Skip to main content

Cael profiad gwaith

Darganfyddwch sut i gael profiad gwaith gwerthfawr i archwilio eich syniadau am yrfa a chreu argraff ar gyflogwyr yn y dyfodol.

Nid yw gradd ar ei phen ei hun yn docyn aur i lwyddiant! Bydd cael profiad gwaith cyn i chi raddio yn eich helpu i greu argraff ymhlith y dorf, yn enwedig mewn marchnad swyddi gystadleuol. Mae profiad gwaith yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau pwysig ac archwilio eich opsiynau o ran gyrfa, ac mae’n well gan gyflogwyr raddedigion sydd â phrofiad o fyd gwaith. Gall profiad gwaith fod ar sawl ffurf a chynnwys sawl math gwahanol o rolau, felly mae’n bwysig eich bod yn dod o hyd i gyfleoedd sy’n gweithio i chi, eich nodau o ran eich gyrfa, a’ch ffordd o fyw. Rydym yn cydnabod y gall dod o hyd i brofiad gwaith deimlo’n llethol os nad ydych yn gwybod lle i ddechrau, felly rydym wedi darparu cyngor i chi ar sut i chwilio am brofiad gwaith a sut y gall Dyfodol Myfyrwyr eich cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd.

Manteision Profiad Gwaith

Mae yna lawer o resymau pam y dylech wneud profiad gwaith tra eich bod yn y brifysgol. Gall profiad gwaith eich helpu i wneud y canlynol:

  • Archwilio syniadau o ran gyrfa – bydd profiad uniongyrchol o swydd neu sector penodol yn eich helpu i ddarganfod a yw’n iawn i chi ai peidio. Weithiau gall profiad gwaith amlygu nad yw swydd yn iawn i chi, a gall hyn fod yr un mor werthfawr yn yr hirdymor â dod o hyd i’ch swydd ddelfrydol!
  • Cael profiad perthnasol i gefnogi eich nodau o ran eich gyrfa – os ydych yn teimlo’n angerddol ynghylch swydd neu sector penodol, yna bydd cael profiad perthnasol yn eich helpu i ddangos hyn i gyflogwyr ac yn helpu i’ch gwneud yn fwy cystadleuol pan fyddwch yn ymgeisio am swyddi yn y dyfodol
  • Creu argraff ar gyflogwyr – mae’r ystadegau i gyd yn dangos bod cyflogwyr am i ymgeiswyr graddedig fod wedi cael rhyw fath o brofiad gwaith yn ystod eu hastudiaethau, a’u bod yn llawer llai tebygol o gyf-weld â rhywun heb y profiad hwnnw. Bydd cael profiad yn y byd go iawn yn eich helpu i ddatblygu eich proffesiynoldeb a’ch ymwybyddiaeth fasnachol ac yn rhoi digon o enghreifftiau perthnasol i chi eu rhannu mewn cyfweliad
  • Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol – gall bod mewn amgylchedd newydd a gweithio gyda phobl newydd fod yn heriol! Efallai mai’r profiad gwaith y byddwch yn ei wneud yn y brifysgol fydd y tro cyntaf erioed i chi weithio mewn amgylchedd proffesiynol neu fod yn gyfrifol am gyflawni gwaith. Gall fod yn brofiad brawychus i ddechrau, ond mae’n sicr o’ch helpu i feithrin sgiliau pwysig sy’n ofynnol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol (megis rheoli amser, cyfathrebu a gwaith tîm), yn ogystal â hyder y gallwch ffynnu mewn amgylcheddau newydd!
  • Pontio i fyd gwaith ar ôl i chi raddio – bydd cael rhywfaint o gysylltiad â bywyd gwaith yn ystod eich gradd yn ei gwneud yn haws pontio o’r brifysgol i’r byd gwaith wedyn yn llawer haws! Er bod pob gweithle yn wahanol, byddwch yn meithrin dealltwriaeth dda o sut beth yw gwaith a’r modd y mae’n wahanol i’r brifysgol, er enghraifft o ran bod â mwy o drefn a gweithio gyda chyd-weithwyr a rheolwyr mewn strwythurau mwy hierarchaidd

Cofiwch na fydd unrhyw brofiad gwaith y byddwch yn dewis ymgymryd ag ef fyth yn wastraff amser, ac y bydd bob amser yn werthfawr i’ch gyrfa yn y dyfodol! Y sefyllfa orau posibl yw eich bod yn cadarnhau eich nodau o ran gyrfa neu’n cael profiad hanfodol i’ch gwneud yn fwy cystadleuol yn eich maes dewisol; y sefyllfa waethaf posibl yw eich bod yn nodi rôl neu sector nad yw’n iawn i chi, o bosibl, ond sy’n dal i ychwanegu profiad at eich CV, yn datblygu eich sgiliau ac yn ehangu eich rhwydwaith.

Mathau o Brofiad Gwaith

Mae unrhyw brofiad sydd gennych o weithio mewn sefydliad yn cyfrif fel profiad gwaith – o wirfoddoli a gwaith rhan-amser, i interniaethau a lleoliadau blwyddyn o hyd. Mae yna gynifer o ffyrdd i sicrhau profiad gwaith gwerthfawr tra eich bod yn y brifysgol:
Mae'r tîm Profiad Gwaith yn Dyfodol Myfyrwyr yn dod o hyd i lawer o gyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr. Mae cyfleoedd yn bodoli mewn sawl sector a gydag ystod eang o gyflogwyr, ac maent wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg ochr yn ochr â'ch astudiaethau. Darganfyddwch ragor am y cynlluniau gwahanol yr ydym yn eu cynnig i fyfyrwyr benderfynu pa fath o brofiad sy’n iawn iddynt.
Os nad ydych yn teimlo’n hyderus ynghylch sicrhau profiad gwaith neu gyflogaeth, efallai eich bod yn gymwys ar gyfer Career Confident, cynllun o fewn Dyfodol Myfyrwyr a all ddarparu cymorth a threfnu profiad gwaith i fyfyrwyr a’r rheiny sydd newydd raddio.
Mae interniaethau yn gyfnodau cystadleuol o brofiad gwaith sydd fel arfer yn cael eu cynnal dros yr haf ac sydd fel arfer yn cynnig tâl. Mae'n ddefnyddiol os ydych wedi cael profiad gwaith blaenorol i'ch helpu i greu argraff pan fyddwch yn gwneud cais am interniaeth. Gallwch ddarganfod rhagor am interniaethau ar wefan Prospects.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gael profiad mewn maes neu sector penodol, gan hefyd wneud rhywbeth hynod o werthfawr ar gyfer achos pwysig. Nid yw gwirfoddolwyr yn cael eu talu fel rheol, ond fel arfer mae yna fwy o hyblygrwydd o ran yr ymrwymiad sy’n ofynnol. Gall gwirfoddoli hefyd fod yn gyfle cyntaf gwych i gael profiad gwaith gan nad yw fel arfer yn ofynnol i chi feddu ar brofiad blaenorol. Gallwch ddarganfod rhagor am wirfoddoli ar wefan Prospects.
Mae cysgodi yn ffordd ddefnyddiol o ddeall rhagor am sefydliad, sector neu fath o waith penodol. Nid ydych fel arfer yn cael profiad ymarferol; mae'n ymwneud mwy â chael cipolwg ar yr hanfodion a meithrin gwell dealltwriaeth. Fel yn achos gwirfoddoli, gall fod yn gyfle cyntaf gwych i gael profiad gwaith gan nad yw profiad blaenorol yn ofynnol yn aml, fel arfer dim ond tystiolaeth bod gennych ddiddordeb yn y sefydliad, y sector neu'r swydd honno. Gallwch ddarganfod rhagor am gysgodi gwaith ar wefan Prospects.
Peidiwch ag anghofio bod swydd ran-amser ochr yn ochr â'ch astudiaethau neu dros yr haf yn fath o brofiad gwaith lle byddwch wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig ac wedi meithrin ymwybyddiaeth fasnachol. Darllenwch ein cyngor ar swyddi rhan-amser.
Mae interniaethau ar y campws yn interniaethau haf â thâl yn adrannau'r brifysgol ar gyfer myfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd. Mae yna wahanol fathau o interniaethau ar y campws y gall myfyrwyr eu cyflawni, yn cynnwys interniaethau mewn ymchwil, dysgu ac addysgu, arloesi ac effaith, a gwasanaethau proffesiynol.
Gall myfyrwyr presennol gael rhagor o wybodaeth am interniaethau ar y Campws ar Fewnrwyd y Myfyrwyr.
Weithiau mae'n bosibl ymgymryd â blwyddyn neu fodiwl lleoliad yn rhan o'ch cwrs, a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar sefydliad penodol neu fath o waith sy'n berthnasol i'ch pwnc. Fel arfer, caiff eich profiad ar flwyddyn neu fodiwl lleoliad ei asesu ac mae hyn yn cyfrif tuag at eich gradd. Gall myfyrwyr ddewis ymgymryd â blwyddyn neu fodiwl lleoliad pan fyddant yn gwneud cais am eu cwrs yn y lle cyntaf, ond weithiau mae'n bosibl ymgymryd â'r rhain wedi i chi ddechrau ar eich gradd. Siaradwch â'ch tiwtor personol a swyddfa'r ysgol i gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau.

 

Dod o hyd i brofiad gwaith

Gall Dyfodol Myfyrwyr helpu myfyrwyr a graddedigion i ddod o hyd i brofiad gwaith. Mae'r tîm Profiad Gwaith yn Dyfodol Myfyrwyr yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau a diwydiannau i sicrhau cyfleoedd sy’n benodol i chi ac sy'n cael eu hysbysebu yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr. Dysgwch ragor am y modd y gall y tîm eich helpu i ddod o hyd i brofiad gwaith ar fewnrwyd y myfyriwr.

Os nad oes gennych hyder ynghylch sicrhau profiad gwaith neu gyflogaeth, mae’n bosibl eich bod yn gymwys ar gyfer Career Confident, sef cynllun yn Dyfodol Myfyrwyr a all drefnu profiad gwaith a chymorth cyflogadwyedd wedi'i deilwra i fyfyrwyr a graddedigion newydd.
Gall myfyrwyr a graddedigion newydd gael rhagor o wybodaeth am y ddau dîm drwy eu Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr. Bydd rhaid i fyfyrwyr gofrestru fel myfyriwr graddedig trwy eu Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.

Mae interniaethau, yn enwedig dros yr haf, yn cael eu hysbysebu ar-lein ar wefannau poblogaidd megis Milkround, RateMyPlacement a Gradcracker. Mae interniaethau yn gystadleuol felly gofalwch eich bod yn gwneud cais yn gynnar – dechreuwch chwilio yn gynnar yn y flwyddyn academaidd a defnyddiwch ein cyngor ar ysgrifennu CV, ceisiadau a chyfweliadau i’ch helpu.

Mae gan y proffiliau swyddi ar wefan Prospects gyngor defnyddiol iawn ar sut i gael profiad gwaith sy'n berthnasol i swyddi penodol, yn cynnwys cyfeiriadau at wefannau sy'n benodol i'r maes hwn. Mae hon yn ffordd wych o archwilio cyfleoedd a fydd yn cefnogi eich nodau o ran gyrfa, ac mae'n adnodd gwych os ydych yn gwybod beth yr ydych am ei wneud ar ôl i chi raddio neu'n archwilio ychydig o rolau gwahanol.

Gallwch greu eich cyfle eich hun o ran profiad gwaith trwy wneud cais gobeithiol. Cais gobeithiol yw pan fyddwch yn anfon CV (fel arfer ar y cyd â llythyr eglurhaol) at gyflogwr yn gofyn a allwch ymgymryd â phrofiad gwaith gydag ef, er nad yw'n hysbysebu ar hyn o bryd. Gall bod yn rhagweithiol greu argraff wirioneddol ar gyflogwyr, yn enwedig os yw eich llythyr eglurhaol wedi'i deilwra i'w sefydliad. Mae'n annhebygol y bydd dull gobeithiol yn gweithio mewn sefydliadau mwy, yn enwedig lle mae eu rolau'n gystadleuol iawn ac mae ganddynt broses recriwtio ffurfiol, ond gall fod yn ffordd dda o gael mynediad i fusnesau bach a chanolig (BBaCh).

Wrth wneud cais gobeithiol, mae'n bwysig:

  • Llunio rhestr o sefydliadau yr ydych am gysylltu â nhw
  • Byddwch yn benodol iawn ynghylch pam yr ydych yn anfon eich CV a'ch llythyr eglurhaol – cofiwch nad yw'r cyflogwr yn hysbysebu, felly nid oes ganddo unrhyw syniad pam yr ydych yn cysylltu na beth yr ydych yn gofyn amdano
  • Byddwch yn agored a hyblyg – efallai na fydd y cyflogwr yn gallu cynnig interniaeth i chi er enghraifft, ond gallai gynnig cyfnod o gysgodi gwaith neu roi cyngor defnyddiol i chi ar gyfer y dyfodol

Mae gan Prospects hefyd gyngor defnyddio ar sut i ofyn i gyflogwyr am brofiad gwaith.

Os oes gennych bobl yn eich rhwydwaith presennol, gan gynnwys ffrindiau a theulu, sy'n gweithio mewn swyddi neu sectorau sydd o ddiddordeb i chi, peidiwch â bod ofn gofyn iddynt a allant eich helpu i ddod o hyd i brofiad gwaith! Efallai y byddant yn gallu cynnig profiad gwaith i chi eu hunain neu eich rhoi mewn cysylltiad ag eraill yn eu rhwydwaith a allai helpu. Cofiwch gadw meddwl agored – hyd yn oed os na chewch gyfleoedd o ran profiad gwaith trwy eich rhwydwaith presennol, efallai y cewch gynnig mentor neu gyngor amhrisiadwy ar yrfaoedd!

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:

  • Trefnwch apwyntiad yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr i drafod profiad gwaith
  • Cyngor TargetJobs i'ch helpu i benderfynu pa opsiwn profiad gwaith sydd orau i chi
  • Cyngor gan Prospects Brofiad Gwaith ac interniaethau