Gweithio i chi eich hun
Ystyriwch yr opsiynau i fod yn fos arnoch chi eich hun a sut y gall sgiliau entrepreneuraidd eich helpu mewn unrhyw yrfa.
Mae gweithio i chi eich hun yn ddewis gyrfaol poblogaidd gan fod mwy na 4.2 miliwn o bobl hunangyflogedig yn y DU. Yn rhan o hunangyflogaeth mae creu busnes newydd, rhedeg eich busnes eich hun (hwyrach eich bod yn cyflogi pobl eraill hyd yn oed) a gwaith llawrydd (cyflwyno gwaith, prosiectau neu gontractau i gleientiaid penodol ar sail hunangyflogedig). Er mwyn bod yn hunangyflogedig, mae angen craffter busnes a chynnyrch neu wasanaeth gwerthfawr, ond ar ben hynny mae angen set benodol o sgiliau hefyd – rydyn yn galw’r rhain yn sgiliau entrepreneuraidd. Mae’r sgiliau hyn yn hollbwysig os ydych chi eisiau gweithio i chi eich hun, ac mae llawer o’r rhain hefyd yn sgiliau trosglwyddadwy pwysig y mae galw mawr amdanyn nhw gan gyflogwyr.
Dewis hunangyflogaeth
Mae pobl yn dewis hunangyflogaeth am sawl rheswm. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n dechrau busnes newydd am fod gennych chi syniad unigryw yr hoffech chi ei gyflwyno i’r farchnad neu efallai y byddwch chi eisiau mynd yn weithiwr llawrydd am ei fod yn rhoi mwy o hyblygrwydd ichi o ran eich oriau gwaith. Gallech chi fod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig ar yr un pryd hyd yn oed, er enghraifft gweithio ar eich busnes eich hun neu ddechrau busnes yn eich amser rhydd. Beth bynnag sy’n eich cymell i ddewis hunangyflogaeth, mae’n bwysig eich bod yn ystyried y manteision a’r anfanteision dan sylw – mae gan Prospects ganllaw defnyddiol i’ch helpu i benderfynu a yw hunangyflogaeth yn addas i chi.
Datblygu sgiliau entrepreneuraidd
Mae sgiliau menter a sgiliau entrepreneuraidd yn hollbwysig os ydych chi eisiau bod yn hunangyflogedig, ac maen nhw’n ddeniadol iawn i gyflogwyr graddedigion hefyd! Mae’r rhain yn set o sgiliau rydyn ni’n aml yn eu cysylltu ag entrepreneuriaid, ond mewn gwirionedd, gall unrhyw un ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd. Ymhlith y rhain mae pethau fel creadigrwydd, y gallu i arloesi a datrys problemau a gwytnwch.
Yn rhan o sgiliau entrepreneuraidd mae:
- Datrys problemau ac arloesi – mae gallu adnabod problemau a datblygu atebion arloesol yn allweddol mewn unrhyw yrfa, yn enwedig os ydych chi eisiau dechrau eich busnes eich hun. Ymhlith y rhain mae dod o hyd i fylchau yn y farchnad, canfod lle gall eich busnes neu’r cyflogwr rydych chi’n gweithio iddo fod cam ar y blaen a meddwl am atebion neu brosesau creadigol newydd.
- Gwaith tîm ac arwain – mae’r gallu i weithio gyda phobl eraill a dangos nodweddion arwain cryf yn hanfodol os ydych chi eisiau gweithio i chi eich hun, yn ogystal ag os ydych chi eisiau gweithio i gyflogwr. Efallai y bydd gofyn ichi weithio gyda phobl eraill ac yn rhan o dîm i beri i’ch busnes weithio, ond bydd gofyn ichi arwain yn effeithiol hefyd, yn enwedig os ydych chi’n cyflogi pobl eraill. Mae arweinyddiaeth entrepreneuraidd yn set sgiliau defnyddiol i’w datblygu gan ei bod yn cyfuno llawer o sgiliau trosglwyddadwy pwysig eraill
- Hyblygrwydd a gwytnwch – rydyn ni gyd yn wynebu cael ein gwrthod yn ein gyrfaoedd, ond efallai bod entrepreneuriaid yn wynebu rhwystrau yn fwy na’r rhan fwyaf o bobl, yn enwedig wrth lansio neu ddechrau busnes newydd. Mae bod yn hyblyg a thrin rhwystrau yn gyfleoedd dysgu yn sgiliau hanfodol i bawb er mwyn rheoli eu gyrfa, nid entrepreneuriaid yn unig
- Rhwydweithio a meithrin perthnasoedd – mae creu rhwydwaith o gysylltiadau a chynnal perthnasoedd yn hollbwysig wrth ddechrau unrhyw yrfa, ac yn enwedig os ydych chi’n dechrau eich busnes eich hun neu’n mynd yn hunangyflogedig. Gall eich rhwydwaith roi cyngor a chymorth ichi, yn ogystal ag awgrymiadau defnyddiol er mwyn dod o hyd i gleientiaid newydd. Darllenwch ein cyngor mwy cynhwysfawr ar rwydweithio a’r cyfryngau cymdeithasol i’ch helpu i ddechrau arni
Byddwch chi’n sylwi bod llawer o’r sgiliau entrepreneuraidd sy’n cael eu rhestru yma yn rhai o’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw fwyaf. Bydd treulio amser yn datblygu’r sgiliau hyn tra byddwch chi yn y brifysgol yn eich galluogi i ragori mewn unrhyw yrfa a ddewiswch chi, nid hunangyflogaeth yn unig. Mae bod yn arloesol, yn fentrus ac yn fasnachol ymwybodol hefyd yn un o chwe rhinwedd graddedigion rydych chi’n eu datblygu pan fyddwch chi ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cymorth menter gan Dyfodol Myfyrwyr
Mae gennym lawer o gymorth i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd a gweithio i chi eich hun, p’un a ydych chi’n dechrau busnes neu’n mynd yn weithiwr llawrydd.
Cewch weithio drwy ein llwybrau cynhwysfawr ar-lein wrth eich pwysau eich hun. Ymunwch â’n llwybr cychwyn busnes a gweithio’n llawrydd drwy eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr i ddatgloi’r llwybrau dilynol am greu eich busnes newydd a mynd yn weithiwr llawrydd.
Rydyn ni hefyd yn cynnig:
- Digwyddiadau rhwydweithio
- Bwtcamps
- Gwobrau dechrau busnes
- Gweithdai sgiliau
- Cystadleuaethau a gwobrau drwy gydol y flwyddyn i annog arloesi a datblygu eich syniadau ym maes menter cymdeithasol, megis rhaglen Inspire a 100 o Syniadau Mawr
- Cymorth 1 i 1 gan gynghorydd busnes
Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth rydyn ni’n ei gynnig i fyfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd ar y fewnrwyd ac i’n graddedigion diweddar ar wefan Prifysgol Caerdydd.