Skip to main content

Tudalen Llanio Dylunio ar gyfer Dysgu Effeithiol

Yn yr adran hon o’r pecyn cymorth ceir tudalennau i’ch cefnogi gyda’r ffordd y byddwch yn dylunio eich dysgu a’ch addysgu, boed hynny ar lefel rhaglen, modiwl neu sesiwn. Mae gofyn cael dylunio da i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cyflawni eu potensial, ac mae hyn felly’n sail i bob enghraifft lwyddiannus o ddysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gallwch ddarllen am ein dull o ddylunio dysgu ar ein tudalen gyntaf, Dylunio Dysgu mewn Dylunio, cyn ymchwilio’n ddyfnach i Ddylunio Cynhwysol a Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu.

I’r rheini sy’n ymwneud â datblygu Rhaglen neu sydd â diddordeb mewn datblygu un, ceir mwy o wybodaeth a dolenni i dudalennau ar y fewnrwyd ar dudalennau Cwmpasu Rhaglenni a Datblygu Rhaglenni. Yn olaf, mae Dylunio Dysgu ar Waith: Dylunio taith ddysgu gydlynol a Dylunio dysgu effeithiol gyda Dylunio Dysgu Cwricwlwm ar Sail Gweithgareddau, a’r rhaglen ddilynol mewn Dylunio Modiwlau a Sesiynau yn cyflwyno dull cyson a strwythuredig o ddylunio ar gyfer eich dysgwyr amrywiol, beth bynnag fo’ch rôl.

Dysgu Pellach

Ceir hefyd y themâu a ddylai fod yn sail i ddylunio dysgu ac addysgu yn llwyddiannus (cynhwysiant, cyflogadwyedd a chynaliadwyedd) yn adran gyntaf y pecyn cymorth

Ar gyfer staff Prifysgol Caerdydd: gallwch ddatblygu eich dealltwriaeth o ddylunio drwy gymryd rhan mewn gweithdai cysylltiedig, sydd wedi’u rhestru ar y dudalen Rhaglenni DPP ar y fewnrwyd. Mae’r gweithdai hyn ar gael i’w cymryd yn anghydamserol, yn eich amser eich hun, a gellir mynd ati wedyn i gynnal gweithdy byw (os oes digon o alw), neu gyfarfod pwrpasol gyda’r arweinydd i drafod sut i roi’r egwyddor ar waith yn eich arferion. Cewch ragor o wybodaeth ar dudalen DPP LTA Caerdydd.

Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2024)

Mae’r thema hon yn gysylltiedig â Fframwaith Safonau Proffesiynol 2024 i ystyried A1: dylunio a chynllunio gweithgareddau a/neu raglenni dysgu, Fersiwn 1: Parchu dysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr, a Fersiwn 2: hyrwyddo ymgysylltiad ym meysydd dysgu a chyfle cyfartal, a’r gofynion cyffredinol ar gyfer arddangos ‘Arferion effeithiol a chynhwysol’.