Skip to main content

Y farchnad swyddi i raddedigion

Gwybod sut i gael profiad gwaith, chwilio am swyddi rhan-amser, a mireinio eich strategaeth chwilio am swydd ar gyfer eich rôl raddedig ddelfrydol.

Y farchnad swyddi i raddedigion

Rydym yn disgrifio’r dirwedd gyflogaeth bresennol, yn enwedig y modd y mae’n berthnasol i chi, y myfyriwr graddedig, fel y ‘farchnad lafur i raddedigion’. Gall deall y farchnad lafur i raddedigion eich helpu i nodi sectorau allweddol a chyflogwyr perthnasol ond hefyd sylweddoli a rhagweld y modd y gall ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a thechnolegol effeithio ar y farchnad swyddi a’r cyfleoedd sydd ar gael i chi ar ôl graddio.

Mae gwybodaeth am y farchnad lafur i raddedigion yn cyfeirio at y dirwedd economaidd a chyflogaeth gyfredol fel y mae'n berthnasol i raddedigion. Yn nodweddiadol, mae'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ffactorau megis cyrchfannau graddedigion, cyflogau cychwynnol cyfartalog graddedigion, a thueddiadau ym mhatrymau recriwtio graddedigion – yn ogystal ag unrhyw beth a allai gael effaith ar y ffactorau hyn (er enghraifft, effaith Brexit ar arferion recriwtio graddedigion, newid technolegol, neu newidiadau ym mholisi'r llywodraeth).
Smith, M-S and Greaves, L. (2023) 'Labour market information: a user guide'

Mae’r cyngor ar y dudalen hon yn cyfeirio’n benodol at y farchnad lafur i raddedigion yn y DU, ond gallwch ddefnyddio’r adran Gweithio dramor ar Prospects i archwilio marchnadoedd swyddi gwledydd eraill o amgylch y byd. Gall myfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd hefyd gael mynediad i GoinGlobal i gael canllawiau cynhwysfawr ar gyfer dros 190 o wledydd.

Deall y farchnad lafur i raddedigion

A chithau’n fyfyriwr graddedig, mae yna alw mawr arnoch! Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r priodoleddau yr ydych wedi’u meithrin trwy ymestyn eich addysg a chymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau a fydd yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau allweddol y maent yn chwilio amdanynt.

Pa un a ydych yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf sy’n ystyried eich opsiynau yn y dyfodol, neu’n unigolyn graddedig sy’n chwilio am rôl ar hyn o bryd, mae’n bwysig deall pa elfennau, tueddiadau a phatrymau allweddol a all ddylanwadu ar eich opsiynau a’ch rhagolygon.

Dyma rai o nodweddion allweddol y farchnad lafur i raddedigion:

  • Hyblyg – nid yw eich pwnc gradd yn diffinio’r opsiynau sydd gennych gan fod llawer o swyddi a chynlluniau graddedigion yn agored i fyfyrwyr ag unrhyw ddisgyblaeth gradd. Er y bydd eich gwybodaeth am y pwnc bob amser yn bwysig, mae gan gyflogwyr ddiddordeb cynyddol yn y sgiliau, y priodoleddau a’r profiadau yr ydych wedi’u sicrhau a’r modd y bydd eich personoliaeth a’ch agwedd yn cyd-fynd ag ethos a diwylliant eu sefydliad. Edrychwch ar y proffiliau swyddi ar wefan Prospects ac yn benodol yr adran ‘Cymwysterau’, sy’n nodi a oes angen gradd benodol ar gyfer y rôl
  • Eang – mae rolau graddedig fel arfer yn bodoli ym mhob sector a diwydiant, a hyd yn oed yn achos rolau lle nad yw cael gradd yn hanfodol, mae’n ddigon posibl y bydd yn eich helpu i sefyll uwchlaw’r gystadleuaeth
  • Gwydn – Er bod ffactorau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol allanol yn effeithio ar y farchnad swyddi i raddedigion, yn yr un modd â phob marchnad swyddi arall mae’n tueddu i fod yn fwy cadarn ac i beidio â theimlo cymaint o effaith oherwydd y gwerth uchel y mae cyflogwyr yn ei roi ar raddedigion. Bu i bandemig y coronafeirws amlygu hyn, gyda’r farchnad lafur i raddedigion yn adfer yn gymharol gyflym wrth i gyflogwyr barhau i flaenoriaethu’r angen i fuddsoddi mewn talent graddedigion
  • Esblygol a deinamig – yn debyg iawn i’r farchnad swyddi ehangach, mae’r farchnad swyddi i raddedigion yn newid mewn ymateb i ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a thechnolegol ehangach. Newid diweddar allweddol yw datblygiadau technolegol a thwf deallusrwydd artiffisial. Mae hyn wedi newid natur rolau lefel mynediad mewn rhai diwydiannau, yn enwedig lle gellir awtomeiddio tasgau arferol, ac wedi dylanwadu ar natur y sgiliau sy’n ofynnol i weithio ochr yn ochr â thwf technolegol, gan roi mwy o bwyslais ar ddeallusrwydd emosiynol a sgiliau technolegol. Mae Adroddiad Dyfodol Swyddi 2023 Fforwm Economaidd y Byd yn tynnu sylw at rai o’r dylanwadau allweddol a fydd yn effeithio ar y farchnad lafur yn ystod y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys twf AI a’r newid yn yr hinsawdd
  • Cystadleuol – mae’r farchnad lafur i raddedigion yn lle cystadleuol iawn. Yn ôl yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, ymunodd tua 570,000 o fyfyrwyr â’r farchnad lafur i raddedigion yn 2023, ac mae’r gystadleuaeth am swyddi graddedigion yn cynyddu. Mae’r Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr (ISE) yn awgrymu bod ceisiadau graddedigion fesul swydd wag wedi cynyddu trwy gydol 2023, i fyny 38%, gyda chyfartaledd o 86 o geisiadau am bob swydd wag

Mae mynd i mewn i farchnad swyddi newidiol a hyblyg yn golygu bod angen i chi feithrin sgiliau a fydd yn eich helpu i lywio eich gyrfa yn y dyfodol, yn enwedig mewn cyfnodau o newid ac ansicrwydd – rydym yn galw’r rhain yn sgiliau rheoli gyrfa, a gallwch ddarllen rhagor amdanynt yn ein cyngor ar reoli eich gyrfa. Mae mabwysiadu ‘meddylfryd twf’ yn allweddol i ddatblygu eich sgiliau rheoli gyrfa a’ch gallu i wrthsefyll newidiadau yn y farchnad lafur i raddedigion. Mae meddu ar feddylfryd twf yn golygu bod yn barod i ddysgu a datblygu sgiliau newydd, dysgu o sefyllfaoedd nad ydynt yn mynd rhagddynt fel y disgwylir, ac wynebu heriau newydd.

Gall ein cyngor ar ymwybyddiaeth fasnachol hefyd eich helpu i gael y newyddion diweddaraf am y diwydiant a’r sector.

Ymchwilio i’r farchnad swyddi i raddedigion

Mae yna lawer o adnoddau defnyddiol y gallwch eu defnyddio i ddeall yr hyn sy’n digwydd yn y farchnad swyddi i raddedigion:

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach: