Strategaethau chwilio am swydd
Dysgwch sut i chwilio am swyddi i raddedigion a nodi dulliau rhagweithiol o chwilio am swyddi.
Strategaethau o ran chwilio am swyddi
Mae chwilio am rolau lefel graddedigion yn sgìl ynddo’i hun ac nid yw mynd ati i wneud cais am swyddi a hysbysebir ar-lein yn ddim ond y dechrau. Mewn gwirionedd, mae myfyrwyr yn dod o hyd i swyddi trwy ddulliau adweithiol (er enghraifft, ymateb i hysbyseb swydd) a rhagweithiol (lle rydych yn achub y blaen wrth rwydweithio neu wneud cais gobeithiol) fel ei gilydd.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod lle a sut i chwilio am swyddi graddedigion, yn ogystal â sut i ffocysu eich proses o chwilio am swydd. Mae’n debygol y byddwch yn gwneud cais am nifer o rolau yn eich blwyddyn olaf, a bydd targedu eich proses o chwilio am swydd yn arbed amser i chi ac yn sicrhau bod pob cais a gyflwynwch yn cyfrif. Hyd yn oed gyda dull effeithiol o chwilio am swyddi, gallai gymryd sawl ymdrech cyn i chi sicrhau eich rôl raddedig gyntaf! Mae hyn yn gyffredin iawn, ac mae meithrin gwytnwch i ymdopi ag anawsterau ar hyd y ffordd yn sgìl hanfodol o ran rheoli gyrfa a fydd yn eich helpu i fynd ati’n hyderus i lywio eich profiad o chwilio am swydd a’ch bywyd gwaith yn y dyfodol.
Ffyrdd o chwilio am swyddi
Wrth chwilio am unrhyw rôl i raddedigion, dylech ddefnyddio sawl dull i wneud y mwyaf o’ch siawns o lwyddo.
Isod, nodir y ffyrdd mwyaf cyffredin y mae myfyrwyr yn dod o hyd i swyddi a’u sicrhau, ac rydym yn argymell cyfuno nifer o’r dulliau hyn i wneud yn siŵr nad ydych yn colli cyfleoedd:
Chwilio am swyddi sy’n cael eu hysbysebu
Mae'n debyg mai chwilio am swyddi gwag o'r math yr ydych yn chwilio amdanynt ac sy’n cael eu hysbysebu yw'r man cychwyn i lawer o bobl sy’n dechrau chwilio am waith. Dechreuwch gyda'r bwrdd swyddi yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd neu newydd raddio. Mae cannoedd o gyflogwyr lleol, cenedlaethol a byd-eang yn gofyn am gael hysbysebu eu swyddi gwag yma.
Defnyddiwch fyrddau swyddi poblogaidd tebyg i Indeed, Totaljobs a LinkedIn. Hefyd, defnyddiwch wefannau megis Milkround, Prospects, TargetJobs, RateMyPlacement a Gradcracker (yn fwy ar gyfer ddisgyblaethau STEM) sydd wedi’u hanelu at fyfyrwyr prifysgol a graddedigion.
Os ydych yn gwybod pa fath o swydd yr ydych yn chwilio amdani, mae'n debygol y bydd yna wefannau penodol sydd dim ond yn hysbysebu swyddi gwag yn y maes hwnnw – defnyddiwch y proffiliau swyddi ar Prospects i nodi’r rhain.
Defnyddiwch amrywiaeth o wefannau a sefydlwch rybuddion fel eich bod yn cael diweddariadau wedi'u targedu ac na fyddwch yn colli swyddi pan fyddant yn cael eu hychwanegu. Er bod hon yn elfen bwysig o'ch dull o chwilio am swydd, ni ddylai fod yr unig un. Ystyriwch hefyd ddefnyddio rhai o'r dulliau mwy rhagweithiol isod.
Defnyddio eich rhwydwaith
Mae Rhwydweithio yn un o'r sgiliau pwysicaf y gallwch ei ddatblygu i'ch helpu yn eich gyrfa yn y dyfodol. Mantais meithrin rhwydwaith proffesiynol yw nad ydych byth yn gwybod pwy a allai eich helpu a phryd.
O ddweud gair o’ch plaid pan ddaw cyfle i’ch rhan, i roi gwybod i chi am gyfleoedd posibl, gall eich rhwydwaith eich helpu i gyrchu'r farchnad swyddi gudd, cyfleoedd heb eu hysbysebu na fyddech fyth, o bosibl, yn dod o hyd iddynt wedi'u rhestru ar wefannau tebyg i’r rhai a restrir uchod. Er ei bod yn amhosibl gwirio'n swyddogol, mae arbenigwyr gyrfaoedd wedi awgrymu ers blynyddoedd lawer nad yw tua 70% o swyddi gwag yn cael eu hysbysebu.
Wrth chwilio am swyddi, ystyriwch pwy yn eich rhwydwaith a allai gynnig cymorth – gallai hyn fod yn rhywun sy'n gweithio yn eich sector neu i gyflogwr y mae gennych ddiddordeb mewn ymuno ag ef, gallai hyd yn oed fod yn gyfoed sydd wedi sicrhau rôl debyg.
Gwneud cais gobeithiol
Mae cais gobeithiol yn ffordd allweddol arall y gallwch gael mynediad i'r farchnad swyddi gudd. Cais gobeithiol yw pan fyddwch yn anfon CV (fel arfer ar y cyd â llythyr eglurhaol) at gyflogwr yn gofyn a oes ganddo unrhyw swyddi gwag addas, er nad yw'n hysbysebu ar hyn o bryd.
Gall bod yn rhagweithiol greu argraff wirioneddol ar gyflogwyr, yn enwedig os yw eich llythyr eglurhaol wedi'i deilwra i'w sefydliad. Mae dull gobeithiol yn llai tebygol o weithio mewn sefydliadau mwy, yn enwedig lle mae eu rolau'n gystadleuol iawn ac mae ganddynt broses recriwtio ffurfiol, ond gall fod yn ffordd dda o gael mynediad at fentrau bach a chanolig (BBaCh).
Wrth wneud cais gobeithiol, mae'n bwysig:
- Llunio rhestr o sefydliadau yr ydych am gysylltu â nhw
- Bod yn benodol iawn ynghylch pam yr ydych yn anfon eich CV a'ch llythyr eglurhaol – cofiwch nad yw'r cyflogwr yn hysbysebu felly nid oes ganddo unrhyw syniad pam yr ydych yn cysylltu na beth yr ydych yn gofyn amdano
- Bod yn agored ac yn hyblyg – efallai na fydd y cyflogwr yn gallu cynnig swydd i chi, ond gallai eich cadw mewn cof ar gyfer swyddi yn y dyfodol, cynnig cyfnod o brofiad gwaith, neu roi cyngor defnyddiol i chi ar gyfer y dyfodol
- Mae gan Prospects hefyd gyngor defnyddiol ar geisiadau gobeithiol
Ystyried defnyddio asiantaeth recriwtio
Mae asiantaeth recriwtio yn gweithio ar ran cyflogwr i ddod o hyd i ymgeiswyr addas ar gyfer ei swyddi gwag. Gallai ymuno ag asiantaeth recriwtio sicrhau mynediad i chi at swyddi nad ydynt yn cael eu hysbysebu mewn mannau eraill, a gall olygu eich bod yn cael eich paru â rolau sy'n addas i chi. Mae rhai o'r asiantaethau recriwtio mwy, megis Hays, Reed a Randstad, yn amlddisgyblaethol ac yn cwmpasu amrywiaeth eang o sectorau, tra bo’r asiantaethau llai yn tueddu i ganolbwyntio ar sectorau neu ddiwydiannau penodol.
Bydd y cyflogwr yn talu'r asiantaeth recriwtio am ei gwasanaethau, sy'n golygu nad oes yna gost i chi am ei defnyddio. Er y gall bod â rhywun yn chwilio am swydd i chi yn rhad ac am ddim ymddangos yn ddeniadol iawn, dylech ddewis a dethol yr asiantaethau a’r ymgynghorwyr recriwtio y byddwch yn partneru â nhw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’n glir beth yw eich anghenion a'ch dymuniadau o'r cychwyn cyntaf, a pheidiwch byth â theimlo dan bwysau i dderbyn swydd nad oes arnoch ei heisiau. Hefyd, peidiwch ag eistedd ’nôl a gadael i'r asiantaethau wneud y gwaith drosoch! Dylid eu defnyddio ochr yn ochr â'ch strategaethau eraill ar gyfer chwilio am swyddi.
Gallwch chwilio am asiantaethau recriwtio ar wefan Agency Central. Mae gan Prospects hefyd gyngor defnyddiol y dylech ei ddarllen os ydych yn ystyried defnyddio asiantaeth recriwtio.
Chwilio am eich swydd
Ystyriwch y cyngor isod ar wahanol agweddau ar y broses o chwilio am swydd:
- Nodwch yr hyn yr ydych am ymgeisio amdano – dylai eich dull o chwilio am swydd fod yn unigryw i chi a'r hyn yr ydych yn chwilio amdano. Peidiwch â dechrau chwilio am swyddi heb unrhyw syniad o'r hyn yr ydych am wneud cais amdano – bydd hynny’n eich llethu a’ch diflasu! Darllenwch ein cyngor ar gynllunio gyrfa i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn a fyddai’n gweddu i chi
- Lleoliad – ble ydych chi am weithio? Ymchwiliwch i'r ardal a darganfod pwy sy'n cyflogi pobl sy'n gwneud y math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo
- A oes yna lawer o swyddi ar gael yn y sector y mae gennych ddiddordeb ynddo yn yr ardal honno? Yn yr un modd, os ydych am weithio dramor, mae gan Prospects ganllawiau i wledydd i’ch helpu i ymchwilio i farchnad lafur y gwledydd y mae gennych ddiddordeb ynddynt
- Ymchwiliwch i'ch diwydiant a'ch sector – ewch ati i feithrin eich dealltwriaeth o'ch diwydiant, eich sector a’ch cyflogwyr o ddiddordeb (eich ymwybyddiaeth fasnachol) i helpu i lywio eich proses o chwilio am swydd
- Sicrhewch fod gennych gynllun – gosodwch nodau byrdymor i weithio tuag atynt o ran chwilio am swydd. Gallai hyn olygu nodau sy'n ymwneud ag ymchwil, ceisiadau a lenwir neu amser a dreulir yn edrych ar swyddi. Sicrhewch fod eich nodau'n rhai i’ch helpu i gadw ar y trywydd iawn
- Cadwch olwg ar y ceisiadau a gyflwynwyd gennych – lluniwch daenlen y gallwch ei defnyddio i ychwanegu gwybodaeth am swyddi yr ydych wedi gwneud cais amdanynt a swyddi yr ydych yn bwriadu gwneud cais amdanynt. Gwnewch nodyn o unrhyw derfynau amser – bydd hyn yn eich helpu i flaenoriaethu ceisiadau a chadw trefn ar yr hyn yr ydych yn ei gyflwyno
- Safon nid nifer – mae gennych siawns llawer gwell o lwyddo os byddwch yn cyflwyno llai o geisiadau sydd wedi'u teilwra'n dda i'r rôl, er bod y rhain yn cymryd mwy o amser i'w cwblhau. Safon, nid nifer, sy’n allweddol yn achos ceisiadau sydd wedi’u saernïo’n dda! Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu CV, ceisiadau a chyfweliadau
Er bod cael nifer o gynigion swyddi gan gyflogwyr yn broblem wych i'w chael, gall fod yn anodd gwybod pa gynnig i'w dderbyn. Meddyliwch yn ofalus cyn i chi dderbyn cynnig am swydd – mae hwn yn gontract sy’n rhwymo mewn cyfraith ac, er y gall cyflogwyr ddewis peidio â'i orfodi, byddwch yn colli proffesiynoldeb a hygrededd os byddwch yn derbyn swydd ac yna’n ei gwrthod yn ddiweddarach. Mae gan TargetJobs gyngor cynhwysfawr ar ddelio â chynigion swyddi, yn cynnwys nifer o gynigion swyddi.
Gwytnwch a delio â chael eich gwrthod
Ychydig iawn o fyfyrwyr a graddedigion sy’n cael rôl raddedig eu breuddwydion y tro cyntaf y byddant yn gwneud cais! Mae’n bwysig disgwyl a rhagweld y byddwch yn cael eich gwrthod – mae’n rhan arferol o chwilio am swydd, ac mae dysgu sut i ddelio â chael eich gwrthod fel nad yw hynny’n amharu ar y broses o chwilio am swydd yn sgìl allweddol. Bydd meithrin gwytnwch yn eich helpu i ymdopi â chael eich gwrthod am swyddi ac â rhwystrau eraill. Nid yw bod yn wydn yn golygu nad ydych yn siomedig pan nad yw rhywbeth yn mynd yn ôl y bwriad; yn hytrach, mae’n golygu bod gennych fecanweithiau ymdopi ar waith i adennill ffocws a pharhau i chwilio am swydd nes i chi sicrhau’r rôl gywir i chi. Mae pobl wydn yn fwy tebygol o feddu ar agwedd gadarnhaol, gweld cyfleoedd i ddysgu a datblygu (yr hyn a alwn yn ‘feddylfryd twf‘) a gwybod at bwy i droi pan fydd arnynt angen cymorth.
Awgrymiadau i roi hwb i’ch gwytnwch
Nid yw gwytnwch yn rhinwedd statig; fel nifer o sgiliau eraill sy’n ofynnol i lywio eich gyrfa yn llwyddiannus, gellir ei ddatblygu dros amser. Rhowch gynnig ar rai o’r awgrymiadau canlynol i roi hwb i’ch gwytnwch:
- Myfyrio ar brofiadau blaenorol mewn bywyd lle rydych wedi addasu’n dda i newid, er enghraifft dod i’r brifysgol neu ddechrau swydd neu hobi newydd. Sut y bu i chi ymdopi bryd hynny a sut y byddwch yn gwneud hynny eto?
- Rhoi cynnig ar bethau newydd – ystyriwch gymryd rhan mewn profiad gwaith neu gymdeithas myfyrwyr, neu efallai ddechrau hobi newydd. Dod i gysylltiad â phobl newydd a sefyllfaoedd newydd
- Cysylltu ag eraill a gofyn am help – ceisiwch gymorth eich rhwydwaith ehangach a’r brifysgol, yn cynnwys Dyfodol Myfyrwyr
- Gosod nodau bach, hylaw i chi eich hun. Efallai mai ‘dod o hyd i swydd raddedig’ yw’r nod hirdymor, ond gall deimlo’n enfawr ac yn llethol. Mae ‘treulio awr yn edrych ar wefan swyddi x a nodi unrhyw swyddi y mae gennyf ddiddordeb ynddynt’ yn llawer mwy cyraeddadwy. Bydd cyflawni llwyddiannau cyflym a nodau tymor byrrach yn eich helpu i barhau’n frwdfrydig ac ar y trywydd iawn i wireddu eich cynlluniau tymor hwy
- Treulio amser yn gwneud yr hyn sy’n bwysig i chi yn eich bywyd. Gall chwilio am swydd achosi straen ar brydiau, a gall cymryd rhan mewn pethau sy’n tynnu eich sylw ac yn peri llawenydd i chi ganiatáu i chi adennill ymdeimlad o ffocws.
- Dathlu eich cyflawniadau a chydnabod y gwaith caled a’r ymdrech yr ydych yn eu gwneud