Skip to main content

Ymchwilio i opsiynau gyrfa

Nodwch adnoddau y gallwch eu defnyddio i ymchwilio i yrfaoedd y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Yn ogystal â datblygu eich hunanymwybyddiaeth, bydd dealltwriaeth dda iawn o’r opsiynau gyrfa sydd ar gael i chi yn eich helpu i nodi sectorau, sefydliadau a rolau a fydd yn addas iawn.

Mae llawer o swyddi i raddedigion yn agored i ymgeiswyr sydd ag unrhyw ddisgyblaeth gradd felly gall eich opsiynau fod yn hynod eang. Er y gallai hyn deimlo’n llethol ar adegau, mae hyblygrwydd y farchnad lafur i raddedigion yn y DU yn golygu ei bod yn llawn cyfleoedd a phosibiliadau i raddedigion!

Archwilio posibiliadau gyrfaol

Rhowch gynnig ar y strategaethau canlynol i’ch helpu i archwilio’ch opsiynau:

Lle da i ddechrau yw edrych ar yr opsiynau swyddi sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phwnc eich gradd - ond cofiwch mai man cychwyn yn unig yw hwn ac mae gennych lawer mwy o opsiynau na hyn! Rhagolygon 'Beth gallaf i ei wneud gyda fy ngradd?' yn awgrymu rolau sy'n ymwneud â phynciau gradd penodol. Gallech hefyd ddefnyddio adnodd Alumni LinkedIn i chwilio am broffiliau graddedigion o'ch pwnc ym Mhrifysgol Caerdydd a gweld pa swyddi y maent yn eu gwneud nawr . Os nad oes gennych LinkedIn, darllenwch ein cyngor ar sefydlu proffil.

Defnyddiwch wefannau graddedigion fel Prospects a TargetJobs i archwilio sectorau swyddi gwahanol o ddiddordeb. Mae sectorau yn feysydd o'r farchnad lafur, er enghraifft addysg, gofal iechyd neu gyfrifeg a chyllid, lle mae llawer o swyddi gwahanol. Gall hyn fod yn ffordd ddefnyddiol o ddechrau ymchwilio i faes gwaith cyffredinol sy'n ddiddorol i chi ac yna nodi rolau penodol o fewn y maes hwnnw.

Ffordd wych o gynhyrchu syniadau gyrfa yw edrych trwy hysbysebion swyddi cyfredol (darllenwch ein cyngor ar chwilio am swydd ar gyfer gwefannau rydym yn eu hargymell). Efallai y byddwch yn dod ar draws rolau nad ydych erioed wedi clywed amdanynt o'r blaen! Ceisiwch fabwysiadu dull goleuadau traffig i fesur eich ymateb cychwynnol i'r swyddi a welwch - coch ar gyfer swyddi na fyddech yn eu hoffi o gwbl, oren ar gyfer swyddi nad ydych yn siŵr amdanynt a gwyrdd ar gyfer swyddi y gallech fod â diddordeb ynddynt. Treuliwch ychydig o amser yn meddwl ychydig yn fwy am pam mae swyddi rydych chi wedi'u dewis yn goch, yn oren neu’n wyrdd - beth mae hyn yn dechrau ei ddweud wrthych chi am rai o'ch dewisiadau gwaith?

Pan fyddwch chi'n edrych ar hysbysebion swyddi, cofiwch edrych y tu hwnt i deitl y swydd bob amser! Bydd cyflogwyr gwahanol yn galw swyddi yn bethau gwahanol - anaml iawn y mae enw swydd ei hun yn rhoi syniad cywir i chi o'r hyn y mae'r swydd yn ei olygu! Darllenwch y disgrifiad o'r rôl yn yr hysbyseb swydd i gael gwell dealltwriaeth a defnyddiwch adnoddau fel proffiliau swyddi Prospects i ymchwilio ymhellach i rolau penodol.

Mae Dyfodol Myfyrwyr yn trefnu llawer o ddigwyddiadau cyflogwyr ar gyfer myfyrwyr a graddedigion trwy gydol y flwyddyn academaidd, gan gynnwys ffeiriau gyrfaoedd. Mae'r rhain yn gyfle gwych i gwrdd â chyflogwyr a chael gwybod am gyfleoedd i raddedigion, profiad gwaith ac opsiynau gyrfa gydag ystod eang o sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Cadwch lygad am ddigwyddiadau cyflogwyr yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.

Yn hytrach na gweithio i gyflogwr, efallai yr hoffech chi fod yn fos arnoch chi eich hun! Efallai bod gennych chi eich syniad busnes eich hun neu y byddwch yn gweithio mewn sector lle mae gweithio llawrydd yn gyffredin. Mae gennym lawer o gefnogaeth i fyfyrwyr sydd am ddechrau eu busnes eu hunain a datblygu eu sgiliau entrepreneuraidd.

Mae siarad â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn swydd neu sector sydd o ddiddordeb i chi yn ffordd wych o gael cipolwg ar yr hyn sydd ynghlwm wrth weithio yn y maes hwnnw. Mae Dyfodol Myfyrwyr yn cynnal Cynllun Mentora sy'n paru myfyrwyr â mentoriaid proffesiynol sy'n gweithio yn eu maes diddordeb. Gallwch hefyd gysylltu â phobl sy'n gweithio yn eich maes diddordeb ar LinkedIn - darganfyddwch fwy am sut i ddefnyddio LinkedIn i rwydweithio'n effeithiol.

Mae profiad gwaith, boed yn interniaeth â thâl neu’n gyfle cysgodi byr, yn ffordd wych o gael cipolwg uniongyrchol ar swydd, sector, math o gyflogwr neu fath ar waith. Mae hyn yn rhoi cyfle amhrisiadwy i chi brofi syniad gyrfa, meithrin cysylltiadau yn y sector a chael profiad newydd ar gyfer eich CV. Mae Dyfodol Myfyrwyr yn trefnu profiad gwaith i fyfyrwyr – darllenwch ein cyngor ar ddod o hyd i brofiad gwaith.

Byddwch yn agored i gyfleoedd annisgwyl

Pan fyddwch yn siarad â phobl am eu gyrfaoedd, efallai y gwelwch eu bod yn sôn am lwc neu’n dod ar draws cyfleoedd annisgwyl nad oeddent o reidrwydd wedi cynllunio ar eu cyfer. Mae yna ddamcaniaeth boblogaidd ynghylch gyrfaoedd o’r enw ‘digwyddiad (happenstance) wedi’i gynllunio’, sy’n adlewyrchu’r syniad ein bod yn creu ein lwc ein hunain yn ein gyrfaoedd trwy fod yn agored – ac yn gallu ymateb – i gyfleoedd heb eu cynllunio a ddaw i’n rhan.

Fodd bynnag, nid mater o ddigwyddiadau a gynllunnir yw lwc pur! Mae pobl sy’n gallu manteisio ar gyfleoedd heb eu cynllunio wedi defnyddio eu sgiliau rheoli gyrfa i allu gwneud hynny. Pan fydd digwyddiadau a chyfleoedd heb eu cynllunio yn codi, mae sgiliau fel chwilfrydedd, hyblygrwydd a pharodrwydd i fentro yn golygu ein bod yn gallu gwneud y mwyaf ohonynt.

Andnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach: