Pecyn Cymorth Datblygu Addysg

Rhagair gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
‘Mae Pecyn Cymorth Datblygu Addysg Prifysgol Caerdydd yn rhoi arweiniad i staff ar ddatblygu arferion addysgol rhagorol a phrofiadau dysgu myfyrwyr o ansawdd uchel yn gyson sy’n cefnogi pob myfyriwr i gyflawni ei botensial.

Mae’r pecyn cymorth yn adnodd ardderchog sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn llawn awgrymiadau ymarferol, enghreifftiau o arferion effeithiol, cyngor, offer a modelau, ac mae’n ymdrin ag ystod eang o themâu pwysig sy’n ymwneud â dysgu, addysgu a’r cwricwlwm, gan gynnwys cynwysoldeb, cynaliadwyedd a chyflogadwyedd.
Mae’r adnodd yn cyd-fynd â’r nodau strategol a nodir yn ein his-strategaeth Addysg a Myfyrwyr ac mae wedi ei ddatblygu ar y cyd gan arbenigwyr addysg ledled Caerdydd er mwyn ymateb i adborth gan ysgolion academaidd. Bydd y pecyn cymorth yn parhau i esblygu dros amser ac rwy’n edrych ymlaen at weld iteriadau yn y dyfodol wrth iddynt gael eu datblygu. Credaf y bydd yr adnodd hwn, ynghyd â rhaglen o ddigwyddiadau datblygiad proffesiynol parhaus Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd, yn arwain at newid sylweddol yn y ffordd y caiff dysgu ac addysgu eu datblygu a’u cefnogi yng Nghaerdydd, ac yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau i fod yn brifysgol sy’n darparu profiadau addysgol ysbrydoledig sy’n cyfoethogi bywydau ein myfyrwyr, gan eu paratoi ar gyfer arweinyddiaeth a’r byd gwaith, wrth eu galluogi ar yr un pryd i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas’.