiadau defnyddiol ar gyfer creu eich proffil LinkedIn:

Os ydych chi’n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni’n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn ffenestr ar wahân.

Defnyddio LinkedIn yn effeithiol

Dim ond man cychwyn gyda LinkedIn yw creu eich proffil. Darllenwch ein awgrymiadau defnyddiol isod ar ddefnyddio LinkedIn i’ch helpu chi yn eich gyrfa:

Peidiwch â gadael i'ch proffil ddiflasu; pŵer LinkedIn yw ei allu i'ch helpu i dyfu'ch rhwydwaith proffesiynol yn hawdd! Pan fyddwch chi'n hapus gyda'ch proffil, gallwch gysylltu â phobl eraill ar LinkedIn. Dechreuwch gyda'r rhai rydych chi'n eu hadnabod yn gyntaf, er enghraifft eich ffrindiau, ffrindiau ar eich cwrs neu gydweithwyr. Mae chwiliadau am bobl ar LinkedIn yn cael eu blaenoriaethu yn ôl pa mor agos rydych chi'n gysylltiedig â'r unigolyn hwnnw – a po agosaf yw'r cysylltiad, y mwyaf o wybodaeth y gallwch ei gweld. Mae cysylltu â phobl yn dod â chi yn agosach at bobl yn eu rhwydwaith!

Chwiliwch broffiliau pobl sy'n gweithio mewn swyddi y mae gennych ddiddordeb ynddynt neu mewn cwmnïau rydych chi am weithio iddynt ac ennill ysbrydoliaeth o deithiau eu gyrfaoedd a'u hawgrymiadau ar gyfer eich proffil eich hun. Er enghraifft, pa brofiad gwaith y gwnaethant neu pa sefydliadau proffesiynol y maent yn aelod ohonynt?

Drwy gynnwys Prifysgol Caerdydd yn eich adran Addysg, byddwch yn cael eich cysylltu â thudalen LinkedIn Prifysgol Caerdydd ac yn gallu defnyddio'r swyddogaeth 'Alumni'. Gallwch chwilio am bobl sydd wedi graddio o'ch cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hon yn ffordd wych o gael syniad o lwybrau gyrfa gyda'ch gradd ac ehangu eich rhwydwaith!

Mae LinkedIn yn blatfform helaeth i chwilio am swyddi. Gallwch chwilio am swyddi sy'n ymwneud â'ch sgiliau a'ch cymwysterau ac mewn rhai achosion, gallwch ddefnyddio'ch proffil LinkedIn fel eich cais. Darllenwch gyngor LinkedIn ar chwilio am swyddi ar eu gwefan.

Defnyddiwch LinkedIn yn weithredol i ddangos ymrwymiad cyson i'ch nodau gyrfa a'ch diddordebau. Dilynwch gwmnïau y mae gennych ddiddordeb ynddynt neu sy'n amlwg yn eich sector. Ymunwch â grwpiau sy'n gysylltiedig â'ch cwrs, eich diddordebau a'ch dyheadau o ran gyrfa. Gall eich gweithgarwch ar LinkedIn, eich postiadau a sut rydych chi'n ymgysylltu â phostiadau pobl eraill hefyd helpu i roi tystiolaeth o'ch nodau gyrfa, er enghraifft tynnu sylw at erthygl newyddion ddiweddar sy'n gysylltiedig â'ch sector a dadansoddi sut y gallai effeithio ar y maes.

Rhestr wirio eich proffil linkedin

Wedi i chi gwblhau eich proffil dylech wirio’r canlynol:

Ydych chi wedi cynnwys llun perthnasol gyda’ch proffil? A yw’n llun clir o’ch wyneb â chefndir plaen?
Ydych chi wedi cynnwys o leiaf 10 sgil sydd gennych y gall eraill eu cadarnhau?
Ydych chi wedi cynnwys o leiaf 5 o gysylltiadau gyda’r bwriad o greu 50 o gysylltiadau newydd o fewn y misoedd cyntaf?
Ydych chi wedi ymuno ag o leiaf ddau grŵp?
Ydych chi’n dilyn o leiaf pump o gyflogwyr?
Ydych chi wedi defnyddio URL byrrach, unigryw a allai gael ei gynnwys ar eich CV?
Ydych chi wedi prawfddarllen eich proffil?

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach: