Skip to main content

Dulliau Addysgu Cynhwysol

Rhoi cymorth i bob myfyriwr i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu

‘Dyluniad dysgu cynhwysol yw dyluniad sy’n ystyried yr ystod lawn o amrywiaeth ddynol gyda’i ryngdoriad cymhleth.  Mae’n dylunio amgylcheddau dysgu, profiadau, gweithgareddau, tasgau, asesu ac adborth gyda llais a dewis myfyrwyr wrth ei wraidd, fel y gall myfyrwyr dyfu’n academaidd, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.’ (Rossi, 2023) 

Ar y dudalen hon byddwch yn darllen am sut y gallwch addasu eich dulliau addysgu i wneud yn siŵr eich bod yn ymgysylltu â phob dysgwr ac yn diwallu ei anghenion. Dyma’r man cychwyn ar gyfer yr holl ddulliau addysgu sydd yn yr adran hon. Mae ar gyfer unrhyw un sy’n addysgu neu’n cefnogi myfyrwyr, mewn unrhyw rôl. 

Gallwch ddatblygu eich dealltwriaeth o Ddulliau Addysgu Cynhwysol drwy gymryd rhan yn ein gweithdai cysylltiedig, sydd ar gael yn anghydamserol, i’w gwneud yn eich amser eich hun. Gallwch fynd ati wedyn i wneud gweithdy byw (os oes digon o alw), neu gyfarfod pwrpasol gyda’r arweinydd i drafod sut i’w roi ar waith yn eich arferion. Cewch ragor o waybodaeth ar dudalen DPP LTA Caerdydd.

Mae gan Fodel Gwella Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd gyfres o dargedau allweddol ar gyfer gwella cyflwyno sy’n defnyddio ymchwil ac argymhellion y sector. Gallech ddefnyddio hyn fel sail ar gyfer myfyrio a chynlluniau ar gyfer gwelliannau. 

Targedau’r model gwella ar gyfer cyflenwi: 

  • Ar draws y rhaglen, ceir cyfleoedd ar gyfer sawl dull o ymgysylltu, boed wyneb yn wyneb, ar-lein neu’n anghydamserol. 
  • Mae’r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau sy’n cael eu llywio gan wahanol safbwyntiau cymdeithasol a diwylliannol, ac yn adeiladu ar alluoedd, diddordebau, profiadau a dyheadau addysgol myfyrwyr. 
  • Cyflwynir gwybodaeth, adnoddau a deunyddiau mewn amrywiaeth o fformatau a chyfeirir atyn nhw yn rheolaidd ar draws y rhaglen. Mae yna lawer o gyfleoedd i’r myfyrwyr gael eglurhad neu adborth mewn sawl ffordd. 
  • Mae ymweliadau a lleoliadau yn rhoi ystyriaeth i anghenion pob myfyriwr ac yn adlewyrchu amrywiaeth y garfan myfyrwyr. 
  • Mae pob amgylchedd dysgu rhithwir yn gwbl hygyrch, yn rhagweithiol, ac yn hyblyg i ddiwallu holl anghenion y myfyrwyr. Rhoddir ystyriaeth i hygyrchedd dull cyflwyno’r cwricwlwm. Mae adborth y myfyrwyr yn llywio hygyrchedd y mannau hyn yn flynyddol. 
  • Mae pob modiwl yn darparu rhestrau darllen sydd wedi’u digideiddio’n bennaf, ac sydd â deunyddiau darllen gofynnol a dewisol. 
  • Mae’r holl ddeunydd ar draws y rhaglen yn cael ei lanlwytho o leiaf 48 awr ymlaen llaw ac mae recordiadau ar gael cyn y pum diwrnod diofyn. Darperir nodiadau cryno i’r myfyrwyr o sesiynau nad ydyn nhw’n cael eu recordio. 
  • Mae cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio ac ymgyfarwyddo â therminoleg anghyfarwydd ac mae terminoleg a chysyniadau newydd wedi’u hymgorffori mewn modiwlau craidd ar draws y rhaglen. 

Mae defnyddio dulliau addysgu cynhwysol yn ategu cenhadaeth y Brifysgol i ‘gynnig profiad addysgol rhagorol i fyfyrwyr o bob cefndir a phrofiad, ac ymrwymiad i ddysgu hyblyg gydol oes sy’n creu newid cadarnhaol’, sy’n elfen ganolog o strategaeth Prifysgol Caerdydd, ‘Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd’. 

Ystyriaethau ymarferol a chymdeithasol-ddiwylliannol ar gyfer addysgu 

Mae egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu yn helpu staff i wneud yn siŵr bod eu dulliau addysgu yn diwallu anghenion pob dysgwr. Ar yr yn pryd, maen nhw’n lleihau’r addasiadau unigol, cymhleth a lluosog sydd eu hangen ar gyfer carfannau mawr, sy’n dysgu mewn amrywiaeth o amgylcheddau amrywiol.  

Mae Fovet (2020: 164) yn awgrymu: ‘Mae Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu yn ddeniadol i hyfforddwyr AU am ei fod yn llawer mwy ymarferol na gwahaniaethu yn ôl pob golwg o ran rhoi mesurau cynhwysol ar waith yn y neuadd ddarlithio. Mae’n darparu egwyddorion clir, ymarferol ar gyfer dylunio cynhwysol y gall hyfforddwyr eu defnyddio’n rhwydd. Yn yr ystyr hwn, mae’n symleiddio i raddau helaeth y broses o ddylunio’n rhagweithiol ac yn gynhwysol ar gyfer yr ystafell ddosbarth’. 

Mae ystod eang o ystyriaethau ar gyfer trefnu a darparu mannau addysgu mewn modd cynhwysol: 

Sicrhau bod yr amgylchedd ffisegol yn hygyrch. Gwiriwch: 
• bod mynediad ffisegol i adeiladau a mannau, a seddi, yn diwallu pob angen 
• bod digon o olau a chyferbyniad lliw yn yr ystafell 
• bod modd symud o amgylch yr ystafell yn rhwydd, er enghraifft, wrth newid gweithgareddau 
• bod anghenion corfforol, galluoedd ac anableddau myfyrwyr yn cael eu hystyried wrth ddylunio tasgau ac arbrofion ymarferol

Gwnewch yn siŵr bod yr amgylchedd digidol yn hygyrch (Darllenwch ragor am hyn yn ein gweithdy Hygyrchedd Digidol, rhan o'n rhaglen DPP). Gwnewch yn siŵr eich bod yn: 

  • Dilyn rheoliadau Hygyrchedd Digidol wrth ddylunio deunyddiau addysgu, offer ac asesiadau
    • Defnyddio platfformau hygyrch (gwiriwch ddatganiadau hygyrchedd)
    • Sicrhau bod cyfleoedd dysgu cydamserol ac anghydamserol ar gael
    • Darparu ar gyfer sawl math o gynnwys (e.e. testun, sain, fideo)
    • Sicrhau bod gan fyfyrwyr gymhwysedd a mynediad digidol, yn enwedig wrth ddefnyddio meddalwedd neu apiau newydd• Sicrhau bod sleidiau PowerPoint a deunyddiau clyweledol eraill yn hygyrch (ffont, lliw cefndir, defnydd o ddelweddau, yn cael eu hategu gan destun amgen, testun wedi’i alinio i’r chwith)
    • Defnyddio fideos â disgrifiadau sain a chapsiynau
    • Lleisio dyfyniadau hir ar y sgrîn
    • Mynegi manylion mewn graffiau a diagramau (naill ai ar lafar neu drwy nodiadau)
    • Gwirio bod tudalennau ultra yn cael eu trefnu’n gydlynol ar draws modiwl a rhaglen
    • Ymwybodol o wahaniaethau amser i ddysgwyr rhyngwladol ar gyfer dysgu ac asesu ar-lein
    • Cadw at amser: peidiwch â rhedeg drosodd, a pheidiwch â charlamu os yw amser yn fyr – recordiwch wedyn neu trafodwch yn ddiweddarach 

    Dwy ystyriaeth ymarferol allweddol sy'n diwallu anghenion llawer o wahanol grwpiau o fyfyrwyr:
    • Darparwch ddogfennau PowerPoint neu offer clyweledol eraill sydd ar gael 48 awr ymlaen llaw
    • Gwnewch yn siŵr bod recordiadau o sesiynau ar gael 

  • Creu diwylliant cynhwysol a chydweithredol sy'n cydnabod fersiynau dilys o’r myfyrwyr, ac yn eu galluogi i weld eu hunain yn cael eu cynrychioli yn y cwricwlwm. 
  • Mynegi arferion dysgwyr, academaidd a diwylliannol a allai fod â gwybodaeth y cymerir bod pawb yn ei gwybod – er enghraifft, rhoi disgwyliadau o ymddygiadau dysgu cymdeithasol (er enghraifft, beth ydym yn ei WNEUD mewn gweithgareddau grwpiau bach) 
  • Esbonio unrhyw gyfeiriadau diwylliannol, diwylliant pop neu wybodaeth hanesyddol sy'n canolbwyntio ar y DU. 
  • Gosod rheolau sylfaen ar gyfer adegau pan fo gwahaniaeth barn a bod yn ymwybodol o ddeinameg pŵer a rheolaeth, rhwng myfyrwyr, a chyda chi eich hun a staff eraill 
  • Defnyddio mannau ffisegol sy'n hyrwyddo cydweithio a dysgu cymdeithasol (e.e. cynllun yr ystafell) 
  • Amrywio gweithgareddau i fel bod nifer o ddulliau ymgysylltu a sicrhau eu bod yn cynnal sylw. 

Awgrymiadau Ardderchog gan Fyfyrwyr

Grym siarad: Myfyriwr 1: 'Roeddwn i'n teimlo'n fwy hyderus pan oedd darlithwyr yn annog cwestiynau a thrafodaethau'.

Gadewch inni gwrdd: Myfyriwr 1: ‘Fe wnaeth y cyfarfodydd un-i-un a gefais gyda fy nhiwtor fy helpu i nodi meysydd i'w gwella’.

Myfyriwr 2: 'Mae adborth yn galluogi myfyrwyr i dyfu go iawn, yn enwedig pan maen nhw'n gwybod bod gwir ddiddordeb gennych chi yn eu datblygiad. Mae myfyrwyr yn glyfar; os ydyn nhw'n teimlo eich bod chi'n rhoi adborth nid fel ymarfer ticio blychau yn unig, ond oherwydd eich bod chi wir eisiau eu helpu i wella, maen nhw'n ymateb gyda mwy o ymdrech ac ymgysylltiad.’

Recordiwch: Myfyriwr 1: ‘Fe wnaeth y darlithoedd a oedd wedi'u recordio ar-lein ganiatáu imi ailedrych ar bynciau anodd’.

Byddwch yn hyblyg: Myfyriwr 1: ‘Cynigir sawl dull o ymgysylltu, gan gynnwys gwneud y dasg ychydig yn wahanol fel ei bod hi'n bosibl’.

Myfyriwr 2: 'Ar ôl profi amgylchedd dysgu cyfunol, rwy'n teimlo mai dyma'r dull mwyaf buddiol i gynifer o fyfyrwyr gwahanol â phosibl, oherwydd ei hyblygrwydd a'i allu i addasu.’

Mae ystod o enghreifftiau defnyddiol a phenodol i’r ddisgyblaeth, o gymhwyso Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) i ddulliau addysgu ar wefan UDL (UDL ar y Campws 2022).  

Isod ceir darn byr i wrando arno ac astudiaeth achos i roi hwb i’ch arferion : 

Globe

Astudiaethau Achos: Arbrofion ymarferol cynhwysol, efelychiadau a dysgu rhithwir

Astudiaethau Achos: Arbrofion ymarferol cynhwysol, efelychiadau a dysgu rhithwir 

Pethau i’w hystyried ynghylch Addysg Gynhwysol wrth gynnal Arbrofion ac mewn Labordai (Anna Richards, Biowyddorau): 

  1. Strategaeth Addysgu: Dangos techneg ymarferol yn y Labordy ac arsylwi arni 

Gweithgaredd Myfyrwyr:    

Darllen beth yw’r protocol a’i ddeall, arsylwi ar sesiwn ymarferol ar dechneg benodol, gwneud nodiadau, sefyll am sawl awr, trafodaeth mewn grwpiau bychain dan arweiniad hyfforddwr i ofyn cwestiynau. 

 

Rhwystrau i Ddysgu: 

Prosesu gwybyddol a/neu synhwyraidd, anghysur corfforol, diffyg gwelededd neu fynediad, materion iaith neu gyfathrebu 

Myfyrwyr a allai gael eu heffeithio 

Myfyrwyr ag amhariadau gweledol, clywedol neu wybyddol; Myfyrwyr â chyflyrau iechyd, yn enwedig problemau symudedd, poen cronig, neu anableddau; Myfyrwyr dyslecsig; 

Myfyrwyr sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. 

 

Datrysiadau 

  • Mynd at wraidd y protocol a’r dechneg, a’u symleiddio i fod yn gamau bach, hylaw. 

  • Dosbarthu deunyddiau darllen cyn y sesiwn sy'n egluro theori a chamau'r dechneg mewn modd symlach. 

  • Defnyddio diagramau, fideos, neu animeiddiadau cyn y sesiwn arddangos er mwyn dangos camau cymhleth ar ffurf weledol. 

  • Gwneud yn siŵr bod digon o amser wedi’i neilltuo i gael saib yn ystod arddangosiadau, a hynny er mwyn lleihau blinder wrth sefyll. 

  • Cynnig opsiynau o ran seddi i fyfyrwyr nad ydyn nhw’n gallu sefyll am gyfnodau hir. 

  • Defnyddio cymhorthion gweledol, megis camerâu uwchben neu sgriniau, er mwyn taflunio'r arddangosiad yn glir i bawb ei weld. 

 

 

  1. Strategaeth Addysgu: Efelychiadau neu Labordai Rhithwir 

 Gweithgaredd Myfyrwyr: 

Ymgyfarwyddo â’r amgylchedd rhithwir, dilyn protocol rhithwir neu ymgymryd â thasg gychwynnol, casglu a dadansoddi data wedi’u hefelychu, gweithio ar y cyd mewn timoedd rhithwir. 

 

Rhwystrau i Ddysgu:  

Anawsterau technegol neu ddiffyg hyfedredd technegol; Prosesu gwybyddol a/neu synhwyraidd; Cymhelliant ac Ymgysylltu gan ei bod yn sesiwn fwy haniaethol, llai rhyngweithiol. 

 

Myfyrwyr a allai gael eu heffeithio: 

Myfyrwyr ag amhariadau gweledol, clywedol neu wybyddol; Myfyrwyr sydd â mynediad cyfyngedig at dechnoleg; Myfyrwyr dyslecsig; Myfyrwyr y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddyn nhw. 

 

Datrysiadau: 

  • Trefnu tiwtorial cyn mynd i’r labordy neu sesiwn hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r platfform labordy rhithwir (e.e. tiwtorialau fideo, canllawiau cam wrth gam, neu sesiwn gyflwyno ryngweithiol) 

  • Cynnig cymorth technegol yn ystod sesiwn y labordy, megis desg gymorth bwrpasol neu gynorthwywyr addysgu fydd wrth law i ddatrys problemau. 

  • Symleiddio protocolau drwy eu rhannu i gamau bach, hylaw, a chynnig cymhorthion gweledol neu animeiddiadau sy'n egluro pob cam o'r weithdrefn rithwir. 

  • Cynllunio’r protocol rhithwir mewn modd sy’n caniatáu i fyfyrwyr gymryd saib ac ailymweld â’r adrannau os ydyn nhw wedi’u gorlethu, gan roi’r gallu iddyn nhw reoli cyflymder y dasg. 

 

Ble nesaf? 

Dolenni i dudalennau pecynnau cymorth eraill 

Mae ein tri phrif faes ffocws, sef Meithrin Ymdeimlad o Berthyn, Grymuso Myfyrwyr i Gyflawni eu Potensial, a Datblygu Meddylfryd Cynhwysol, yn adran Cynhwysiant y tab Themâu. Mae ystyriaethau cynhwysiant i’w gweld hefyd yn ein ‘Pecyn Cymorth Adnoddau Addysgu’, ar y dudalen nesaf. 

Adnoddau a chyfeiriadau ychwanegol. 

Advance HE 2018. Ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Cwricwlwm: Safon rhaglen. Ar-lein. Ar gael yn: https://www.advance-he.ac.uk/sites/default/files/2019-09/Assessing%20EDI%20in%20the%20Curriculum%20-%20Programme%20Standard.pdf  

CAST 2024. Canllawiau Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu fersiwn 3.0. Ar-lein. Ar gael yn: http://udlguidelines.cast.org   

Fovet, F. (2020) Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu fel Offeryn ar gyfer Cynhwysiant yn Ystafell Ddosbarth Addysg Uwch: Awgrymiadau ar gyfer y Degawd Nesaf o Weithredu. Education Journal, 9(6), 163-172  

UDL ar y Campws. 2022. UDL Examples. Ar-lein. Ar gael yn: http://udloncampus.cast.org/page/udl_about