Beth a olygwn wrth gynaliadwyedd?

Tudalen thema Cynaliadwyedd
Wrth egluro ein ffordd o ymdrin â thema Cynaliadwyedd yn y Pecyn Cymorth hwn, mae angen i ni edrych ar rai diffiniadau.
Cynaliadwyedd
Gellir deall cynaliadwyedd mewn nifer o ffyrdd.
Ym maes addysg uwch yng Nghymru, mae cynaliadwyedd yn gysyniad eang sy'n mynd y tu hwnt i faterion amgylcheddol yn unig. Mae'n cyfeirio at y modd y mae prifysgolion yn gweithredu, yn addysgu, ac yn cyfrannu at gymdeithas mewn ffyrdd sy'n gyfrifol yn amgylcheddol, yn deg yn gymdeithasol, ac yn economaidd hyfyw yn y tymor hir.

Cynaliadwyedd wrth ddysgu ac addysgu
Ym maes addysg uwch, mae'n rhan o'n dyletswydd i baratoi myfyrwyr i “lunio dyfodol mwy teg a chynaliadwy gyda’i gilydd.” Mae hyn yn golygu cynnwys y syniad ym mhob disgyblaeth a chyd-destun yn y brifysgol.
Efallai mai dyma’r fath o olwg fydd ar hyn:
- Cynnwys cynaliadwyedd mewn cyrsiau ac arferion addysgu (fel ymdrin â phroblemau drwg, y Nodau Datblygu Cynaliadwy)
- Helpu myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd i fynd i'r afael â heriau byd-eang (fel cynnwys 8 Cymhwysedd Cynaliadwyedd UNESCO neu gefnogi dysgwyr â Dysgu sy’n Seiliedig ar Broblemau)
- Annog meddwl yn feirniadol am faterion fel newid hinsawdd, anghydraddoldeb, a defnydd o adnoddau (drwy ddysgu gweithredol fel chwarae rôl, dadleuon a thrafodaethau. Gall hyn hefyd gynnwys gweithio rhyngddisgyblaethol)
Mae hefyd yn cynnwys Ymchwil ac Arloesi. Mae prifysgolion yn cyfrannu drwy’r canlynol:
- Cynnal ymchwil ar newid hinsawdd, ynni adnewyddadwy, a systemau cynaliadwy
- Cefnogi arloesedd sydd o fudd i gymdeithas a'r amgylchedd
Mae hefyd yn golygu cymryd cyfrifoldeb lleol a byd-eang.
- Gweithio gyda chymunedau a diwydiannau lleol
- Hybu dinasyddiaeth fyd-eang ac ymwybyddiaeth foesegol
- Cefnogi polisïau fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n annog meddwl a chydweithio hirdymor
Mae hefyd yn cefnogi dysgu gydol oes a sgiliau at y dyfodol
Un nod allweddol yw cynhyrchu graddedigion sy'n ymwybodol o gynaliadwyedd sydd:
- Yn deall heriau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd
- Yn gallu datrys problemau yn y byd go iawn
- Yn gyflogadwy yn yr economi werdd a chymdeithasol gyfrifol
Gweithgaredd: Beth mae Cynaliadwyedd yn ei olygu i chi? Ychwanegu Delwedd i'r Padlet
Ystyriwch y canlynol:
1. Beth mae cynaliadwyedd yn ei olygu i chi a sut mae eich llun yn cyfleu hyn?
2. Pam mae cynaliadwyedd yn bwysig i chi?
3. Sut dylai sefydliadau addysg uwch addysgu am gynaliadwyedd fel y bydd yn gynhwysol ac yn berthnasol i bawb?
Tair Carreg Sylfaen Cynaliadwyedd

Cyfeirir yn aml at ‘Dair Carreg Sylfaen Cynaliadwyedd':
1. Mae stiwardiaeth amgylcheddol yn cyfeirio at ein hamgylchedd ffisegol – y biosffer. Mae hyn yn cynnwys dŵr, ansawdd yr aer, ffrwythlondeb y pridd, ffynonellau bwyd a natur. Mae'n ystyried yr ecosystemau sy'n bytholi ein hamgylchedd ffisegol.
2. Mae effeithlonrwydd economaidd yn cyfeirio at safon byw pob system. Mae hyn yn cynnwys ystyried yn ofalus unrhyw gyfaddawdu amgylcheddol niweidiol a allai effeithio ar genedlaethau’r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys arbed ynni, lleihau olion traed carbon a lleihau gwastraff. Y prif gysyniad ar gyfer cynaliadwyedd economaidd yw gwrthod prosesau byrdymor ac ystyried lles hirdymor y blaned.
3. Mae cyfrifoldeb cymdeithasol yn cyfeirio at drin pawb yn deg trwy sicrhau amhleidgarwch. Mae hyn hefyd yn cysylltu â chyfiawnder cymdeithasol, sy'n ystyried y modd y mae strwythurau cymdeithas yn cefnogi systemau cymdeithasol teg ac yn targedu materion sy'n rhwystro hyn. Mae hyn hefyd yn cynnwys cynnal iechyd a lles pobl a chymunedau.
Datblygu Cynaliadwy

Mae polisïau rhyngwladol a chenedlaethol o ddiwedd y 1980au wedi symud y ffocws oddi ar fudiad amgylcheddol a phryderon llygredd y 1970au, lle mai'r prif nod oedd gwarchod yr amgylchedd naturiol, tuag at 'ddatblygu cynaliadwy'.
Daw diffiniad a ddyfynnir yn aml o 'ddatblygu cynaliadwy' o adroddiad 1987 Comisiwn y Byd ar yr Amgylchedd a Datblygu (WCED), a elwir fel arfer yn Adroddiad Brundtland.
'Datblygiad cynaliadwy yw datblygiad sy'n diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.'
Gweler Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig neu'r dudalen Pam Cynaliadwyedd? i gael gwybod rhagor am hyn.
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ADC)

Mae 'Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy' (ADC) wedi cymryd lle addysg amgylcheddol draddodiadol i raddau helaeth mewn polisïau a thrafodaethau academaidd.
Yn wahanol i addysg amgylcheddol, sy'n canolbwyntio mwy ar natur ac ecosystemau (ecocentrig), mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ESD) yn cymryd dull holistaidd sy'n canolbwyntio ar les dynol, gan gynnwys materion fel tlodi ac anghydraddoldeb cymdeithasol.
Mae ADC yn rhyngddisgyblaethol, sy'n golygu ei bod yn tynnu o feysydd astudio amryfal, ac yn pwysleisio sgiliau addysgu a meddwl yn feirniadol i helpu unigolion i gymryd camau ystyrlon tuag at greu cymdeithas fwy cynaliadwy.
Mae hefyd yn gofyn am ddehongli goddrychol, ac mae'n golygu llunio barn ar werth, gan ei bod yn delio â materion cymhleth a dadleuol yn aml.
Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ESD) yn cyd-fynd â golwg ar wybodaeth fel rhywbeth amlweddog, sy'n gweld gwybodaeth yn esblygu drwy ryngweithiadau ac yn cael ei siapio gan ein byd sy'n newid yn barhaus.
Gweler Canllawiau Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd/Advance HE, neu'r dudalen Pam Cynaliadwyedd? i gael gwybod rhagor am hyn.
Archwilio’n ddyfnach
Cyfeiriadau a Deunydd Darllen Pellach
Centre for Sustainable Futures (2008) ‘Sowing Seeds: How to make your modules a bit more sustainability orientated: A help guide to writing and modifying modules to incorporate sustainability principles’. Centre for Sustainable Futures, Prifysgol Plymouth. Ar gael yn: SowingSeeds20June2008.pdf (plymouth.ac.uk)
QAA Advance HE (2021) ‘Education for Sustainable Development Guidance: Executive Summary’ [ar-lein] The Quality Assurance Agency for Higher Education ac Advance HE 2021
QAA Advance HE (2021) ‘Education for Sustainable Development Guidance’ [ar-lein] The Quality Assurance Agency for Higher Education ac Advance HE 2021. Ar gael yn: Education for Sustainable Development Guidance (qaa.ac.uk) [Cyrchwyd ar 12/09/22]
Katja, B., Barth, M., Cebrián Gisela, Cohen, M., Diaz, L., Doucette-Remington, S., Weston, D., Geoffrey, H., Harré Niki, Meghann, J., Kealalokahi, L., Michel, J., Yoko, M., Rieckmann, M., Roderic, P., Walker, P. a Michaela, Z. 2021, ‘Key competencies in sustainability in higher education—toward an agreed-upon reference framework’, Sustainability Science, cyf. 16, rhif 1, tt. 13-29. Ar gael yn: Key competencies in sustainability in higher education—toward an agreed-upon reference framework – ProQuest
UNESCO (2017) ‘Education for Sustainable Development Goals: Learning objectives’. UNESCO. Paris, Ffrainc: UNESCO. Ar gael yn: Education for Sustainable Development Goals: learning objectives – UNESCO Digital Library [Cyrchwyd 12/09/22]
Wiek, A., Withycombe, L. a Redman, C.L. (2011) ‘Key competencies in sustainability: a reference framework for academic program development’. Sustain Sci 6, 203–218. Ar gael o: https://doi.org/10.1007/s11625-011-0132-6
Sobe, N. W. (2021) ‘Reworking Four Pillars of Education to Sustain the Commons’. UNESCO Futures of Education Ideas LAB. Ar gael yn: https://www.unesco.org/en/articles/reworking-four-pillars-education-sustain-commons
Sterling, S (2012) ‘The Future Fit Framework: An introductory guide for teaching and learning for sustainability in HE’. Centre for Sustainable Futures, Teaching and Learning Directorate, Prifysgol Plymouth. Cyhoeddiad yr Academi Addysg Uwch: Efrog. Ar gael o : future_fit_270412_1435_1568036756.pdf
Rhannwch eich adborth
Ble nesaf?
Rydych chi ar dudalen 1 o 4 ar y thema Cynaliadwyedd. Archwiliwch y lleill yma:
Gwreiddio Cynaliadwyedd mewn dysgu ac addysgu
Neu beth am thema arall?