Skip to main content

Tudalen Dylunio Modiwlau a Sesiynau

Cyflwyniad

Mae’r dudalen hon yn eich cyflwyno i’r egwyddorion a’r gweithgareddau craidd wrth ddylunio modiwlau a sesiynau unigol. Mae’n dilyn ymlaen o’r tudalennau blaenorol am Gwmpasu a Dylunio Rhaglenni.

Mae’r adran gyntaf ar ddylunio modiwlau ar gyfer y rhai sy’n arwain modiwlau, neu’r rhai sydd am ddeall y broses o ddylunio cyfres o sesiynau unigol cysylltiedig; er enghraifft, ar gyfer Llyfrgelloedd, Dyfodol Myfyrwyr neu Gefnogi Myfyrwyr. Mae ail adran Dylunio Sesiynau ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu rhagor am broses strwythuredig o ddylunio sesiynau diddorol, cynhwysol ac effeithiol.

Mae’n cyd-fynd â gofyniad cyffredinol y Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2024) ar gyfer ‘arferion effeithiol a chynhwysol’, ac yn benodol â Gwerthoedd Proffesiynol Fersiwn 1: Parchu dysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr, a Fersiwn 2: hyrwyddo ymgysylltiad ym meysydd dysgu a chyfle cyfartal. Mae’n cyd-fynd hefyd â Maes Gweithgaredd A1: Dylunio a chynllunio gweithgareddau a/neu raglenni dysgu.

Mae’n ategu Strategaeth Prifysgol Caerdydd, ‘Ein Dyfodol, Gyda’n Gilydd’ drwy gefnogi ‘profiad addysgol rhagorol i fyfyrwyr o bob cefndir’.

1.   Dylunio Modiwlau

Mae dylunio modiwl yn fraint ac yn gyfrifoldeb; mae hefyd yn gelfyddyd ac yn grefft. Mae’n cynnwys ystod o sgiliau a gwybodaeth am y broses ddysgu, ymwybyddiaeth o oblygiadau a heriau asesu ac adborth, yn ogystal â dylunio dulliau addysgu cynhwysol a chreadigol sy’n ymgysylltu, yn ysbrydoli ac yn helpu eich dysgwyr i ddatblygu a chyflawni.

Y cysyniad craidd sy’n sail i unrhyw broses ddylunio yw bod deilliannau dysgu’r modiwl a gynlluniwyd, y strategaethau asesu ac adborth, a’r dulliau addysgu a ddefnyddir mewn sesiynau unigol wedi’u halinio’n adeiladol: hynny yw, bod yn rhaid i addysgu, dulliau, gweithgareddau dysgu ac asesu i gyd gael eu halinio’n fwriadol â’r deilliannau dysgu a fwriadwyd (Biggs, Tang a Kennedy 2022). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod deilliannau dysgu’r modiwl cynnwys y modiwlau, a thasgau asesu yn cael eu datblygu ar yr un pryd, ac mae pob elfen yn atgyfnerthu ei gilydd.

Shows the link between teaching and learning activities, course learning outcomes and assessment tasks

Ffigur: Aliniad Adeiladol fel System Ryngweithiol Gyfannol. Addasiad o Biggs, Tang a Kennedy 2022: 97)

Cysylltu Deilliannau Dysgu ac Asesu: Aliniad Adeiladol

Mae deilliannau dysgu yn pennu beth sydd angen i ddysgwyr ei wneud, i ddangos beth maen nhw wedi’i ddysgu. Felly, rydym yn defnyddio ‘dylunio am yn ôl’ (Wiggins a McTighe, 2005): nodi’r nod terfynol cyn dylunio’r modiwl i helpu ein dysgwyr i gyflawni’r nod hwnnw.

Mae deilliannau dysgu yn cynnwys tair elfen fel arfer:

  1. Berf, i ddiffinio'r cam penodol y bydd dysgwyr yn ei wneud i ddangos beth maen nhw wedi’i ddysgu.
  2. Pwnc, i nodi deunydd y pwnc yr ydych am i'r broses ddysgu ei gwmpasu.
  3. Cyd-destun y dysgu. Mae hyn yn adlewyrchu'r safon sydd ei hangen i basio'r modiwl fel y nodir yn y meini prawf asesu a/neu farcio.

Gadewch i ni weld hynny mewn termau ymarferol:

  1. Gweithred, y gellir ei gwirio'n empirig, drwy 'dystiolaeth eich llygaid a'ch clustiau';
  2. Pwnc: a roddir;
  3. Meini prawf perfformio sy'n gosod beth sy’n cael ei ddysgu yn ei gyd-destun (gall fod ymhlyg).

Enghreifftiau:

  • Amlinellu strwythur, swyddogaethau a phrosesau ffisiolegol meinweoedd ac organau dynol lle bo'n berthnasol i ofal cleifion. (Modiwl Lefel 4)
  • Adnabod effeithiau gorbryder ar ganfyddiad o boen ac ar allu'r unigolyn i ymdopi ag ymyriadau deintyddol. (Modiwl Lefel 5)
  • Cyfathrebu gwybodaeth a dadleuon cymhleth yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol, naill ai'n unigol neu'n gydweithredol yn rhan o dîm. (Modiwl Lefel 6)
  • Dangos dealltwriaeth systematig a beirniadol o sut y gellir esbonio canfyddiadau astudiaethau dysgu cysylltiol mewn anifeiliaid drwy ddamcaniaethau dysgu cysylltiol sy'n ddylanwadol ar hyn o bryd. (Modiwl Lefel 7)

 

 

 

 

Dylai bod modd asesu deilliannau dysgu modiwlau bob amser. Felly, mae angen i’w geiriad adlewyrchu’r sgiliau a’r ymddygiadau y dylai myfyrwyr allu eu dangos ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus: nid oes modd gwybod a yw dysgwyr yn ‘deall’ cysyniad, felly mae deilliannau dysgu yn disgrifio’r hyn y bydd dysgwyr yn ei wneud, i ddangos eu bod yn deall. Dylen nhw fod yn gynhwysol hefyd. Felly, ni ddylen nhw nodi unrhyw gamau na ellir eu haddasu’n rhesymol, a allai eithrio dysgwyr o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, fel dysgwyr anabl, ar wahân i’r rhai sy’n safon cymhwysedd ar gyfer y rhaglen. Er enghraifft, dim ond os yw hwn yn gymhwysedd craidd y byddech chi’n defnyddio ‘Cyflwyno gwybodaeth gymhleth ar lafar…’. Fel arall, efallai y byddech chi’n defnyddio ‘Cyfathrebu…’ a galluogi asesiad amgen fel addasiad rhesymol, fel darn ysgrifenedig. Cewch wybod rhagor yn ein gweithdy DPP,  ‘Anabledd ac Addasiadau Rhesymol’.

Mae deilliannau dysgu’r modiwl yn adlewyrchu’r camau y mae’n rhaid i fyfyrwyr eu cwblhau i basio’r modiwl: lefel y llwyddiant wrth gyflawni’r deilliant, a amlinellir yn y meini prawf marcio, sy’n pennu’r radd. Cewch hyd i ragor o fanylion am ddylunio asesiadau a meini prawf marcio ar ein tudalennau asesu ar gyfer dysgu.

Mae’r recordiad byr hygyrch hwn yn esbonio beth yw aliniad adeiladol:

Mae modiwl yn cynrychioli ‘Uned astudio hunangynhwysol sydd wedi’i strwythuro’n ffurfiol, ac mae’n cynnwys set gydlynol ac eglur o ddeilliannau dysgu a meini prawf asesu’. (QAA, 2022). Fodd bynnag, dim ond un elfen o raglen yw pob modiwl. Dylai pob modiwl gyfuno i wneud yn siŵr bod myfyrwyr ar draws rhaglen yn gallu cyflawni deilliannau dysgu’r rhaglen (cewch ragor o wybodaeth ar dudalen Datblygu’r Rhaglen). Trwy gyfres o dasgau asesu modiwlaidd, dylai myfyrwyr fod wedi dangos eu bod wedi cyflawni deilliannau’r rhaglen.

Myfyriwr o Brifysgol Caerdydd

'Mae'r syniad o adeiladu asesiadau sy'n datblygu ein sgiliau'n raddol dros amser yn gwneud llawer o synnwyr, yn enwedig wrth ein helpu i deimlo'n fwy parod ar gyfer y tasgau mwy, mwy cymhleth yn ddiweddarach. ‘Dwi'n meddwl y byddai'r math yma o strwythur yn arbennig o ddefnyddiol i israddedigion newydd, ond mae hefyd yr un mor berthnasol i fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy'n gweithio ar brosiectau hirdymor’. (Myfyriwr o Brifysgol Caerdydd)

Cyfrifoldeb Arweinydd y Modiwl am wneud newidiadau

Efallai eich bod chi’n adeiladu modiwl newydd sbon, yn rhan obroses datblygu rhaglenni, ac yn gweithio gyda thîm ehangach y rhaglen. Fodd bynnag, efallai eich bod wedi ‘etifeddu’ modiwl sy’n bodoli eisoes. Os felly, byddwch yn ymwybodol na allwch chi wneud unrhyw newidiadau i nodweddion sylfaenol y modiwl, gan y bydd y rhain wedi bod yn destun prosesau Sicrwydd Ansawdd, a chan eu bod wedi’u cyhoeddi ar dudalen allanol y Chwiliwr Cyrsiau, maen nhw’n rhan o gontract cyfreithiol y cynnig i fyfyrwyr. Mae’r rhain yn cynnwys deilliannau dysgu’r rhaglen a’r modiwl, yn ogystal â natur yr asesiadau.

Gweithgaredd Myfyriol:

Edrychwch ar y BSc Daearyddiaeth Amgylcheddol hwn , a chliciwch ar y tab 'Strwythur y cwrs – modiwlau craidd', ac yna cliciwch ar unrhyw fodiwl. Yma, byddwch yn darllen am gydrannau sefydlog y modiwl: y disgrifiad, a deilliannau dysgu'r modiwl. Yna, cliciwch ar y tab 'Dysgu ac Asesu' a darllenwch y disgrifiad o'r dysgu, manylion yr asesiadau a Deilliannau Dysgu'r Rhaglen.

Mae'r holl fanylion hyn wedi'u gosod, a rhaid i unrhyw newidiadau ddilyn prosesau Sicrhau Ansawdd ffurfiol.

Dim ond drwy ddilyn yr ‘Weithdrefn ar gyfer cymeradwyo rhaglenni, modiwlau, a darpariaethau eraill sy’n dwyn credydau’ y gellir newid cydrannau modiwl, sy’n ymddangos yn ‘Nisgrifiad y Modiwl’ ac sy’n cael eu cyhoeddi ar dudalen y Chwiliwr Cyrsiau ar y fewnrwyd. Mae hyn yn golygu, o leiaf, bod angen cymeradwyaeth y Bwrdd Astudiaethau priodol, neu bod angen i Ddeon Addysg y Coleg ystyried newidiadau i ddeilliannau dysgu neu asesiadau a ystyrir yn hanfodol i strwythur a chywirdeb y rhaglen, yn ogystal â bod yn destun proses sicrhau ansawdd ‘newidiadau mawr’.

Dylunio eich modiwl neu gyfres o sesiynau

Myfyrio:

I ddechrau adeiladu eich modiwl, adolygwch ddeilliannau dysgu eich modiwl, ac ystyriwch hierarchaeth yr wybodaeth a'r sgiliau y mae angen i ddysgwyr eu datblygu:

Beth yw'r drefn orau ar gyfer y cynnwys rydych chi'n ei addysgu? Pa ddarnau sy'n 'gysyniadau trothwy'  y mae gweddill y ddealltwriaeth ar gyfer y modiwl yn dibynnu arnyn nhw?

Pa sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich aseiniad a sut bydd dysgwyr yn ymarfer ac yn cael adborth arnyn nhw? Er enghraifft, bydd angen sgiliau adrodd stori a/neu gyfathrebu llafar ar gyfer y cyflwyniadau yn ôl pob tebyg.

Ystyriwch pa sgiliau fydd yn cael eu hasesu’n benodol (yn y cynllun marcio) a pham (maen nhw’n hanfodol i’r asesiad, i ddisgwyliadau disgyblaethol, i’r agenda cynaliadwyedd, neu fel sgiliau ar gyfer llwyddiant neu gyflogadwyedd?).

Sut gallech chi blethu tasgau er mwyn i ddysgwyr gael gwell dealltwriaeth o’r aseiniad, beth maen nhw’n ei ddysgu, a’r sgiliau y bydden nhw’n eu datblygu?

Er mwyn gwneud yn siŵr bod dyluniad eich modiwl yn mynd i’r afael â’r holl gydrannau angenrheidiol, gall offeryn cynllunio cynhwysfawr, fel Cynllun Gwaith, helpu. Gall hyn eich cynorthwyo i wirio eich bod yn mynd i’r afael â’r themâu craidd: ei fod yn effeithiol a chynhwysol, ei fod yn mynd i’r afael ag Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, a’i fod yn ymgorffori Sgiliau craidd ar gyfer Llwyddiant. Gall hefyd wneud yn siŵr ei fod wedi’i alinio’n adeiladol, yn ddiddorol ac yn effeithiol, ac yn dryloyw i’r holl fyfyrwyr a staff sy’n gysylltiedig.

Nid dogfen fiwrocrataidd yw cynllun modiwl, na Chynllun Gwaith, ond ‘offeryn sy’n eich helpu i feddwl. Gellir ei ddatblygu mewn cydweithrediad â staff perthnasol, fel Arweinydd y Rhaglen, staff addysgu a darlithwyr a myfyrwyr gwadd. Mae’n sicrhau cysondeb mewn arferion addysgu, a gall fersiwn symlach gynorthwyo tryloywder a helpu myfyrwyr i ddysgu. Gall fod yn ddewis wrth gefn hefyd rhag ofn y bydd arweinydd y modiwl yn absennol neu’n newid, ac fel offeryn adolygu a myfyrio ar ddiwedd y modiwl. Gall hefyd lywio’r gwaith cyffredinol o gynllunio rhaglenni drwy wneud manylion yn dryloyw i Arweinwyr Rhaglenni ac Arweinwyr Modiwlau eraill ar y rhaglen.

I gael gwybod rhagor am y broses o ddylunio modiwlau, ac i ddatblygu Cynllun Gwaith ar gyfer eich modiwl neu gyfres o ddigwyddiadau dysgu, cofrestrwch ar Dudalen DPP yr Academi Dysgu ac Addysgu ar gyfer ein gweithdy anghydamserol, neu fyw: ‘Dylunio eich modiwl ar gyfer dysgu ac addysgu effeithiol a chynhwysol’.

Globe

Astudiaeth Achos Prifysgol Caerdydd: Sicrhau cysondeb ar blatfform Dysgu Canolog

Roedd yn braf gweld, yn ein Hysgol ni, fod llawer mwy o bwyslais wedi bod ar drefniadaeth gyson ar-lein ar draws yr holl fodiwlau Dysgu Canolog, lle mae angen bodloni’r disgwyliadau lleiaf o ran adnoddau deunydd dysgu a manylion asesu ar ddechrau pob sesiwn.

At ei gilydd, wrth fyfyrio ar hyn, gallaf weld bod y drefniadaeth sylfaenol hon wedi ymgorffori cynwysoldeb a dilysrwydd mawr eu hangen o fewn yr adnoddau addysgu a oedd yn cefnogi cymuned ddysgu yn well. Mae trefniadaeth a phroses yn rhywbeth rwyf yn parhau i gefnogi aelodau eraill o staff yn ei gylch o ran eu dulliau addysgu. (Arweinydd Rhaglen y Biowyddorau 2023)

Mae llawer o dempledi Cynllun Gwaith ar gael, a gallech addasu'r templed canlynol i gyd-fynd â'ch dibenion, ond mae'r adrannau yn y templed yn eich galluogi i ystyried cydrannau allweddol a llif y modiwl yn drylwyr, yn ogystal â sbarduno’r gwaith o ddylunio sesiynau unigol (gweler Adran 2, isod). Felly, gallai’r amlinelliad isod fod o ddefnydd ichi, fel man cychwyn. Gallwch lawrlwytho Cynllun Gwaith gwag yma, neu ddarllen Cynllun Gwaith enghreifftiol drwy ddefnyddio'r templed yma.

 

Teitl a chôd y modiwl:

Lefel:

Enw a chôd:

Hyd: Y rhaglenni sy'n cymryd y modiwl:
Nod: Deilliannau Dysgu’r Modiwl: Ar ddiwedd y modiwl, bydd y dysgwyr yn gallu:

·

Cysylltiadau â Deilliannau Dysgu'r Rhaglen: Yn bodloni Deilliannau Dysgu’r Rhaglen:

·

Manylion y Garfan:
Nodiadau ar gyfer arferion cynhwysol ac amrywiaeth:

 

 

 

Asesiad(au):

Ffurfiannol:

Crynodol 1:

Crynodol 2:

 

Wythnos Ffocws/Teitl y Sesiwn Deilliannau Dysgu’r Sesiwn

 

Dull addysgu a Chynnwys y sesiwn

 

Gweithgareddau dysgwyr Asesiad: Tasgau ffurfiannol / crynodol cysylltiedig

 

Gwerthuso
1 Cyflwyniad i'r cynnwys a'r modiwl · ·    

 

 

 

2 Cynnwys 1

 

· ·  
3 Cynnwys 2

 

 

· ·
4 Cynnwys 3

 

· ·   Cyflwyniad ffurfiannol

 

Gwerthusiad ar ganol y modiwl
  Ac yn y blaen… · ·  

 

 

 

 

2. Dylunio Sesiynau

Mae’r broses o ddylunio sesiynau yn dilyn llawer o’r un egwyddorion a phrosesau â dylunio modiwlau, uchod. Y cysyniad craidd, unwaith eto, yw aliniad adeiladol (Biggs, Tang a Kennedy 2022): bod deilliannau dysgu’r sesiwn, y strategaethau asesu ac adborth, a’r dulliau addysgu wedi’u cynllunio a’u halinio’n bwrpasol i gefnogi dysgwyr.

Os yw’r sesiwn yn rhan o gyfres o sesiynau, dylai’r rhain hefyd roi sylw i’r strwythur cyffredinol a chynllunio’r modiwlau. Dylai pob sesiwn ddefnyddio egwyddorion cynhwysiant, ymgorffori Cynaliadwyedd a Sgiliau ar gyfer Llwyddiant, a bod yn dryloyw i ddysgwyr. Dylai cynllunio hefyd wneud yn siŵr eich bod yn ystyried hunaniaethau ac anghenion penodol eich dysgwyr, yn ogystal â chynllunio ar gyfer amrywiaeth a rhagolygon fel gweithgareddau ‘ymestyn a herio’ ar gyfer dysgwyr uwch.

Dylai pob sesiwn gynnwys: cyflwyniad neu fachyn, gyda chysylltiadau â gwybodaeth flaenorol neu bresennol, a chrynodeb o’r sesiwn a’r deilliannau dysgu, i ymgysylltu â dysgwyr; prif adran sy’n ymgorffori ystod o weithgareddau dysgwyr i’w galluogi i ymgysylltu, cymhwyso ac adeiladu eu dysgu eu hunain, a sesiwn lawn neu fath arall o gasgliad i grynhoi’r sesiwn, eglurhad o’r cysylltiadau â sesiynau yn y dyfodol, a/neu weithgaredd i wirio a yw dysgwyr wedi bodloni’r deilliannau dysgu. Mae amseru’n hanfodol, ac yn aml yn cael ei ddysgu trwy brofiad: gall methu â chwblhau gweithgareddau a gynlluniwyd arwain at fylchau mewn gwybodaeth neu sgiliau, a pheri rhwystredigaeth i fyfyrwyr. Mae ‘rhannu’r’ dysgu i ryw raddau drwy amseru’n ofalus yn osgoi gorlwytho gwybyddol ac mae’n helpu myfyrwyr i ddysgu hefyd.

Myfyrio: Cynllunio sesiynau cynhwysol

Er mwyn gwneud yn siŵr bod ein sesiynau’n gynhwysol, mae angen inni yn gyntaf nodi’r rhwystrau i ddysgu rydyn ni’n eu creu yn ein dulliau addysgu, a’r myfyrwyr a allai gael eu heithrio gan yr arferion hyn. Rhaid gwneud hyn er mwyn gwneud y newidiadau sydd eu hangen i roi cyfle cyfartal. Gall pob tasg y gofynnwn i ddysgwyr ei chyflawni greu rhwystrau posibl i rai myfyrwyr.

Adolygwch gynllun eich sesiwn a myfyriwch  ar gynhwysiant:

Pa ddysgwyr allai fod dan anfantais oherwydd y tasgau, ac ym mha ffyrdd? Beth yw'r atebion? A allai fod tasgau amgen ond teg (er enghraifft, myfyrdod ar fwrdd trafod anghydamserol ar yr un pwnc, yn hytrach na gweithgaredd grŵp cymdeithasol yn y dosbarth)

Beth yw amrywiaeth y gweithgareddau – ydyn nhw i gyd yn rhai cymdeithasol, neu’n unigol? Ydyn nhw i gyd yn weithgareddau testun neu ar lafar? Ceisiwch wneud yn siŵr bod ystod o weithgareddau fel bod pob dysgwr yn cael y cyfle i weithio mewn modd sy'n gyfforddus iddyn nhw, gan ddefnyddio dylunio cyffredinol ar gyfer dysgu fel modd o weithredu a mynegi.

Byddwch yn ymwybodol y gall eich amseroedd dangosol amrywio’n fawr – er enghraifft, gall dysgwyr â dyslecsia neu Saesneg fel iaith ychwanegol gymryd mwy o amser nag eraill i ddarllen testunau dwys neu gynhyrchu gwaith ysgrifenedig. Hefyd, bydd symud o un gweithgaredd i'r nesaf, yn enwedig os ydych chi'n symud dysgwyr, yn cymryd dwywaith yr amser rydych chi'n ei ragweld!

Cewch wybod rhagor am ddylunio cynhwysol ar dudalen ein pecyn cymorth ar gyfer Dylunio Cynhwysol, neu yn ein gweithdy DPP, 'Ymgorffori Addysg Gynhwysol yn eich Arferion: Cynllunio, cyflwyno ac asesu ar gyfer dysgu i bawb’.

Dylunio eich Sesiwn

Dechreuwch arni drwy bennu eich deilliannau dysgu a’r asesiad ffurfiannol o gyflawni’r deilliannau dysgu. Mewn sawl ffordd, dyma’r rhan fwyaf creadigol o’r broses: ‘beth ydw i am iddyn nhw ei wneud i ddangos eu bod nhw wedi dysgu’r hyn rydw i’n ei fwriadu?’. Mae’r math hwn o asesu ffurfiannol yn anffurfiol, ac ar raddfa fach: er enghraifft: ‘Bydd dysgwyr yn nodi tair her mewn perthynas â chynllunio gwersi, ac yn rhoi adborth ar lafar, fel grŵp’.

Nesaf, nodwch y dulliau addysgu y byddwch yn eu defnyddio i alluogi dysgwyr i gyflawni’r deilliant hwn. Fel mae’r blwch uchod yn ei ddangos, dylid defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu, gan gadw at egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu, i wneud yn siŵr nad yw un grŵp o ddysgwyr dan anfantais yn gyson o gymharu ag un arall. Gallech ddefnyddio dull ABC ar gyfer dylunio sesiynau, neu ddewis dulliau sydd fwyaf addas i’r pwnc, y dasg neu’r garfan. Cewch ragor o wybodaeth am yr ystod o ddulliau dysgu gweithredol arloesol sy’n seiliedig ar ymchwil ar y dudalen Dulliau Addysgu.

Awgrymiadau Ardderchog gan Fyfyrwyr:

 1. Nodwch yr amcanion dysgu ar ddechrau'r ddarlith neu'r seminar er mwyn i’r myfyrwyr ddeall beth yw diben y ddarlith neu'r sesiwn.

2. Rhowch grynodeb o ddarlleniad y seminar neu’r cwestiynau rydych chi eisiau i'r myfyrwyr eu hystyried. Mae hyn yn ei gwneud yn glir beth yw’r hyn y disgwylir inni ei wneud ac yn ein helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen.

3. Byddwch yn agored ac yn hyblyg yn eich dull addysgu. Ni waeth faint o baratoi rydych chi'n ei wneud cyn dysgu sesiwn, fyddwch chi byth yn gwybod beth fydd anghenion penodol y myfyrwyr yn y sesiwn honno. Ceisiwch greu llun/proffil o'r myfyrwyr wrth ichi ddod ar eu traws yn amlach, ond peidiwch â mynd i mewn i sesiwn gan gredu mai dim ond un ffordd iawn sydd o arwain y sesiwn honno. Byddwch yn agored i orfod newid a bod modd gwneud hynny pan fydd angen.

4. Gall arferion fel darparu sleidiau darlithoedd o leiaf 48 awr ymlaen llaw wneud cryn wahaniaeth, yn enwedig i fyfyrwyr rhyngwladol a'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.

5. Cysoni dulliau asesu â deilliannau dysgu a gweithgareddau addysgu. Mae'r math hwn o eglurder yn hollbwysig wrth egluro meini prawf asesu yn dda a’u cysylltu'n glir â'r hyn rydyn ni'n ei ddysgu go iawn gan fod hyn yn llawer tecach ac yn haws i ganolbwyntio ar yr hyn a ddisgwylir.

O ran Cynllun Gwaith modiwl (uchod), gall Cynllun Sesiwn fod o gymorth. Gall eich cynorthwyo i wneud yn siŵr eich bod yn mynd i’r afael â themâu craidd cynhwysiant, cynaliadwyedd a chyflogadwyedd. Bydd hefyd yn eich helpu i wneud yn siŵr bod y sesiwn wedi’i halinio mewn modd adeiladol, diddorol ac effeithiol, a’i bod yn dryloyw i’r holl fyfyrwyr a staff sy’n cymryd rhan. Felly, mae’n ‘adnodd sy’n eich helpu i feddwl’: yn cynnig awgrymiadau wrth ichi baratoi, neu’n arweiniad i’w drosglwyddo fel cynllun wrth gefn rhag ofn bod absenoldeb.

Gellir ei rannu hefyd ag arweinydd y modiwl neu eraill sy’n ymwneud â phrosesau cynllunio a dylunio ehangach. Ar ben hynny, gall gynorthwyo wrth gynllunio ar gyfer asesu ffurfiannol o fewn y sesiwn, neu gyfrannu at baratoi ar gyfer asesiad crynodol. Gall fersiwn symlach a rennir ar-lein neu a drafodir ar ddechrau’r sesiwn helpu dysgwyr i wneud cysylltiadau â’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu’n flaenorol, rhagweld gweithgareddau’r sesiwn, a deall y cysylltiad rhwng y sesiwn unigol a gofynion cyffredinol y modiwl.

I gael gwybod rhagor am y broses o ddylunio cynllun sesiwn ar gyfer eich modiwl neu gyfres o ddigwyddiadau dysgu, cofrestrwch ar Dudalen DPP yr Academi Dysgu ac Addysgu ar gyfer ein gweithdy anghydamserol, neu fyw: ‘Dylunio at ddibenion Dysgu Difyr a Gweithredol’

Cydrannau Cynllun Sesiwn

Mae llawer o dempledi cynllun sesiwn ar gael, a gallech addasu’r templed canlynol i gyd-fynd â’ch dibenion, ond mae’r adrannau yn y templed isod yn eich galluogi i ystyried cydrannau allweddol a llif y modiwl yn drylwyr. Gallwch ddarllen cynllun sesiwn enghreifftiol drwy ddefnyddio’r templed yma.

Teitl: Hyd:

 

 

Modiwl/Cyfres a Charfan:

 

Nod:

 

Deilliannau Dysgu: Erbyn diwedd y gweithdy, bydd dysgwyr yn gallu:

 

Nodiadau ar gyfer arferion cynhwysol ac amrywiaeth:

 

 

Dolen i’r asesiad Lleoliad:
Hyd/Amser Strategaeth addysgu a’r cynnwys (Tasg) Adnoddau Gweithgaredd Dysgwr Nodiadau Tiwtor Asesiad
 

 

 

Cyflwyniad: Bachyn, cynllun sesiwn a deilliannau dysgu
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Casgliad  

 

 

 

 

 

Yn y recordiad isod, mae Ada yn egluro dyluniad sesiwn drwy ddefnyddio cynllun sesiwn:

Ein hawgrymiadau ar gyfer cynllunio darlithoedd mawr.

Ble nesaf?

Gallwch ddyfnhau eich dealltwriaeth o gynllunio ar gyfer dysgu drwy fynd i’n dau weithdy DPP cysylltiedig. Mae’r rhain ar gael yn anghydamserol, neu os oes digon o bobl wedi cofrestru, fel sesiynau rhyngweithiol byw: Cofrestrwch ar dudalen DPP yr Academi Dysgu ac Addysgu ar gyfer ‘Dylunio eich modiwl ar gyfer dysgu ac addysgu cynhwysol effeithiol’ a/neu ‘Dylunio eich sesiwn ar gyfer dysgu difyr a gweithredol’.

Dolen i dudalennau pecynnau cymorth eraill

Mae’r dudalen hon yn cysylltu’n agos â’r canllawiau ar ein tudalen Dylunio Cynhwysol. Cewch lawer rhagor o fanylion am ddylunio asesiadau (ffurfiannol a chrynodol) ar ein tudalennau Asesu hefyd.

Adnoddau a chyfeiriadau ychwanegol:

Biggs, JB, Tang, CS, Kennedy, G. ac EBSCOhost. 2022. Teaching for quality learning at university. Pumed argraffiad / John Biggs, Catherine Tang, Gregor Kennedy. Maidenhead: Open University Press. Ar gael yn: https://search.ebscohost.com/login.aspx?direct=true&scope=site&db=nlebk&db=nlabk&AN=3417540

Wiggins, G., a McTighe, J. 2005 Understanding by Design. Alexandra, Virginia: ASCD