Skip to main content

Adnabod eich sgiliau yn rôl ymchwilydd

Myfyrio ar y sgiliau trosglwyddadwy yr ydych wedi'u datblygu yn rôl ymchwilydd.

Yn rôl ymchwilydd byddwch wedi datblygu gwybodaeth ac arbenigedd helaeth mewn llywodraethu, trefnu a rheoli ymchwil. Byddwch hefyd wedi meithrin arbenigedd pwnc-benodol ac, o bosibl, sgiliau mewn rheoli ariannol, gwneud cais am gyllid a dyrannu adnoddau. Fodd bynnag, mae’n hawdd colli golwg ar y nifer o sgiliau trosglwyddadwy yr ydych wedi’u caffael trwy eich gyrfa ymchwil hyd yn hyn. Gellir datblygu sgiliau trosglwyddadwy mewn un rôl neu sector a’u cymhwyso i bron pob un arall. Mae’n hanfodol cydnabod sut ac ym mhle yr ydych wedi datblygu’r sgiliau hyn gydol eich gyrfa hyd yma gan y gallant eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.

Pwysigrwydd sgiliau trosglwyddadwy

Ceir mawr alw am sgiliau trosglwyddadwy ymhlith cyflogwyr gan eu bod yn tueddu i adlewyrchu eich lefelau o broffesiynoldeb a’ch parodrwydd ar gyfer gyrfa, gan gynnwys y modd yr ydych yn gweithio gydag eraill, yn rheoli gwrthdaro ac yn trefnu eich llwyth gwaith eich hun.

Mae Fforwm Economaidd y Byd wedi amlinellu’r 10 sgìl gofynnol gorau ar gyfer y byd gwaith modern:

10 Sgil Cyflogaeth Gorau

(Fforwm Economaidd y Byd, 2023)

Meddwl dadansoddol
Meddwl dadansoddol
Meddwl dadansoddol
Cymhelliant a hunanymwybyddiaeth
Chwilfrydedd a dysgu gydol oes
Llythrennedd technolegol
Dibynadwyedd a sylw i fanylion
Empathi a gwrando gweithredol
Arweinyddiaeth a dylanwad cymdeithasol
Rheoli ansawdd

Math o sgil:

Sgiliau gwybyddol | Hunan-effeithiolrwydd | Sgiliau technoleg| Gweithio gydag eraill | Sgiliau rheoli

Sylwer: Y sgiliau a ystyriwyd pwysicaf i weithwyr ar adeg yr arolwg.

Sgiliau gwybyddol ar frig y rhestr ar gyfer 2023. Addaswyd y llun o World Economic Forum 2023.

 

Gallwch ddarllen rhagor am y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn graddedigion ar ac am y farchnad lafur i raddedigion ar Dyfodol Myfyrwyr+.

Eich sgiliau trosglwyddadwy yn rôl ymchwilydd

Mae’r sgiliau y byddwch wedi’u meithrin yn rôl ymchwilydd yn estyn ymhell y tu hwnt i sgiliau ymchwil ac arbenigedd pwnc. Mewn gwirionedd, drwy gwblhau gradd ymchwil a’ch gwaith fel ymchwilydd ar ddechrau eich gyrfa, rydych chi wedi mireinio llawer o’r sgiliau gorau sydd eu hangen yn yr economi fyd-eang.

Mae Vitae wedi datblygu Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr i helpu ymchwilwyr i nodi’r ystod eang o wybodaeth, priodoleddau ac ymddygiadau y maent wedi’u caffael. Mae’n grwpio’r sgiliau hyn i bedwar prif faes: gwybodaeth a galluoedd deallusol; effeithiolrwydd personol; llywodraethu a threfnu ymchwil; ac ymgysylltu, dylanwad ac effaith.

P’un a ydych chi’n chwilio am eich rôl academaidd gyntaf, yn edrych i symud ymlaen yn eich gyrfa ymchwil neu am weld sut y gellir cymhwyso eich sgiliau i sector gwahanol, rydym yn argymell defnyddio adnoddau helaeth Vitae, sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i gael y gorau o’r Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr.