Skip to main content

Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd

Croeso i’r brif dudalen ar gyfer Cynwysoldeb.

Tudalen Cynhwysiant

Mae cynhwysiant yn hanfodol er mwyn cynorthwyo addysgu sy’n ystyrlon, yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb. Mae’n rhan graidd o brifysgol ffyniannus gan gydnabod bod pob aelod o’n cymuned yn dod â phrofiadau, hunaniaethau a safbwyntiau unigryw sy’n cyfoethogi ein dysgu ar y cyd.

Mae cynhwysiant yn egwyddor graidd mewn Addysg Datblygu Cynaliadwy (ADC). Mae cynhwysiant wedi’i ymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n ceisio creu ‘cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau’. Cafodd ei gydnabod hefyd pan fabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn 2015, a chreu 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs). Mae Nod Datblygu Cynaliadwy 4 yn ganolog i Addysg uwch: Darparu Addysg o Safon sy’n ceisio ‘Sicrhau addysg gynhwysol a theg o safon a hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb’

Strwythur

Mae gan y thema hon 4 is-adran:

  • Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
  • Meithrin Ymdeimlad o Berthyn
  • Grymuso Myfyrwyr i Gyflawni eu Potensial
  • Datblygu Meddylfryd Cynhwysol.

Os ydych chi’n newydd i addysgu neu addysg gynhwysol, gallech chi ddechrau gyda’r Cyflwyniad.

Wedyn, gallwch ehangu eich gwybodaeth er mwyn Meithrin Ymdeimlad o Berthyn i fyfyrwyr, drwy ystyried materion sy’n ymwneud ag ymsefydlu, pontio, y cwricwlwm cudd a pherthyn.

Mae’r adran Grymuso yn cynnwys Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu, ac Addysgeg Gwrth-Hiliol. Mae’n awgrymu dulliau dylunio ar gyfer myfyrwyr amrywiol, cyn ystyried anghenion a disgwyliadau gwahanol grwpiau o fyfyrwyr.

Yn olaf, mae’r adran Datblygu Meddylfryd Cynhwysol yn eich helpu i wella dealltwriaeth myfyrwyr o Gynhwysiant. Gwneir hyn drwy gysylltu â rhinweddau graddedigion ac, i’r rhai sydd â chyfrifoldebau arwain, sut i arwain dysgu ac addysgu mewn ffyrdd cynhwysol i ddatblygu arferion cynhwysol.

Dysgu Pellach

Mae cynhwysiant wedi’i gynnwys ym mhob un o adrannau eraill y pecyn cymorth, mewn perthynas â dylunio cynhwysol, dulliau addysgu, asesu ac adborth, a gwerthuso.

Gallwch hefyd ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol drwy gymryd rhan yn ein gweithdai cysylltiedig, sydd ar gael yn anghydamserol, i’w gwneud yn eich amser eich hun. Gallwch fynd ati wedyn i wneud gweithdy byw (os oes digon o alw), neu gyfarfod pwrpasol gyda’r arweinydd i drafod sut i’w roi ar waith yn eich arferion. Cewch ragor o wybodaeth ar dudalen DPP LTA Caerdydd.

Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2024)

Mae’r thema hon yn gysylltiedig â PSF 2024 wrth ystyried Fersiwn 1: Parchu dysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr, a Fersiwn 2: hyrwyddo ymgysylltiad ym meysydd dysgu a chyfle cyfartal, a’r gofynion cyffredinol ar gyfer arddangos ‘Arferion effeithiol a chynhwysol’. Mae canllawiau ar y dolenni i PSF 2024 ar ddechrau pob tudalen.