Skip to main content

Dyfodol Myfyrwyr+

Gallwch chi gael gafael ar adnoddau, gwybodaeth a chyngor ynglŷn â gyrfaoedd yn eich amser eich hun. Crëwyd gan Dyfodol Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Caerdydd yn unig.

Darganfyddwch eich uchelgeisiau a'ch cymhellion gyrfaol, ymchwilio i'ch opsiynau a dysgu sut i wneud dewisiadau gwybodus am eich dyfodol.

Cyfle i ddatblygu sgiliau allweddol i wella eich cyflogadwyedd a dysgu mwy am Rinweddaau Graddedigion y brifysgol.

Gwybod sut i gael profiad gwaith, chwilio am swyddi rhan-amser, a mireinio eich strategaeth chwilio am swydd ar gyfer eich rôl raddedig ddelfrydol.

Dysgwch sut i sefyll allan ym mhob cam o'r broses recriwtio, o CVs a cheisiadau i ganolfannau asesu a chyfweliadau.

Ystyriwch fanteision ac anfanteision astudiaethau pellach a dysgwch sut i chwilio a gwneud cais am gyrsiau ôl-raddedig.

Mynediad at wybodaeth wedi'i theilwra ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, anabl a heb gynrychiolaeth ddigonol a siaradwyr Cymraeg.