Skip to main content

Datblygu Meddyliau Cynhwysol

Datblygu Meddylfryd Cynhwysol

A decorative image of a human head in profile facing to the left, stylised with bright pink. Behind the head is an array of floating cogs in pink, blue and yellow.

Mae cymuned gynhwysol yn mynd i’r afael o ddifrif â’r heriau a’r cymhlethdodau sy’n ymwneud â pherthyn a chyflawni sy’n gynhenid ​​​​mewn arferion traddodiadol ac elitaidd. Mae’n ymdrechu i’w goresgyn drwy nodi rhwystrau i ddysgu ac ymgysylltu, er mwyn hyrwyddo ‘Cymru fwy cyfartal’ (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015). Drwy ddatblygu meddylfryd cynhwysol, gallwn gefnogi a grymuso myfyrwyr o bob cefndir i ddathlu amrywiaeth, a dod yn ysgogwyr ac yn wneuthurwyr newid sy’n gallu cymryd rhan weithredol mewn cefnogi datblygiad dyfodol cymdeithasol gyfiawn (Nod Datblygu Cynaliadwy 16 y Cenhedloedd Unedig). 

Ar y dudalen hon byddwch yn darllen am sut y gallwch chi ddefnyddio amrywiaeth y gymuned i gyfoethogi’r profiad dysgu, mynd i’r afael â rhagfarn yn eich dull addysgu a’ch adnoddau, a helpu myfyrwyr i ddatblygu meddylfryd cynhwysol wrth ddysgu. Mae ar gyfer unrhyw un sy’n addysgu neu’n cefnogi myfyrwyr, mewn unrhyw rôl. 

Gallwch ddatblygu eich dealltwriaeth o Ddatblygu Meddylfryd Cynhwysol drwy gymryd rhan yn ein gweithdai cysylltiedig, sydd ar gael yn anghydamserol, i’w gwneud yn eich amser eich hun. Gallwch fynd ati wedyn i wneud gweithdy byw (os oes digon o alw), neu gyfarfod pwrpasol gyda’r arweinydd i drafod sut i’w roi ar waith yn eich arferion. Cewch ragor o wybodaeth ar dudalen DPP LTA Caerdydd. 

Mae’n cyd-fynd â gofyniad cyffredinol y Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2024) ar gyfer ‘arferion effeithiol a chynhwysol’, ac yn benodol â Gwerthoedd Proffesiynol Fersiwn 1: Parchu dysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr, a Fersiwn 2: ‘Hyrwyddo ymgysylltiad mewn dysgu a chyfle cyfartal’. Mae hefyd yn galluogi K2: ‘Dulliau addysgu a chefnogi dysgwyr amrywiol’, a K5: ‘Gofynion ar gyfer sicrhau a gwella ansawdd.’ 

Mae gan y Model Gwella Addysg Gynhwysol nifer o feysydd ffocws ar gyfer Datblygu Meddylfryd Cynhwysol i gefnogi eich hunanfyfyrio a’ch datblygiad ymhellach.  

Mae datblygu meddylfryd strategol yn cefnogi cenhadaeth y Brifysgol i ‘gynnig profiad addysgol rhagorol i fyfyrwyr o bob cefndir a phrofiad, ac ymrwymiad i ddysgu hyblyg gydol oes sy’n creu newid cadarnhaol’, sy’n elfen ganolog o strategaeth Prifysgol Caerdydd, ‘Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd’. 

Datblygu Meddyflyd Cynhywsol

Awgrymiadau Ardderchog gan Fyfyrwyr Dathlu eich gilydd

'Rwy'n gwerthfawrogi digwyddiad diwylliannol Ysgol y Biowyddorau a sut mae'n dathlu gwahanol ddiwylliannau ac yn tynnu sylw at amrywiaeth’

Mae gan Seicoleg ddigwyddiadau a sgyrsiau sy'n ymwneud ag amrywiaeth o bynciau - e.e., digwyddiad ar gyfer diwrnod syndrom Down y byd. Rwy'n credu ei fod yn wirioneddol fuddiol er mwyn codi ymwybyddiaeth’.

'Mwynheais ddathliad Dydd Gŵyl Dewi SOCSI a gynhaliwyd gan Sion. Mwynheais ganu anthem genedlaethol Cymru ac fel rhywun o Loegr, mwynheais ddysgu am ddiwylliant Cymru yn fawr iawn’.

Mae addysg uwch yn fwy amrywiol nag erioed o’r blaen, ac felly mae sefydliadau’n chwarae rhan allweddol wrth roi’r sgiliau sydd eu hangen i fyfyrwyr ddod yn hyrwyddwyr cynhwysiant ar gyfer eu dyfodol. Gall yr amgylchedd dysgu amrywiol ddarparu lle i drafod, myfyrio, a beirniadu cysyniadau, ideolegau a hanesion disgyblaethau ac addysgeg. Gall hefyd alluogi myfyrwyr i ddefnyddio eu profiadau diwylliannol eu hunain, a meithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol o’r byd o’u cwmpas. Pan fyddwn yn mynd ati i addysgu o safbwynt meddylfryd cynhwysol, gan werthfawrogi amrywiaeth ein myfyrwyr a myfyrio ar ein rhagdybiaethau a’n rhagfarn ein hunain, dechreuwn osod anghenion amrywiol ein myfyrwyr yng nghanol dysgu. 

Mae’n bwysig cydnabod y bydd gan fyfyrwyr lefelau amrywiol o ddealltwriaeth o bynciau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Felly, mae’r cyfle i drafod a myfyrio’n feirniadol ar themâu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y cwricwlwm yn agwedd bwysig ar brofiad y myfyrwyr.  

Cwestiynau Myfyrio

Pa ystyriaeth a roddir i hunaniaethau eich myfyrwyr wrth gynllunio eich modiwl neu'ch rhaglen?

Sut ydych chi'n darparu lle drwy gydol eich rhaglen neu eich modiwl i fyfyrwyr fynd ati i archwilio, beirniadu a myfyrio ar eu profiadau, safbwyntiau a'u hunaniaethau croestoriadol eu hunain?

I ba raddau y mae gennych gysyniad o'r 'myfyriwr nodweddiadol’?

Allwch chi nodi meysydd lle gallech chi wneud rhagdybiaethau am ymddygiad myfyrwyr- er enghraifft, bod yn hywr neu ddiffyg sylw?

Defnyddio amrywiaeth y gymuned i gyfoethogi a llywio datblygiad y profiad dysgu 

Mae datblygu cymhwysedd diwylliannol o fewn y cwricwlwm yn meithrin gwerthoedd parch, yn ogystal â gwerthfawrogi a deall gwahanol gefndiroedd diwylliannol, a thrwy hynny yn galluogi pawb i weithio’n effeithiol mewn byd sy’n globaleiddio fwyfwy. Mae adroddiad Advance HE, Creu Strategaethau Digidol Gynhwysol (2023), er enghraifft, yn tynnu sylw at bwysigrwydd dylunio amgylcheddau dysgu sydd nid yn unig yn meithrin twf academaidd, ond sy’n cefnogi twf diwylliannol a chymdeithasol pob dysgwr. 

Globe

Safbwynt y myfyriwr

'Rhoi cyfleoedd rheolaidd i drafod pynciau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn lle diogel a pharchus. Yn ymarferol, gall hyn fod yn heriol i'w reoli, ond pan gaiff ei wneud yn feddylgar, mae'n meithrin ymddiriedaeth a pharch cyffredin. Rydw i wedi gweld sut y gall sgyrsiau agored, wedi'u hwyluso, newid deinameg yr ystafell ddosbarth mewn ffordd wirioneddol gadarnhaol’. 

'Anogwch drafodaeth rhwng myfyrwyr am eu profiadau, efallai mewn grwpiau bach, i annog datblygiad lle diogel. Peidiwch byth â gorfodi myfyriwr i ddatgelu unrhyw beth nad ydyw’n teimlo'n gyfforddus yn ei ddweud. Os yw'n helpu, gadewch yr ystafell am gyfnod byr tra bod myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sgyrsiau grŵp bach i bwysleisio bod y dysgu yn canolbwyntio’n fawr arnyn nhw a'u hanghenion’.

Rhagfarn Ddiarwybod a Hygrededd Epistemig 

Gwyliwch y cyflwyniad byr hwn ar ragfarn ddiarwybod: 

How to use Unconscious Bias Training For Students – understanding unconscious bias video

Yn aml, mae addysgwyr yn ceisio neu’n honni eu bod yn mynd ar drywydd niwtraliaeth a thegwch wrth addysgu. Ni waeth am fwriadau da, trwy fynd ar drywydd niwtraliaeth, gallai addysgwyr gyfrannu at anwybyddu dynameg pŵer bresennol a chynnal systemau anghyfartal. Mae asesiad addysgwr o bwy all ddysgu a phwy all gynhyrchu gwybodaeth dan ddylanwad ei ragdybiaethau am y myfyrwyr, yn seiliedig ar ei benderfyniad i ystyried neu eithrio agweddau ar eu hunaniaethau cymdeithasol (Parsons ac Ozaki 2020). Mae Hyfforddiant Rhagfarn Anymwybodol gorfodol ar gyfer yr holl staff. 

Amrywio a Dad-drefedigaethu’r cwricwlwm  

Mae llawer wedi’i ysgrifennu am amrywio a dad-drefedigaethu’r cwricwlwm ac mae sawl safbwynt ar yr hyn y mae pob term yn ei olygu. 

“Mae dad-drefedigaethu’r cwricwlwm yn cwestiynu effaith barhaus etifeddiaeth gwladychu ac imperialaeth ar gynhyrchu gwybodaeth. Mae dull dad-drefedigaethol yn ymwneud â dadadeiladu hierarchaethau presennol, o blaid defnyddio sawl system/dull gwybodaeth er mwyn integreiddio ystod o safbwyntiau, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymhelaethu ar y lleisiau a dangynrychiolir yn y cwricwlwm ar hyn o bryd” (UAL 2023: 3). 

Bydd y ffordd yr ydym yn ennill dealltwriaeth o’r byd wedi’i seilio mewn bydolwg diwylliannol sydd naill ai wedi anwybyddu neu wedi bod yn wrthwynebus i systemau gwybodaeth sydd y tu allan i rai’r gwladychwyr. Gallwn roi cyfleoedd i’r myfyrwyr drafod etifeddiaeth hanesyddol trefedigaethu ar gyfer y maes pwnc hwnnw.  

Er enghraifft, mewn seryddiaeth pan fyddwn yn trafod bywyd, bydysawd, planedau a sêr, gallwn agor trafodaethau ar sut y gallai safbwyntiau gwahanol ddeall y pynciau hyn. Sut gallai gwahanol gymunedau brodorol ddeall a siarad am sêr? A fyddai hyn mewn iaith sy’n ymwneud ag archwilio’r gofod a’i goncro neu a fyddai’n seiliedig ar ddod o hyd i’r ffordd a goroesi? (Arshad 2021).  

Mae dad-drefedigaethu yn berthnasol i arferion addysgu ac asesu, yn ogystal â deunydd ffynhonnell ac ystyried etifeddiaeth hanesyddol, gan fod ffurfiau addysgu traddodiadol y Gorllewin wedi’u pennu ar sail gymdeithasol-ddiwylliannol. Er enghraifft, mae’r traethawd neu’r arholiad unigol, ysgrifenedig yn ffenomen ddiwylliannol. Mae ffurfiau asesu llafar neu mewn grwpiau yn gyffredin mewn llawer o wledydd eraill. 

Mae arweiniad gwych gan Brifysgol y Celfyddydau Llundain sy’n gallu cynorthwyo eich myfyrdodau ar y mater arwyddocaol hwn mewn addysg gynhwysol. Mae SOAS wedi paratoi pecyn cymorth defnyddiol hefyd.  

Gwyliwch y fideo isod gan SOAS, a darllenwch yr Astudiaeth Achos (Y Brifysgol Agored, 2018), neu darllenwch ragor am brosiect De Montford ar ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm. 

Ysbrydoli myfyrwyr i hyrwyddo cynhwysiant 

Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae wrth greu a chynnal cymuned brifysgol barchus, amrywiol a chynhwysol, a thrwy hynny mae cymryd rhan mewn pynciau cynhwysiant, trafodaethau a materion byd-eang ehangach yn hanfodol mewn amgylchedd dysgu cynhwysol. Fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu mai anaml y bydd adrannau academaidd yn trafod cynhwysiant, oni bai ei fod yn ganolbwynt i’r ddisgyblaeth (Perez et al. 2020). Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ymgorffori arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad. Enghraifft yw’r modiwl ‘Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Myfyrwyr’, y mae gan bob aelod o staff academaidd fynediad iddo, a threfnir i bob myfyriwr newydd ei gwblhau yn ystod wythnosau cyntaf ei brofiad yn y brifysgol.  

Fodd bynnag, mae angen i adrannau academaidd ddarparu cyfleoedd bwriadol yn gyson i unigolion ddysgu am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn eu disgyblaethau a’u meysydd (Parsons ac Ozaki 2020: 133). Mae sawl ffordd o ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y cwricwla, ein harferion, y deunyddiau a’r gweithgareddau a ddefnyddir i gefnogi dysgu, a’r diwylliannau ystafell ddosbarth sy’n cael eu meithrin gan ryngweithio myfyrwyr-staff (Advance HE 2018). Mae amrywiaeth o offer defnyddiol hefyd i’ch helpu i ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn eich dulliau addysgu. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd ‘Mannau Dewr’ hwn gyda myfyrwyr. 

Yn y blog hwn, mae Maria Grimwood yn rhannu technegau y gellir eu defnyddio i herio problemau yn y cwricwlwm rhyngddiwylliannol: Annog arferion cynhwysol – dull ymarferol, Advance HE (advance-he.ac.uk) 

Mae’r cwricwlwm rhyngddiwylliannol (Advance HE, 2019) yn creu man diogel i ddysgwyr gyd-fyw, lle caiff safbwyntiau gwahanol eu cydnabod a’u croesawu a lle dysgir oddi wrthyn nhw. Mae rhoi lle i fyfyrwyr drafod, cwestiynu a beirniadu mewn amgylchedd diogel a meithringar yn galluogi myfyrwyr, beth bynnag fo unrhyw rwystrau y gallen nhw fod yn eu hwynebu, i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu llais yn cael ei glywed. 

Mae rhinweddau ein graddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol ym meysydd meddwl beirniadol a chynhwysiant. I gael gwybod rhagor am ein gwaith ar gyflogadwyedd, darllenwch ein tudalennau Cyflogadwyedd yn y Pecyn Cymorth. 

I ddarllen am waith ar Ddatblygu Meddylfryd Cynhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd, darllenwch y 3 astudiaeth achos hyn: 

Mae'r Ysgol Gofal Iechyd mewn cydweithrediad â'r Ysgol Ddeintyddiaeth yn darparu cyfleoedd cwricwla ychwanegol i fyfyrwyr ddatblygu fel arweinwyr yn y dyfodol sy'n dangos egwyddorion cynhwysol arweinyddiaeth dosturiol yn benodol. 

Defnyddio’r celfyddydau perfformio, dulliau ethnograffig a dylunio cyfranogol i ddatblygu ffyrdd cynhwysol o feddwl. Yn y prosiect hwn, gwahoddwyd myfyrwyr gan yr Ysgol Pensaernïaeth i archwilio'n uniongyrchol anghenion perfformwyr ag anableddau corfforol a/neu ddysgu trwy gymryd rhan mewn gemau ac arbrofion yn ymwneud â’r celfyddydau perfformio. Fe wnaethon nhw weithio ar friff byw, ymgysylltu â grŵp drama cynhwysol, a chynnig dyluniadau llwyfan. Mae'n ehangu o arbrofion addysgeg Amalia Banteli yn ystod uned Stiwdio Fertigol Ysgol Pensaernïaeth Cymru 2020: Mynediad a Chynhwysiant 

Mae'r prosiect Addysgegau Empathetig, yn ogystal â’r Stiwdio Fertigol Mynediad a Chynhwysiant, wedi dangos bod creu cysylltiadau empathetig rhwng myfyrwyr ac aelodau o gymunedau anabl yn gwneud i fyfyrwyr fyfyrio'n feirniadol ar gynwysoldeb fel gwerth yn eu disgyblaeth. Daeth i’r amlwg i’r myfyrwyr pensaernïaeth a gymerodd ran yn y prosiect fod eu hethos dylunio yn ehangu y tu hwnt i bwrpas ac estheteg pensaernïol i greu gofod a fformatau cyfathrebu sy'n gynhwysol i bawb.  Fe wnaeth y cydweithrediad ar brosiect byw a’r cynllun cyfnewid adnoddau creadigol gael gwared ar agweddau nawddoglyd tuag at ddylunio cyfranogol ac ymgysylltu â'r cyhoedd, a chaniatáu i'r holl aelodau oedd yn gysylltiedig â’r prosiect gyfrannu'n hyderus at wahanol rannau ohono. 

Fideo: Myfyrdodau myfyrwyr ar y prosiect Addysgeg Empathetig 

Mae Swyddog Cydraddoldeb Hil Ysgol Busnes Caerdydd, Shaheda Khatun yn gweithredu cyfres 'Gadewch inni ddathlu ein cymuned' yn y cylchlythyr wythnosol ar draws yr ysgol. Mae’r cylchlythyr hwn yn cael ei rannu gyda holl staff yr ysgol a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ac mae'r prosiect hwn yn eu galluogi i rannu eu profiadau eu hunain o ddathliadau diwylliannol a chrefyddol gwahanol wrth iddyn nhw ddigwydd. Mae Ramadan, Blwyddyn Newydd y Lleuad, Nowruz a'r Pasg ymhlith yr erthyglau sydd wedi’u rhannu’n flaenorol. Dyma enghraifft o'r eitem ddiweddaraf yn y cylchlythyr ynglŷn â gŵyl Fwslimaidd Ramadan o safbwynt cydweithiwr Mwslimaidd sy'n rhannu ystyr Ramadan a'r hyn y gall cydweithwyr ei ystyried yn ystod y cyfnod hwn:  Arweiniad i Ramadan 

Ble nesaf? 

Dolenni i dudalennau pecynnau cymorth eraill 

I gael gwybod rhagor, gallwch edrych ar yr adrannau nesaf yn y pecyn cymorth ac mae cynhwysiant wedi’i fewnosod fel tudalen ym mhob adran: Dylunio; Dulliau Addysgu; Asesu ac Adborth; a Gwerthuso, Ymgysylltu a Chydweithio. 

Adnoddau a chyfeiriadau ychwanegol. 

Arshad, R. 2021. Decolonising the curriculum: How do I get started? Ar gael ar-lein.  

Y Brifysgol Agored. 2018. Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Cwricwlwm. (Ar-lein) Ar gael yn  

Parsons, L. ac Ozaki, C.C. 2020. Teaching and Learning for Social Justice and Equity in Higher Education. Swistir: Springer 

Perez, J., Robbins, K., Harris, LW a Montgomery, C. (2020). Exploring Graduate Students’ Socialization to Equity, Diversity, and Inclusion. Journal of Diversity in Higher Education, 13 (2), 133-145 

UAL 2023. Decolonising Pedagogy and the Curriculum. Ar gael ar-lein