Astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor
Archwiliwch eich opsiynau ar gyfer astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor gyda Chyfleoedd Byd-eang.
Mae yna lawer o gyfleoedd a digon o gymorth ar gael i’ch helpu i astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. O brofiad gwirfoddoli bythgofiadwy yn yr haf wedi ymgolli mewn diwylliant newydd, i semester cofiadwy a dreulir yn mireinio eich sgiliau iaith ac yn ehangu eich gwybodaeth am bwnc, mae’r tîm Cyfleoedd Byd-eang yn Dyfodol Myfyrwyr yno i chi!
Manteision mynd dramor
Mae treulio amser dramor tra byddwch yn y brifysgol yn aml yn brofiad unwaith mewn oes i deithio, archwilio diwylliant newydd, neu goleddu iaith newydd. Mae hefyd yn ffordd wych o fagu hyder, cwrdd â phobl newydd, a gwella eich sgiliau cyflogadwyedd, megis cyfathrebu, gwaith tîm a’r gallu i addasu.
Cyfleoedd i fynd dramor
A chithau’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, efallai y byddwch yn gallu:
- Treulio blwyddyn dramor yn rhan o’ch rhaglen radd (mae’r cyfleoedd yn amrywio yn ôl yr ysgol academaidd).
- Cymryd rhan mewn rhaglen haf ryngwladol (yn astudio, gweithio neu wirfoddoli)
- Mwynhau profiad rhyngwladol heb i chi orfod symud cam o’ch cartref trwy raglen rithwir
- Mae yna hefyd amrywiaeth o opsiynau ariannu ar gael i gefnogi myfyrwyr i gael profiad dramor tra eu bod yn y brifysgol
Gofyn am Gyngor
Mynnwch gyngor a chymorth gan Cyfleoedd Byd-eang i archwilio eich opsiynau o ran mynd dramor. Darllenwch gyngor cynhwysfawr ynghylch pob agwedd ar dreulio amser dramor ar fewnrwyd y myfyrwyr, a threfnwch apwyntiad gyda’r tîm Cyfleoedd Byd-eang trwy eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.