Swyddi rhan-amser
Gwybod sut i chwilio am waith rhan-amser os oes arnoch angen swydd wrth astudio.
Mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud swyddi rhan-amser ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Gall swydd ran-amser wneud cyllidebu yn y brifysgol yn haws, ac mae’n ffordd wych o feithrin sgiliau cyflogadwyedd pwysig y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt, megis rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm. Gall ennill profiad mewn gweithle go iawn hefyd eich helpu i ddatblygu eich ymwybyddiaeth fasnachol a’ch dealltwriaeth o’r modd y mae busnesau’n gweithio.
Er mwyn cynnal cydbwysedd da â’ch astudiaethau, mae Prifysgol Caerdydd yn argymell peidio â gweithio mwy na 15 awr yr wythnos, ac os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, bydd yna gyfyngiadau penodol ynghlwm wrth eich fisa ynghylch faint o oriau yr wythnos y gallwch weithio.
Er bod llawer o’n cyngor ar chwilio am swydd ac ysgrifennu CV, ceisiadau a chyfweliadau yn dal i fod yn berthnasol, darllenwch ein cyngor ar y dudalen hon i’ch helpu i addasu eich dull o chwilio am swyddi rhan-amser yn benodol.
Rolau Rhan-Amser Cyffredin
Mae swyddi rhan-amser o’r math achlysurol a hyblyg sy’n aml yn ofynnol gan fyfyrwyr prifysgol yn gyffredin mewn rhai diwydiannau, megis mân-werthu (siopau ac archfarchnadoedd) a lletygarwch (tafarndai, siopau coffi a bwytai). Mae rolau rhan-amser poblogaidd eraill yn cynnwys gwaith hyrwyddo ar gyfer nosweithiau myfyrwyr, rolau llysgenhadon brand, a rolau cyfieithu llawrydd.
Mae rhai swyddi rhan-amser hefyd yn dymhorol iawn, sy’n golygu bod yna alw llawer uwch amdanynt ar adegau penodol o’r flwyddyn, fel arfer yn ystod yr haf ac yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.
Dod o hyd i Swyddi Rhan-Amser
Mae’n syniad da dechrau ymgeisio am swyddi rhan-amser yn gynnar, yn enwedig os ydych yn gwybod y bydd arnoch angen yr incwm o’r swydd i gefnogi eich astudiaethau.
Fel yn achos chwilio am rolau lefel graddedig, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i sicrhau gwaith rhan-amser:
Chwilio am gyfleoedd gwaith rhan-amser ar y campws
Mae Jobshop yn wasanaeth sy’n gysylltiedig ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac sy’n hysbysebu gwaith achlysurol ym Mhrifysgol Caerdydd, Undeb y Myfyrwyr neu gyda chyflogwyr lleol, swyddi sy’n hyblyg ochr yn ochr â’ch astudiaethau.
Gallwch hefyd wneud cais am interniaethau â thâl trwy Dyfodol Myfyrwyr trwy eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr. Gellir cwblhau interniaethau yn hyblyg o hyd ochr yn ochr â'ch gradd, ond maent yn fwy tebygol o fod yn faes gwaith sy'n gysylltiedig â'ch maes gradd. Darllenwch ein cyngor ar Brofiad Gwaith a'r cyfleoedd sydd ar gael trwy Dyfodol Myfyrwyr.
Chwilio am swyddi sy’n cael eu hysbysebu
Defnyddiwch Google i chwilio am 'Swyddi rhan-amser Caerdydd’ i weld pa wefannau a fydd yn ymddangos – dewiswch y rhai sydd fwyaf defnyddiol i chi a'u gwirio'n rheolaidd. Sefydlwch rybuddion er mwyn i chi gael gwybod am swyddi gwag newydd.
Mae gwefannau swyddi poblogaidd yn cynnwys TotalJobs, Indeed, Reed a Google Jobs. StudentJob yn wefan a sefydlwyd y benodol ar gyfer myfyrwyr prifysgol sy’n chwilio am swyddi rhan-amser.
Gwneud cais gobeithiol
Ewch â'ch CV i fusnesau bach, lleol a gofynnwch a oes ganddynt unrhyw swyddi gwag. Cofiwch fod yr argraff gyntaf yn cyfrif, felly byddwch yn gwrtais a brwdfrydig a cheisiwch ddarganfod pwy yw'r sawl sy’n gwneud penderfyniadau fel y gallwch gwrdd ag ef. Er bod sefydliadau llai yn fwy tebygol o groesawu ceisiadau gobeithiol, mae pob cyflogwr yn hoffi gweld unigolion sy’n rhagweithiol ac yn ddyfal wrth chwilio am swydd, felly peidiwch â bod ofn camu y tu hwnt i’r hyn sy’n gysurus i chi a mynd ati i’ch gwerthu eich hun wyneb yn wyneb.
Ystyried defnyddio asiantaeth recriwtio
Er bod asiantaethau recriwtio yn tueddu i weithio gyda’r rheiny sy’n chwilio am swyddi dros dro a pharhaol tymor hwy, bydd rhai yn cynnig rolau rhan-amser a allai weithio o amgylch eich astudiaethau neu rolau tymhorol y tu allan i dymor y brifysgol.
Bydd y cyflogwr yn talu'r asiantaeth recriwtio am ei gwasanaethau, sy'n golygu nad oes yna gost i chi am ei defnyddio. Er y gall bod â rhywun yn chwilio am swydd i chi yn rhad ac am ddim ymddangos yn ddeniadol iawn, dylech ddewis a dethol yr asiantaethau a’r ymgynghorwyr recriwtio y byddwch yn partneru â nhw. Gofalwch eich bod yn nodi’n glir beth yw eich anghenion a'ch dymuniadau o'r cychwyn cyntaf, a pheidiwch byth â theimlo dan bwysau i dderbyn swydd nad oes arnoch ei heisiau. Hefyd, peidiwch ag eistedd ’nôl a gadael i'r asiantaethau wneud y gwaith drosoch! Dylid eu defnyddio ochr yn ochr â'ch strategaethau eraill ar gyfer chwilio am swyddi.
Gallwch chwilio am asiantaethau recriwtio ar wefan Agency Central. Mae gan Prospects hefyd gyngor defnyddiol y dylech ei ddarllen os ydych yn ystyried defnyddio asiantaeth recriwtio.
CV ar gyfer swyddi rhan-amser
Bydd eich CV ar gyfer swydd ran-amser yn edrych yn wahanol iawn i CV ar gyfer rolau lefel graddedigion. Mae rhai o’r gwahaniaethau allweddol yn cynnwys:
- Gall eich CV ar gyfer swydd ran-amser fod un ochr A4
- Amlygwch eich sgiliau perthnasol a’ch profiad gwaith yn gyntaf, a symudwch eich Addysg ymhellach i lawr eich CV
- Dylech gynnwys adran ar ddiddordebau i ddangos eich personoliaeth
Defnyddiwch ein templed CV ar gyfer swyddi rhan-amser i’ch helpu: