Skip to main content

Cwestiynau gyrfa cyffredin

Fel y gallwch ddychmygu, gofynnir i ni lawer o gwestiynau sy’n ymwneud â gyrfa yma yn Dyfodol Myfyrwyr! Wel, rydym wedi casglu rhai o’r ymholiadau mwyaf cyffredin a’u rhoi gyda’i gilydd isod gydag atebion gan ein harbenigwyr gyrfaoedd. Gobeithio y byddant yn helpu i dawelu eich meddwl bod gan lawer o fyfyrwyr yr un pryderon neu ymholiadau am eu gwaith i gynllunio gyrfa a bod yr ymatebion yn rhoi rhai mewnwelediadau defnyddiol.

Cofiwch y gallwch chi drafod unrhyw beth sy’n ymwneud â’ch gyrfa eich hun mewn apwyntiad gyrfaoedd gyda Chynghorydd Gyrfa, y gallwch ei threfnu trwy’ch Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.

Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll, nid ydych chi ar eich pen eich hun! Nid yw mwyafrif y myfyrwyr wedi cael gyrfa broffesiynol eto, felly mae'n gwbl naturiol peidio â gwybod ble i ddechrau gyda'ch gwaith i gynllunio gyrfa.

Dyna lle y gall Dyfodol Myfyrwyr eich helpu. Mae cymaint o weithgareddau a digwyddiadau y gallwch gymryd rhan ynddynt a fydd yn eich helpu i archwilio gyrfaoedd posibl, cyfarfod â gweithwyr proffesiynol a gwrando ar arbenigwyr yn y diwydiant.

Un ffordd wirioneddol ymarferol a defnyddiol o ddechrau cynllunio eich gyrfa yw trwy gofrestru ar ein Gwobr Caerdydd, gwobr cyflogadwyedd y brifysgol. Bydd Gwobr Caerdydd yn mynd â chi ar lwybr strwythuredig a ddyluniwyd i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd a'ch parodrwydd ar gyfer byd gwaith. Bydd hefyd yn ymddangos ar eich Cofnod Cyrhaeddiad Addysg Uwch i gyflogwyr ei weld!

Eto, mae hyn yn hynod gyffredin ymysg myfyrwyr! Tra bydd rhai myfyrwyr yn dod i Gaerdydd gyda chynllun clir iawn ar gyfer y dyfodol, ni fydd y mwyafrif llethol yn gwneud hynny. A hyd yn oed y rhai sydd â chynllun pendant, mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd cyfran uchel o'r myfyrwyr hynny yn newid eu meddwl tra eu bod yn y brifysgol.

Fel yr amlinellwyd yn gynharach yn yr adran Cynllunio Gyrfa hon, rydym yn awgrymu eich bod yn dechrau gyda'r pethau sylfaenol; deall eich hun yn well, eich gwerthoedd, eich cryfderau a’ch cymhellion, yn ymchwilio i'ch opsiynau ac yn creu cynllun datblygu gyrfa.

Tra byddwch yn y brifysgol, gall deimlo fel nad oes gennych yr amser na'r egni i boeni am unrhyw beth arall y tu allan i'ch astudiaethau. Efallai eich bod hefyd yn jyglo ymrwymiadau a chyfrifoldebau eraill, er enghraifft swydd ran-amser neu fod yn ofalwr. Gallai gweithio ar ddatblygiad eich gyrfa gynnwys llawer o weithgareddau gwahanol, er enghraifft gwella eich CV, trefnu apwyntiad gyrfa, archwilio opsiynau gyrfa neu fynd i weithdy cyflogadwyedd. Nid yw’r un o’r rhain yn cymryd llawer o amser ac yn yr oes ddigidol newydd hon, gallwch bellach ymgymryd â llawer o’r gweithgareddau hyn ar-lein yn eich amser eich hun.

Rydym yn argymell cymryd camau bach, ychydig ac yn aml a gall hyn wneud iddo deimlo'n llawer llai llethol.

Os oes gennych chi gyfrifoldebau ychwanegol ochr yn ochr â'ch astudiaethau, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth cyflogadwyedd ychwanegol gan y tîm Hyderus o ran Gyrfa yn Dyfodol Myfyrwyr.

Fel gyda phob penderfyniad mewn bywyd, ni allwch wybod a yw penderfyniad wedi gweithio'n dda hyd nes y cewch gyfle i fyfyrio arno wedyn. Nid ydym yn meddwl ei bod yn bosibl gwneud penderfyniad perffaith, yn hytrach dylech geisio gwneud penderfyniad sy'n seiliedig ar ymchwil a'r adnoddau sydd ar gael i chi ar y pryd. Darllenwch ein cyngor manylach ar wneud penderfyniad ynghylch eich gyrfa.

  1. Paratoi - mae gwrthod yn rhan gyffredin o chwilio am swydd. Mae'n bwysig paratoi eich hun ar gyfer hyn a datblygu strategaeth i ymdopi ag anawsterau ac ailganolbwyntio ar gyfer eich cais nesaf. Gallwch ddarllen ein cyngor ar wydnwch wrth chwilio am swydd
  2. Gofynnwch am adborth – bydd llawer o gyflogwyr yn rhoi adborth yn ystod y cam cyfweld, er ei bod yn annhebygol y bydd ganddynt y gallu i wneud hyn ar gyfer ceisiadau neu CVs aflwyddiannus. Gall unrhyw adborth a gewch amlygu meysydd pwysig i'w datblygu. Gallai hefyd helpu i roi hwb i'ch hyder, er enghraifft os bydd cyflogwr yn dweud wrthych eich bod wedi rhoi cyfweliad rhagorol ond bod gan ymgeisydd arall fwy o brofiad neu fod ganddo gymwysterau gwell. Er bod hyn yn dal yn peri siom, nid oes unrhyw beth y gallech fod wedi'i wneud yn wahanol i effeithio ar y canlyniad!
  3. Gwerthuswch eich ceisiadau - cofiwch gyda chymwysiadau, mae ansawdd yn hytrach na nifer yn allweddol! Os ydych chi'n cyflwyno llawer o geisiadau a heb gyrraedd unman, mae'n werth adolygu ansawdd eich ceisiadau. Rydych chi'n llawer gwell eich byd os byddwch yn treulio mwy o amser yn teilwra ceisiadau o ansawdd uchel i rai swyddi nag yn saethu ceisiadau cyffredinol o ansawdd isel at gannoedd o swyddi. Darllenwch ein cyngor manwl ar geisiadau a chyfweliadau
  4. Siaradwch â Chynghorydd Gyrfaoedd – trefnwch apwyntiad trwy eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr i gael adborth arbenigol ar eich ceisiadau, eich techneg cyfweliad a’ch strategaethau chwilio am swydd.
  5. Peidiwch â rhoi'r ffidil yn y to! - Mae dyfalbarhad yn talu ar ei ganfed - daliwch ati! Byddwch yn dod o hyd i swydd felly ceisiwch beidio â gadael i gael eich gwrthod eich rhwystro rhag cyflwyno ceisiadau pellach. Dydych chi byth yn gwybod pa rai o'ch ceisiadau nesaf fydd yn llwyddiannus, ac yn ôl y dywediad, mae'n rhaid i chi fod ynddo i'w hennill!

Dim ond tua 12% o fyfyrwyr sy'n mynd ymlaen i gynllun graddedigion! Maen nhw'n rhan bwysig o'r farchnad lafur i raddedigion ond maen nhw'n un o lawer o opsiynau gwahanol sydd ar gael i chi - ac nid ydynt at ddant pawb. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i gyflogaeth i lefel graddedigion (swyddi y mae angen gradd arnoch i'w gwneud) ond nid yw'r rhan fwyaf o'r swyddi hyn yn gynlluniau i raddedigion. Darllenwch ein cyngor ar y farchnad lafur i raddedigion a'r gwahaniaethau rhwng swyddi a chynlluniau i raddedigion.

Mae newid neu adael eich cwrs yn benderfyniad mawr. Darllenwch gyngor Prospects ar hyn i sicrhau eich bod yn gwneud penderfyniad gwybodus ac yn siarad â Chynghorydd Gyrfa i wneud yn siŵr eich bod heb os nag oni bai yn gwneud y dewis cywir. Os ydych chi'n fyfyriwr cyfredol, gallwch chi gael rhagor o gymorth ynghylch newid eich astudiaethau ar fewnrwyd y myfyriwr.

Efallai eich bod wedi clywed am yr ymadrodd 'cymhariaeth yw lleidr llawenydd' - byddwch bob amser yn teimlo'n israddol os byddwch yn eich cymharu eich hun ag eraill ac â'u llwyddiant. Ceisiwch ganolbwyntio ar eich cyflawniadau ac ar eich ymdrech eich hun. Hyd yn oed os nad ydych wedi cael swydd neu interniaeth eto a bod eraill o'ch cwmpas wedi gwneud hynny, dylech ymfalchïo yn yr holl waith rydych chi’n ei wneud - bydd yn talu ar ei ganfed yn y pen draw! Yn olaf, cofiwch mai dim ond rhan fach o’r darlun yw'r llwyddiant a welwch ar gyfryngau cymdeithasol - nid ydych chi'n gwybod am y brwydrau, y gwrthodiadau neu'r anfanteision y gallai'r unigolion hynny fod wedi'u profi ymlaen llaw. Mae gan bodlediad Squiggly Careers bennod ddefnyddiol ar 'Sut i osgoi'r fagl cymharu'.