Llywio newid gyrfa
Meithrin yr hyder angenrheidiol i newid eich gyrfa a throi tuag at rôl neu sector newydd cyffrous.
Mae newid gyrfa yn rhan arferol o fywyd gwaith! Mae datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial a thechnoleg wedi newid y farchnad lafur yn llwyr, gan greu swyddi newydd, newid gwraidd swyddi eraill, a dylanwadu ar y sgiliau y mae ar gyflogwyr eu heisiau. Mae hyd yn oed yn bosibl y bydd eich gyrfa ymchwil wedi bod yn ganlyniad i awydd i fynd ati i ddilyn cyfeiriad newydd yn eich gyrfa. Efallai y bydd newidiadau i gynllun eich gyrfa yn rhai cynlluniedig neu efallai na fyddant wedi’u cynllunio, ond yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn datblygu’r meddylfryd cywir i fynd i’r afael â newid mewn modd cadarnhaol a chydnerth, gan werthuso’r hyn y mae arnoch ei eisiau o’ch gyrfa a derbyn rhywfaint o risg anochel. Gall datblygu sgiliau rheoli gyrfa cadarn a deall y modd y gallwch gynllunio a gweithredu prosesau pontio ym myd gwaith eich helpu i lywio newid ac ansicrwydd yn eich gyrfa eich hun.
Mathau o newidiadau mewn gyrfa
Yn ogystal â’r newid mwy amlwg o ran swydd, sector neu rôl, gallai newid mewn gyrfa hefyd gynnwys y canlynol:
- Newid ym mhatrwm y gwaith (e.e. o lawn-amser i ran-amser)
- Newid ym model yr yrfa (e.e. o un math o waith i bortffolio o opsiynau, o waith llawrydd i waith cyflogedig)
- Symud i fyny/symud i lawr (newid mewn cyfrifoldeb neu o ran dwyster y gwaith)
- Newid o ran y cyd-destun (gwaith/sgiliau tebyg yn cael eu defnyddio mewn sector/diwylliant gwahanol, e.e. o’r sector preifat i’r sector cyhoeddus)
- Newid o ran galwedigaeth (cenhadaeth neu gyfeiriad newydd)
- Newid o ran blaenoriaethau’r yrfa (yn cael ei gysylltu fel arfer â chyfnod mewn bywyd a phrofiadau)
Beth bynnag fo’r canlyniad, gall newidiadau mewn gyrfa ddechrau gyda syniadau annelwig, e.e. “Mae angen newid arnaf” neu “Mae angen cyfeiriad newydd arnaf”; mae’r diweddbwynt yn llawer llai eglur na’r cymhelliad i wneud rhywbeth newydd. I’ch helpu i sicrhau newid bydd angen i chi dorri pethau’n ddarnau llai fel y gallwch harneisio eich parodrwydd i newid a chanolbwyntio ar gymryd camau bach i’r cyfeiriad cyffredinol y mae arnoch ei eisiau. Peidiwch â phoeni os yw’r amcanion yn aneglur i ddechrau; canolbwyntiwch ar gyflawni rhywbeth sy’n rhoi cychwyn i’r broses ac sy’n caniatáu i chi adeiladu momentwm – yr hyn sy’n bwysig yw dechrau yn rhywle.
Cynllunio ar gyfer newid
Mae siarad am newid gyrfa yn un peth, ond mae angen ymrwymiad a chymhelliant i roi hyn ar waith. Mae pontio’n greiddiol i’r broses, ond nid y newid mo hyn – y pontio yw’r amser, y broses a’r profiad yr awn drwyddo i gyrraedd man gwahanol. Tra bo newid swydd yn cael ei bennu gan amserlen proses recriwtio a gweithgareddau diffiniedig (dod o hyd i swyddi a gwneud cais amdanynt, mynd i gyfweliadau, ac ati), mae newid gyrfa yn broses hirach sy’n cynnwys agweddau personol ac ymarferol.
Yn gyntaf, gall fod o gymorth myfyrio ar le rydych ’nawr ac ar yr hyn sydd gennych mewn golwg o ran eich gyrfa yn y dyfodol. Gallech ddilyn y camau syml a amlinellir isod i’ch helpu i ddechrau arni:
- Cam 1 – os oes gennych newid penodol mewn golwg, nodwch y newid hwnnw ar bapur. Bydd gwneud hyn yn ei newid o fod yn syniad amwys yn eich meddwl i fod yn nod penodol.
Os na allwch fod mor benodol â hynny, dechreuwch o Gam 2. - Cam 2 – nodwch hyd at dri pheth pwysig yr hoffech gael mwy ohonynt wrth newid gyrfa, a hyd at dri pheth yr hoffech gael llai ohonynt.
- Cam 3 – pa newidiadau ymarferol a allai fod ynghlwm wrth eich syniadau?
Pan fydd gennych syniad pa newidiadau y gallech neu yr hoffech eu rhoi ar waith, gallwch ddefnyddio’r awgrymiadau ymarferol canlynol i helpu i reoli’r broses o bontio rhwng gyrfaoedd: