Skip to main content

Swyddi a chynlluniau graddedigion

Nodi'r gwahaniaeth rhwng swydd a chynllun i raddedigion a pha un fyddai'n gweddu orau i chi.

A chithau’n fyfyriwr graddedig, byddwch yn gallu gwneud cais am amrywiaeth eang o swyddi, yn cynnwys swyddi i raddedigion, cynlluniau i raddedigion, rolau lefel mynediad, a rolau nad ydynt i raddedigion. Mae’r mathau o rolau y byddwch yn dewis ymgeisio amdanynt yn dibynnu ar:

  • y cyfleoedd sydd ar gael yn eich diwydiant dewisol – a natur gystadleuol y swyddi hyn
  • yr hyn y mae arnoch ei eisiau o’ch bywyd gwaith a’ch swydd
  • eich lefel bresennol o brofiad ac addasrwydd ar gyfer y rolau y mae gennych ddiddordeb ynddynt

Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn eich atal rhag gwneud cais am amrywiaeth o wahanol fathau o swyddi sy’n cefnogi eich cynlluniau o ran eich gyrfa – fel arfer dyma’r dull gorau i sicrhau eich bod yn cadw pob drws yn agored ac yn gwneud y mwyaf o’ch siawns o sicrhau rôl yn eich maes dewisol. Pan fydd gennych syniad o’r math o swydd a fyddai’n gweddu orau i chi, gallwch ddefnyddio ein cyngor ar chwilio am swydd i’ch helpu.

Cynlluniau i raddedigion

Mae cynllun i raddedigion yn rhaglen strwythuredig a gynigir fel arfer gan gwmnïau mawr, er bod rhai cwmnïau llai a sefydliadau’r sector cyhoeddus yn eu cynnig hefyd. Er y gall hyd y cynlluniau i raddedigion amrywio, maent fel arfer yn rhedeg dros ddwy neu dair blynedd ac, er nad oes yna unrhyw sicrwydd, os byddwch yn perfformio’n dda, efallai y bydd y cwmni’n cynnig contract parhaol i chi ar ddiwedd y cynllun.

Mae cynlluniau i raddedigion wedi’u cynllunio i roi amrywiaeth eang o brofiadau i raddedigion ledled gwahanol feysydd o’r busnes, ac maent fel arfer yn cynnwys cylchdroi o amgylch gwahanol adrannau. Yn aml bydd yna garfan o raddedigion ar y cynllun gyda’i gilydd, ac mae cyflogwyr fel arfer yn cynnig pecyn cynhwysfawr o hyfforddiant, mentora a chymorth i helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau.
Mae’r cynlluniau hyn yn hynod o gystadleuol, gyda nifer mawr o ymgeiswyr yn cystadlu am swyddi cyfyngedig bob blwyddyn. O’r herwydd, y tuedd yw cynnal prosesau recriwtio aml-gam, sy’n cynnwys profion seicometrig a chanolfannau asesu.

Er bod pob cyflogwr yn wahanol, mae recriwtio ar gyfer cynlluniau graddedigion fel arfer yn dechrau yn hydref eich blwyddyn olaf yn y brifysgol, gyda’r cyfnod ymgeisio’n agor mor gynnar â mis Awst ac yn cau ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr. Fel arfer, cynhelir canolfannau asesu a chyfweliadau rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ar eu cynlluniau ym mis Medi. Bydd rhai cyflogwyr yn cynnal rowndiau recriwtio pellach yn y gwanwyn a’r haf, ac mae nifer cynyddol yn recriwtio graddedigion trwy gydol y flwyddyn, ond maent i gyd fel arfer yn dechrau yn y mis Medi ar ôl i chi raddio. Er bod llawer o gynlluniau yn agored i raddedigion o bob disgyblaeth radd, bydd amodau penodol ynghlwm wrth rai felly gofalwch eich bod yn gwirio cyn i chi wneud cais.

Swyddi i raddedigion

Swydd i raddedigion yw swydd lle bydd angen gradd arnoch a lle cynigir swydd barhaol i chi yn y cwmni. Fel yn achos unrhyw swydd, byddwch yn ymgymryd â rôl benodol yn unol â manyleb y swydd a disgwylir i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn y maes hwnnw. Er y gallech elwa o hyfforddiant a mentora, mae’n annhebygol y bydd y cyfnod hyfforddi mor strwythuredig a helaeth â’r hyn a gynigir ar gynllun i raddedigion.

Mae swyddi i raddedigion yn bodoli ym mhob sector a diwydiant a chyda llawer o gyflogwyr ym marchnad lafur y DU, yn cynnwys cyflogwyr graddedigion mawr, sefydliadau a busnesau llai (yr hyn a elwir yn ‘fentrau bach a chanolig’, neu BBaChau yn fyr), elusennau, a’r sector cyhoeddus. Er bod swyddi i raddedigion yn dal i fod yn gystadleuol, maent yn tueddu i fod â phroses ymgeisio fyrrach na chynlluniau i raddedigion; mae’n bosibl mai CV a chais byr yn unig a ystyrir ar gyfer cyfweliad.

Tueddir i recriwtio ar gyfer swyddi i raddedigion trwy gydol y flwyddyn yn ôl yr angen, felly yn wahanol i gynllun i raddedigion, mae’n bosibl na fydd y cyflogwr yn recriwtio bob blwyddyn. Os ydych yn astudio ar hyn o bryd, byddech fel arfer yn ceisio dechrau gwneud cais am swydd i raddedigion dim mwy na thri mis cyn i chi fod ar gael i ddechrau gweithio gan fod y cyflogwr yn debygol o fod yn chwilio am rywun i ddechrau bron ar unwaith.

Swyddi lefel mynediad a swyddi nad ydynt yn rhai i raddedigion

Mae ‘lefel mynediad’ fel arfer yn disgrifio swyddi lle nad oes disgwyl i’r ymgeisydd fod â phrofiad perthnasol yn y diwydiant. Gallai’r rhain fod yn swyddi lefel gradd o hyd, ond nid dyna ydynt bob amser. Maent yn darparu ffordd ddefnyddiol o fynd i mewn i sector neu ddiwydiant.
Nid yw swyddi nad ydynt yn rhai i raddedigion yn gofyn i chi feddu ar radd ond, fel yn achos rolau lefel mynediad, efallai y bydd eich gradd yn golygu eich bod yn fwy cystadleuol ar gyfer swyddi nad ydynt i raddedigion.

Gall rolau lefel mynediad a swyddi nad ydynt yn rhai i raddedigion fod yn ffordd wych o sicrhau profiad perthnasol mewn sector penodol, yn enwedig os yw’r sector yn gystadleuol iawn neu os ydych yn gobeithio datblygu eich profiad yn y maes hwn. Maent hefyd yn darparu cyfle i ddysgu rhagor am swydd neu sector, yn enwedig os nad ydych yn teimlo’n barod i ymrwymo i swydd neu gynllun ar lefel raddedig. Er enghraifft, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes seicoleg ac yn cymryd swydd gweithiwr cymorth lle nad oes angen gradd i gael profiad gwerthfawr o sut beth yw cefnogi rhywun gyda’i iechyd meddwl. Gallai’r profiad hwn gadarnhau i chi mai dyma yr hoffech ei wneud, a bydd hefyd yn eich helpu i greu argraff o gymharu â’r gystadleuaeth os byddwch wedyn yn mynd ymlaen i wneud cais am rolau lefel raddedig neu astudiaethau pellach yn y maes hwn.

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:

  • Trefnwch apwyntiad gyrfaoedd yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr os nad ydych yn siŵr pa swyddi i wneud cais amdanynt
  • Edrychwch ar broffiliau swyddi ar Prospects i ddeall y mathau o swyddi y gallwch wneud cais amdanynt yn eich sector dewisol
  • Darganfyddwch ragor am swyddi i raddedigion ar TargetJobs
  • Darganfyddwch ragor am gynlluniau i raddedigion ar Prospects a BrightNetwork