Moeseg a’ch gyrfa
Dewch i ddeall sut i ymgorffori moeseg, gwerthoedd a chynaliadwyedd yn eich gyrfa.
Mae gyrfa foesegol yn golygu chwilio am waith sy’n cyd-fynd â’ch gwerthoedd ac yn helpu i wneud y byd yn lle gwell, boed hynny drwy fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, helpu’r amgylchedd neu sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg. Ynghlwm wrth y gyrfaoedd hyn mae gwneud penderfyniadau sy’n ystyried lles yr holl randdeiliaid, gan gynnwys cyflogeion, cwsmeriaid, cymunedau a’r amgylchedd. Mae’r hyn rydych chi’n ei ystyried yn yrfa foesegol yn rhywbeth sy’n bersonol i chi ac efallai y bydd yn wahanol i bawb.
Diffinio gyrfa foesegol neu gynaliadwy
Mae cynaliadwyedd, sy’n golygu defnyddio adnoddau mewn ffordd sydd heb niweidio pobl, y blaned neu genedlaethau’r dyfodol, yn chwarae rhan fawr mewn gyrfaoedd moesegol. Mae 17 Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn cynnig trosolwg defnyddiol o’r blaenoriaethau allweddol o ran cynaliadwyedd yn fyd-eang gan eu bod yn ymdrin â phethau fel dod â thlodi i ben, ymladd yn erbyn anghydraddoldeb a diogelu’r amgylchedd at y dyfodol. Efallai y byddwch chi’n dod ar draws tri philer cynaliadwyedd, sy’n tynnu sylw at yr angen i gydbwyso ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ogystal a’u hintegreiddio’n rhan o’n gwaith:
- Cynaliadwyedd amgylcheddol – mae’r piler hwn yn ymwneud â diogelu adnoddau’r blaned. Efallai y byddwch chi’n chwilio am gyfleoedd gwaith gyda sefydliadau sy’n blaenoriaethu cynaliadwyedd yn eu gweithrediadau a’u cadwyni cyflenwi, neu elusennau a sefydliadau anllywodraethol (NGO) sy’n canolbwyntio’n bennaf ar wella neu ddiogelu’r amgylchedd
- Cynaliadwyedd cymdeithasol – mae’r piler hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gael bywyd da, ni waeth pwy ydyn nhw. Efallai y byddwch chi’n ystyried swyddi gyda sefydliadau sy’n blaenoriaethu amrywiaeth a chynhwysiant, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac ymgysylltu â’r gymuned
- Cynaliadwyedd economaidd – mae’r piler hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod ein harian a’n hadnoddau yn para at y dyfodol. Efallai y byddwch chi’n ystyried cyfleoedd i weithio mewn sefydliadau sy’n blaenoriaethu cyflogau teg, safonau llafur teg a rheoli adnoddau mewn ffordd gyfrifol
Mae gyrfa foesegol neu gynaliadwy yn rhywbeth sy’n bersonol i chi. Yn unol â’n Côd Moeseg a Didueddrwydd. Mae Dyfodol Myfyrwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei rymuso i wneud penderfyniadau cytbwys a gwybodus am ei lwybrau gyrfaol yn y dyfodol yn seiliedig ar egwyddorion, gwerthoedd a chredoau pob unigolyn.
Dylech chi fyfyrio ar eich gwerthoedd, eich credoau a’ch diddordebau eich hun i werthuso pwysigrwydd moeseg a chynaliadwyedd yn eich gyrfa. Bydd y ffordd y byddwch chi’n dewis ymgorffori moeseg a chynaliadwyedd yn eich gyrfa yn dibynnu ar eich barn, eich dewisiadau a’ch amgylchiadau personol. Efallai y byddwch chi’n dewis gweithio’n benodol mewn swydd sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a gwella’r gymdeithas neu’r amgylchedd. Hwyrach mai ystyr gyrfa foesegol i chi fydd ymchwilio i werthoedd, moeseg a pholisïau cyflogwyr, a hynny er mwyn bod yn ymwybodol o unrhyw waith y maen nhw’n ei wneud sy’n cael effaith gymdeithasol neu amgylcheddol.
Ymchwilio i foeseg a gwerthoedd cyflogwyr
Cyn gwneud cais am unrhyw rôl, mae’n bwysig eich bod yn gwneud eich ymchwil. Bydd hyn yn helpu i wella eich ceisiadau drwy ddangos eich ymwybyddiaeth fasnachol, ond bydd ar ben hynny yn eich helpu i ganfod a yw’r cyflogwr yn addas i chi. Efallai y byddwch chi hefyd eisiau ymchwilio i werthoedd a moeseg sefydliad rydych chi’n bwriadu ymuno ag ef. Mae bod yn foesegol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol ymwybodol hefyd yn rhinwedd allweddol y byddwch chi’n ei datblygu ym Mhrifysgol Caerdydd.
Defnyddiwch yr adnodd isod i ddod o hyd i ffyrdd o ymchwilio i ymrwymiadau moeseg a chynaliadwyedd cyflogwyr:
Os ydych chi’n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni’n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn ffenestr ar wahân.
Gwneud argraff yn y farchnad swyddi moesegol a chynaliadwy
Os ydych chi’n angerddol dros yrfa ym maes cynaliadwy, mae camau cadarnhaol y gallwch chi eu cymryd i gael rhagor o brofiad a datblygu eich gwybodaeth yn y maes hwn.
Dyma rai ffyrdd i’ch helpu i wneud argraff:
Ymgymryd â rhagor o astudiaethau
Hyd yn oed os yw eich gradd mewn pwnc nad yw'n gysylltiedig â chynaliadwyedd, mae cyfleoedd i ddysgu rhagor amdano. Beth am geisio:
- Chwilio am gyrsiau ar-lein – er enghraifft, edrych ar y cyrsiau sy’n rhan o Raglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig neu Academi SDG a’r hyn sydd ar gael ar lwyfannau fel Open Learn, Coursera a Future Learn
- Gwylio rhaglenni dogfen a gwrando ar bodlediadau – i gychyn arni, chwiliwch ar-lein ac ar blatfformau ffrydio i weld rhaglenni dogfen cynaliadwyedd a rhowch gynnig ar gyfres podlediadau Sustainable Futures: Career Conversations a GreenBiz 350
- Ymchwil – plymiwch i ddyfnder materion cynaliadwyedd drwy ddarllen adroddiadau ac erthyglau gan arbenigwyr blaenllaw a llunwyr polisïau. Gallai hyn gynnwys: tanysgrifio i gylchlythyr yr Uned Gwybodaeth ar Ynni a’r Hinsawdd (ECIU); gwybod rhagor am bolisi'r DU, Sero Net; cyrchu adnoddau, newyddion ac astudiaethau achos ar-lein ar wefannau megis edie, Renewable UK a'r Gymdeithas er Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg Lân (REA)
Mynnwch brofiad sy’n berthnasol
Ceisiwch gael profiad uniongyrchol o weithio yn y maes hwn tra byddwch yn y brifysgol.
Chwiliwch am gyfleoedd i wirfoddoli gyda sefydliadau sy'n ymwneud â chynaliadwyedd. Mae llawer o gyrff anllywodraethol, elusennau a busnesau yn gweithio ar faterion cynaliadwyedd ac yn croesawu gwirfoddolwyr. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gael profiad gwaith perthnasol i gael effaith uniongyrchol a chadarnhaol. Mynnwch wybod rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael yn eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.
Mae gan lawer o brifysgolion hefyd swyddfeydd cynaliadwyedd neu grwpiau myfyrwyr sy'n trefnu prosiectau a digwyddiadau. Ymhlith rhai o’r enghreifftiau ym Mhrifysgol Caerdydd mae’r Gymdeithas Ffasiwn Gynaliadwy neu'r Gymdeithas Bywyd Gwyllt a Chadwraeth. Mae llawer o gymdeithasau myfyrwyr yn ymgorffori mentrau moesegol a chynaliadwy sy'n canolbwyntio ar gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd neu'r gymdeithas – dewch o hyd i'ch cymdeithas myfyrwyr ddelfrydol ar wefan Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Gallech chi hefyd wneud cais i weithio ar interniaeth ar y campws dros yr haf
Ymunwch â sefydliadau i wybod rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael yn y DU
Mae cyrff proffesiynol neu sefydliadau aelodaeth yn cynnig gwybodaeth, digwyddiadau a rhwydweithio arbenigol. Mae rhai hefyd yn rhoi hyfforddiant i'w haelodau. Mae aelodaeth fel arfer yn cael ei chynnig ar sail gostyngiad i fyfyrwyr hefyd. Ymhlith y rheini sy'n arbennig o berthnasol y mae’r Sefydliad Rheoli ac Asesu, y Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a'r Amgylchedd, Cymdeithas Ecolegol Prydain a Sefydliad y Gwyddorau Amgylcheddol. Hwyrach y bydd gan gyrff proffesiynol mewn sectorau neu feysydd eraill grwpiau amgylcheddol neu grwpiau sy’n ymdrin â chynaliadwyedd hefyd.
Mae yna hefyd raglenni a chynlluniau penodol y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw yn y DU, megis:
- Green Alliance – mae’n cynnig adnoddau amrywiol, gan gynnwys digwyddiadau a chynlluniau i hyfforddeion
- Students Organising for Sustainability – elusen addysg dan arweiniad myfyrwyr sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd. Mae eu gwaith yn ymdrin â meysydd megis yr amgylchedd, cyfiawnder a lles