Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
Beth yw Addysg Gynhwysol?
Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod diffiniad Hockings (2010, t1) o addysg gynhwysol, sy’n ‘cyfeirio at y ffyrdd y mae addysgeg, cwricwla ac asesu yn cael eu llunio a’u cyflwyno i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu sy’n ystyrlon, yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb. Mae’n cefnogi gweld yr unigolyn a gwahaniaeth unigol yn ffynhonnell o amrywiaeth a all gyfoethogi bywydau a dysgu pobl eraill.’
Mae Addysg Gynhwysol yn broses ddeinamig sy’n gofyn am ymrwymiad ar draws y sefydliad i drawsnewid diwylliant, prosesau ac arferion y brifysgol yn systematig. Y nod yw goresgyn rhwystrau i bresenoldeb, cyfranogiad, cyflawniad a phrofiad pob myfyriwr, yn ogystal ag ystyried a dathlu amrywiaeth gyfoethog y gymuned ddysgu.
Mae cynhwysiant yn hanfodol er mwyn cynnig dysgu sy’n ystyrlon, yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb. Mae’n rhan graidd o brifysgol ffyniannus ac yn cydnabod bod pob aelod o’n cymuned yn dod â phrofiadau, hunaniaethau a safbwyntiau unigryw sy’n cyfoethogi ein dysgu ar y cyd.
Ein hymagwedd tuag at Addysg Gynhwysol: Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd
Mae’r fframwaith prifysgol gyfan hwn wedi’i gynllunio i helpu Ysgolion ac adrannau i ymgorffori addysg gynhwysol yn eu gwaith, fel bod egwyddorion cynhwysol yn rhan o’n haddysgu bob dydd a’n datblygiad addysgol ehangach.

Egwyddorion Allweddol
Mae ein hegwyddorion allweddol yn ganolog i’n hymagwedd: ymrwymiad i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy newid addysgol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a chael gwared ar rwystrau systemig a diwylliannol mewn addysg, yn ogystal ag anghydraddoldeb.
Ein tri maes ffocws
Meithrin ymdeimlad o berthyn
Mae myfyrwyr yn ffynnu mewn diwylliant sy'n cydnabod ac yn dathlu amrywiaeth er mwyn datblygu ymdeimlad o berthyn i'r holl staff a myfyrwyr: “cred bersonol rhywun eu bod wedi’u derbyn yn aelod o gymuned academaidd a bod eu presenoldeb a'u cyfraniadau'n cael eu gwerthfawrogi” (Good et al. 2012). Dyma ein pum maes ffocws i helpu i feithrin ymdeimlad o berthyn:
- Cydnabod a dathlu cymuned amrywiol y brifysgol, a galluogi myfyrwyr i weld eu hunain yn cael eu cynrychioli yn y cwricwlwm
- Herio'r cwricwlwm cudd a chynnig cymorth rhagweithiol a chysylltiedig i fyfyrwyr ar hyd y daith ddysgu
- Mynd ati o ddifrif i wrando ac ymateb i bob llais
- Bod yn dryloyw, yn amserol ac yn dosturiol wrth gyfathrebu
- Datblygu ymdeimlad o gymuned a hunaniaeth yn y Brifysgol, yr Ysgol, y rhaglen ac/neu’r ddisgyblaeth
Grymuso Myfyrwyr i Gyflawni eu Potensial
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw cael ‘cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau’. Ym Mhrifysgol Caerdydd, byddwn ni’n rhoi cymorth i bob myfyriwr i gyflawni eu potensial drwy’r pum maes allweddol canlynol:
- Darparu dysgu sy'n ddilys, yn ystyrlon ac yn berthnasol drwy gydnabod anghenion a safbwyntiau pob dysgwr, a chynllunio i bawb
- Rhoi cymorth i bob myfyriwr i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu
- Galluogi pob myfyriwr i ddangos eu galluoedd, eu sgiliau a'u gwybodaeth
- Teilwra ein cymorth drwy gysylltu â myfyrwyr i gynnig cymorth personol a galluogi pob myfyriwr i wella eu canlyniadau
- Rhoi’r sgiliau a’r strategaethau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i lwyddo yn ystod eu hastudiaethau a thu hwnt
Datblygu Meddylfryd Cynhwysol
Mae cymuned gynhwysol yn mynd i’r afael o ddifrif â’r heriau a’r cymhlethdodau sy'n ymwneud â pherthyn a chyflawni sy'n gynhenid mewn arferion traddodiadol ac elitaidd. Mae'n ymdrechu i'w goresgyn drwy nodi rhwystrau i ddysgu ac ymgysylltu, er mwyn symud yn nes at greu 'Cymru fwy cyfartal' (Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015). Drwy ddatblygu meddylfryd cynhwysol, gallwn gefnogi a grymuso myfyrwyr o bob cefndir i ddathlu amrywiaeth, ac i ddod yn asiantau ac yn wneuthurwyr newid a all gymryd rhan weithredol mewn cefnogi datblygiad dyfodol cymdeithasol gyfiawn (Nod Datblygu Cynaliadwy 16 y Cenhedloedd Unedig).
- Defnyddio amrywiaeth y gymuned i gyfoethogi datblygiad y profiad dysgu a bod yn sail iddo
- Cydnabod a mynegi anghydraddoldebau a braint, gan gynnwys beirniadu dealltwriaeth o darddiad gwybodaeth am y pwnc
- Ysbrydoli myfyrwyr i ddod yn hyrwyddwyr cynwysoldeb, gan roi'r sgiliau iddyn nhw feithrin a chefnogi amgylcheddau cynhwysol
- Grymuso myfyrwyr i fod yn wneuthurwyr newid gwydn, beirniadol, sy’n datrys problemau ac yn cydweithio ag eraill mewn byd sy’n ansicr, yn rhyngddisgyblaethol, ac sydd wedi'i ddigideiddio
- Rhoi’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ymgysylltu’n ystyrlon mewn rolau proffesiynol a chymdeithasol ar ôl graddio
Amrywiaeth Ein Carfanau o Fyfyrwyr
Mae mwy o amrywiaeth mewn Addysg Uwch nag erioed o’r blaen. Mae’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn Addysg Uwch ymhlith pobl sy’n hanu o’r DU, ac amrywiaeth yn sgîl hynny, wedi cynyddu’n aruthrol ers 1950, pan oedd llai na 5% o’r boblogaeth yn mynd i’r Brifysgol. Mae ehangu’r system addysg uwch i oddeutu 50% o’r rhai sy’n gadael ysgol a cholegau yn y DUI wedi arwain at lawer mwy o amrywiaeth ymhlith myfyrwyr. Mae rhyngwladoli, agendâu cyfranogiad ehangach, a niferoedd cynyddol o fyfyrwyr anabl yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed inni ystyried ein haddysg gynhwysol.
Beth yw barn y myfyrwyr?
Cam cyntaf pwysig yw deall pwy yw ein dysgwyr, er mwyn ein galluogi i fyfyrio ar y ffordd orau i’w haddysgu a’u cefnogi. Fe weithion ni gydag ystod o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr o’r DU a oedd yn meddu ar hunaniaethau amlweddog o bob rhan o Brifysgol Caerdydd. Mae fideos, safbwyntiau a dyfyniadau i’w gweld ar draws y tudalennau a’r adrannau cynhwysiant.
Dyma rai myfyrdodau ar gynhwysiant ac EDI gan ein myfyrwyr:
Dimensiynau Amrywiaeth
Mae’n bwysig deall a dathlu amrywiaeth ein myfyrwyr ac ymateb iddo, ac mae hyn ‘yn gofyn am roi sylw i’r hunaniaethau cymhleth, deinamig, a chroestoriadol y mae pob dysgwr ac athro yn dod gyda nhw i’r profiad addysgegol’ (Lawrie et al. 2017).
Rydym yn defnyddio diffiniad eang wrth ystyried amrywiaeth, sef cysyniadaeth Thomas a May (2010) o bedwar dimensiwn eang o amrywiaeth, lle gall pob myfyriwr (ac aelod o staff) fod yn wahanol: yn addysgol, o ran cymeriad, yn ôl eu hamgylchiadau ac yn ddiwylliannol.

Ffigur 2: Dimensiynau Amrywiaeth (Thomas a May 2010)
Er bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cydnabod rhai o’r nodweddion hyn fel rhai gwarchodedig, ac y gallai rhai fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol gan wasanaethau penodol y brifysgol (fel anabledd), mae anghenion myfyrwyr yn fwy amrywiol na’r categorïau hyn. Mae’r holl ddimensiynau uchod yn ei gwneud yn ofynnol inni ystyried dyluniad ein dulliau addysgu a’n harferion, i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn cael profiad cyfartal.
Mae Deddf Cydraddoldeb (2010) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol inni fod yn rhagweledol yn ein darpariaeth addysgol: felly, ddylwn ni ddim aros nes bod myfyriwr yn cyflwyno angen neu nodwedd ddysgu benodol. Yn hytrach, rhaid inni ddylunio ein haddasiadau o’r cychwyn cyntaf, i ddarparu ar gyfer mwyafrif yr anghenion.
I weld pa mor amrywiol yw ein myfyrwyr, mae ein data ym Mhrifysgol Caerdydd ar gael yma (staff yn unig). Gallwch edrych ar nodweddion myfyrwyr a data amrywiaeth eich rhaglen drwy’r data hwn. Fel arall, gallwch ddefnyddio personas, sef archdeipiau sy’n nodweddu anghenion, nodau, profiad technegol, gofynion hygyrchedd a nodweddion personol eraill grwpiau ehangach o bobl (Lilley, Piper ac Attwood 2015). Gall y rhain roi gwell dealltwriaeth i gydweithwyr o boblogaeth y myfyrwyr yn ogystal â nodi nodweddion allweddol i’w hystyried yn ystod cylch bywyd y myfyriwr, a chylch addysgu dylunio, cyflwyno, asesu a gwerthuso.
I gael gwybod rhagor am Bersonas, edrychwch ar yr adnodd dysgu Xerte hwn.
Where next?
Ble nesaf?
Dolenni i dudalennau pecynnau cymorth eraill
I gael gwybod rhagor, edrychwch ar y tair adran nesaf o’r thema cynhwysiant: Meithrin Ymdeimlad o Berthyn, Grymuso Myfyrwyr i Gyflawni eu Potensial, a Datblygu Meddylfryd Cynhwysol.
Gallwch hefyd ddarllen am gynhwysiant a sut caiff ei gymhwyso i’ch arferion ym mhob adran: Dylunio; Dulliau Addysgu; Asesu ac Adborth; a Gwerthuso a Chydweithio.
Adnoddau a chyfeiriadau ychwanegol.
Hockings, C. 2010. Inclusive Learning and Teaching in Higher Education: A Synthesis of Research. Efrog: Higher Education Academy. Ar gael ar-lein
Lawrie, G., Marquis, E., Fuller, E., Newman, T., Qui, M., Nomikoudis, M., Roelofs, F., a van Dam, L. (2017) Moving towards inclusive learning and teaching: A synthesis of recent literature. Teaching and Learning Inquiry 5 (1)
Thomas, L. a May, H. 2010. Inclusive Learning and Teaching in Higher education. Efrog: HEA. Ar gael ar-lein
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig: Darllenwch ein thema Cynaliadwyedd