Skip to main content

Hunangyflogaeth a gyrfaoedd portffolio

Deall opsiynau ar gyfer bod yn bennaeth eich hun, gweithio fel gweithiwr llawrydd a gweithio mewn sawl rôl

Gall entrepreneuriaeth, a allai gynnwys hunangyflogaeth, gwaith llawrydd neu gyfuniad o’r rhain ochr yn ochr â rolau cyflogedig (yn yr hyn y cyfeirir ato’n gyffredin fel gyrfa bortffolio), fod yn llwybr gyrfa poblogaidd i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Mae ymchwilwyr yn datblygu rhai o’r sgiliau entrepreneuraidd pwysicaf sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant mewn busnesau newydd a phan maent yn hunangyflogedig – er enghraifft, creadigrwydd, sgiliau datrys problemau, arweinyddiaeth ac arloesedd – wrth feddu hefyd ar lefel uchel o arbenigedd yn y maes a ddewiswyd ganddynt. Er y gall ymchwilwyr ddefnyddio’r sgiliau a gwybodaeth hyn i ehangu a sefydlu eu busnes eu hunain, gellir eu cymhwyso hefyd er mwyn datblygu ym mhob gyrfa – y sgiliau sy’n gwneud entrepreneuriaid yn llwyddiannus (‘sgiliau entrepreneuraidd’) yn aml yw’r sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt fwyaf.

Diffinio hunangyflogaeth, gweithio’n llawrydd a gyrfaoedd portffolio

Mae hunangyflogaeth, gweithio’n llawrydd a gyrfaoedd portffolio i gyd yn ffyrdd y gallwch chi ymgorffori ffyrdd o fod yn fòs arnoch chi eich hun yn eich gyrfa, ond mae pob un yn cyfeirio at batrymau gwaith sydd ychydig yn wahanol.

Mae hunangyflogaeth yn Cyberia at unigolyn sy'n berchen ar, ac yn rhedeg, ei fusnes ei hun, yn hytrach na gweithio i rywun arall, neu unigolyn sy’n gweithio fel gweithiwr llawrydd.

Mae gweithio’n llawrydd yn ffurf benodol o hunangyflogaeth ac mae'n cyfeirio at rywun sy'n gweithio mewn ffordd hyblyg, yn ôl ei ddewis, gan gynnig ei sgiliau, talentau neu arbenigedd i gleientiaid am ffi y gellir ei thrafod. Maent yn aml yn gweithio gartref ac i gleientiaid lluosog ar un adeg.

Mae gan Prospects fwy o gyngor ar weithio’n llawrydd.

Er bod diffiniadau'n amrywio, mae gyrfa bortffolio yn aml yn cyfeirio at unigolyn sydd â sawl elfen wahanol i'w yrfa, yn nodweddiadol trwy gyfuno mathau gwahanol o gyflogaeth â hunangyflogaeth. Gallai hyn, er enghraifft, gyfeirio at ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa sy’n gweithio’n rhan-amser fel academydd wrth dreulio gweddill ei amser fel ymgynghorydd llawrydd yn y maes y mae ganddo arbenigedd ynddo. Yn aml, mae gyrfa bortffolio yn ddewis sy’n eich caniatáu i ddilyn diddordebau lluosog neu ffrydiau incwm lluosog yn y maes y mae gennych chi arbenigedd ynddo. Nid yw gyrfa bortffolio fel arfer yn gysylltiedig â chyflawni rolau lluosog oherwydd bod yn rhaid gwneud hynny am resymau ariannol, sef sefyllfa sydd fwy na thebyg yn gysylltiedig â’r term ‘economi gig’ a ddefnyddir i ddisgrifio unigolion sy’n gweithio rolau tymor byr, sy’n aml yn ansicr, i ychwanegu at eu hincwm – ffordd o weithio sy’n dod yn gynyddol cyffredin.

Mae gan Careershifters ganllaw defnyddiol i’ch helpu i benderfynu a yw gyrfa bortffolio yn iawn i chi.

Pwysigrwydd sgiliau entrepreneuraidd ar gyfer eich gyrfa:

Mae’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, 2018: p19) yn disgrifio sut mae sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau unigolyn yn cyfuno i gynhyrchu meddylfryd entrepreneuraidd:

  • yn hunanymwybodol o’i bersonoliaeth a’i hunaniaeth gymdeithasol
  • yn awyddus i gyflawni uchelgeisiau a nodau personol
  • yn hunan-drefnus, yn hyblyg ac yn wydn
  • yn chwilfrydig tuag at bosibiliadau newydd ar gyfer creu gwerth
  • yn ymatebol i broblemau a chyfleoedd drwy wneud cysylltiadau newydd
  • yn gallu mynd y tu hwnt i gyfyngiadau canfyddedig a sicrhau canlyniadau
  • yn oddefgar o ansicrwydd, amwysedd, risg a methiant
  • yn sensitif i werthoedd personol, megis ymwybyddiaeth foesegol, cymdeithasol, amrywiaeth ac amgylcheddol

Nid yw bod yn fentrus a bod yn entrepreneur yn gyfystyr â’i gilydd; nid oes angen i bob ymchwilydd wybod sut i sefydlu ei fusnes ei hun, ond gall elwa ar feddylfryd entrepreneuraidd. Gall profiadau a chyfleoedd i ddatblygu creadigrwydd, ymdopi ag ansicrwydd, a thrafod a datrys problemau ddatblygu meddylfryd entrepreneuraidd, heb fod angen sefydlu eich busnes eich hun. Gellir bod yn entrepreneuraidd ar draws pob maes addysg a bywyd proffesiynol. Mewn gwirionedd, mae’r term intrapreneuriaeth yn disgrifio gallu gweithwyr mewn sefydliadau i ddefnyddio eu meddylfryd entrepreneuraidd i ysgogi arloesedd a thwf busnes. Gallwch ddarllen mwy am hyn ar Stanford Online.

Cymorth i fyfyrwyr ymchwil

Gall myfyrwyr ymchwil presennol Prifysgol Caerdydd gael mynediad at ystod eang o gymorth gan Dyfodol Myfyrwyr i’w helpu i feithrin syniad am fusnes, dod yn weithiwr llawrydd neu ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd, gan gynnwys cymorth busnes un-i-un, cyfleoedd i rwydweithio, bŵt-campau, cystadlaethau a chyngor ar-lein manwl. Gallwch ddarllen mwy am y cymorth rydym yn ei gynnig ar fewnrwyd y myfyrwyr.

Os ydych yn aelod presennol o staff, gallwch ddod o hyd i gyngor defnyddiol ar-lein ynglŷn â gweithio i chi’ch hun a sefydlu busnes ar wefannau Busnes Cymru a Gov.uk. Gall Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi hefyd eich cefnogi os ydych ar hyn o bryd yn ymwneud â chynhyrchu cynhyrchion, gwasanaethau neu brosesau sy’n werthfawr yn fasnachol oherwydd eich ymchwil.

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio rhagor am y pwnc hwn: